Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Cofnodion Cyngor 26 Tachwedd 2024

Cofnodion Cyfarfod Cyngor Prifysgol Caerdydd a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2024 am 11.00 yn ystafelloedd 0.01 a 0.02 y Ganolfan Ymchwil Drosi (TRH).

Yn bresennol:  Patrick Younge (Cadeirydd), Is-Ganghellor, Beth Button, Judith Fabian, Madison Hutchinson [tan Gofnod 2274], Christopher Jones, Jeremy Lewis, Stephen Mann, Micaela Panes, Dr Juan Pereiro Viterbo, Suzanne Rankin [o Gofnod 2271], David Selway, John Shakeshaft, Yr Athro Katherine Shelton, Yr Athro Damian Walford Davies, Dr Robert Weaver, Dr Catrin Wood, Jennifer Wood, ac Agnes Xavier-Phillips.

Hefyd yn Bresennol: Katy Dale [Cofnodwr], Ruth Davies, Rhodri Evans [Cofnod 2275-2277], Tom Hay, Victoria Holbrook, Yr Athro Nicola Innes [Cofnodion 2275-2277], Dr David Langley [Cofnod 2271-2273], Siân Marshall, Tukiya Mutupa, Dr Paula Sanderson, a Darren Xiberras.

2265 Croeso a materion rhagarweiniol

Croesawyd pawb i’r cyfarfod, yn arbennig Tukiya Mutupa a Victoria Holbrook.

2266 Ymddiheuriadau am absenoldeb

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan yr Athro Fonesig Janet Finch, yr Athro Urfan Khaliq a Dr Siân Rees.

2267 Datganiadau o fuddiant

Atgoffodd y Cadeirydd aelodau’r pwyllgor o’u dyletswydd i ddatgelu unrhyw fuddiannau a allai wrthdaro. Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

2268 Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2024 (23/843C) yn gofnod gwir a chywir ac fe'u cymeradwywyd gan y Pwyllgor ar 26 Tachwedd 2024.

2269 Materion yn codi

Derbyniwyd a nodwyd papur 24/255C, 'Materion yn Codi'.

2270 Eitemau gan y Cadeirydd

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 24/251C, 'Adroddiad am Gamau Gweithredu'r Cadeirydd Ers y Cyfarfod Diwethaf'.

Nodwyd

2270.1 bod gwaith yn mynd rhagddo i ddod o hyd i Ganghellor newydd;

2270.2 bod aelodau annibynnol yn cael eu hannog i wirfoddoli ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor Dileu Swyddi;

2270.3 y byddai ymarfer recriwtio ar gyfer aelodau annibynnol newydd yn cychwyn yn fuan; dylid rhannu unrhyw ymgeiswyr posibl gyda'r Cadeirydd neu'r tîm llywodraethu;

2270.4 y cysylltir ag aelodau annibynnol yn fuan ar gyfer enwebiadau ar gyfer Ymddiriedolwr Enwebedig y Brifysgol ar Fwrdd Undeb y Myfyrwyr.

2271 Adroddiad yr Is-Ganghellor i'r Cyngor

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 24/261C, 'Adroddiad yr Is-Ganghellor i'r Cyngor'. Siaradodd yr Is-Ganghellor am yr eitem hon.

Nodwyd

2271.1 bod y Prif Swyddog Trawsnewid wedi ymuno â'r cyfarfod;

2271.2 bod yr adroddiad mewn fformat newydd i gyd-fynd â'r strategaeth newydd;

2271.3 bod llawer iawn o waith ar y gweill i drwsio'r hanfodion, gan ganolbwyntio ar Ailddiffinio Ysgolion a Cholegau, Aliniad Swyddogaethol a Dyfodol Academaidd; roedd cynnydd yn cael ei rannu'n ehangach drwy Fforymau Trafod, gweminarau ac erthyglau Blas; roedd cynllun i lansio Canolfan Gwelliant Parhaus o dan arweiniad y Prif Swyddog Gweithredu ac Ysgrifennydd y Brifysgol ac roedd y rhaglen Gwasanaeth Ymchwil y Dyfodol yn dod yn ei blaen yn dda, gan adlewyrchu’r ffaith fod newid effeithiol yn gyraeddadwy;

2271.4 bod y sefyllfa recriwtio yn parhau i fod yn heriol, gyda niferoedd myfyrwyr rhyngwladol i lawr ar draws y sector (yn enwedig mewn perthynas â Tsieina); roedd targedau wedi'u diwygio ond heb eu cyrraedd, gan effeithio ymhellach ar ragolygon ariannol; nid oedd data cynnar ar gyfer mynediad 2025/26 yn galonogol; oherwydd hyn, roedd ymdrechion yn ymwneud ag addysg drawswladol (TNE) wedi'u cyflymu [Golygwyd yn Rhannol];

2271.5 bod angen ystyried recriwtio myfyrwyr yn y dyfodol wrth benderfynu ar roi'r gorau i raglenni; [Hepgorwyd]; roedd camau tebyg yn cael eu cymryd ar draws y sector ac felly roedd yn annhebygol y byddai'r gweithgaredd hwn yn dwyn perswâd ar fyfyrwyr; roedd hefyd angen gosod yr hanfodion er mwyn gwella profiad myfyrwyr a symleiddio llwybrau myfyrwyr; tynnwyd sylw at y ffaith fod angen rhoi gwybod am gyrsiau sy’n cael eu creu i fyfyrwyr yr effeithir arnynt cyn gynted â phosibl;

2271.6 bod cyfleoedd i gychwyn ym mis Ionawr wedi'u cyflwyno ar gyfer pum rhaglen Ôl-raddedig a Addysgir yn y pynciau recriwtio mwyaf poblogaidd a bod Undeb y Myfyrwyr yn rhan o'r trafodaethau hyn; [Hepgorwyd];

2271.7 bod cytundeb nad yw'n gyfreithiol rwymol wedi'i lofnodi gyda Kazakhstan ac y byddai gwaith pellach yn cael ei wneud nawr i nodi manylion y cytundeb; roedd y Brifysgol yn gweithio gyda grŵp o bartneriaid a hefyd yn bwrw ymlaen ag opsiynau rhyngwladol eraill [Golygwyd yn Rhannol] ac yn creu tîm TNE mewnol; byddai diwydrwydd dyladwy, fframweithiau risg a monitro yn allweddol yma;

2271.8 bod llawer o drafodaethau sector-gyfan yn cael eu cynnal ar ffyrdd o weithio yn y dyfodol (e.e. uno, rhannu gwasanaethau ac ati) a bod yna gefnogaeth sector rhwng sefydliadau; roedd ansicrwydd o hyd ynghylch a fyddai sefydliad yn cael cymorth ariannol pe bai’n methdalu a'r effaith y byddai hyn yn ei chael ar y sector; roedd angen i'r Brifysgol weithio gyda'i chymheiriaid yng Nghymru ond roedd ganddi hefyd gymheiriaid yn Lloegr;

2271.9 bod polisi aflonyddu rhywiol newydd wedi'i greu a'i gyhoeddi; byddai unrhyw ofynion ar gyrff llywodraethu yn y maes hwn yn cael eu hadolygu.

Penderfynwyd

2271.10 i’r Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil a Rhyngwladol ddarparu manylion am y model gweithredu a’r buddsoddiad sydd ei angen ar gyfer y gronfa QantX;

2271.11 i’r Is-Ganghellor a Llywydd Undeb y Myfyrwyr drafod yr ap adrodd a chymorth a phryderon diogelwch diweddar yn Cathays.

Ymunodd Suzanne Rankin â'r cyfarfod yn ystod yr eitem hon.

2272 Mesurau Llwyddiant wedi’u Mireinio / Dangosyddion Perfformiad Allweddol

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 24/134CR, 'Mesurau Llwyddiant wedi’u Mireinio / Dangosyddion Perfformiad Allweddol'. Siaradodd yr Is-Ganghellor am yr eitem hon.

Nodwyd

2272.1 bod y Cyngor wedi gweld fersiynau blaenorol o'r DPAau a oedd wedi'u hailasesu ers hynny;

2272.2 bod perchnogion ar gyfer pob DPA wedi'u nodi ond roedd y rhain yn eiddo ar y cyd i'r Brifysgol gyfan;

2272.3 bod gwaith pellach yn cael ei wneud i nodi ffyrdd graffigol o fonitro’r gwaith o gyflawni DPAau;

2272.4 y byddai rhai mesurau’n elwa o ddyddiadau targed a pharamedrau pellach; ar ôl eu cymeradwyo, byddai targedau mesuradwy yn cael eu sefydlu i fonitro yn eu herbyn;

2272.5 y byddai angen ystyried y cymaryddion ar gyfer meincnodi mesurau sy'n ymwneud ag ystadau (e.e. ai Prifysgol ar gampws neu sefydliad Grŵp Russell arall sydd dan sylw); roedd budd ariannol ar gyfer arbedion ystadau ond roedd effaith ddiwylliannol hefyd i staff a myfyrwyr; roedd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rheoli Costau wedi'i ailsefydlu a byddai'n canolbwyntio ar yr ystâd;

2272.6 y byddai data amrywiaeth manylach yn gorwedd o dan y targedau lefel uchel; roedd angen osgoi gorffwys ar ein rhwyfau wrth gyflawni'r targedau hyn;

2272.7 bod arolwg yr ACF wedi cael effaith fawr ond nad oedd yn cynnwys myfyrwyr ôl-raddedig ac felly ni chawsant eu cynnwys yn y DPAau lefel uchel;

2272.8 bod mesur 7 yn cyfeirio at y ddarpariaeth a'r cynnig i astudio yn Gymraeg;

2272.9 y byddai'r Cyngor yn elwa o weld y mesurau sylfaenol a'r rhaglen waith.

Penderfynwyd

2272.10 egluro a oedd y targed EBIDA ym mesur 8 cyn neu ar ôl addasiadau cost pensiwn (oherwydd cyfeiriwyd at y ddau);

2272.11 i'r geiriad ar fesur 7 gael ei egluro gan y Profost a'r Dirprwy Is-Ganghellor;

2272.12 cymeradwyo Mesurau Llwyddiant arfaethedig y Brifysgol, yn amodol ar archwilio cynnwys mesur ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig.

2273 Cofrestr Risgiau Strategol

Cafwyd ac ystyriwyd papur 24/76HC, 'Cofrestr Risgiau Strategol'. Siaradodd Prif Swyddog Gweithredu ac Ysgrifennydd y Brifysgol am yr eitem hon.

Nodwyd

2273.1 [Hepgorwyd];

2273.2 [Hepgorwyd];

2273.3 [Hepgorwyd];

2273.4 [Hepgorwyd];

2273.5 [Hepgorwyd].

Penderfynwyd

2273.6 cymeradwyo'r Gofrestr Risgiau Strategol.

Gadawodd Dr David Langley (Prif Swyddog Trawsnewid) y cyfarfod.

2274 Adroddiad Llywydd Undeb y Myfyrwyr

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 24/113R, 'Adroddiad Llywydd Undeb y Myfyrwyr'. Siaradodd Llywydd Undeb y Myfyrwyr am yr eitem hon.

Nodwyd

2274.1 bod nifer dda wedi mynychu digwyddiadau'r glas a bod yr arlwy wedi'i ymestyn i gynnwys digwyddiadau yn ystod y dydd a digwyddiadau di-alcohol;

2274.2 bod y tîm sabothol eleni yn cynnwys yr Is-lywydd cyntaf ar gyfer Myfyrwyr Rhyngwladol;

2274.3 bod Undeb y Myfyrwyr wedi cyflwyno nifer o ddigwyddiadau ar gyfer Mis Hanes Pobl Ddu;

2274.4 bod yr ymgyrch Siarad am Gysyniad wedi canolbwyntio ar addysg a chynnwys hyfforddiant tystion i bob cymdeithas a phwyllgor myfyrwyr; roedd diogelwch myfyrwyr yn parhau i fod yn bryder oherwydd cynnydd mewn adroddiadau o drais ac aflonyddu rhywiol; nid oedd adroddiadau diweddar yn y cyfryngau ar gyfranogiad yr heddlu yn annog myfyrwyr i roi gwybod am ddigwyddiadau i'r heddlu; awgrymwyd adnoddau pellach ar gyfer ap adrodd a chymorth y Brifysgol;

2274.5 bod digwyddiad sgwrsio wedi'i gynnal gyda'r Is-Ganghellor a bod nifer dda o fyfyrwyr wedi mynychu;

2274.6 bod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr wythnos diwethaf wedi mynd yn dda iawn;

2274.7 bod problemau o hyd gyda chyfleusterau ar gyfer clybiau chwaraeon;

2274.8 bod Undeb y Myfyrwyr yn bryderus ynghylch cynigion Cyngor Caerdydd i gael gwared ar yr holl fannau parcio i breswylwyr yn Cathays, gan y byddai hyn yn effeithio ar fyfyrwyr; roedd y cynigion wedi denu sylw'r cyfryngau ac anogwyd myfyrwyr i gwblhau arolwg y Cyngor ar y cynigion.

