Ewch i’r prif gynnwys

Paul C Maliphant

Paul C Maliphant

Nawr yn fwy nag erioed, mae angen gweithwyr proffesiynol sy'n gallu datblygu ffyrdd o leihau effeithiau amgylcheddol ac allyriadau nwyon tŷ gwydr, wrth fynd ati i wella canlyniadau cymdeithasol mewn ymateb i'r heriau byd-eang rydym yn eu hwynebu a nodau deddfwriaeth allweddol.

Ar ôl gorffen astudio ar gyfer fy ngradd gyntaf yng Nghaeredin, a Phrifysgol Bryste wedi hynny, cefais 2:1 mewn Daeareg ym 1985. Yna, cymerais swydd Rheolwr Mwyngloddio Brig dan Hyfforddiant gyda’r Bwrdd Glo Cenedlaethol (rhoddwyd yr enw Glo Prydain arno’n ddiweddarach).

Newid cyfeiriad

Yn dilyn hyfforddiant, roeddwn yn Ddaearegwr ac yn Beiriannydd Geodechnegol, a llwyddais i sicrhau statws siartredig gyda Chymdeithas Ddaearegol Llundain. Er hynny, roeddwn yn dod yn fwyfwy ymwybodol o effeithiau gwael glo ar yr amgylchedd a dirywiad y diwydiant yn y DU. Gyda theulu ifanc, penderfynais nad oeddwn eisiau gweithio ym maes mwyngloddio a theithio'r byd. Yn lle, dewisais gychwyn gyrfa ym maes Peirianneg Sifil. I gefnogi'r uchelgais hwn, codais fy mhroffil personol drwy ffurfio grŵp rhanbarthol De Cymru o'r Gymdeithas Ddaearegol, a dechreuais astudio ar gyfer fy ngradd meistr ym Mhrifysgol Caerdydd ym 1992.

Gyrfa gynnar

Ar ôl i fy swydd gael ei dileu ddiwedd y flwyddyn gyntaf, ymunais ag awdurdod lleol, a chefais dipyn o gyfleoedd i weithio ar draws nifer o is-sectorau, gan gynnwys cynnal a chadw priffyrdd, adeiladu, adfer tir a chynllunio mwynau. Ar ôl pasio fy arholiadau, cefais ganiatâd i ddefnyddio'r data a gasglwyd gennyf yn y gwaith i ysgrifennu fy nhraethawd hir ar optimeiddio cefnffordd yr A470 i Ffordd Liniaru Capel Llanilltern, a arweiniodd at radd meistr ar lefel Rhagoriaeth. Cafodd y cynllun hwn ei ddiwygio a'i ddiweddaru wedi hynny i greu Ffordd Osgoi Pentre'r Eglwys, a agorodd yn 2010. Gwnaeth fy nhraethawd hir arwain at nifer sylweddol o gyfleoedd sylweddol wrth i mi symud i faes ymgynghori preifat yn bennaf gyda Halcrow (sydd bellach yn rhan o Jacobs) a Mott MacDonald.

Barn ar y cwrs

Dros yr 20 mlynedd diwethaf, rwyf wedi parhau i gefnogi'r cwrs Daeareg Amgylcheddol Gymhwysol yn ddarlithydd achlysurol. Rwyf wedi creu cyfleoedd i wella'r hyfforddiant drwy gysylltu myfyrwyr â seminarau, cynadleddau a darlithoedd sy’n cael eu trefnu gan y Gymdeithas Ddaearegol, gan gynnwys cynnig lleoliadau traethawd hir a chyfleoedd gyrfa dilynol i rai gweithwyr proffesiynol rhagorol ar ddechrau eu gyrfa.

Mae'r cyfuniad o fodiwlau a addysgir a lleoliadau diwydiannol yn helpu myfyrwyr i ddatblygu eu gallu technegol ac yn gwella eu dealltwriaeth o'r sectorau y byddant yn canolbwyntio arnynt yn rhan o’u gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn i gyd yn paratoi myfyrwyr yn dda ar gyfer dechrau eu gyrfa ac ychwanegu gwerth at y busnesau y maent yn gweithio iddynt, gan gynnwys bywydau’r bobl a’r cymunedau y mae eu prosiectau’n effeithio arnynt.

Rwy'n argymell y cwrs Daeareg Amgylcheddol Gymhwysol (MSc) ym Mhrifysgol Caerdydd i fyfyrwyr y dyfodol.