Cyrsiau
Cawn ein cydnabod yn un o’r prif Ysgolion Peirianneg yn y DU am ansawdd ein hymchwil a’n haddysgu.
Mae ymchwil ac addysgu rhyngddisgyblaethol yn nodweddion allweddol ar yr Ysgol, gyda chymorth cyfleusterau cyfoes a chysylltiadau cryf â’r diwydiant.
Rydym yn ymdrin â bron pob agwedd ar beirianneg, gan gynnig nifer o gyrsiau ar draws amrywiaeth eang o ddisgyblaethau ar lefel ôl-raddedig ac israddedig.
Mae galw am ein myfyrwyr graddedig ym myd diwydiant a'r sector cyhoeddus ledled y DU ac yn rhyngwladol.