Diogelu ein Morfa Heli
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Gyda chyllid drwy brosiectau RESILCOAST a CoastWEB rydym ni wedi datblygu dau danc tonnau sy'n caniatáu i ni arddangos amrywiol bynciau, yn cynnwys rheoli arfordirol, llifogydd arfordirol a gweithio gyda natur fel modd o reoli llifogydd.
Mae'r tanciau wedi bod ar daith dros y blynyddoedd diwethaf, gan gymryd rhan yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, Gwyddoniaeth Bocs Sebon, Peint o Wyddoniaeth ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Rhagor o wybodaeth am rai o'r digwyddiadau hyn.
Drwy ymgysylltu â'r tanciau, rydym ni'n annog pobl i 'reoli'r llanw' a dod yn 'wneuthurwyr tonnau'. Mae pob tanc yn edrych ar wahanol agwedd ar y morfa heli fel enghraifft o weithio gyda natur i ddiogelu ein harfordiroedd yn effeithiol.
Gwahoddir cyfranogwyr i reoli arfordir pentref bach (Lego!), gan edrych ar y ffordd orau i'w ddiogelu rhag stormydd a chodiad yn lefel y môr. Mae'r gweithgaredd yn dangos gwerth gweithio gyda natur, a phwysigrwydd deall ein harfordiroedd er mwyn ymdrin yn iawn â'r effeithiau sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd.