Amdanom ni
Rydym yn ysgol peirianneg flaenllaw, ac yn cynnal ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol ac addysg sy’n gosod myfyrwyr wrth wraidd y profiad dysgu hefyd.
Rydym yn meithrin amgylchedd cyfeillgar a chefnogol i fyfyrwyr ac i staff, sy'n annog syniadau ac arloesedd.
Ymchwil
Rydym yn ymfalchïo yn ein diwylliant ymchwil bywiog ac mae gennym ddull eang iawn o ymgymryd ag ymchwil, gyda llawer o'n staff yn arwain prosiectau ymchwil ar raddfa fawr a gydnabyddir yn rhyngwladol gyda sefydliadau sy'n arwain y byd.
Mae ein Hysgol wedi'i threfnu'n dair adran gyda grwpiau ymchwil cysylltiedig. Mae'r strwythur hwn yn sicrhau ein bod yn cynnal cryfder ein harbenigrwydd disgyblu.
- Peirianneg bensaernïol, sifil ac amgylcheddol
- Peirianneg drydanol ac electronig
- Peirianneg fecanyddol a meddygol
Addysgu
Mae ein rhaglenni gradd israddedig a'n rhaglenni gradd ôl-raddedig yn cyd-fynd yn agos â'r tair adran, gan adlewyrchu arbenigedd ein staff academaidd.
Mae ein safonau uchel a’n henw rhyngwladol yn golygu ein bod yn cefnogi tua:
- 1,550 o fyfyrwyr israddedig
- 200 o fyfyrwyr ôl-raddedig a addysgir
- 200 o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig
Gan weithio'n agos gyda diwydiant, mae ein rhaglenni israddedig yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr. Rydym yn un o’r nifer bach o ysgolion peirianneg a gafodd eu gwahodd i fod yn rhan o’r Academi Pŵer a’r Sefydliad Sgiliau Electronig, sy'n cynnig profiad diwydiannol, cyrsiau datblygiad proffesiynol ac ysgoloriaethau i’n myfyrwyr.
Athena SWAN
Fel cyflogwr, yr ydym wedi ymrwymo i hyrwyddo amrywiaeth a chyfle cyfartal yn y gweithle. Ar hyn o bryd mae gennym Wobr Efydd Athena Swan am ein hymrwymiad i gefnogi merched ym maes peirianneg.