Gadawodd Madison Hutchinson (Llywydd Undeb y Myfyrwyr) y cyfarfod.

2275 Diweddariad am Brofiad Myfyrwyr

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 24/259, 'Diweddariad ar Addysg a Gwella Profiad Myfyrwyr'. Gwahoddwyd y Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr Dros Dro i siarad am yr eitem hon.

Nodwyd

2275.1 bod y Pennaeth Llywodraethu Addysg wedi ymuno â'r cyfarfod;

2275.2 mai’r Athro Nicola Innes oedd y Dirprwy Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr Dros Dro;

2275.3 bod sgoriau'r ACF wedi gwella yn gyffredinol, gyda boddhad cyffredinol ar 77.9% (cynnydd o 6.2%); roedd yr holl ddangosyddion thematig wedi gwella, gyda 21 o 24 o ysgolion a 43 o 61 o bynciau hefyd yn gwella; er gwaethaf y gwelliannau hyn, roedd boddhad cyffredinol yn parhau i fod yn is na chyfartaledd Cymru a'r sector; byddai camau gweithredu i fynd i'r afael â hyn yn cymryd amser i gael eu hadlewyrchu yng nghanlyniadau'r ACF;

2275.4 bod 3 chynllun gweithredu ar gyfer cwestiynau penodol a 6 ar gyfer pynciau penodol (Economeg, Cyllid, Astudiaethau Eidalaidd, Nyrsio, Cyfrifiadureg a Pheirianneg Fecanyddol) ar waith;

2275.5 [Hepgorwyd];

2275.6 bod pynciau Nyrsio wedi cael eu monitro’n fanylach am gyfnod estynedig o amser ac efallai y bydd cyfleoedd i weithio gyda'r GIG ar gynllun ar y cyd i wella'r canlyniadau; nodwyd bod y cwestiwn ar leoliadau (a effeithiwyd yn fawr gan Covid) wedi dod cyn y cwestiwn ar foddhad cyffredinol, a allai lywio’r atebion; roedd yr Ysgol Deintyddiaeth wedi'i hailstrwythuro i gynnwys arweinwyr dysgu, gyda’r bwriad o fynd i'r afael â materion yn y maes hwn;

2275.7 bod y rhaglen Addysg a Phrofiad Myfyrwyr bellach wedi dod i ben ac y byddai'r effaith yn cael ei monitro (drwy'r Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr) tan fis Gorffennaf 2027; roedd adroddiad llawn ar effaith y rhaglen yn cael ei ddrafftio.

2276 Barn y Myfyrwyr – ymateb y Brifysgol

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 24/121RR, 'Ymateb y Brifysgol i Farn y Myfyrwyr 2024'. Siaradodd y Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr Dros Dro am yr eitem hon.

Nodwyd

2276.1 bod y Brifysgol yn parhau i weithredu ac ymateb i Farn y Myfyrwyr a gyhoeddwyd yn 2023; roedd adroddiad terfynol ar y camau a gymerwyd yn cael ei ddrafftio;

2276.2 bod cynllun gweithredu wedi'i ddrafftio ar gyfer Barn y Myfyrwyr 2024 (Prifysgol Cymru; Hygyrchedd; Profiad Lleoliadau Clinigol; a Phrofiad Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig) a'i rannu ag Undeb y Myfyrwyr i gael adborth;

2276.3 y byddai'r broses ar gyfer cytuno ar yr ymateb sefydliadol yn cael ei diwygio i gyfyngu ar yr oedi presennol i fodloni dyddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor; byddai'r cynllun gweithredu'n cael ei ddrafftio a’i gyd-greu ag Undeb y Myfyrwyr yn ystod yr haf er mwyn caniatáu i gamau gael eu rhoi ar waith yn gyflymach;

2276.4 bod Undeb y Myfyrwyr wedi nodi bod rhai o'r camau gweithredu arfaethedig yn rhoi manylion gweithgarwch sydd eisoes wedi’i gyflawni, yn hytrach na chynnig gwelliannau.

Penderfynwyd

2276.5 cymeradwyo Ymateb y Brifysgol i Farn y Myfyrwyr 2024.

2277 Adroddiad Ansawdd Blynyddol

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 24/160RR, 'Adroddiad Ansawdd Blynyddol 2023-24'. Siaradodd y Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr Dros Dro am yr eitem hon.

Nodwyd

2277.1 bod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o system ansawdd academaidd y Brifysgol a'i gweithrediad, ynghyd ag adlewyrchu'r gwelliannau a wnaed;

2277.2 bod profiad myfyrwyr yn faes allweddol; roedd gwelliannau yn y sgoriau ACF yn adlewyrchu bod y Brifysgol yn symud i'r cyfeiriad cywir; roedd cyfraddau ymateb isel o hyd ar gyfer yr arolwg Myfyrwyr Ôl-raddedig a Addysgir ac roedd gwaith ar y gweill i wella hyn;

2277.3 o ran safonau academaidd, bod arholwyr allanol yn fodlon ac wedi cadarnhau bod dyfarniadau o safon debyg i sefydliadau eraill; roedd polisi marcio a safoni newydd wedi'i gyflwyno a fyddai'n helpu i sicrhau safonau academaidd; byddai polisi adborth academaidd newydd yn cael ei gyflwyno a'r gobaith oedd y byddai hwn yn gwella’r sgoriau ACF ar gyfer y thema asesu;

2277.4 bod y proffil canlyniadau gradd yn adlewyrchu cynnydd mewn graddau dosbarth cyntaf yn 2019/20 a 2020/21 oherwydd y pandemig a’r rhwyd ​​​​ddiogelwch a gyflwynwyd; roedd hyn hefyd wedi'i adlewyrchu ar draws y sector; roedd y Brifysgol bellach yn is na’r lefelau cyn y pandemig, nad oedd yn cael ei adlewyrchu yn y sector, a byddai hyn yn cael ei fonitro a'i adolygu;

2277.5 bod y bwlch dyfarnu ethnigrwydd yn parhau i fod yn bryder; bu gostyngiad yn nifer y graddau da a ddyfarnwyd i fyfyrwyr Asiaidd ac roedd bwlch o hyd ar gyfer myfyrwyr du, er bod hwn wedi lleihau; gwelwyd bwlch dyfarnu ar draws y sector ond roedd gan y Brifysgol uchelgais i gau'r bwlch ac roedd nifer o fentrau wedi'u cyflwyno i fynd i'r afael â hyn, er na fyddai effaith y rhain yn cael ei hadlewyrchu ar unwaith yn y data; efallai y bydd cyfleoedd i weithio gyda grwpiau cymunedol yn y maes hwn ac adolygu data yn erbyn tariffau incwm i benderfynu a oedd unrhyw gydberthynas;

2277.6 bod cyngor ar onestrwydd academaidd wedi'i wella i fyfyrwyr a bod modiwl wedi'i greu; nodwyd bod risg o wahanol ddulliau gweithredu’n cael eu defnyddio mewn perthynas â deallusrwydd artiffisial ar draws y Brifysgol, gan staff a myfyrwyr a rhwng ysgolion;

2277.7 y byddai proses weithredu safonol yn cael ei chyflwyno o fis Ionawr 2025 i fynd i'r afael â gwallau marcio a nodwyd yn flaenorol;

2277.8 bod data ynghylch apeliadau a chwrdd â therfynau amser perthnasol yn cael ei fonitro;

2277.9 y byddai’r gwaith o recriwtio Cynghorydd Allanol ar gyfer Ansawdd Academaidd yn ailddechrau ar ôl penodi Dirprwy Is-Ganghellor Dros Dro.

Penderfynwyd

2277.10 cymeradwyo’r Adroddiad Ansawdd Blynyddol ar gyfer 2023-24, sy’n darparu’r sail ar gyfer cadarnhau’r datganiadau sicrwydd gofynnol o ran safonau academaidd ac ansawdd profiad myfyrwyr i Medr.

Gadawodd yr Athro Nicola Innes (Dirprwy Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr Dros Dro) a Rhodri Evans (Pennaeth Llywodraethu Addysg) y cyfarfod.

2278 Adolygiad o’r Fframwaith Llywodraethu

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 24/240CR, 'Adolygiad o'r Fframwaith Llywodraethu'. Siaradodd Prif Swyddog Gweithredu ac Ysgrifennydd y Brifysgol am yr eitem hon.

Nodwyd

2278.1 bod y papur yn ffurfio rhan o'r gwaith i foderneiddio llywodraethu, er mwyn sicrhau bod y fframwaith llywodraethu’n galluogi cyflawni'r strategaeth; byddai hyn hefyd yn galluogi moderneiddio'r Statudau a'r Ordinhadau;

2278.2 bod strwythur llywodraethu diwygiedig drafft wedi'i gynnwys ond nad oedd yn derfynol;

2278.3 yr ymgynghorir â'r Senedd a'r Cyngor ar gynigion; ymgynghorir hefyd â'r Undebau Llafur ynghylch unrhyw newidiadau i gyfeiriadau at eitemau cyflogaeth;

2278.4 y byddai cynigion terfynol yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor ym mis Gorffennaf 2025; byddai newidiadau i Statudau’n gofyn am gymeradwyaeth gan y Cyfrin Gyngor ac nid oedd yr amserlen ar gyfer hyn yn hysbys eto; roedd angen cydbwyso'r hyn yr oedd angen ei gyflawni i fodloni'r amgylchedd rheoleiddio tra'n cyflwyno'r newid angenrheidiol;

2278.5 y byddai fformat a hyd papurau'n cael eu hadolygu i sicrhau eu bod yn rhoi'r sicrwydd cywir.

Penderfynwyd

2278.6 cymeradwyo bod gwaith yn dechrau i ddatblygu'r cynigion i’w cymeradwyo’n derfynol yn y Cyngor erbyn Gorffennaf 2025 a'u gweithredu o 1 Awst 2025 (yn amodol ar unrhyw gymeradwyaethau angenrheidiol gan y Cyfrin Gyngor).

2279 Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Risg i'r Cyngor

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 24/226CR, 'Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Risg 2023-24'. Siaradodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg am yr eitem hon.

Nodwyd

2279.1 bod y Pwyllgor wedi ystyried y trefniadau rheolaeth fewnol; roedd gwaith i fapio'r rheolaethau allweddol yn mynd rhagddo ac yn ddarn allweddol o waith ar gyfer y misoedd nesaf;

2279.2 bod adolygiad allanol o’r swyddogaeth a’r gwasanaeth Archwilio Mewnol wedi'i gynnal, gydag argymhellion yn cael eu gweithredu; roedd y Pwyllgor yn fodlon y gellid dibynnu ar adroddiadau'r swyddogaeth Archwilio Mewnol;

2279.3 bod yr Adroddiad Archwilio Mewnol drafft wedi cynnwys y farn bod trefniadau’n gyffredinol ddigonol a bod gwelliannau'n cael sylw;

2279.4 bod yr adroddiad gan yr Archwilwyr Allanol wedi cynnwys 14 o argymhellion; er bod hyn yn gynnydd ers y flwyddyn flaenorol, roedd yr adroddiad wedi dod i'r casgliad bod cynnydd wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn i wella'r amgylchedd rheoli a bod sefydlogrwydd yn y tîm Cyllid; roedd yr adroddiad hefyd yn cadarnhau bod y Datganiadau Ariannol yn gynrychiolaeth gywir ac wedi'u paratoi'n briodol;

2279.5 bod y Pwyllgor Archwilio a Risg wedi cael sicrwydd rhesymol ynghylch effeithiolrwydd a’r rheolaethau sydd ar waith o ran gwerth am arian, yr amgylchedd risg ac ansawdd y data a gyflwynir at ddibenion rheoleiddio;

2279.6 bod y Cadeirydd wedi nodi bod newid diwylliannol wedi'i weld yn ystod y flwyddyn, gyda chynnydd mewn ymddiriedaeth rhwng y weithrediaeth a'r Pwyllgor, newid cyflymach, a gostyngiad mewn risg;

2279.7 yr estynnwyd diolch i'r Cadeirydd am ei arweiniad a'i ddealltwriaeth yn y maes hwn.

2280 Benthyciad Digarbon

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 24/263HC, 'Achos Busnes dros Fenthyciad Digarbon'. Soniodd y Prif Swyddog Ariannol am yr eitem hon.

Nodwyd

2280.1 [Hepgorwyd];

2280.2 [Hepgorwyd];

2280.3 [Hepgorwyd];

2280.4 [Hepgorwyd];

2280.5 [Hepgorwyd].

