Ôl-raddedig a addysgir
Rydyn ni’n cynnig rhaglenni gradd arbenigol a luniwyd yn ofalus i'ch galluogi i wella eich gwybodaeth a’ch sgiliau peirianyddol ac arbenigo mewn maes penodol.
Mae ein rhaglenni gradd yn cynnig cynnwys cytbwys. Bydd y rhain fel arfer yn cynnwys elfen bwysig o ymchwil a chysylltiadau diwydiannol cryf sy'n bwydo i mewn i'r cynnwys addysgu a phrosiectau ymchwil.
Pob rhaglen radd
Peirianneg Bensaernïol, Sifil ac Amgylcheddol
Peirianneg Drydanol ac Electronig
Peirianneg Fecanyddol a Meddygol
Sylwer bod modiwlau cyrsiau penodol yn cael eu hadolygu bob blwyddyn er mwyn sicrhau bod y cyrsiau gradd mor berthnasol a chyfredol â phosibl. Felly, hwyrach y bydd modiwlau’n newid neu bydd rhai newydd y flwyddyn ganlynol. O bryd i'w gilydd, efallai bydd angen newid modiwlau oherwydd newidiadau annisgwyl yn aelodau’r staff neu faterion eraill sydd y tu hwnt i'n rheolaeth.
Ysgoloriaeth gwerth £3,000 yr un i fyfyrwyr y DU yn dechrau cwrs gradd Meistr yn Medi 2024.