Y gwahaniaeth rydych chi'n ei wneud
Adroddiad Effaith 2022/23
Roedd 2022/23 yn flwyddyn eithriadol i ddyngarwch ym Mhrifysgol Caerdydd. Gyda'i gilydd, rhoddodd y 90 aelod o Gylch Caerdydd swm anhygoel o £3.3m i ddatblygu gwaith ymchwil o safon fyd-eang a helpu myfyrwyr Caerdydd i gael mynediad at yr addysg a'r cyfleoedd y maent yn eu haeddu.
Roeddem mor ddiolchgar i gael swm anhygoel o £566,000 gan gefnogwyr a oedd yn cofio'r brifysgol yn eu hewyllus. Mae'r rhoddion hyn yn hynod arbennig a byddant yn gadael etifeddiaeth barhaus i genedlaethau'r dyfodol.
Darllenwch ragor am yr ymchwilwyr a'r myfyrwyr rydych chi wedi helpu i'w cefnogi. Mae eu straeon yn tynnu sylw at y gwaith sy’n cael ei wneud i achub a newid bywydau yng Nghymru a thu hwnt, a pharatoi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr ar gyfer bywyd ar ôl Caerdydd.
Eleni, mae eich cefnogaeth wedi gwneud y canlynol yn bosibl. Diolch yn fawr iawn.
- £3.3m mewn rhoddion dyngarol
- £2.8m tuag at ymchwil feddygol
- £486,000 tuag at gefnogi myfyrwyr i gyrraedd eu potensial
- 150+ o ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa a myfyrwyr PhD wedi’u hariannu
- £566,000 o roddion hael mewn ewyllysiau
- 10% o'n hincwm dyngarol yn rhoddion mewn ewyllysiau
- 85 adduned i gefnogi myfyrwyr ac ymchwil Prifysgol Caerdydd
Cefnogi myfyrwyr
Mae myfyrwyr wrth galon Prifysgol Caerdydd, ond gall heriau ariannol atal y meddyliau gorau a mwyaf disglair rhag cael mynediad at yr addysg a'r cyfleoedd y maent yn eu haeddu. Y llynedd, rhoddodd ein cefnogwyr swm syfrdanol o £486,000 i helpu myfyrwyr Caerdydd i gyflawni eu llawn botensial. Mae’r cymorth hwn wedi’i gwneud hi’n bosibl i gannoedd o fyfyrwyr barhau â’u hastudiaethau mewn cyfnodau anodd, manteisio ar gyfleoedd efallai na fyddent wedi gallu eu gwneud, a datblygu’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnynt ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol.
Mae Shloka wedi cael Ysgoloriaeth Cyntafion Caerdydd. Mae’r ysgoloriaeth yn rhoi tair blynedd o gefnogaeth i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig neu gefndiroedd nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol i'w helpu i gael popeth posib o'u hamser yn y brifysgol. Mae'r gefnogaeth yn cynnwys ysgoloriaeth ariannol, lleoliad Cyfle Byd-eang i weithio, astudio neu wirfoddoli dramor, ac interniaeth â thâl.
“Rwy’n astudio gradd meistr mewn Niwrowyddoniaeth ar hyn o bryd. Yr hyn a'm denodd at y pwnc yw bod gennym wybodaeth helaeth am yr ymennydd, ac eto mae cymaint nad ydym yn ei ddeall o hyd am yr organ hynod hon sy'n rheoli ein meddyliau, ein gweithredoedd a'n hemosiynau. Yr hyn rydw i'n ei garu fwyaf amdano yw'r potensial diddiwedd i ddarganfod a'r cyfle i helpu i ddatrys dirgelion y meddwl dynol.
"Mae rhaglen Cyntafion Caerdydd wedi bod yn ffynhonnell amhrisiadwy o gefnogaeth ac ysbrydoliaeth. Rhoddodd yr ysgoloriaeth fwy na chymorth ariannol yn unig i mi. Roedd yn hwb sylweddol i godi fy nghalon, gan hybu fy nghymhelliant a fy hunanhyder. Wrth i’r seremonïau graddio agosáu, rwy’n teimlo’n llawer mwy parod i fanteisio ar gyfleoedd.
