Gyrfaoedd a chyflogadwyedd
Mae gan ein graddedigion peirianneg hanes rhagorol o sicrhau cyflogaeth yn eu maes ac maen nhw'n ddeniadol iawn i gyflogwyr oherwydd ehangder eu sgiliau a'u profiad.
Caiff ein myfyrwyr gefnogaeth gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd, sydd yno i'ch helpu i ystyried eich opsiynau, meddwl am eich diddordebau, cael profiad ac yn y pen draw bontio i swydd lefel gradd neu astudiaethau pellach.
Mae gan yr Ysgol Peirianneg gynghorwyr gyrfaoedd sy'n gweithio'n benodol gyda'n myfyrwyr peirianneg drwy gydol eu taith drwy'r brifysgol a thu hwnt. Cewch apwyntiadau gyrfaoedd unigol a chyngor i’ch helpu i archwilio'r gwahanol gyfleoedd ac opsiynau sydd ar gael i chi.
- Mae dros 95% o'n graddedigion i fod i ddechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n ymgymryd â gweithgareddau eraill megis teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs.
Mae ein cyrsiau yn eich paratoi chi ar gyfer gyrfa broffesiynol mewn amrywiaeth eang o ddiwydiannau, busnes a’r sector ariannol, neu astudiaethau pellach. Mae rhai cyrchfannau i raddedigion yn cynnwys:
Cysylltiadau â diwydiant
Cewch gefnogaeth i gyflawni eich nodau drwy gwricwlwm sy'n cyd-fynd â'r diwydiant ac sy'n canolbwyntio ar feithrin sgiliau technegol cryf a sgiliau proffesiynol fydd yn eich gosod ar wahân yn y gweithle ac yn diogelu eich gyrfa at y dyfodol.
Mae darpar gyflogwyr yn cyfrannu ar y campws neu'n rhithwir drwy gydol y flwyddyn gan roi cyflwyniadau, cwrdd â'n myfyrwyr a dod i Ffeiriau Gyrfaoedd. Caiff ein modiwlau prosiect Ysgol gyfan gefnogaeth hefyd drwy gydweithio diwydiannol gyda nifer o gwmnïau.
Yn y disgyblaethau peirianneg bensaernïol, sifil ac amgylcheddol, mae sefydliadau blaenllaw fel Arup, Atkins, Knights Brown, Jacobs a Caukin yn cyfrannu’n sylweddol at ein haddysgu.
Yn y disgyblaethau peirianneg drydanol ac electronig, mae amrywiaeth eang o gwmnïau yn cefnogi ein gwaith addysgu gan gynnwys Keysight, Rohde and Schwarz, IQE, National Instruments, Newport Waferfab, Cree Western Power Distribution, National Grid, Babcock International ac Invertek.
Ceir mewnbwn diwydiannol ym meysydd peirianneg fecanyddol a meddygol gan sefydliadau fel Arup, Atkins, Babcock International.
Ategu eich astudiaethau
Byddwch yn cael dewis i ddilyn Blwyddyn mewn Diwydiant ar ôl eich ail flwyddyn astudio; caiff hon ei threulio mewn gweithle proffesiynol, yn ennill profiad ymarferol. Gall y profiad hwn wella eich hyder a'ch rhagolygon gyrfa, ac mae'n gyfle i roi cynnig ar yrfa bosibl.
Cyfleoedd allgyrsiol
Mae cyfleoedd allgyrsiol a chymdeithasau myfyrwyr yn allweddol i agor cysylltiadau â diwydiant a'ch helpu i ddatblygu sgiliau penodol i beirianneg a throsglwyddadwy. Bob blwyddyn, caiff ein myfyrwyr y cyfle i gymryd rhan mewn prosiectau cyffrous iawn.
Caiff llawer o gyfleoedd allgyrsiol, yn gymdeithasol a difrifol, eu trefnu drwy’r ysgol, y brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr.
Source: Higher Education Statistics Agency, Graduate Outcomes Survey 2018/19.
Contains HESA Data: Copyright Higher Education Statistics Agency Limited 2021. The Higher Education Statistics Agency Limited cannot accept responsibility for any inferences or conclusions derived by third parties from its data.