Dewis eich disgyblaeth peirianneg
Darganfod beth mae gyrfaoedd ac astudio yn y gwahanol ddisgyblaethau peirianneg yn ei olygu.
Mae peirianneg yn faes aruthrol, felly mae’r rhan fwyaf o beirianwyr yn arbenigo mewn maes gwybodaeth penodol. Mae llawer o raddau peirianneg yn canolbwyntio ar un ddisgyblaeth benodol, er bod rhai sy’n rhoi cyfle i chi brofi tipyn o bopeth.
Yma ym Mhrifysgol Caerdydd, mae ystod eang o raglenni peirianneg i chi ddewis ohonynt. Pa lwybr bynnag a gymerwch, byddwch chi’n cyfrannu at faes cyffrous, gyda chyfle i gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl a gwella’r byd o’n cwmpas.
Peirianneg Sifil a Phensaernïol
Mae peirianwyr sifil yn dylunio, yn creu ac yn cynnal yr adeiladau a’r strwythurau mae arnom ni eu hangen i symud o gwmpas a byw ein bywydau’n ddiogel, o ffyrdd, adeiladau, pontydd, argaeau a thwneli, i reilffyrdd, ysbytai, cyfleusterau ynni a meysydd awyr. Maen nhw hefyd yn cynnal ein tirweddau naturiol ac yn rheoli prosiectau ailadeiladu pan fydd trychinebau naturiol yn digwydd.
Mae peirianneg sifil yn bwnc eang ac yn cwmpasu llawer o dopigau, gan gynnwys strwythurau, sylfeini, dŵr a’r amgylchedd, a data a chyfrifiadura. Mae rhai graddau’n cynnig elfen o arbenigo ochr yn ochr â’r rhain. Er enghraifft, mae peirianneg bensaernïol yn canolbwyntio’n fwy ar ddyluniad, adeiladwaith a gweithrediad adeiladau, tra bod peirianneg amgylcheddol yn ystyried rheoli effeithiau amgylcheddol fel llygredd a llifogydd.
Os dewiswch yrfa ym maes peirianneg sifil, gallech chi fod yn gweithio ar draws y byd i godi adeiladau newydd cynaliadwy a systemau trafnidiaeth, yn ogystal ag addasu seilwaith presennol i ymateb i heriau megis twf poblogaeth, newid yn yr hinsawdd a thrychinebau naturiol.
Gweld ein cyrsiau peirianneg bensaernïol
Gweld ein cyrsiau peirianneg sifil
Gweld ein cyrsiau peirianneg sifil ac amgylcheddol
Peirianneg electronig a thrydanol
Mae peirianwyr trydanol ac electronig yn cyfuno cysyniadau gwyddonol â sgiliau dylunio creadigol i ddatblygu cynnyrch, cymwysiadau a systemau trydanol effeithlon, pwerus i bawb.
Mae peirianwyr trydanol yn ymdrin â chynhyrchu, dosbarthu, cymhwyso a rheoli ynni trydanol, gan weithio ar brosiectau graddfa fawr fel tyrbinau gwynt, llinellau rheilffordd, rhwydweithiau pŵer a dyluniad batris. Maen nhw hefyd yn dylunio, yn datblygu ac yn profi cydrannau electronig, dyfeisiau, a systemau.
Os byddwch chi’n dewis gyrfa ym maes peirianneg electronig a thrydanol, gallech chi fynd ar ôl gyrfa mewn diwydiannau technolegol datblygedig megis electroneg, awyrofod, cyfathrebiadau data, roboteg, neu weithgynhyrchu.
Gweld ein cyrsiau peirianneg drydanol ac electronig
Peirianneg fecanyddol a meddygol
Mae peirianwyr mecanyddol yn cymhwyso eu gwybodaeth wyddonol a’u sgiliau dylunio i ddatblygu a gwella’r peiriannau, y technolegau a’r systemau sy’n rhan o weithrediad ein byd a’n bywydau, megis gorsafoedd pŵer, synwyryddion microraddfa, a cheir heb yrwyr.
Mae peirianwyr meddygol yn ymchwilio ac yn esblygu’r nodweddion arloesol sy’n gwella ein systemau iechyd a gofal iechyd, trwy ddatblygu nodweddion mecanyddol arloesol fel printio organau 3D, aelodau prosthetig, technoleg i’w gwisgo, a gwelliannau i gyfarpar arbenigol fel cadeiriau olwyn.
Os byddwch chi’n dewis gyrfa mewn peirianneg fecanyddol neu feddygol, gallech chi fod yn gweithio ar draws ystod o ddiwydiannau cyffrous, gan gynnwys awyrofod, moduron, gweithgynhyrchu, meddygaeth, ynni adnewyddadwy, roboteg, dylunio â chymorth cyfrifiadur, a nanodechnoleg.
Gweld ein cyrsiau peirianneg fecanyddol
Gweld ein cyrsiau peirianneg feddygol
Peirianneg integredig
Mae peirianneg integredig yn rhoi cyfle i’r rheiny sydd â diddordeb mewn peirianneg, ond nad ydynt am arbenigo ar unwaith, astudio trosolwg cyn dewis cangen benodol o’r pwnc yn ddiweddarach. Mae hwn yn ddewis da os hoffech chi gadw opsiynau ar agor ar gyfer eich blwyddyn gyntaf o astudiaethau israddedig, neu mewn rhai achosion ar hyd eich cwrs cyfan.
Mewn rhai cyrsiau, byddwch chi’n astudio pynciau ar draws yr holl ddisgyblaethau peirianneg, ond mewn eraill (gan gynnwys rhai yng Nghaerdydd) gallech chi gyfuno disgyblaethau megis peirianneg fecanyddol a thrydanol, sydd hefyd yn cael ei alw’n fecatroneg.
Mae gan beirianwyr integredig ystod eang o sgiliau peirianneg, gan gynnwys agweddau ar beirianneg drydanol, electronig, fecanyddol a gweithgynhyrchu. Mae ehangder eu gwybodaeth yn golygu bod modd iddyn nhw weithio mewn amrywiaeth eang o rolau lle gallai fod angen sawl sgil.
Gweld ein cyrsiau peirianneg integredig
Mathau o radd
Rydym yn cynnig nifer o opsiynau rhaglen ar gyfer pob cynllun gradd i'ch helpu i gael y gorau o'ch amser yma. Dysgwch fwy am y gwahanol fathau o raddau rydym yn eu cynnig.
Cymerwch gip ar ein ffeithlun i gael trosolwg cyflym o'r disgyblaethau peirianneg y gallwch eu hastudio ym Mhrifysgol Caerdydd.