"Un o uchafbwyntiau rhaglen Cyntafion Caerdydd oedd y Cyfle Byd-eang a ariannwyd, a oedd yn wefreiddiol. Cefais gyfle anhygoel i weithio mewn ysbyty ym Melbourne, Awstralia am flwyddyn, lle canolbwyntiais ar astudio biofarcwyr llais mewn clefyd Alzheimer. Mae gan y gwaith ymchwil hwn y potensial i ddefnyddio lleferydd ac iaith fel adnodd sgrinio ar gyfer clefyd Alzheimer, gan greu adnodd rhoi diagnosis cynnar anfewnwthiol a chost-effeithiol.
"Roeddwn mor ffodus i allu gweithio dan arweiniad yr Athro Adam Vogel, arbenigwr blaenllaw yn y maes. Roedd creu astudiaeth ymchwil o'r newydd yn heriol, ond yn brofiad gwerth chweil. Cyfarfûm â phobl eithriadol ac rwyf wedi meithrin rhwydwaith cryf o gydweithwyr byd-eang a fydd yn fy helpu yn fy ngyrfa yn y dyfodol.
"Er bod y cymorth ariannol yn sicr yn hanfodol, mae manteision rhaglen Cyntafion Caerdydd yn mynd y tu hwnt i hynny. Mae wedi rhoi profiadau anhygoel i mi a fydd yn atgyfnerthu fy CV, gan osod sylfaen gref wrth i mi ddechrau fy ngyrfa ymchwil.”
Ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl
Mae ymchwilwyr yng Nghaerdydd ar flaen y gad o ran cynnydd byd eang er mwyn deall geneteg salwch niwrolegol. Mae ein gwaith ymchwil yn rhychwantu plentyndod hyd at henaint ac yn cynnwys anhwylderau niwroddatblygiadol megis awtistiaeth a diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), anhwylderau seiciatrig fel sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol, yn ogystal ag anhwylderau niwroddirywiol gan gynnwys clefydau Alzheimer a Parkinson. Trwy gefnogi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr ym meysydd niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, rydych chi'n helpu i wella ein dealltwriaeth o'r cyflyrau hyn a chyflymu datblygiad triniaethau newydd, mwy effeithiol.
“Mae clefyd Parkinson yn gyflwr niwrolegol cynyddol. Mae hyn yn golygu ei fod yn achosi problemau yn yr ymennydd ac yn gwaethygu dros amser. Nid oes gan bobl â chlefyd Parkinson ddigon o'r cemegyn dopamin yn eu hymennydd oherwydd bod rhai o'r celloedd nerfol sy'n ei gynhyrchu wedi marw. Mae tua 153,000 o bobl yn byw gyda chlefyd Parkinson yn y DU. A dyma'r cyflwr niwrolegol sy'n tyfu gyflymaf yn y byd.
Erbyn i rywun gael diagnosis o glefyd Parkinson, mae'r clefyd wedi cael effaith anwrthdroadwy ar yr ymennydd. Os gallwn ddeall y newidiadau yn yr ymennydd cyn i'r clefyd gydio a bod niwed niweidiol yn digwydd, byddwn yn gallu gwneud diagnosis o glefyd Parkinson yn gynharach a byddwn yn gallu ei drin yn fwy effeithiol hefyd.
Rwy'n electroffisiolegydd. Rwy’n defnyddio technegau fel clamp patsh i arsylwi signalau trydanol niwronau (celloedd yr ymennydd) sy’n deillio o nifer o fôn-gelloedd (diwahaniaeth). Mae fy mhrosiect presennol yn ymwneud â deall y newidiadau yn y gweithgarwch trydanol a sut mae'n effeithio ar y cyfathrebu rhwng niwronau oherwydd mwtaniadau genynnau mewn protein o'r enw LRRK2 – y gwyddom ei fod yn achosi clefyd Parkinson. Ein gobaith yw y bydd y gwaith ymchwil hwn yn arwain at roi diagnosis ac ymyrryd yn gynt.
