Ewch i’r prif gynnwys

Cymrodoriaethau Ymchwil Gwadd

Rydym yn annog cynnig Cymrodoriaethau gwadd i ymchwilwyr ac ysgolheigion a fydd yn cyfrannu at fywyd deallusol ein Hysgol.

Rydym yn cynnig gweithle cyfeillgar er mwyn ymgysylltu â staff a myfyrwyr presennol, a hynny’n rhad ac am ddim. Gellir cynnig cymrodoriaeth am gyfnodau rhwng 2 wythnos a 3 blynedd ac mae'n rhaid i Yr Athro Ian Hall, Pennaeth yr Ysgol eu cymeradwyo.

Rydym yn Ysgol ryngddisgyblaethol sy'n ymroddedig i ymchwil ym maes gwyddorau’r ddaear a’r amgylchedd. Rydym yn ymdrechu i gyflawni'r safonau uchaf ym maes ymchwil ac addysg yn ogystal â chynnig diwylliant cyfoethog ac amrywiol dan arweiniad ymchwil ac sy’n derbyn cymorth ein grwpiau a’n canolfannau ymchwil.

Y cynlluniau sydd ar gael

Cynllun cymrodoriaethau ôl-ddoethurol cystadleuol yw Cymrodoriaethau Unigol Marie Skłodowska-Curie sydd â'r nod o wella gyrfaoedd ymchwil yn sgil prosiect ymchwil a ariennir yn llawn am ddwy flynedd.

Os ydych chi'n ymchwilydd ôl-ddoethurol o safon neu'n ymchwilydd profiadol â chysylltiadau Ewropeaidd neu fyd-eang a hoffai arallgyfeirio a meithrin sgiliau a gwybodaeth newydd, llenwch fynegiant o ddiddordeb.

Mae'r Cymrodoriaethau hyn ar gael i ysgolheigion nodedig yn eu maes sydd â phroffil rhyngwladol sefydledig. Maen nhw'n cael eu dyfarnu'n gystadleuol ac nid oes angen unrhyw ffioedd mainc ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus. Fel arfer, bydd yr Ysgol yn dyfarnu 3 neu 4 o'r Cymrodoriaethau hyn ar unrhyw adeg. Bydd y Cymrodoriaethau hyn yn para am unrhyw gyfnod rhwng 2 wythnos a 3 blynedd.

Fel arfer, bydd statws 'gwadd' ond yn cael ei gynnig i aelodau cyfadrannol mewn sefydliadau eraill, naill ai yn y DU neu dramor, y rheini sy'n gweithio yn y sectorau cyhoeddus neu breifat, neu ymgynghorwyr ymchwil hunangyflogedig.

Mae'r Cymrodoriaethau hyn yn agored i bob ysgolhaig sy'n dymuno treulio amser yn yr Ysgol neu feithrin cysylltiadau cryfach â'i staff. Bydd y Cymrodoriaethau hyn yn para am unrhyw gyfnod rhwng 2 wythnos a 3 blynedd.

Mae'r rhaglen hon yn addas ar gyfer:

  • ysgolheigion ôl-ddoethurol/profiadol sy'n dymuno cynnal ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd a chymryd rhan yn ein diwylliant ymchwil
  • myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sydd wedi’u cofrestru ar hyn o bryd am MPhil neu PhD mewn prifysgolion yn y DU neu’r tu allan iddi
  • myfyrwyr sy'n dymuno paratoi i astudio PhD (cysylltwch â ni i gyflwyno eich cynnig)

Rydym hefyd yn hapus i drafod lefelau ychwanegol o gydweithio, gan gynnwys cymorth i ddatblygu ceisiadau am gymrodoriaethau allanol, ariannu ysgoloriaethau PhD ar y cyd i ysgolheigion sy'n dod â chymrodoriaethau wedi'u hariannu i'r Ysgol.

Fel arfer, dylai myfyrwyr presennol fod wedi cwblhau un neu ddwy flynedd o astudiaeth ddoethurol ac mae'n rhaid iddynt gael cefnogaeth lawn eu sefydliad cartref.

Mae Cymrodyr Ymchwil Gwadd o’r tu allan i'r UE yn gyfrifol am wneud cais am y fisa cywir.

Hyd yr astudiaeth

Bydd Cymrodyr Ymchwil Gwadd yma am bythefnos o leiaf, a chânt gyrchu cyfleusterau rhagorol, gan gynnwys gwasanaethau llyfrgelloedd y Brifysgol a seminarau ymchwil arbenigol. Bydd hyd eich arhosiad yn dibynnu ar raddfa'r ymchwil yr hoffech ei gwneud a pha un y gall yr Ysgol ei hwyluso. Mae modd eich gwahodd fesul mis neu fesul term academaidd.

Gallwn helpu i drefnu llety drwy gydol eich arhosiad ym mhreswylfeydd y Brifysgol, a gallwn ni hefyd roi cyngor ar lety yn y sector preifat.

