Grwpiau a chanolfannau ymchwil
Mae ein tair canolfan ymchwil eang yn dwyn arbenigwyr ar draws yr Ysgol ynghyd i weithio ar brosiectau ymchwil o bwys.
Mae pob canolfan yn gyfrifol am fynd i'r afael â themâu ymchwil allweddol ar draws Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd.
Canolfan Daear Gadarn ac Adnoddau Naturiol
Mae’r Ganolfan Daear Gadarn ac Adnoddau Naturiol yn ymchwilio i gyfansoddiad ac esblygiad dynamig mantell a chramen y Ddaear, gan gynnwys ei hadnoddau mwynol a phetrolewm.
Grwpiau sy’n rhan o’r Ganolfan Daear Gadarn ac Adnoddau Naturiol
Canolfan Geobioleg a Geocemeg
Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar wyneb y Ddaear, gan gynnwys yn ei moroedd ac o dan ei moroedd, lle mae bywyd wedi esblygu ac effeithio’n ddirfawr ar amgylcheddau dros filiynau o flynyddoedd.
Grwpiau sy’n rhan o’r Ganolfan Geobioleg a Geocemeg
Canolfan Gwydnwch a Newid Amgylcheddol
Rydym yn archwilio i achosion a chanlyniadau newidiadau yn system y Ddaear, yn y môr, yr atmosffer ac ar y tir, o’r gorffennol daearegol i'r presennol a’r dyfodol.
Grwpiau sy’n rhan o’r Ganolfan Gwydnwch a Newid Amgylcheddol
Mae'r grŵp hwn yn cwmpasu ein tair canolfan ac yn cynnig arbenigedd gyda phartneriaid a chydweithwyr lleol er mwyn mynd i'r afael â heriau geowyddonol yn Affrica.