Penderfynwyd

2280.6 cymeradwyo’r penderfyniad i dderbyn y cynnig Benthyciad Digarbon gan Lywodraeth Cymru (cyfanswm o £12.2m) ac arwyddo a dychwelyd y ffurflen cytundeb benthyciad o fewn 10 diwrnod gwaith o dderbyn y ddogfennaeth.

2281 Rhagolwg Ch1

Cafwyd ac ystyriwyd papur 24/212C, 'Rhagolwg Ch1'. Soniodd y Prif Swyddog Ariannol am yr eitem hon.

Nodwyd

2281.1 [Hepgorwyd];

2281.2 [Hepgorwyd];

2281.3 [Hepgorwyd];

2281.4 [Hepgorwyd];

2281.5 [Hepgorwyd];

2281.6 [Hepgorwyd];

2281.7 [Hepgorwyd];

2281.8 [Hepgorwyd];

2281.9 [Hepgorwyd];

2281.10 [Hepgorwyd];

2281.11 bod y Brifysgol yn rhoi sicrwydd lle y gallai ac yn darparu negeseuon am y sefyllfa ariannol.

2282 Llythyr Cynrychiolaeth

Cyflwynwyd ac ystyriwyd papur 24/264C, 'Llythyr Cynrychiolaeth'. Siaradodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg am yr eitem hon.

Nodwyd

2282.1 mai fersiwn ddrafft oedd y papur; roedd y fersiwn derfynol yn cynnwys rhestr o wahaniaethau archwilio nas cywirwyd; roedd y gwahaniaeth allweddol yn ymwneud â gwaredu'r fenter CSC (tua £377k);

2282.2 y cytunwyd na fyddai'r gwallau (cyfanswm o £400k ar draws y cyfrif cyfan) yn cael eu haddasu;

2282.3 bod y llythyr yn cynnwys y datganiadau allweddol angenrheidiol i alluogi gwaith archwilio a'i fod yn gyson â fersiynau blaenorol.

Penderfynwyd

2282.4 cymeradwyo’r Llythyr Cynrychiolaeth.

2283 Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 24/125CR, 'Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol 31 Gorffennaf 2024'. Soniodd y Prif Swyddog Ariannol am yr eitem hon.

Nodwyd

2283.1 bod diffyg o £35m wedi'i ragweld, tra bod £31m yn y cyfrifon terfynol; roedd rhagolwg Ch3 yn cynnwys diffyg o £49m;

2283.2 mai cyfanswm y gwarged cynhwysfawr oedd £177m; roedd hyn yn cynnwys nifer o addasiadau cyfrifyddu (e.e. gostyngiad mewn darpariaeth USS ynghyd â darpariaeth bensiwn arall ac elw o £37m ar fuddsoddiadau);

2283.3 roedd y datganiad Busnes Hyfyw wedi'i adolygu gan y Cydbwyllgor Archwilio a Risg a Chyllid ac Adnoddau;

2283.4 y byddai adroddiad terfynol yr Archwiliwr Allanol a graff o sut y dyrannwyd cronfeydd wrth gefn hefyd yn cael eu cynnwys yn y fersiwn derfynol;

2283.5 yr awgrymwyd y dylid cyfeirio at risg y sector cyn risg y Brifysgol ar dudalen 22 o'r Adroddiad Blynyddol;

2283.6 yr estynnwyd diolch i bawb a oedd wedi helpu i lunio'r adroddiad.

Penderfynwyd

2283.7 cymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol.

2284 Unrhyw Fater Arall

Nodwyd

2284.1 yr estynnwyd diolch gan y Cadeirydd i holl aelodau'r Cyngor am eu cyfraniadau a'u gwaith caled yn ystod y misoedd diwethaf.

Penderfynwyd

2284.2 adolygu a oedd angen y papur Selio Trafodion yn y Cyngor fel rhan o'r adolygiad o Ordinhadau.

2285 Cyfansoddiad y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 24/131, 'Cyfansoddiad ac Aelodaeth y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau'.

Penderfynwyd

2285.1 cymeradwyo’r Cyfansoddiad diwygiedig ar gyfer y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau.

2286 Cyfansoddiad y Pwyllgor Llywodraethu

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 24/04, 'Cyfansoddiad ac Aelodaeth y Pwyllgor Llywodraethu'.

Penderfynwyd

2286.1 cymeradwyo'r Cyfansoddiad diwygiedig ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethu.