Yn flaenorol, rwyf wedi gweithio ar sut mae llygredd aer yn effeithio ar weithgarwch trydanol y galon, ac yn awr, diolch i arian rhoddwyr, rwy'n cyfuno'r wybodaeth hon a'm data ar ddatblygiad celloedd yr ymennydd yng nghlefyd Parkinson. Bydd fy astudiaeth beilot yn ceisio deall sut mae cyfansoddion sy’n cael eu rhyddhau drwy losgi tanwyddau ffosil, sy’n creu llygredd aer, yn effeithio ar weithgarwch niwronau ac y gallent gynyddu niwroddirywiad. Hyd yma, nid oes dealltwriaeth fecanistig o sut y gall llygredd aer achosi niwroddirywiad. Rwy'n gobeithio y gall fy ngwaith ymchwil daflu goleuni ar hyn a gwella ein dealltwriaeth o sut mae ffactorau amgylcheddol yn effeithio ar niwroddirywiad.
Gallai'r wybodaeth hon gefnogi polisïau amgylcheddol cryfach a'i wneud yn haws i’w gweithredu.”
Ymchwil canser
Mae ymchwil i ganser ym Mhrifysgol Caerdydd yn helpu i wella canlyniadau i gleifion, ac i ddatblygu therapïau newydd ar gyfer y dyfodol. Ym mhob rhan o’r brifysgol mae ymchwilwyr yn gweithio ar fioleg canser, darganfod cyffuriau newydd, atal cyflyrau, diagnosis cynnar, seicoleg, a’r effaith gymdeithasol. Diolch i’n cefnogwyr, mae’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr yn datblygu triniaethau newydd mwy effeithiol, sy’n gwella cyfraddau goroesi ac ansawdd bywyd pobl â chanser, yng Nghymru a thu hwnt.
Dyfarnwyd doethuriaeth i Dr Malwina Molendowska pan oedd yng Nghanolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC). Mae hi wedi defnyddio technoleg delweddu cyseiniant magnetig (MRI) i helpu i wella’r gwaith o ganfod a gwneud diagnosis o ganser y prostad yn gynnar.
“Yn y DU, bydd tua 1 o bob 8 dyn yn cael canser y prostad yn ystod eu hoes. Mae canser y prostad yn effeithio’n bennaf ar ddynion dros 50 oed, ac mae eich risg yn cynyddu gydag oedran. Mae'r risg hyd yn oed yn uwch ar gyfer dynion Du a dynion sydd â hanes teuluol o ganser y prostad.
Mae'r dull presennol o roi diagnosis o ganser y prostad yn cynnwys prawf gwaed ac archwiliad corfforol, ond nid yw'r naill na'r llall yn derfynol. Mewn gwirionedd, weithiau gall y canlyniadau fod yn amwys, heb gadarnhau na diystyru canser. Mae hyn yn golygu bod cleifion yn aml yn gorfod cael profion pellach a sgan MRI yn yr ysbyty i asesu beth sy'n digwydd. Hyd yn oed ar y pwynt hwnnw, gall briwiau diniwed amheus ddynwared canser, neu gallai rhai newidiadau fod yn anweledig. Gall hyn arwain at brofion ymledol pellach, fel biopsi, a chynyddu'r baich ar y cleifion, gan ei wneud yn brofiad dirdynnol a phoenus iawn.
Rwy’n credu y gall sganiau a wneir ar beiriannau MRI mwy pwerus roi gwybodaeth fwy cywir i ni i gynorthwyo’r gwaith o roi diagnosis a rhoi cam anfewnwthiol, ond mwy terfynol i gleifion ar eu taith o gael diagnosis.
Mae gan Brifysgol Caerdydd gyfleusterau ymchwil anhygoel fel CUBRIC, sy'n gartref i un o'r sganwyr MRI mwyaf pwerus yn y byd. Defnyddir y sganiwr hwn yn bennaf i astudio’r ymennydd, ond gan ei fod yn gallu sganio’r corff cyfan, gwnaethom benderfynu ei ddefnyddio mewn gwaith ymchwil i ganser y prostad i wella strategaethau delweddu ac, yn y pen draw, i ddeall newidiadau parhaus ym meinwe’r prostad yn well. Credwn y gallai datblygiadau o’r fath gyrraedd safleoedd clinigol yn fuan a gwella llif y gwaith o sgrinio canser y prostad.
