Cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus
Digwyddiadau sy’n rhad ac am ddim yw ein darlithoedd cyhoeddus, ac maen nhw’n denu cynulleidfaoedd sy’n amrywio o’r cyhoedd, disgyblion ysgolion uwchradd a gweithwyr proffesiynol. Nod y gyfres yw agor cil y drws ar feysydd o ddiddordeb ym maes gwyddorau’r Ddaear a’r amgylchedd, a chyflwyno ymchwil newydd yn y maes hwn i'r cyhoedd.
Cyfres o Ddarlithoedd Cyhoeddus 2024-2025: Chwalu’r hud sy’n ymwneud ag eithafoedd yr hinsawdd: sut mae gwersi o’r gorffennol yn llywio’r dyfodol
Rydyn ni’n byw mewn cyfnod brawychus o gynhesu byd-eang. Bydd y gyfres yn dangos sut mae newidiadau mewn nwyon tŷ gwydr yn y gorffennol wedi effeithio ar hinsawdd fyd-eang, cylchredau hydrolegol, gorchudd iâ ac ecosystemau morol a daearol ein planed. Bydd yn trin a thrafod sut y gall deall ein gorffennol daearegol gyfrannu at atebion ffisegol a chymdeithasol posibl er mwyn lliniaru digwyddiadau eithafol yn y dyfodol.
Lleoliad: Narlithfa Wallace (0.13) ym Mhrif Adeilad Prifysgol Caerdydd, Plas y Parc, Caerdydd CF10 3AT.
Amser: Mae’r darlithoedd yn dechrau am 18:30.
Nid oes angen cadw lle ar gyfer y darlithoedd.
Dyddiad | Siaradwr gwadd | Pwnc |
---|---|---|
10 Medi 2024 | Carrie Lear (Prifysgol Caerdydd) | Beth y gall hanes ein planed ei ddweud wrthyn ni am ein hinsawdd yn y dyfodol? |
8 Hydref 2024 | Dan Lunt (Prifysgol Bryste) | Newid yn yr hinsawdd: yr hyn rydyn ni'n ei wybod, yr hyn y gallwn ni ei wneud, a sut mae modelu’n helpu |
12 Tachwedd 2024 | David Armstrong McKay (Prifysgol Sussex) | Trobwyntiau’r argyfwng hinsawdd: pa mor agos ydyn nhw, a beth y gallwn ni ei wneud yn eu cylch? |
10 Rhagfyr 2024 | Peter Hopcroft (Prifysgol Birmingham) | Pwyntiau tyngedfennol yn y maes tir-atmosffer |
14 Ionawr 2024 | David Thornalley (Coleg Prifysgol Llundain) | Ydy Llif y Gwlff ar fin dymchwel? Arsylwadau modern a chliwiau o forlaid |
11 Chwefror 2025 | Louise Simes (Arolwg Antarctig Prydain) | Eithafoedd iâ môr – y gorffennol, y presennol a'r dyfodol |
11 Mawrth 2025 | Daniela Schmidt (Prifysgol Bryste) | Golwg paleontolegol ar yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth modern |
8 Ebrill 2025 | Elizabeth Robinson (Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain) | Sut y gallwn ni lunio polisïau gwell i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd? |
13 Mai 2025 | Juerg Mater (Prifysgol Southampton) | Datrysiadau newid yn yr hinsawdd: rôl technoleg i sicrhau dyfodol carbon isel |
Parcio
Rydym yn annog aelodau o gymuned y brifysgol (gan gynnwys ymwelwyr) i deithio i'r brifysgol gan ddefnyddio dulliau teithio cynaliadwy.
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad yw hynny'n bosibl bob amser, ac y bydd angen i rai ymwelwyr deithio i'r campws mewn cerbydau modur.
Rydym yn annog defnyddio cerbydau trydan neu hybrid at y diben hwn lle bynnag y bo modd. Mae ein meysydd parcio yn cael eu rheoli gan dechnoleg camerâu ANPR a/neu batrolio ar droed.
Nid yw parcio i ymwelwyr ar gael yn ystod Diwrnodau Agored na digwyddiadau mawr eraill ar y campws.
Mae parcio PAYG y gellir ei archebu ymlaen llaw ar gael i'w ddefnyddio gan ymwelwyr (yn ogystal â staff a chontractwyr) rhwng 07:00-00:00 (hanner nos) o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau banc.
Cysylltu â ni
Os bydd gennych chi gwestiynau ynghylch y digwyddiad hwn, cysylltwch â’r Athro Dianne Edwards gan ebostio edwardsd2@caerdydd.ac.uk.
Os hoffech chi gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb yn Gymraeg, ebostiwch edwardsd2@caerdydd.ac.uk o leiaf bythefnos cyn y digwyddiad.