Amdanon ni
Rydym yn meithrin ymchwil o'r radd flaenaf sy'n gwella profiad myfyrwyr, gyda gwyddonwyr gwyddorau daear a gydnabyddir yn rhyngwladol o bob rhan o'r ddisgyblaeth yn ymchwilio ac addysgu gyda'i gilydd.
Sefydlwyd Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd yn 1891. Wedi'i leoli ym Mhrif Adeilad eiconig y Brifysgol yng nghanol Caerdydd, rydym yn gymydog i Amgueddfa Genedlaethol Cymru gyda'i chasgliadau daearegol gwych.
Mae yn yr ysgol dros 55 o academyddion, a Pennaeth yr Ysgol yw’r Dr Jenny Pike.
Dysgwch fwy am bwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud drwy ein proffiliau staff, ymchwil a chyfleusterau.

Mae Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr yn rhagori ym meysydd dysgu ac ymchwil, yn darparu gofod cefnogol ac ysbrydoledig i ddysgu am esblygiad y Ddaear, ei fywyd a sut mae'n gweithio.