Roeddwn mor ddiolchgar i gael cyllid drwy raglen Arweinwyr Ymchwil Canser y Dyfodol, gyda chefnogaeth rhoddwyr. Defnyddiais y cyllid hwn i gynnal sganiau peilot ar gleifion y GIG sydd wedi’u nodi drwy asesiadau clinigol (gan gynnwys biopsi), fel cleifion ‘Gwyliadwriaeth Weithredol’. Mae hyn yn golygu nad oes angen triniaeth arnynt ar unwaith, ond gan fod meddygon yn poeni am newidiadau yn y brostad, byddant yn cael eu harsylwi. Rwyf wedi gallu profi dilyniannau MR newydd ar y sganiwr MRI ac wedi gweld canlyniadau addawol iawn.
Bydd y canlyniadau hyn yn arwain fy ngwaith ymchwil barhaus gyda'r nod o wneud diagnosis o ganser y prostad yn llai ymwthiol ac yn fwy cywir. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb eich cefnogaeth. Diolch yn fawr.”
Darganfyddiadau ymchwil
Mae astudiaethau ôl-raddedig yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu syniadau newydd a gwneud darganfyddiadau hynod ddiddorol sy'n cael effaith gadarnhaol ar gymdeithas, yr amgylchedd, iechyd a diwylliant. Mae eich cefnogaeth wedi sicrhau bod darpar ymchwilwyr yn gallu gwneud astudiaethau PhD ac wedi gwella cyflogadwyedd ein myfyrwyr ymchwil arloesol.
Mae Marina yn fyfyrwraig yn Ysgol Busnes Caerdydd a chefnogir ei PhD gan Sefydliad Hodge.
“Mae fy nhaith i’r byd academaidd wedi bod yn un anghonfensiynol. Roeddwn i’n arfer bod yn chwaraewr tennis proffesiynol, ac er yr oeddwn wrth fy modd yn teithio’r byd, roeddwn yn aml yn drist o weld anghyfartaledd. Rwy'n teimlo bod rhaid i mi ddod â'r heriau hyn i'r amlwg a helpu ein cymdeithas i greu atebion.
Mae fy PhD yn ymchwilio i bolisi cyhoeddus, cynaliadwyedd ac arloesedd digidol. Rwy’n ymchwilio i ddau bolisi blaengar newydd yng Nghymru – Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Strategaeth Ddigidol Cymru. Rwy’n gobeithio dehongli sut y gall technolegau digidol gyfrannu at yr agenda cynaliadwyedd yng Nghymru a’i datblygu.
O’m data hyd yn hyn, un cysyniad sy’n hynod bwysig yw cynhwysiant digidol – galluogi pobl i fod yn rhan o’r byd digidol heddiw drwy ddarparu mynediad, sgiliau a hyder. Mae allgáu digidol yn digwydd am sawl rheswm – yr argyfwng costau byw, lleoliad daearyddol ac amgylchiadau personol, er enghraifft, colli cyrsiau hyfforddi oherwydd cyflogaeth neu gyfrifoldebau gofalu. Mae'r anghysondebau canlyniadol yn y dechnoleg a ddefnyddir ym meysydd gofal iechyd, addysg a darparu gwasanaethau cyhoeddus yn achosi anghyfartaledd ymhlith pobl sy'n byw yng Nghymru a rhanbarthau eraill.
Rwy’n gobeithio creu fframwaith damcaniaethol sy’n manylu’n benodol ar ystyr cynhwysiant digidol, yn ogystal â sut y mae’n rhyngweithio â nodau gwyrdd Cymru, gan fod y diffiniadau sydd gennym ar hyn o bryd yn anghyflawn ac nid yw Cymru’n cael ei hastudio.
Byddai’r fframwaith hwn yn cyflwyno agenda cyfiawnder cymdeithasol – y gyntaf o’i bath – i helpu i gau’r rhaniad digidol yng Nghymru a gosod esiampl i eraill ei dilyn.
Gallai canlyniadau’r prosiect hwn helpu i drawsnewid sut rydym yn deall ac yn mesur cynhwysiant digidol, gan dynnu sylw at y rhai sydd â’r angen mwyaf am gymorth.
Rwy’n hynod o falch o gynnal fy ngwaith ymchwil yng Nghymru, a thrwy hynny gallaf helpu’r gymdeithas yng Nghymru a ledled y byd drwy hwyluso newidiadau gwirioneddol flaengar a chadarnhaol a rhoi cyfle i leisiau ymylol gael eu cynnwys yn yr oes ddigidol sydd ohoni.”
