Rowan Berry
Mae'r teithiau maes rheolaidd, difyr a phleserus ar draws de Cymru a thu hwnt, yn dod â gwaith yr ystafell ddosbarth yn fyw.
Treuliais bedair blynedd yn cwblhau fy nghwrs BSc Geowyddorau Amgylcheddol ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys blwyddyn ar leoliad yn General Electric. Rhoddodd fy ngradd ystod eang o wybodaeth i mi y gallwn ei defnyddio mewn llawer iawn o ddiwydiannau.
Mae cryn hyblygrwydd yn yr adran hefyd, o ran newid modiwlau a hyd yn oed cwrs eich gradd ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Mae’r staff yn arbennig, gan eu bod yn hynod gefnogol ac yn deall eu meysydd i’r dim.
Bywyd yng Nghaerdydd
Mae Caerdydd yn ddinas heb ei hail. Mae ganddi bopeth i'w gynnig o gyfleusterau chwaraeon anhygoel (o fewn a thu allan i'r brifysgol), pobl gyfeillgar dros ben, canol dinas fywiog gyda llawer yn digwydd, heb sôn am ardal drawiadol Bannau Brycheiniog ar garreg y drws. Symudais o ogledd-orllewin Lloegr, heb adnabod neb, ond buan iawn y gwnes i ffrindiau, ac rwy'n dal i weld llawer ohonyn nhw! Rydw i hefyd yn dal i geisio ymweld â Chaerdydd yn rheolaidd gan ei fod yn lle mor anhygoel a byddaf bob amser yn teimlo'n gartrefol yno.
Astudiaethau pellach
Ar ôl Caerdydd, penderfynais wneud MSc mewn Daeareg Strwythurol a Geoffiseg, er mwyn canolbwyntio o ddifrif ar yr agwedd strwythurol ar ddaeareg a ddysgais ym Mhrifysgol Caerdydd. Drwy’r cwrs, fe wnes i ddysgu hanfodion mapio daearegol, ysgrifennu adroddiadau, cyflwyno a dehongli data, ac rwy'n eu defnyddio i gyd hyd heddiw.
Fy ngyrfa ar ôl graddio
Ar ôl Caerdydd, fe ges i swydd mewn cwmni olew lle rydyn ni’n datrys problemau parhaus yn y diwydiant olew, megis cadw cronfeydd yn lân, problemau â phiblinellau, a llawer rhagor.
Fe wnaeth astudio amrywiaeth mor eang o fodiwlau gwahanol ym Mhrifysgol Caerdydd fy helpu i fynd i'r afael ag archwilio sector cemeg a microbioleg y diwydiant, yn ogystal â'r ochr ddaearegol a busnes. Yn rhan o fy rôl rwyf yn ymgysylltu â chleientiaid i sicrhau bod prosiectau’n digwydd ac rwyf yn teithio’n aml hefyd i ddatblygu rhwydwaith proffesiynol.
Mae strwythur modiwlaidd ein cyrsiau yn cynnig amrywiaeth gyffrous o raglenni gradd ar draws y geowyddorau modern.