Daeareg Fforio
Dysgwch sut i fforio’r Ddaear ar gyfer adnoddau naturiol yn rhan o’r cwrs unigryw hwn – yr unig gwrs yn y DU i israddedigion sy’n canolbwyntio ar roi hyfforddiant arbenigol ym maes fforio ar gyfer adnoddau.
Yn rhan o’n cwrs Daeareg Fforio, byddwch yn dysgu sut mae prosesau’r Ddaear wedi creu adnoddau naturiol y blaned a sut i fforio ar eu cyfer i ateb y galw yn y dyfodol. Bydd daearegwyr fforio’n hollbwysig i sicrhau dyfodol carbon isel, drwy helpu i ateb y galw cynyddol am fetelau fel copr a lithiwm er mwyn cyflenwi’r diwydiant ynni adnewyddadwy sydd ei angen i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Yn rhan o'r cwrs hwn, cewch gyfle i ymgymryd â lleoliad gwaith unigryw 5-wythnos dros yr haf, lle byddwch yn ddaearegwr iau ac yn gweld sut beth yw fforio ar gyfer adnoddau.
Rhaglenni
Enw’r radd | Côd UCAS |
---|---|
Daeareg Fforio (BSc) | F625 |
Daeareg Fforio (MSci) | F626 |
Daeareg Fforio gyda Blwyddyn yn Astudio Dramor (BSc) | F627 |
Geowyddorau Amgylcheddol gyda Blwyddyn yn Astudio Dramor (BSc) | F643 |
Achrediad
Mae ein rhaglenni Daeareg Fforio ac Adnoddau wedi’u hachredu gan y Gymdeithas Ddaearegol.
Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i sicrhau’r safonau uchaf mewn ymchwil ac addysg ac – o dan arweiniad ymchwil – i ddarparu amgylchedd cyfoethog ac amrywiol.