Helpu myfyrwyr Caerdydd i wireddu eu llawn botensial
Mae ysgoloriaethau'n golygu y gall myfyrwyr na fyddent fel arall yn gallu fforddio mynd i’r brifysgol gael mynediad at yr addysg a'r cyfleoedd y maent yn eu haeddu. Diolch i roddion hael, mae myfyrwyr di-rif wedi cael y sicrwydd ariannol i ddechrau neu barhau â’u hastudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn fyfyriwr Optometreg rhyngwladol o Tanzania, ariannwyd MSc Godluck mewn Optometreg Glinigol yn rhannol gan Ysgoloriaeth Fanaka, a sefydlwyd gan y cynfyfyriwr Mushtaq Karimjee (BSc 1971) a'i wraig Vilas.
Roedd Mushtaq, cynfyfyriwr Peirianneg o Tanzania ei hun, eisiau cefnogi myfyrwyr o'i famwlad a rhoi mynediad iddynt i'r addysg o'r radd flaenaf roedd yn ei gwerthfawrogi cymaint. Roedd hefyd eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i Tanzania, gan gefnogi myfyrwyr a fyddai’n mynd â’r sgiliau a’r wybodaeth a ddysgwyd ym Mhrifysgol Caerdydd yn ôl adref er budd cymunedau yno.
Mae Godluck wedi cwblhau ei astudiaethau yn ddiweddar ac wedi dychwelyd adref i Tanzania.
“Roeddwn i eisiau astudio Optometreg Glinigol oherwydd gallai olygu arbed golwg rhywun. Mae'r llawenydd mae rhywun yn ei brofi o allu gweld eto yn rhoi pwrpas i mi. Penderfynais arbenigo mewn golwg plant oherwydd yn ôl adref yn Tanzania, mae yna blant sydd â phroblemau golwg, ond mae cynifer o ymarferwyr gofal llygaid nad ydynt yn gallu deall eu cyflwr nac yn gwybod sut i'w trin. Roeddwn i eisiau eu helpu i adennill eu golwg – mae gweithio gyda phlant yn heriol iawn, ond rydw i wrth fy modd.
Roeddwn mor hapus i dderbyn ysgoloriaeth Fanaka. Roeddwn i fod i ddod i astudio yng Nghaerdydd y flwyddyn flaenorol, ond gwnes i ohirio oherwydd trafferthion ariannol. Lleihaodd yr Ysgoloriaeth y baich ariannol arnaf i a fy nheulu – ni fyddwn wedi gallu dod i astudio hebddo.
Rydw i mor ddiolchgar i Mr a Mrs Karimjee. Diolch iddyn nhw, gallaf helpu pobl yn ôl adref i adennill eu golwg a'u bywydau. Yn ogystal â gweithio ym maes gofal llygaid pediatrig, hoffwn addysgu. Bydd addysgu mwy o bobl yn helpu i rannu'r wybodaeth hon â chenhedlaeth arall, felly bydd gan Tanzania hyd yn oed mwy o optometryddion cymwys i helpu pobl.
Mae ysgoloriaethau fel hyn mor ddefnyddiol i bobl fel fi a byddant yn creu effaith crychdonnau yn y dyfodol. Efallai ymhen ychydig flynyddoedd, gallaf fod yn esgidiau Karimjee, yn helpu rhywun arall a oedd yn fy sefyllfa i.”
Effaith rhoddion mewn ewyllysiau
Mae rhoddion mewn ewyllysiau yn cael effaith barhaol ar ddyfodol gwaith ymchwil Prifysgol Caerdydd ac yn helpu i gefnogi myfyrwyr am genedlaethau i ddod. Gallwch chi helpu i wella prosesau rhoi diagnosis, triniaeth a gofal, a sicrhau bod gan y meddyliau disgleiriaf y sylfaen i ffynnu.
Mae Aled Rees yn Athro Endocrinoleg ac yn Endocrinolegydd Ymgynghorol yn Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd.
Diolch i rodd hael mewn ewyllys, mae’r Athro Rees wedi gallu ariannu ystod o brosiectau newydd sy’n edrych ar glefydau’r chwarren bitwidol. Mae'r anhwylderau hyn yn effeithio ar y gwaith o gynhyrchu hormonau sy'n rheoleiddio'r chwarren thyroid, twf, swyddogaeth adrenal a hormonau atgenhedlu.
“Diolch i’r cymynrodd rydym wedi’i dderbyn, rydym wedi gallu ariannu tri phrif brosiect. Mae'r cyntaf o'r rhain wedi edrych ar ddatblygu ffordd newydd a mwy cyfleus o asesu cleifion am annigonolrwydd adrenal, cyflwr sy'n gyffredin mewn clefyd pitẅidol ond hefyd mewn sefyllfaoedd eraill fel cleifion sy'n cymryd therapi steroid hirdymor.
Gall cleifion ag annigonolrwydd adrenal gael trafferth gyda blinder, colli pwysau a risg uwch o broblemau imiwnedd, gan gynnwys anhawster i frwydro yn erbyn heintiau.
Y prawf 'safon aur' cyfredol ar gyfer annigonolrwydd adrenal yw mesur lefelau cortisol yn y llif gwaed cyn ac ar ôl pigiad sy'n ysgogi'r chwarennau adrenal. Fodd bynnag, gall ffactorau eraill fel triniaeth estrogen (gan gynnwys HRT), anhwylderau maeth, clefyd yr afu a'r arennau effeithio'n sylweddol ar y lefelau hyn. Mae hyn yn gwneud dehongli'r prawf yn heriol ac yn golygu bod angen i gleifion sy'n cymryd estrogen roi'r gorau i driniaeth am sawl wythnos ymlaen llaw. Fel dewis arall, mae fy nhîm yn mesur lefelau cortisol mewn poer, a ddylai fod yn brawf yr un mor gywir a llawer mwy cyfleus i gleifion.
Rydym hefyd yn edrych ar annigonolrwydd adrenal sy'n deillio o ddefnyddio steroidau, a'r risg o heintiau. Pan roddir dosau steroid uwch i gleifion, ni all eu chwarennau adrenal gynhyrchu digon o cortisol sy'n arwain at annigonolrwydd adrenal. Mae angen i ni hysbysu cleifion yn well ynghylch pryd a sut i gynyddu eu dosau steroid ar adegau o salwch, ond nid ydym yn gwybod pwy sydd mewn mwy o berygl o fynd yn arbennig o sâl. Rydym yn amau efallai na fydd rhai cleifion ar ddosau steroid isel, yn enwedig os cânt eu rhoi am gyfnod byr yn unig, neu drwy ddulliau nad ydynt drwy’r geg, mewn perygl uwch.
I brofi hyn, mae fy nhîm yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe i adolygu cleifion a gymerodd steroidau yn ystod y pandemig. Bydd hyn yn ein galluogi i dargedu addysg at y rhai sydd wir ei hangen, wrth osgoi pryder iechyd diangen mewn eraill.
Mae astudiaeth derfynol a gefnogir gan y cyllid etifeddol hwn yn edrych ar werth delweddu moleciwlaidd wrth ymchwilio i diwmorau pitẅidol. Mae'r tiwmorau hyn yn effeithio ar tua 1 o bob 2,000 o bobl a gallant achosi cur pen, problemau golwg, magu pwysau, afreoleidd-dra mewn mislifau neu anhawster i gael codiad, ymhlith symptomau eraill. Mae fy nhîm yn defnyddio dull delweddu PET newydd lle rydym yn chwistrellu moleciwl olrhain penodol i gleifion sy'n 'goleuo' tiwmorau llai, a all fod yn anodd eu gweld gan ddefnyddio MRI.
Gan fod gan yr olrheiniwr hwn hanner oes hirach na moleciwlau eraill, gallai hefyd gael ei anfon at sganwyr PET yn agosach at gleifion, gan olygu na fyddai'n rhaid iddynt deithio mor bell ar gyfer eu hapwyntiadau. Mae ein canlyniadau cynnar yn addawol a gobeithiwn, gyda phrofion ychwanegol, y bydd y dechneg hon yn ein galluogi i nodi tiwmorau llai yn haws, a fydd yn helpu i lywio penderfyniadau o ran triniaeth fel llawdriniaeth, therapi meddygol neu radiotherapi.”