Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Rydym wedi ymrwymo i wella amrywiaeth a hyrwyddo cydraddoldeb yn rhan o’n holl arferion a gweithgareddau.
Ein nod yw sicrhau amgylchedd cynhwysol, cefnogol a chroesawgar sy’n parchu urddas staff a myfyrwyr, ni waeth beth yw eu hoedran, ethnigrwydd, anabledd, strwythur teuluol, rhywedd, cenedl, cyfeiriadedd rhywiol, hil, crefydd neu gredoau a chefndir economaidd-gymdeithasol.
Ein gwerthoedd
Wrth weithio ochr yn ochr â Chynllun Cydraddoldeb Strategol y Brifysgol, rydym wedi ymrwymo i wneud y canlynol:
- cydnabod, parchu a gwerthfawrogi gwahaniaethau o ran sut rydym yn cydweithio ac yn rhyngweithio ag eraill
- diddymu gwahaniaethu a chynnal gwerthoedd allweddol urddas, cwrteisi a pharch
- rhoi cyfleoedd i’r holl staff a myfyrwyr
Rydym yn bwriadu amlygu arfer gorau drwy amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys:
- Asesiadau o effaith ar gydraddoldeb
- Ceisiadau Athena SWAN
- Pwyllgor cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Gweithgareddau diweddar
Cau'r Bwlch ar gyfer Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
Mae Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd wedi bod yn rhan o’r menter Cau’r Bwlch sy’n ceisio gwella dealltwriaeth o'r rhwystrau i lwyddiant ymhlith myfyrwyr du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, nodi mentrau llwyddiannus blaenorol a rhannu profiad o arfer gorau, gyda golwg ar gau'r bwlch cyrhaeddiad a geir ar hyn o bryd mewn Ysgolion, Colegau a’r Brifysgol yn gyffredinol.
Ar hyn o bryd, mae bwlch cyrhaeddiad cyfartalog o 13% rhwng myfyrwyr gwyn a myfyrwyr du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol ar draws prifysgolion y DU. Er mwyn ceisio cau'r bwlch hwn, mae’r Brifysgol wedi gwneud argymhellion sy’n cynnwys sicrhau arweinyddiaeth gryfach, cael sgyrsiau agored ynghylch hil, datblygu amgylcheddau mwy cynhwysol ac amrywiol, dadansoddi’r data a deall arfer gorau.
Mae’r grŵp gorchwyl a gorffen ar gyrhaeddiad myfyrwyr du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol i sicrhau bod y Brifysgol yn gweithredu ar yr argymhellion hyn. Yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd, mae'r grŵp hwn yn cynnwys staff academaidd a gweinyddol, israddedigion ac ôl-raddedigion o amrywiaeth o gefndiroedd amrywiol.
Mae'r grŵp yn cyfarfod unwaith y mis i ddadansoddi'r data, trafod materion yn y gorffennol a'r presennol a datblygu ffyrdd newydd o sicrhau amgylchedd dysgu mwy cynhwysol ac amrywiol i bob myfyriwr ac aelod o’r staff. Mae’r grŵp hefyd yn ceisio gwella allgymorth du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol drwy greu amgylchedd mwy croesawgar ar gyfer gwneud ymchwil, addysgu a cael profiad bywyd.
Dad-ddysgu Hiliaeth ym maes y Geowyddorau
Mae ein grŵp darllen strwythuredig yn dilyn cwricwlwm a arweinir gan ymchwil ar ddad-ddysgu hiliaeth ym maes y geowyddorau. Mae'r grŵp yn cyfarfod bob pythefnos i gyfleu syniadau sy’n seiliedig ar gyfweliadau ag ysgolheigion ac erthyglau ar y pynciau canlynol:
- hiliaeth a diffiniadau
- hiliaeth ac unigolion
- hiliaeth a hanes
- hiliaeth a chyfiawnder
- hiliaeth a hygyrchedd
- hiliaeth a chynhwysiant
- hiliaeth a hunanofal
- hiliaeth ac atebolrwydd
Ar sail y trafodaethau, mae'r tîm yn nodi’r hyn y gellir ei gyflawni, gyda'r nod o ffurfio polisïau ysgol newydd sy'n mynd i'r afael â materion posibl sy’n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Rhoi gwybod am broblem
Gall myfyrwyr a staff yn ein Hysgol roi gwybod i'n pwyllgor am unrhyw broblemau sy’n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Pwyllgor cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd
Gall myfyrwyr hefyd roi gwybod am y digwyddiadau drwy Borth Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
Rydym yn aelod o Athena Swan, sy'n cydnabod ein hymroddiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth.