Ewch i’r prif gynnwys

Codi arian i Prifysgol Caerdydd

Os ydych yn fyfyriwr neu gyn-fyfyriwr yn rhedeg marathon, aelod o staff yn trefnu i werthu cacennau neu yn ffrind lleol sy'n awyddus i wneud gwahaniaeth, mae bob gweithred o haelioni yn helpu Prifysgol Caerdydd i drawsnewid bywydau er gwell.

Nodwch mae'r tudalennau isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Pam codi arian gyda ni

Gall unrhyw un godi arian yn rhan o #TeamCardiff – p'un a ydynt yn fyfyrwyr, yn aelodau o’r staff, yn aelodau o'n cymuned byd-eang o gynfyfyrwyr neu'n unigolion sydd â diddordeb angerddol yn ein hymchwil.

Mae gwaith codi arian #TeamCardiff yn cefnogi ein hymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl a’n hymchwil canser. Gall ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa wneud cais am grantiau gwerth hyd at £10,000. Mae'r grantiau hyn yn helpu ymchwilwyr i archwilio syniadau newydd a datgloi cyfleoedd i gael cyllid yn y dyfodol.

Drwy gefnogi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, rydych yn meithrin talent newydd ac yn buddsoddi mewn syniadau arloesol. Bydd eich cefnogaeth yn eu helpu i wneud darganfyddiadau sy'n newid bywydau’n gynt er mwyn gwella sut mae amrywiaeth eang o gyflyrau’n cael eu hatal, eu diagnosio a’u trin.

Ymchwil canser

Mae ymchwilwyr canser ym Mhrifysgol Caerdydd yn gwella canlyniadau i bobl sy'n dioddef o’r canserau mwyaf cyffredin, fel canser y fron, canser y prostad a chanser y coluddyn, yn ogystal â'r rhai sy'n fwy prin neu'n anodd eu trin. Dewch i wybod rhagor am ein hymchwil canser.

Ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl

Mae ein hymchwilwyr niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl yn datblygu triniaethau newydd ar gyfer ystod eang o gyflyrau gwanychol, gan gynnwys ADHD, iselder, sgitsoffrenia a chlefyd Alzheimer. Dewch i wybod rhagor am ein hymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl.

Sut y gallai eich gwaith codi arian helpu

  • Gallai £50 ariannu cymrawd ymchwil am 2.5 awr fel y gellir gwerthuso triniaethau sy'n torri tir newydd.
  • Gallai £100 ariannu pecynnau dadansoddi gwaed a phoer i nodi biofarcwyr sy'n gysylltiedig â salwch meddwl.
  • Gallai £250 ddarparu offer arbenigol i astudio proteinau a DNA.
  • Gallai £500 dalu am ddeunyddiau arbennig sydd eu hangen i dyfu canserau dynol fel strwythurau 3D ar gyfer profi cyffuriau newydd.
  • Gallai £1,000 dalu am y bwlb fflwroleuol arbenigol a ddefnyddir i ddelweddu celloedd yn eglur iawn am flwyddyn gyfan.
  • Gallai £5,000 dalu am yr adnoddau sydd eu hangen i astudio celloedd byw mewn system ddelweddu o'r radd flaenaf.

Bydd 100% o'r arian y bydd Prifysgol Caerdydd yn ei dderbyn drwy’r ymdrechion codi arian hyn yn cael ei ddefnyddio’n uniongyrchol ar gyfer y maes ymchwil o’ch dewis yn y Brifysgol.

Sut y gall codi arian eich helpu chi

Mae codi arian ar gyfer ein hymchwil yn ffordd wych o wneud gwahaniaeth a chael hwyl ar yr un pryd. Gall fod yn gyfle i ddod i adnabod pobl newydd neu ailgysylltu â hen ffrindiau. Gall codi arian eich helpu i gadw’n heini, datblygu sgiliau newydd, gwella eich hyder a hyd yn oed roi hwb i'ch CV.

Mae hefyd yn ffordd arbennig o ddathlu, cefnogi a chofio anwyliaid a all fod yn dioddef o ganser, cyflwr niwrolegol neu broblem iechyd meddwl. Os hoffech godi arian er cof am rywun, cysylltwch â ni.

Yn barod i godi arian gyda #TeamCardiff?

Cysylltwch â ni i roi gwybod sut yr hoffech godi arian. Gallwn roi’r holl gyngor a chymorth sydd eu hangen arnoch i gyrraedd eich targed.

