Cylch Caerdydd
Gallwch ymuno â Chylch Caerdydd drwy roi rhodd o £1,000 o leiaf bob blwyddyn i Brifysgol Caerdydd.

Byddwn yn cydnabod aelodau sy’n cyfrannu’r symiau yn fwy na £1,000 y flwyddyn.
Pan mae rhywle fel Caerdydd wedi bod mor arbennig ym mywyd rhywun, yn naturiol bydd yr awydd i roi yn ôl yn dod yn rhwydd iawn. Yn sgil ymuno â Chylch Caerdydd des i’n rhan o gymuned o gefnogwyr o’r un anian â mi, a bydd eu rhoddion yn sicrhau bod myfyrwyr cyfredol o bob cefndir yn gallu manteisio ar yr un cyfleoedd a’r un addysg o safon fyd-eang - dyna oedd y peth mwyaf naturiol i'w wneud.
Mae Cylch Caerdydd yn cydnabod pwysigrwydd rhoddion yn fwy na £1,000. Mae rhoddwyr Cylch Caerdydd yn chwarae rôl hanfodol i Gaerdydd, trwy effaith ariannol eu cefnogaeth, ar waith y Brifysgol ac ysbrydoli cefnogwyr arall i’w dilyn. Mae rhoddwyr Cylch Caerdydd yn cynrychioli llysgenhadon codi arian blaenllaw Caerdydd, ac mae’u heffaith – yn unigol a gyda’u gilydd – o arwyddocâd cynyddol i Gaerdydd.
O fewn y flwyddyn academaidd, mae rhoddwyr yn cael eu cydnabod ar y lefelau rhodd canlynol:
- £1,000 - £4,999
- £5,000 - £24,999
- £25,000+
Gallwch hefyd wneud cyfraniad Cylch Caerdydd drwy nifer o ffyrdd amrywiol:
- debyd uniongyrchol misol, cwarterol neu blynyddol
- rhoi siec, taleb CAF neu cerdyn credyd
- rhodd o gyfranddaliadau
Mae eich cefnogaeth Cylch yn flynyddol, yn seiliedig ar eich blwyddyn academaidd (1 Awst i 31 Gorffennaf). Os ydych yn drethdalwr y DU, gallwch hefyd gymryd mantais o Gift Aid wrth roi eich rhodd.
Cydnabyddiaeth
Bydd yr Is-ganghellor yn ysgrifennu i'n holl roddwyr Cylch Caerdydd.Byddwch hefyd yn derbyn bathodyn pin arbennig, diweddariadau am y Brifysgol, a heblaw eich bod yn dewis i aros yn ddienw, bydd yn cael eich nodi yn rhestr flynyddol y Brifysgol o Roddwyr. Yn ychwanegol, mae derbyniad blynyddol arbennig Cylch Caerdydd yn rhoi cyfle i chi siarad yn bersonol ag aelodau o'n tîm Uwch-arweinyddiaeth a chlywed gan ein siaradwyr gwadd arbennig. Hefyd, bydd ein rhoddwyr mwyaf hael yn cael eu gwahodd i gwrdd â phobl allweddol yn y Brifysgol, a chadw mewn cysylltiad â thimoedd prosiect yn bersonol.
Cysylltu â ni
Os hoffech ymuno â’r grŵp hwn o bobl eithriadol drwy roi rhodd o £1,000 neu fwy yn ystod y flwyddyn academaidd hon, cysylltwch â’r:
Er mwyn ymuno â Chylch Caerdydd, gofynnwn ichi roi rhodd o £1,000 neu fwy (neu rodd fisol o £83.50 neu fwy).