Hawliau cyllidwyr
Ym mis Gorffennaf 2017, fe gymeradwyodd Cyngor Prifysgol Caerdydd gynnig i fabwysiadu’r Hawliau Arianwyr canlynol. Mae’r rhain yn amlinellu ymrwymiadau’r brifysgol i bawb sy’n ein hariannu, yn ogystal ag ymrwymiadau ychwanegol i’r rhai sy’n rhoi rhoddion dyngarol i’r brifysgol.
Bydd y brifysgol yn
- Darparu’r cyfrifon ariannol mwyaf diweddar sydd wedi’u cyhoeddi a gwybodaeth ariannol arall berthnasol mewn fformat hwylus
- Rhoi cydnabyddiaeth a chyhoeddusrwydd priodol i gefnogaeth yr arianwyr drwy ymgynghori â nhw ac yn unol â Pholisi Enwi’r Brifysgol, gan barchu hawl y rhoddwyr ddyngarol i barhau’n ddienw os dyna yw eu dymuniad
- Cydymffurfio'n llawn â Deddf Diogelu Data 2018 wrth gadw gwybodaeth am arianwyr gan roi copi o'r wybodaeth bersonol a gedwir am arianwyr ar gais, a diweddaru neu gywiro unrhyw ddata personol anghywir ar gais;
- Darparu adroddiadau am gynnydd a’r newyddion diweddaraf i arianwyr am weithgareddau a gefnogwyd
- Cydymffurfio'n llawn â Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 lle bo angen yn unol â’n statws fel corff cyhoeddus. Gall hyn gynnwys datgelu gwybodaeth y gofynnwyd amdani, oni bai bod unrhyw eithriad sy’n cael ei roi ar waith i atal hynny fesul achos.
Yn ogystal â Hawliau’r Arianwyr uchod, bydd Prifysgol Caerdydd yn parchu’r hawliau ychwanegol canlynol i roddwyr:
- Cadw at Gôd Ymarfer Codi Arian, gan gynnwys yr Addewid Codi Arian
- Rhowch y wybodaeth ddiweddaraf i roddwyr am effaith eu rhodd ac anghenion a blaenoriaethau esblygol y brifysgol
- Parchwch hawliau rhoddwyr i breifatrwydd. Mae’r brifysgol yn cyhoeddi ei rhestr o roddwyr dyngarol bob blwyddyn, gan barchu dewisiadau rhoddwyr unigol i beidio â chael eu henwi. Felly, nid yw’r brifysgol fel arfer yn ymateb i geisiadau a wneir o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth drwy enwi rhoddwyr yn unigol
- Bydd pob rhodd heb ei dynodi’n cael ei defnyddio at ddibenion a fydd, ym marn y brifysgol, yn hybu ei chenhadaeth a’i hamcanion orau
- Pan fo rhoddwr yn mynegi y byddai’n well ganddo weld ei rodd yn cael ei defnyddio mewn ffordd benodol, bydd y brifysgol yn defnyddio’r rhodd at y diben a fwriadwyd. Fodd bynnag, efallai na fydd modd bodloni rhai dymuniadau o’r fath. Os felly, caiff y brifysgol geisio defnyddio’r rhodd mewn ffordd arall. Hefyd, efallai y bydd amcanion y brifysgol yn newid dros amser. Os digwyddai hynny, caiff y brifysgol geisio nodi ffordd arall o ddefnyddio’r rhodd drwy’r cyrff priodol, fel y Comisiwn Elusennau, ac yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, ond bydd bob amser yn cadw dymuniadau gwreiddiol y rhoddwr mewn cof. Pan fo’r rhoddwr yn ceisio gosod amodau a allai effeithio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol (naill ai’n gadarnhaol neu’n negyddol) ar bobl sy’n perthyn i unrhyw grŵp nodwedd warchodedig (fel y’i diffinnir yn Neddf Cydraddoldeb 2010), dylid ceisio cyngor y Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr
- Parchwch ddymuniadau rhoddwyr a darpar roddwyr. Er enghraifft, sicrhewch eich bod yn parchu eu dewisiadau o ran dull cyfathrebu (dros y ffôn, drwy ebost, drwy’r post, arall) neu’n cyfyngu ar faint rydych yn ceisio pethau ganddynt (neu’n rhoi’r gorau i wneud hynny, os gofynnir i chi wneud hynny). Gweler Telerau Defnyddio Cronfa Ddata Cynfyfyrwyr a Rhoddwyr
- Sicrhewch fod pawb sy’n codi arian ar ran Prifysgol Caerdydd nad ydynt yn wirfoddolwyr yn cael eu talu drwy gyfrwng cyflog, tâl cadw neu ffi ac na chaiff ffi canfod, comisiynau, bonysau na thaliadau eraill eu talu yn seiliedig ar un ai nifer y rhoddion a gafwyd neu werth yr arian a godwyd. Bydd polisïau talu ar gyfer codwyr arian yn gyson â pholisïau ac arferion y brifysgol ar gyfer staff nad ydynt yn codi arian
Gellir dod o hyd i weithdrefn gwyno Prifysgol Caerdydd mewn perthynas â rhoddion dyngarol yma.
Mae canllawiau Prifysgol Caerdydd ar gyfer ymdrin â phobl mewn amgylchiadau bregus mewn perthynas â rhoddion dyngarol ar gael ar gais gan y Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr. Gallwch ebostio donate@caerdydd.ac.uk neu ffonio +44(0)29 2087 6473.
Cadwch eich manylion yn gyfredol i sicrhau nad ydych yn colli ein buddion unigryw i gyn-fyfyrwyr.