Ewch i’r prif gynnwys

Georgina Taubman

Georgina Taubman

Mae’r cyfnod cynnar hwnnw ar y cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd, ers y dechrau’n deg ar fy lleoliad diwydiannol yr holl flynyddoedd yn ôl, wedi fy rhoi ar ben ffordd o ran cael gyrfa amrywiol a phleserus.

Ers graddio o'r cwrs Daeareg Amgylcheddol Gymhwysol, rwyf wedi cael gyrfa amrywiol.  Fy lleoliad diwydiannol mewn ffatri gorchuddio dur, Corus (Tata Steel bellach), yn Abertawe, oedd yr hyn a’m paratôdd yn llawn ar gyfer gyrfa ym maes Rheoli Amgylcheddol. Tra yn Corus, cefais fy nghomisiynu i gynnal Asesiad o Effaith Amgylcheddol y safle cyn iddo gau a chael ei ailddatblygu’n dilyn hynny yn safle ar gyfer tai.

Fy ngyrfa ar ôl graddio

Ers hynny, rwyf wedi gweithio i ystod eang o wahanol sefydliadau a sectorau. Roedd fy swydd amser llawn gyntaf yn Groundwork, sef Elusen Amgylcheddol. Yno, roeddwn yn rhoi cyngor rheoli amgylcheddol i dros 40 o gwmnïau gwahanol ledled y Cymoedd y Rhondda a Merthyr.

Yn fy rôl nesaf, roeddwn yn rhan o dîm a ddatblygodd yr Ymgyrch Gyfathrebu Genedlaethol 'Ailgylchu dros Gymru', gan helpu i gomisiynu ystod o adnoddau hysbysebu ar gyfer y teledu, radio a hysbysfyrddau. Yn dilyn hyn, des i’n Rheolwr Arfordirol yng Nghyngor Bro Morgannwg, gan helpu i gydlynu’r ddarpariaeth o ran cael achubwyr bywyd ar ei draethau mwyaf poblogaidd yn ystod yr haf, cynorthwyo gyda chynnal Pier Fictoraidd Penarth a rhoi’r mesurau angenrheidiol ar waith i sicrhau bod Ynys y Barri yn cael ei Gwobr Baner Las gyntaf.

Gan symud ymlaen o’r fan honno, deuthum yn Ymgynghorydd Amgylcheddol, gan weithio ar ystod eang o brosiectau gyda chleientiaid oedd yn amrywio o awdurdodau lleol, cwmnïau cyfleustodau mawr, Llywodraeth Cymru, i ddatblygwyr ffermydd gwynt.

Un o’r rolau a roddodd y boddhad mwyaf i mi oedd bod yn Swyddog Amgylcheddol yn un o byllau glo brig mwyaf Ewrop (safle Ffos-y-fran ym Merthyr Tudful). Yno, bûm yn cydlynu pob agwedd ar Reoli Amgylcheddol ar draws y safle, gan gynnwys monitro ansawdd dŵr dan ddaear a dŵr brig, gan sicrhau bod gweithrediadau o ddydd i ddydd yn cadw at yr holl ofynion rheoleiddio ac Amodau Cynllunio a osodwyd. Un o agweddau gorau'r rôl oedd rheoli dwy ardal ecolegol warchodedig ddynodedig sy'n gysylltiedig â'r safle – wnes i erioed ragweld gwneud hynny ar bwll glo!

Yn fwyaf diweddar, rwyf wedi bod yn Gydlynydd Amgylcheddol yn y Tarmac Cement Plant yn Aberddawan yn ne Cymru. Gan ymdrin ag ystod eang o agweddau, o fonitro allyriadau, monitro ansawdd dŵr, sicrhau bod y safle'n gweithredu o fewn ei derfynau rheoleiddio a chynnal archwiliadau o'r safle o ddydd i ddydd.

Rwyf wedi cael gyrfa amrywiol, gyda chyfran fawr ohono wedi bod yn gweithio yn y sector diwydiant trwm lle rwyf wedi canfod fy hun ymhlith y lleiafrif o ran bod yn fenyw ar y safle. O mhrofiad i, rwyf wedi cael fy nhrin â pharch bob amser, ac fel rhywun cyfartal, ac rydw i bob amser wedi cael fy nghroesawu ac fy nghynnwys.