Stephanie Cuyes

Stephanie Cuyes

Swyddog Codi Arian Cymunedol

Email
cuyess@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6551

Ymgymryd â her actif

Does dim rhaid i chi fod yn rhedwr marathon i ymgymryd â her actif! Beth bynnag yw eich ffitrwydd neu lefel gallu, mae her i’ch siwtio chi.

Sut bynnag y byddwch yn dewis codi arian, byddwch yn cefnogi ymchwil i niwrowyddoniaeth, iechyd meddwl a chanser ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n newid bywydau. Ble bynnag rydych chi yn y byd, mae yna ddigwyddiadau y gallwch ymuno â nhw i godi arian yn rhan o #TeamCardiff.

Tîm Caerdydd yn rhedeg yn Hanner Marathon Caerdydd yn 2023

Rhedwch Hanner Marathon Caerdydd

Rhedwch yn ôl traed y goreuon a chodi arian ar gyfer Prifysgol Caerdydd yn Hanner Marathon Caerdydd.

Snowdon at Night

Cerddwch Yr Wyddfa gyda’r Nos gyda #TeamCardiff

Cerddwch Yr Wyddfa gyda’r nos gan godi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd.

The Inflatable run start line

Ras Rhwystrau Chwythadwy

Rhedwch, neidiwch, llithrwch a sbonciwch eich ffordd drwy’r cwrs rhwystrau 5 cilometr mwyaf yn y byd.

Run Alton Towers logo

Ras Rhedeg yn Alton Towers

Ymgymerwch â her o redeg 5 cilometr, 10 cilometr, neu Hanner Marathon o amgylch y parc thema mwyaf poblogaidd yn y DU, sef Alton Towers.

runners doing the 10k

10k Caerdydd – 1 Medi 2024

Ymunwch â miloedd o redwyr ar gyfer y ras 10k hwyliog hon trwy strydoedd a mannau gwyrdd prifddinas Cymru.

Paris Half Marathon runner

Hanner Marathon Paris - 9 Mawrth 2025

Un o'r Hanner Marathonau gorau dramor, a chyfle i weld Paris o ongl wahanol!

London Landmarks Half Marathon logo

Hanner Marathon Tirnodau Llundain – 6 Ebrill 2025

Bydd y llwybr hwn yng nghanol Llundain yn mynd heibio i dirnodau eiconig yn y brifddinas.

Runners at the start line of Newport Wales Marathon

Rhedwch Farathon Casnewydd

Rhedwch Farathon Casnewydd Cymru yn rhan o #TeamCardiff i godi arian ar gyfer gwaith ymchwil y brifysgol.

A man doing a bungee jump

Neidiau Bynji – ledled y DU

Dewch i gael blas ar y cyffro sydd ynghlwm â neidio bynji, i gyd tra’n codi arian ar gyfer achos gwych.

Machu Picchu at sunrise

Teithiau cerdded yn y DU a thramor

Mae teithiau a heriau yn ffordd wych o gyflawni breuddwyd gydol oes, profi rhywbeth anhygoel, a gwneud gwahaniaeth.

Dewch o hyd i ddigwyddiad sy'n lleol i chi

Gallwch chi hefyd bori drwy’r rhestr lawn o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn eich ardal:

Gosodwch eich her eich hun

Os nad yw digwyddiadau wedi’u trefnu ymlaen llaw yn apelio, gallwch ddylunio eich her eich hun. Beth am gynllunio her fel Tri Chopa Cymru, heicio Clawdd Offa, neu feicio o Land's End i John o' Groats?

Os byddai’n well gennych chi wneud rhywbeth sy’n llai cynhyrfus, ewch i 'Dewis eich Her', gosod eich targedau eich hun a chodi arian mewn ffordd sy'n gweddu orau i chi.

Ymuno â digwyddiad rhithwir

Methu cyrraedd y digwyddiad ond eisiau ymuno â'r hwyl? Mae rhai digwyddiadau yn cynnig opsiwn rhithwir sy'n golygu y gallwch gymryd rhan ble bynnag yr ydych chi. Dod o hyd i ddigwyddiadau rhithwir.

Crëwch eich tudalen JustGiving

Mae defnyddio JustGiving yn ffordd gyflym a rhwydd o godi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd. Crëwch eich tudalen, gan ychwanegu eich lluniau a'ch stori ati, a bydd yr arian yn trosglwyddo’n awtomatig i ni. Mae'n rhwydd i'ch noddwyr ychwanegu Rhodd Cymorth ati hefyd, sy'n gwneud rhoddion yn fwy gwerthfawr. Crëwch eich tudalen JustGiving.

