Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil imiwnedd systemau

Professor Andrew Sewell with Research Fellow Garry Dolton in a lab
Yr Athro Andrew Sewell gyda'r Cymrawd Ymchwil Garry Dolton

Trwy gefnogi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr a fydd yn cyflymu datblygiad triniaethau newydd, mwy effeithiol, gallwch chi wella cyfraddau goroesi ac ansawdd bywyd pobl sy’n dioddef o ganser.

Mae’r Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau yn gweithio i ddeall sut mae’r system imiwnedd yn gweithio mewn cyflyrau megis canser, clefydau heintus, dementia, diabetes, clefyd y galon ac arthritis.

Helpwch i gefnogi ein hymchwilwyr sy'n defnyddio gwybodaeth am y system imiwnedd i ddatblygu brechiadau ataliol, diagnosteg newydd, a thriniaethau arloesol ac imiwnotherapïau i drin y clefydau pwysig hyn. Mae'r gefnogaeth hanfodol hon ar gyfer ymchwil flaengar yn sicrhau bod therapïau newydd yn cael eu trosglwyddo o fainc y labordy i ymyl y gwely yn yr ysbyty.

A man is rubbing the knuckles of his right hand.

Ymchwil arthritis ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae tua 10 miliwn o bobl yn y DU yn cael trafferth gydag arthritis a all effeithio ar symudedd, ansawdd bywyd ac achosi poen cronig. Mae'r Athro Simon Jones, Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau yn yr Ysgol Meddygaeth, yn esbonio beth sy'n achosi arthritis a'r ymchwil arloesol sy'n digwydd yng Nghaerdydd.

Javi, wearing red doctoral robes, sits on a Cardiff street reading a letter

Ysgoloriaethau Javi Fernandez

Mae'r grantiau hyn, sy'n anrhydeddu'r ymchwilydd Javi Fernandez (PhD 2018), yn cefnogi ymchwilwyr sy'n astudio heintiau ac imiwnoleg yn eu gyrfaoedd cynnar. Bydd y prosiectau a ariennir yn rhoi gobaith newydd i gleifion reoli afiechydon cronig, clefydau heintus, a chanserau. Darllenwch fwy am Javi a'r ymchwil sy'n cael ei gwneud yn ei enw.

Sut gallwch chi gefnogi ymchwil imiwnedd systemau ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae rhoddion hael yn cyfrannu arian sylweddol tuag at ymchwil imiwnedd systemau bob blwyddyn. Dewch i gael sgwrs gyda’n tîm codi arian am wneud cyfraniad, gadael rhodd yn eich ewyllys, neu er cof am rywun annwyl i chi.

Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr