Ewch i’r prif gynnwys

Prentisiaeth gradd

Rhaglen bum mlynedd arloesol yw'r BEng Prentisiaeth Gradd Peirianneg Integredig fydd yn caniatáu i chi gael gradd wrth i chi weithio mewn swydd â thâl.

Mewn partneriaeth â Choleg Gŵyr Abertawe, gallwn gynnig Prentisiaeth Gradd wedi'i hariannu'n llawn ar gyfer gweithwyr presennol neu staff sydd newydd eu recriwtio sy'n gweithio yn y diwydiant peirianneg yng Nghymru, drwy gynllun Prentisiaeth Gradd Llywodraeth Cymru.

Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i adeiladu ar eich profiad cyflogaeth i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau eang ym maes peirianneg drydanol, electronig, mecanyddol a gweithgynhyrchu.

Gofynion Mynediad

Cymhwyster Lefel 3 o leiaf, neu wybodaeth a phrofiad diwydiannol cyfatebol.

Cyflogaeth mewn rôl beirianneg mewn cwmni yng Nghymru a all hwyluso prosiect peirianneg, ac a fydd yn eich rhyddhau am un diwrnod yr wythnos drwy gydol y pum mlynedd.

Strwythur y cwrs

Cwrs gradd israddedig ran amser dros bum mlynedd yw hwn. Mae patrwm cyflwyno'r rhaglen yn seiliedig ar fodel 14 semester gyda myfyrwyr yn dod am ddiwrnod yr wythnos pan gânt eu rhyddhau.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn astudio ar gyfer eu cymwysterau lefel pedwar a phump dros dair blynedd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, cyn trosglwyddo i Brifysgol Caerdydd i gwblhau dwy flynedd olaf Prentisiaeth Gradd Peirianneg Integredig BEng ar lefel prifysgol. Bydd adnoddau ychwanegol ar gael ar-lein i'w hastudio gartref.

Addysgir drwy sesiynau rhyngweithiol yn y dosbarth, darlithoedd, dosbarthiadau dylunio, a gwaith labordy, TG ac ymarferol. Bydd yr elfen prosiect seiliedig ar waith yn cael ei wneud yn llwyr yn eich gweithle a chaiff ei bennu mewn ymgynghoriad â'r cyflogwr er mwyn cyflenwi prosiect sydd o fudd gwirioneddol i'r busnes, yn ogystal â bodloni deilliannau dysgu'r modiwl.

Gall dysgu cydnabyddedig ac achrededig blaenorol leihau hyd y cwrs.

Modiwlau

  • Sgiliau Proffesiynol ac Academaidd ar gyfer Peirianneg
  • Peirianneg, Mathemateg a Chyfrifiannu
  • Egwyddorion Trydanol
  • Egwyddorion Electronig
  • Egwyddorion Mecanyddol
  • Peirianneg Dechnegol
  • Thermohylifau
  • Dylunio Cynnyrch Integredig
  • Mathemateg Gymhwysol a Pheirianneg Rheoli
  • Cymwysiadau Microreolwr a Dylunio a Ymgorfforir
  • Rheoli Peirianneg
  • Deunyddiau a Gweithgynhyrchu
  • Peiriannau ac Electroneg Pŵer

Prosiect prentisiaeth gradd blwyddyn 1 a 2

Blwyddyn 1:

  • Trosglwyddo Gwres a Thermodynameg
  • Peiriannau a Gyriannau Trydanol
  • Cyfrifiadura Peirianneg yn Canolbwyntio ar Wrthrychau

Blwyddyn 2:

  • Rheolaeth Awtomatig
  • Systemau wedi’u Hymgorffori
  • Dylunio Electro-fecanyddol
  • Pŵer a Rheoli Hylifol

Asesu

Cyfuniad o aseiniadau gwaith cwrs ac arholiadau a osodir ar adegau priodol wrth i'r modiwl fynd yn ei flaen. Mae gan fodiwl nodweddiadol arholiad ar y diwedd, ynghyd ag aseiniad gwaith cwrs lle byddwch yn cymhwyso'r egwyddorion peirianneg a addysgir yn y modiwl i ddatrys problemau peirianneg ymarferol. Mae arholiadau yn cyfrif am 60-75% o'r holl asesiadau drwy gydol y rhaglen.

Cefnogaeth

Caiff tiwtor personol ei neilltuo i chi sy'n aelod o staff academaidd Prifysgol Caerdydd yn gysylltiedig â'ch rhaglen radd, yn ogystal â thiwtor yng Ngholeg Gŵyr. Byddwch yn cyfarfod â nhw’n rheolaidd drwy gydol pum mlynedd y rhaglen.

Ffioedd y cwrs

Telir ffioedd y cwrs gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), ar ran Llywodraeth Cymru. Rhaid i’r holl brentisiaid fod yn gweithio i sefydliad sydd â swyddfa yng Nghymru, a rhaid eu bod yn treulio o leiaf 51% o’u horiau gwaith yn gweithio yng Nghymru. Bydd disgwyl i gyflogwyr dalu’r holl gostau cyflog a chysylltiedig ar gyfer prentisiaid.

Achrediadau

Mae’r cwrs hwn yn ceisio achrediad gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg a Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol ar ran y Cyngor Peirianneg at ddibenion bodloni'r gofyniad academaidd ar gyfer cofrestru fel Peiriannydd Ymgorofforedig yn llawn a bodloni'r gofyniad academaidd ar gyfer cofrestru fel Peiriannydd Siartredig yn rhannol.

Mae'r cwrs hefyd wedi'i gynllunio i fodloni gofynion Achrediad y Cyngor Peirianneg o Raglenni Addysg Uwch (AHEP) a Fframwaith Peirianneg Prentisiaethau Gradd Cymru.

Sut i wneud cais

Dylai unigolion a busnesau a hoffai drafod opsiynau i gofrestru gysylltu ag: ENGIN-Education@caerdydd.ac.uk

Nodwch nad yw ceisiadau ar gyfer y rhaglen hon yn cael eu cyflwyno drwy UCAS.