Daearyddiaeth Ffisegol
Dyma gyfle i archwilio tirweddau’r Ddaear, yr hinsawdd a'r prosesau ffisegol deinamig sy'n siapio wyneb y Ddaear.
Ar y cwrs hwn byddwch yn archwilio pynciau diddorol gan gynnwys llosgfynyddoedd, yr atmosffer, yr hinsawdd, a pheryglon naturiol, fel llifogydd ac erydu arfordirol. Cewch ddarganfod brosesau fel esblygiad tirweddau, a'r effeithiau a'r dylanwadau sy'n gysylltiedig â'r newidiadau hyn.
Rhaglenni
Enw’r radd | Côd UCAS |
---|---|
Daearyddiaeth Ffisegol (MSci) | F844 |
Daearyddiaeth Ffisegol (BSc) | F843 |
Daearyddiaeth Ffisegol gyda Blwyddyn yn Astudio Dramor (BSc) | F849 |
Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i sicrhau’r safonau uchaf mewn ymchwil ac addysg ac – o dan arweiniad ymchwil – i ddarparu amgylchedd cyfoethog ac amrywiol.