Cysylltwch â ni

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, trafod opsiynau, neu ddweud wrthym am eich cynlluniau codi arian #TeamCardiff, cysylltwch â ni a gallwn helpu gyda'r holl gyngor a chefnogaeth rydych eu hangen i ddod o hyd i'r opsiwn cywir i chi.

Stephanie Cuyes

Stephanie Cuyes

Swyddog Codi Arian Cymunedol

Email
cuyess@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6551

Trefnu eich gwaith codi arian eich hun

Dewiswch syniad codi arian i weddu i'ch diddordebau ac arddangoswch eich sgiliau. Mae llawer o ffyrdd i chi godi arian ar gyfer ymchwil fel rhan o #TîmCaerdydd.

Cinio, dawnsiau, cyngherddau ac aduniadau

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae llawer ohonom wedi methu â chael ein calendrau cymdeithasol yn llawn o bethau i edrych ymlaen atynt. Felly mae trefnu swper, dawns neu gyngerdd yn ffordd wych o ddod â phobl yn ôl at ei gilydd a chodi arian.

Os ydych chi'n gynfyfyriwr, beth am ddod â'ch cyd-ddisgyblion yn ôl i Gaerdydd gydag aduniad? Mae gwerthu tocynnau, ychwanegu arwerthiant, raffl, neu gwis (sy’n llawn ffeithiau Caerdydd i brofi’ch atgofion) yn ffyrdd syml o wneud eich digwyddiad yn un i godi arian, yn ogystal â hwyl! Gallwn helpu gyda chyngor a rhannu eich digwyddiad gyda'ch cymuned cyn-fyfyrwyr. Cysylltwch â'n swyddfa cynfyfyrwyr ynglŷn â threfnu aduniad.

Twrnameintiau chwaraeon a gemau

Pêl-droed neu Fortnite, tennis bwrdd neu Twister, pocer neu Pokémon; gall twrnameintiau chwaraeon a gemau fod yn ffordd wych o gyfuno'ch hobïau â chodi arian. Felly p'un a ydych am gynnal twrnamaint golff ar gwrs o safon fyd-eang, neu redeg 'gameathon' 24 awr mae ein Swyddog Codi Arian Cymunedol yma i helpu.

Boreau coffi a gwerthu cacennau

Hen syniad ond syniad da! Rhowch y tegell ymlaen, glanhewch eich powlen gymysgu (neu ewch i'r siopau!) a chynhaliwch fore coffi neu werthwch gacennau. Codwr arian hawdd ei drefnu sy'n dod â ffrindiau, teulu a chydweithwyr ynghyd. Cofiwch edrych ar ein hawgrymiadau codi arian ymarferol.

Heriau ffordd o fyw

Os ydych chi'n rhywun sy'n brathu eich ewinedd, yn rhegi'n aml neu'n dymuno rhoi'r gorau i'r siocled neu'r diod am ychydig, heriwch eich hun i fynd hebddo. Gofynnwch i'ch ffrindiau a'ch teulu eich cefnogi trwy nawdd. Yn syml, sefydlwch dudalen JustGiving, dewiswch achos a chychwyn arni.

Codi arian yn y gwaith

Gall codi arian gyda chydweithwyr helpu i ymgysylltu staff, hybu ysbryd tîm, a hyrwyddo iechyd a lles cadarnhaol. Mae hefyd yn ffordd wych o fodloni amcanion cyfrifoldeb corfforaethol ac arddangos cefnogaeth eich sefydliad i ymchwil byd-eang, sy'n digwydd yma yng Nghaerdydd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cofrestru tîm corfforaethol ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd, gosod eich her gorfforaethol eich hun, neu drefnu eich gweithgaredd codi arian yn y gweithle eich hun fel raffl neu ddigwyddiad gwerthu cacennau, cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, trafod opsiynau, neu ddweud wrthym am eich cynlluniau codi arian #TeamCardiff, cysylltwch â ni a gallwn helpu gyda'r holl gyngor a chefnogaeth rydych eu hangen i gyflawni eich targed.

Stephanie Cuyes

Stephanie Cuyes

Swyddog Codi Arian Cymunedol

Email
cuyess@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6551

Awgrymiadau Codi Arian

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae ein hawgrymiadau wedi'u cynllunio i'ch helpu i godi arian a chyrraedd eich targed mor hawdd â phosibl. Mae gwybodaeth ymarferol hefyd ar sut i wneud yn siŵr eich bod yn codi arian yn ddiogel ac yn gyfreithlon.

Cofiwch atgoffa eich rhoddwyr i ychwanegu Cymorth Rhodd.

Mae Cymorth Rhodd yn gynllun gan y llywodraeth sy’n galluogi elusennau i hawlio 25c am bob £1 o arian y bydd trethdalwyr yn ei roi i chi. Mae hynny'n golygu bod pob £1 a roddir i'ch ymgais codi arian yn werth £1.25! Cofiwch annog eich rhoddwyr i ddefnyddio Rhodd Cymorth os ydynt yn gymwys. Os ydych chi'n gofyn am roddion yn gyfnewid am nwyddau neu wasanaethau, megis raffl neu werthiant cacennau, ni fydd hyn yn gymwys ar gyfer Cymorth Rhodd.

Wrth godi arian, defnyddiwch Arian Cyfatebol (Matched Funding) i facsimeiddio’r swm a gesglwch.

Mae llawer o sefydliadau'n cynnig cynllun Arian Cyfatebol. Mae hyn yn golygu y byddant yn cynnig rhodd ac yn helpu i gynyddu eich cyfanswm. Mae'n ffordd gyflym a hawdd o gyrraedd eich targed, ac mae'n gadael i gyflogwyr ddangos eu bod yn cefnogi eu staff ac achos gwych, ac mae hyn yn cyfrannu at eu nodau cyfrifoldeb corfforaethol. Mae'n gais syml ac mae gennym lythyr templed arian cyfatebol. Cysylltwch os hoffech gopi.

Rhannwch eich stori

Cofiwch ddweud wrth bobl pam eich bod yn codi arian a beth mae'r achos yn ei olygu i chi. Os oes gennych brofiad uniongyrchol neu os ydych yn codi arian er cof neu'n cefnogi rhywun annwyl, rhowch wybod i bobl. Bydd hyn yn gyfle i’ch cefnogwyr ddeall pam fod yr achos yn agos at eich calon ac yn fwy tebygol o roi.

Rhowch wybod i bawb.

Mae cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych o ddweud wrth bobl eich bod yn codi arian, ond cofiwch hefyd am gylchlythyr eich cwmni neu ysgol, a hefyd ebyst. Os yw eich ymdrech codi arian yn ddigon mawr, gallech hyd yn oed siarad â'ch papur newydd neu orsaf radio leol. Os ydych chi'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, beth am gyflwyno erthygl i Gair Rhydd neu weld a oes cyfle i siarad ar Xpress Radio.

Cefnogaeth gan fusnes lleol

Mae busnesau lleol yn aml yn hapus i gefnogi codwyr arian drwy gynnig nawdd, gwobrau raffl, eu lleoliad, neu wasanaethau eraill yn rhad ac am ddim. Meddyliwch am gwmnïau a allai helpu a'r hyn y gallwch ei gynnig iddynt yn gyfnewid am hynny. Os hoffech lythyr awdurdod i'w roi i fusnesau, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Cyflwyno’r arian rydych wedi’i gasglu

Os ydych chi'n defnyddio JustGiving, bydd eich arian yn trosglwyddo'n awtomatig. Gallwch hefyd ddewis cyflwyno’ch arian ar-lein, ond cofiwch ddweud wrthym eich bod wedi codi arian, a'r hyn rydych wedi'i wneud yn y blwch 'sylwadau'. Gallwch hefyd gyflwyno’ch arian dros y ffôn neu ei bostio.

Materion ymarferol

Rydyn ni'n gwybod eich bod chi'n edrych ymlaen yn eiddgar i ddechrau, ond gwnewch yn siŵr bod beth bynnag a wnewch yn cyd-fynd â chanllawiau iechyd a diogelwch ac unrhyw gyfyngiadau COVID-19 lleol. Os penderfynwch wneud unrhyw beth â bwyd, ystyriwch hylendid bwyd ac alergeddau. Ar gyfer rafflau, loterïau a gweithgareddau sy'n gysylltiedig â gamblo, gwiriwch reolau'r Comisiwn Gamblo.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach neu os ydych eisiau trafod eich cynlluniau codi arian #TeamCardiff , cysylltwch â ni a gallwn gynnig yr holl gyngor a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch.

Picture of Stephanie Cuyes

Stephanie Cuyes

Swyddog Codi Arian Cymunedol

Telephone
+44 29208 76551
Email
CuyesS@caerdydd.ac.uk