Sut i wneud cais

Bydd gofyn ichi gynnwys y dogfennau canlynol ynghlwm wrth eich cais:

  • cynnig ymchwil ar gyfer y cyfnod astudio arfaethedig, gan gynnwys cynllun ymchwil realistig a manwl ar gyfer cyfnod arfaethedig yr ymweliad
  • cyfiawnhad byr dros ein dewis ar gyfer eich ymweliad, gan egluro perthnasedd y gwaith arfaethedig i'n grwpiau/themâu ymchwil
  • curriculum vitae academaidd

Mae croeso ichi gysylltu ag yr Athro Ian Hall, Pennaeth yr Ysgol i drafod yr opsiynau. Mae pob ymweliad arfaethedig yn amodol ar gymeradwyaeth ysgrifenedig Pennaeth yr Ysgol.

Wrth dderbyn Cymrodyr Ymchwil Gwadd, byddwn yn ystyried:

  • gallu cymrodyr i gyflawni eich amcanion ymchwil neu astudio
  • potensial cymrodyr i wneud cyfraniad cadarnhaol at ddiwylliant ymchwil cyffredinol yr Ysgol drwy gymryd rhan mewn digwyddiadau ac ymwneud ag aelodau’r staff a'r gymuned ôl-raddedig
  • ein gallu i integreiddio Cymrodyr Ymchwil Gwadd yn rhan o’r diwylliant ymchwil

Mae Raglen Ysgolheigion Ymchwil Gwadd yr Ysgol wedi hen ennill ei phlwyf ac mae’n cyfrannu at feithrin cyfnewid syniadau a safbwyntiau mewn ffordd ddeinamig. Dros y blynyddoedd, mae hi wedi bod yn fraint cael cynnal ymchwilwyr ac ysgolheigion nodedig o bob cwr o'r byd, ac mae pob un yn gadael argraff barhaol ar ddiwylliant deallusol yr Ysgol.

Gan eich bod yn ysgolhaig gwadd, byddwch yn rhan o ddiwylliant a gweithle croesawgar, ac rydym yn eich annog i fynd ati i feithrin cysylltiadau â'r staff academaidd. Bydd hyd yr ymweliadau yn amrywio rhwng pythefnos a chyfnod hirach o dair blynedd, yn amodol ar gymeradwyaeth gan Bennaeth yr Ysgol.

Rydym yn Ysgol ryngddisgyblaethol sy'n ymroddedig i ymchwil ym maes gwyddorau’r ddaear a’r amgylchedd. Rydym yn ymdrechu i gyflawni'r safonau uchaf o ran ymchwil ac addysg yn ogystal â chynnig amgylchedd cyfoethog ac amrywiol a arweinir gan ymchwil, ar y cyd â’r saith canolfannau ymchwil sydd gennym.

Sut i wneud cais

Er mwyn cychwyn ar y daith academaidd gyfoethog hon, anfonwch y manylion isod i’n Swyddfa Ymchwil at ddibenion asesu - EarthResearch@caerdydd.ac.uk:

  • Cynnig ymchwil ar gyfer y cyfnod astudio a fwriedir, gan gynnwys cynllun ymchwil realistig a manwl ar gyfer cyfnod arfaethedig eich ymweliad
  • Cyfiawnhad byr dros ein dewis ar gyfer eich ymweliad, gan egluro perthnasedd y gwaith arfaethedig i'n grwpiau/themâu ymchwil
  • Curriculum vitae academaidd.

Os bydd angen eglurhad pellach arnoch neu os oes gennych gwestiynau, mae croeso mawr ichi gysylltu â’n Swyddfa Ymchwil drwy ebostio EarthResearch@caerdydd.ac.uk.  Sylwer bod pob ymweliad arfaethedig yn dibynnu ar gymeradwyaeth gan Bennaeth yr Ysgol, ac yn anffodus ni allwn gyfrannu’n ariannol at gost eich ymweliad.

Meini prawf derbyn

Wrth estyn gwahoddiad i raglen Cymrodorion Ymchwil Gwadd, byddwn yn ystyried y canlynol:

  • cyflawni Amcanion Ymchwil: Byddwn yn mesur dichonoldeb eich amcanion ymchwil neu astudio arfaethedig, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’n themâu a'n canolfannau ymchwil
  • cyfraniad Posibl i’r Diwylliant Ymchwil: Rydym yn rhoi pwys mawr ar botensial eich presenoldeb i gryfhau diwylliant ymchwil ehangach yr Ysgol. Fe’ch anogir yn gryf i gymryd rhan amlwg yn ein digwyddiadau, gan fynd ati i ymwneud yn ystyrlon â’r staff academaidd
  • y cyllid sydd ar gael ichi a'n gallu i gyfuno eich ymweliad yn rhan o’n diwylliant ymchwil

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i'r Ysgol a chael cychwyn ar y daith ddeallusol hon gyda chi.