Cyfleoedd allgyrsiol
Gall myfyrwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol yn yr Ysgol Peirianneg sy'n meithrin eu sgiliau, yn cyfrannu at gymdeithas, yn edrych yn dda ar CV ac yn cynnig seibiant cynhyrchiol o'r astudiaethau.
Mae nifer o dimau a phrosiectau y gallwch chi gymryd rhan ynddynt wrth astudio yma.
Rasio Caerdydd
Mae Rasio Caerdydd yn cynrychioli’r Brifysgol yn Formula Student, sef cystadleuaeth fyd-eang i fyfyrwyr a gynhelir gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE).
Mae ein timau cystadlu dan arweiniad myfyrwyr yn dylunio, adeiladu a rasio amrywiaeth o gerbydau tanwydd, trydan ac awtonomaidd bob blwyddyn, gan gystadlu yn y DU a ledled y byd.
Mae Jordan ac Ellie yn rhannu eu profiadau gyda thîm Rasio Caerdydd.
Mae Shahab yn dweud wrthym am fod yn Arweinydd y Tîm Rasio Awtonomaidd.
Peirianwyr heb Ffiniau
Mae Peirianwyr heb Ffiniau (EWB) yn elusen byd-eang a’i nod yw cydweithio â chymunedau difreintiedig er mwyn gwella ansawdd eu bywyd trwy addysg a gweithredu prosiectau peirianneg cynaliadwy.
Mae Helen Aries, Peirianneg Fecanyddol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, yn rhannu ei phrofiad gyda Pheirianwyr Heb Ffiniau.
Mothers of Africa
Elusen Feddygol Addysgol yw Mothers of Africa. Mae’n hyfforddi staff meddygol yn yr Affrig Is-Saharaidd i ofalu am famau yn ystod beichiogrwydd a geni plant.
Mae ein myfyrwyr yn cefnogi prosiect mewn lleoliad meddygol anghysbell ym Mhentref Shiyala, yn ardal Chongwe yn Sambia.
Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi:
- dylunio a gosod ystafell ddosbarth solar
- darparu goleuadau a phŵer i weddill yr adeiladau yn y ganolfan feddygol
- gosod cofnodwr data ynni i gasglu gwybodaeth am sut mae ynni’r haul yn cael ei ddefnyddio.