Case studies
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Dyma astudiaethau o rai staff sy’n mwynhau gweithio’n hyblyg yn Ysgol Peirianneg.
Gaynor James, Rheolwr Adnoddau Dynol Ysgol Peirianneg
Mae Gaynor James yn swydd Rheolwr Adnoddau Dynol Ysgol Peirianneg ers saith mlynedd. Mae’i rôl brysur yn ymwneud â cymorth strategol i faterion adnoddau dynol yr ysgol, llunio mentrau gwella cydraddoldeb ac amrywioldeb, gweithredu a gweinyddu rheoliadau a phrosesau’r maes hwn a rheoli pedwar gweithiwr adnoddau dynol. Mae hi’n gweithio 35 awr yr wythnos bellach - a hynny trwy strwythur yr oriau hyblyg ar y cyd â’i rheolwr.
“Hyd at 2013, roeddwn i’n weithiwr amser llawn. Yna, ymadawais am 12 mis o achos mamolaeth a phan ddaeth y cyfnod hwnnw i ben, dechreuais fy mab hynaf yn yr ysgol,” esboniodd Gaynor.
“Buasai’n anodd iawn gofalu am deulu ifanc a chludo fy mab i’r ysgol yn ogystal â gweithio oriau safonol,” meddai. Gan nad oedd hi am weithio’n rhan-amser, trefnodd gyfarfod â rheolwyr yr ysgol i drafod y dewisiadau o ran gweithio’n fwy hyblyg.
“Roedd yr ysgol yn gefnogol iawn ac, ar ôl trafod y ffordd orau ymlaen gyda fy rheolwr, dewisais weithio 35 awr yr wythnos yn ôl trefn hyblyg. Rwy’n cael gweithio llai o oriau ar ddydd Llun a dydd Mercher, er enghraifft, a gwneud iawn am hynny trwy weithio gyda’r nos a thros y Sul. Rwy’n weithiwr amser llawn o hyd i bob diben; galla i gyflawni cymaint o waith a mynd i bob un o’r cyfarfodydd allweddol gan y byddan nhw i gyd yn digwydd yn ystod yr oriau craidd, sy’n fenter wych arall.”
“Y fantais fwyaf yw bod modd treulio digon o amser gyda’r teulu yn ogystal â bod yn rhan o gymuned yr ysgol heb golli unrhyw beth yn y gwaith. Dydw i erioed wedi meddwl bod hyn wedi effeithio ar fy ngyrfa, ac mae pob un o’r buddion y cewch chi wrth weithio oriau safonol ar gael o hyd.”
Y Dr Michael Harbottle, Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr
Mae’r Dr Michael Harbottle yn uwch ddarlithydd yn Ysgol Peirianneg. Mae’n ymwneud ag addysgu ac ymchwil yn ogystal â rheoli trefn derbyn israddedigion yr ysgol. Gyda chymorth yr ysgol, mae Michael wedi trefnu i weithio oriau cywasgedig. Felly, bydd yn gweithio’n amser llawn yn ôl ei gytundeb, ond yn gwneud hynny dros bedwar diwrnod yr wythnos yn hytrach na phump.
“Mae’n hwylus i mi,” meddai Michael, “am fod modd i mi a’m gwraig ddilyn ein gyrfaoedd a rhannu’r cyfrifoldeb dros ofalu am y plant. Gan fod y diwrnod gwaith yn hirach, bydd peth llonyddwch ar ddechrau a diwedd y dydd i baratoi ymchwil ac addysgu am nad oes neb arall yno.”
Ar ôl i’w blentyn cyntaf gael ei eni, cynigiodd Michael ei drefn weithio newydd i’r ysgol a gweld nad oedd unrhyw feini tramgwydd yno i’w rwystro rhag newid ei ffordd o weithio ar yr amod y gallai gyflawni ei ddyletswyddau yn unol â’i gytundeb.
Bydd Michael yn cael newid ei ddiwrnod rhydd yn ôl yr angen fel na fydd yn colli cyfarfod neu achlysur pwysig, ar yr amod na fydd hynny’n effeithio ar ei ddyletswyddau arferol. Ac yntau’n bennaeth derbyn myfyrwyr, rhaid bod yno ar ddydd Sadwrn weithiau pan ddaw darpar fyfyrwyr a’u rhieni i ymweld â’r ysgol ond, o achos ei oriau cywasgedig, mae’n gallu treulio o leiaf ddau ddiwrnod gyda’i deulu bob wythnos.
Mae Michael wedi gweld bod y ffordd hyblyg hon o weithio wedi lleddfu straen a’i alluogi i gadw’r ddysgl yn wastad rhwng y gwaith a’r teulu er nad yw’n cyflawni llai o waith.