Cwynion am ein dulliau codi arian
Rydyn ni’n elusen sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gwaith codi arian yn gyfreithiol, yn agored, yn onest ac yn barchus.
Rydyn ni’n cydymffurfio â’r Côd Ymarfer Codi Arian ac rydyn ni wedi cyhoeddi datganiad o Hawliau Arianwyr, gan gynnwys Hawliau Rhoddwyr ychwanegol ar gyfer rhoddwyr dyngarol, ac ymrwymiad i’r Addewid Codi Arian.
Os yw ein rhoddwyr neu unrhyw un arall y byddwn ni’n gofyn am roddion yn anhapus â'n gweithdrefnau codi arian, mae ganddyn nhw'r hawl i gwyno.
Gwneud cwyn
Yn y lle cyntaf, dylid cyflwyno cwynion i’r Cyfarwyddwr Datblygu:
Director of Development
Dylai pawb sy’n cwyno dderbyn nodyn yn cydnabod eu cwyn o fewn pum diwrnod gwaith, ac ar ôl hynny byddan nhw’n cael gwybod o leiaf bob pythefnos am ddatblygiad yr ymchwiliad a chynlluniau i ymdrin â'u cwyn.
Cwynion drwy'r post: Cyfarwyddwr Datblygu, Prifysgol Caerdydd, Prif Adeilad, Plas y Parc, Caerdydd, CF10 3AT.
Os nad yw’r achwynydd yn fodlon bod y gwyn wedi ei datrys gan y Cyfarwyddwr Datblygu, caiff y gwyn ei chyfeirio at y Prif Swyddog Gweithredu:
Chief Operating Officer
Bydd y Prif Swyddog Gweithredu yn trefnu bod y gwyn yn cael ei hymchwilio a’i hystyried gan banel. Bydd penderfyniad y panel yn derfynol.
Cwynion drwy'r post: Prif Swyddog Gweithredu, Prifysgol Caerdydd, Prif Adeilad, Plas y Parc, Caerdydd, CF10 3AT.
Sut rydyn ni’n delio â chwynion
- Byddwn ni’n ymdrechu i ddatrys unrhyw broblemau, camgymeriadau a phryderon fel sy’n rhesymol ymarferol, gan hysbysu’r achwynydd am ddatblygiad y cwyn a rhoi ymateb prydlon iddyn nhw, gan gynnwys rhesymau clir sy’n seiliedig ar dystiolaeth dros ein penderfyniadau.
- Byddwn ni bob amser yn trin yr achwynydd gyda chwrteisi a pharch ac yn ceisio ymateb i'r gŵyn mor agored, mor gyflym ac mor deg a phosibl.
- Byddwn ni’n ymrwymo i ddysgu o bob cwyn a, lle bo'n briodol, diwygio ei harferion i sicrhau nad yw'n digwydd eto.
- Byddwn ni’n sicrhau bod pawb o fewn yr Adran Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr a thîm y Prif Swyddog Gweithredu yn gwybod beth i'w wneud os daw cwyn i law mewn perthynas ag arferion codi arian.
- Caiff yr holl wybodaeth mewn perthynas â chwyn ei thrin yn sensitif ac yn unol â rheoliadau diogelu data.
- Bydd hawl pob achwynydd i breifatrwydd yn cael ei barchu. At ddibenion adrodd, ni fydd enwau achwynwyr yn cael eu cynnwys oni bai bod yr achwynydd yn gofyn fel arall.
- Os yw achwynydd yn ddienw, yna ni allwn ni ymateb i'r gwyn, er y bydd yn cael ei chofnodi a’i hadrodd.
- Os bydd achwynydd yn fygythiol, yn rhagfarnllyd neu’n sarhaus, neu y bernir ei fod yn aflonyddu aelod o staff, efallai na fyddwn ni’n ymateb i'r gŵyn, er y bydd unrhyw ddigwyddiad o'r fath yn cael ei gofnodi a’i adrodd.
- Os yw achwynydd o’r farn bod ein hymateb i’w cwyn yn anfoddhaol gan y Cyfarwyddwr Datblygu ac yna gan y Prif Swyddog Gweithredu, byddwn ni’n rhoi gwybod iddyn nhw sut i gysylltu â’r Rheoleiddiwr Codi Arian.
- Rydyn ni’n cofnodi ac yn monitro cwynion sy’n dod i law mewn perthynas â chodi arian. Bydd unrhyw gwynion nad ydyn nhw wedi’u datrys ar ôl adolygiad gan y Cyfarwyddwr Datblygu a’r Prif Swyddog Gweithredu, fel y cânt eu cyfeirio at y Rheoleiddiwr Codi Arian, hefyd yn cael eu hysbysu i Fwrdd Gweithredol y Brifysgol.
- Bydd y Prif Swyddog Gweithredu yn cael gwybod am nifer y cwynion, y rheswm cyffredinol dros bob cwyn a nodyn o ddatrysiad neu ganlyniad arall ar gyfer pob cwyn yn flynyddol o leiaf. Os bydd nifer y cwynion mewn unrhyw un flwyddyn yn fwy na deg, bydd Bwrdd Gweithredol y Brifysgol yn cael gwybod.
- Bydd data am gwynion yn cael ei rannu â’r Rheoleiddiwr Codi Arian os gofynnir am hynny.