Rhaglen Ysgolheigion Ymchwil Gwadd
Rydyn ni’n annog cynnig Cymrodoriaethau gwadd i ymchwilwyr ac ysgolheigion a fydd yn cyfrannu at fywyd deallusol ein Hysgol.
Mae gennyn ni Raglen Ysgolheigion Ymchwil Gwadd sydd wedi hen ennill ei phlwyf, ac mae’n cyfrannu at feithrin cyfnewid syniadau a safbwyntiau mewn ffordd ddeinameg. Dros y blynyddoedd, mae hi wedi bod yn fraint cael cynnal ymchwilwyr ac ysgolheigion nodedig o bob cwr o'r byd, ac mae pob un yn gadael argraff barhaol ar ddiwylliant deallusol yr Ysgol.
Rydyn ni’n Ysgol ryngddisgyblaethol sy’n ymroddgar i gynnal ymchwil ym maes gwyddorau’r ddaear a’r amgylchedd. Rydyn ni’n ymdrechu i gyflawni'r safonau uchaf o ran ymchwil ac addysg yn ogystal â chynnig amgylchedd cyfoethog ac amrywiol a arweinir gan ymchwil, ar y cyd â’r saith canolfannau ymchwil sydd gennym.
A chithau’n ysgolhaig gwadd, byddwch chi’n rhan o ddiwylliant a gweithle croesawgar, a byddwn ni’n eich annog i fynd ati i feithrin cysylltiadau â'r staff academaidd. Gall hyd yr ymweliadau amrywio o bythefnos i gyfnod o dair blynedd.
I wneud cais, anfonwch y manylion isod i’n Swyddfa Ymchwil at ddibenion asesu - EarthResearch@caerdydd.ac.uk:
- cynnig ymchwil ar gyfer y cyfnod astudio a fwriedir, gan gynnwys cynllun ymchwil realistig a manwl ar gyfer cyfnod arfaethedig eich ymweliad
- cyfiawnhad byr dros ein dewis ar gyfer eich ymweliad, gan egluro perthnasedd y gwaith arfaethedig i'n grwpiau/themâu ymchwil
- curriculum vitae academaidd
Meini Prawf Derbyn
Wrth adolygu ceisiadau, byddwn ni’n ystyried y canlynol:
- dichonoldeb eich amcanion ymchwil neu astudio arfaethedig, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’n themâu a'n canolfannau ymchwil.
- cyfraniad posibl i’r diwylliant ymchwil: rydyn ni’n rhoi pwys mawr ar botensial eich presenoldeb i gryfhau diwylliant ymchwil ehangach yr Ysgol. Fe’ch anogir yn gryf i gymryd rhan mewn digwyddiadau a rhyngweithio’n ystyrlon â’r staff academaidd.
- Y cyllid sydd ar gael ichi a'n gallu i gyfuno eich ymweliad yn rhan o’n diwylliant ymchwil
Sylwer bod pob ymweliad arfaethedig yn dibynnu ar gymeradwyaeth gan Bennaeth yr Ysgol, ac yn anffodus nid oed modd inni gyfrannu’n ariannol at gost eich ymweliad.
Enw Cyswllt
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'n Swyddfa Ymchwil yn EarthResearch@caerdydd.ac.uk.