Israddedig
Astudiwch mewn ysgol seicoleg a gydnabyddir yn genedlaethol ac yn rhyngwladol sydd ag enw da am ragoriaeth.
Rydym yn cynnig dwy rhaglen BSc – ac mae’r ddwy yn cael eu cydnabod gan Gymdeithas Seicolegol Prydain. Mae’r radd Seicoleg tair blynedd, a’r radd Seicoleg gyda Lleoliad Proffesiynol pedair blynedd yn cynnig amgylchedd strwythuredig, cefnogol a chynhwysol, ac mae’r pynciau a dyluniad y cwrs yn cael eu llywio a’u cyflawni gan ymchwilwyr sy’n weithgar yn y maes.
Rydym yn cynnig y rhaglenni BSc canlynol:
Cwrs | Côd UCAS |
C800 | |
C810 |
Enw’r radd | Côd UCAS |
---|---|
Seicoleg (BSc) | C800 |
Seicoleg gyda Lleoliad Gwaith Proffesiynol (BSc) | C810 |
Achrediad
Caiff eich cwrs israddedig ei achredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS). Mae’r achrediad yn ddilys tan 2022, ac mae’n pwysleisio ymhellach ein henw da fel adran seicoleg blaenllaw yn y DU.
Cyflogadwyedd
Mae 92% o'n graddedigion mewn swydd a/neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl graddio. Mae cryfder ein cwrs a’r addysgu yn galluogi myfyrwyr i ddod o hyd i swyddi proffesiynol neu ymgymryd ag astudiaethau pellach ar ôl graddio.
Mae ein diwrnodau agored yn ffordd wych o gael blas ar astudio Seicoleg a byw yng Nghaerdydd.