Cefnogi myfyrwyr
Drwy gefnogi myfyrwyr byddwch yn helpu Prifysgol Caerdydd i ddarparu graddedigion medrus, defnyddiol a chyflawn, a fydd yn cael dylanwad buddiol ac uniongyrchol ar gymdeithas.
Bydd eich rhodd yn cefnogi un o’r meysydd a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i brofiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.
Addysg i bawb
Rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni i gefnogi cymuned amrywiol o fyfyrwyr, gan ganolbwyntio ar ddiffyg cynrychiolaeth mewn addysg uwch. Bydd eich rhodd yn gwneud gwahaniaeth mawr drwy gefnogi myfyriwr i ddechrau neu barhau â’i astudiaethau.
Cyflogadwyedd
Rydym am wneud yn siŵr bod myfyrwyr yn gadael y Brifysgol yn meddu ar y sgiliau a’r profiadau sydd eu hangen i ddechrau ar eu gyrfaoedd.
Ysgoloriaethau Cyfleoedd Byd
Mae Ysgoloriaethau Cyfleoedd Byd-eang yn goresgyn rhwystrau ariannol i weithio, astudio neu wirfoddoli dramor, ac mae gwaith ymchwil wedi dangos bod hyn yn gwella perfformiad academaidd a sgiliau cyflogadwyedd.
Lleoliadau ymchwil
Mae lleoliadau ymchwil yn golygu bod myfyrwyr yn gallu rhoi cynnig ar ymchwil. Byddant yn medru cyfrannu at ymchwil go iawn ym Mhrifysgol Caerdydd ac ennill profiad gwerthfawr ar gyfer astudiaeth bellach neu yrfa yn y byd academaidd. Bydd eich rhodd yn gwneud yn siŵr na fydd amgylchiadau ariannol yn rhwystr i fyfyrwyr; mae’r holl leoliadau wedi’u talu’n llawn sy’n golygu bod mwy o fyfyrwyr yn cael y cyfle i fod yn rhan o’r rhaglen.
Interniaeth
Yn aml, interniaeth yw’r tro cyntaf i fyfyriwr brofi profiad “go-iawn” o waith â thâl. Bydd eich rhodd yn ein helpu i hwyluso interniaethau â chyflog a fydd yn gwella cyflogadwyedd, ac yn aml yn arwain at fwy o gyfleoedd cyflogaeth.
Iechyd a lles
Rydym yn rhoi cefnogaeth ar gyfer amrywiaeth o faterion sy'n effeithio ar fyfyrwyr y Brifysgol a meithrin gwytnwch Bydd eich rhodd yn helpu i roi’r isadeiledd sy’n cefnogi myfyrwyr yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae prosiectau carreg milltir, fel Canolfan Bywyd y Myfyrwyr, yn dod a gwasanaethau cefnogi myfyrwyr llwyddiannus ynghyd i ganol y campws, gan olygu eu bod ar gael yn haws.
Diolch ichi am ddewis cefnogi Prifysgol Caerdydd.