Ymchwil
Roedd y Sefydliad Ymchwil Systemau Ynni ar agor rhwng 2015 a 2021. Mae'r dudalen hon yn dangos gwaith y sefydliad yn y gorffennol. Nid yw'n cael ei monitro na'i diweddaru.
Er mwyn ymateb i'r heriau hyn, mae angen arloesedd sylweddol o ran 'systemau ynni'. Ac eto, ni all unrhyw enghraifft benodol o arloesedd ddigwydd yn annibynnol ar agweddau eraill ar y system ynni. Er enghraifft, pe baem yn cynyddu maint y pŵer trydanol a gynhyrchwn o ffynonellau adnewyddadwy a allai fod cryn bellter o'r lle y caiff yr ynni ei ddefnyddio yn y pen draw, mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o gryfhau seilwaith y cyflenwad ynni a sicrhau ei fod yn gallu cludo'r ynni i'r lle y mae angen amdano.
Os byddwn yn ceisio amrywiaethu'r ffyrdd rydym yn cynhyrchu ynni ac yn symud i ffwrdd o'n dibyniaeth ar fewnforio tanwydd ffosil drud, mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o gaffael pŵer o ffynonellau eraill mewn ffordd sy'n llai niweidiol i'r amgylchedd ac sy'n dderbyniol i gymunedau a gwledydd.
Ar yr un pryd, mae'n rhaid i 'ymagwedd systemau cyfan' archwilio'r galw am ynni a'i ddefnydd, yn ogystal â dulliau o'i gynhyrchu a'i gyflenwi. Mae cynllunio cynaliadwy yn yr amgylchedd adeiledig a ffyrdd gwell o fonitro a rheoli defnydd ynni o fewn adeiladau yn gydrannau allweddol o'n system ynni yn y dyfodol.
Mae hefyd yn hanfodol deall y ffyrdd y mae pobl a chymunedau'n defnyddio ynni a'r rhesymau dros hynny; mae ymgysylltu â defnyddwyr yn allweddol i drosglwyddo i system ynni carbon isel sy'n fforddiadwy. Mae'r holl feysydd gwaith hyn yn gofyn am gasglu a rheoli meintiau data enfawr, ac mae ein Sefydliad Ymchwil yn dod ag arbenigedd o ran rheoli a modelu data mawr.
Trwy ein hymchwil, byddwn yn mynd i'r afael â'r heriau hyn drwy feddwl yn wreiddiol ac yn ddyfeisgar. Mae angen creu technolegau newydd; mireinio a datblygu rhai presennol.