2287 Cyfansoddiad y Pwyllgor Archwilio a Risg

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 24/74, 'Cyfansoddiad ac Aelodaeth y Pwyllgor Archwilio a Risg'.

Penderfynwyd

2287.1 cymeradwyo'r Cyfansoddiad diwygiedig ar gyfer y Pwyllgor Archwilio a Risg.

2288 Cyfansoddiad Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Cymrodoriaethau a Graddau er Anrhydedd

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 24/91, 'PCGA'.

Penderfynwyd

2288.1 cymeradwyo’r diwygiadau i Gyfansoddiad y Pwyllgor Cymrodoriaethau a Graddau er Anrhydedd.

2289 Newidiadau i Ordinhad 3 - Rheolau Sefydlog

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 24/09, 'Newidiadau i Ordinhad 3- Rheolau Sefydlog'.

Penderfynwyd

2289.1 cymeradwyo'r newid arfaethedig i Ordinhad 3 – Rheolau Sefydlog.

2290 Memorandwm ac Erthyglau Cyweithio Undeb y Myfyrwyr

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 24/260, ‘Memorandwm ac Erthyglau Cyweithio Undeb y Myfyrwyr’.

Penderfynwyd

2290.1 cymeradwyo'r diwygiadau arfaethedig i Femorandwm ac Erthyglau Cyweithio Undeb y Myfyrwyr.

2291 Diweddariadau i'r Cynllun Dirprwyo

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 24/253, 'Diweddariadau i'r Cynllun Dirprwyo'.

Penderfynwyd

2291.1 cymeradwyo'r diweddariadau arfaethedig i'r Cynllun Dirprwyo.

2292 Achos Busnes Trawsnewid Cyllid

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 24/250HC, 'Achos Busnes Trawsnewid Cyllid.

Penderfynwyd

2292.1 cymeradwyo'r Achos Busnes Trawsnewid Cyllid a chyfanswm buddsoddiad o [Ffigur wedi'i Hepgor] o gyllid refeniw prosiect dros 18 mis.

2293 Polisi Amrywiaeth Aelodaeth y Cyngor

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 24/42C, 'Polisi Amrywiaeth Aelodaeth y Cyngor'.

Penderfynwyd

2293.1 cymeradwyo Polisi Amrywiaeth Aelodaeth y Cyngor.

2294 Polisi Cronfeydd Wrth Gefn

Cyflwynwyd ac ystyriwyd papur 24/216C, 'Polisi Cronfeydd Wrth Gefn'.

Penderfynwyd

2294.1 cymeradwyo'r Polisi Cronfeydd Wrth Gefn i'w ymgorffori yn yr adroddiad a'r cyfrifon blynyddol.

2295 Adroddiad Monitro Cynllun Ffioedd a Mynediad 2023/24

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 24/203CR, 'Adroddiad Monitro Cynllun Ffioedd a Mynediad 2023/24’.

Penderfynwyd

2295.1 cymeradwyo'r datganiadau sy'n ymwneud â'r Cynllun Ffioedd a Mynediad (FAP) yn y Datganiad Sicrwydd Blynyddol;

2295.2 cymeradwyo'r ddogfen i'w chyflwyno i Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.

2296 Adroddiad Gwerth am Arian

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 24/89C – ‘Gwerth am Arian 2024’.

Penderfynwyd

2296.1 argymell bod lefel briodol o sicrwydd ynghylch trefniadau sefydliadol ar gyfer cyflawni gwerth am arian wedi'i darparu.

2297 Adroddiad Blynyddol a Barn Archwilio Mewnol 2024-25

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 24/221HC, 'Adroddiad Blynyddol a Barn Archwilio Mewnol 2024-25'.

Penderfynwyd

2297.1 cymeradwyo’r farn archwilio mewnol flynyddol a'r sylwebaeth ddilynol ar drefniadau'r Brifysgol ar gyfer rheoli risg, llywodraethu, rheolaeth fewnol a gwerth am arian.

2298 Adroddiad Blynyddol ar gyfer y Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfaol Ymchwilwyr

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 24/202, ‘Adroddiad Blynyddol ar gyfer y Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfaol Ymchwilwyr’.

Penderfynwyd

2298.1 cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer y Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfaol Ymchwilwyr.

2299 Eitemau a gafwyd er gwybodaeth

  • 24/252 Cyfansoddiad y Cyngor 2024-25
  • 24/265C Adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg
  • 24/224HC Adroddiad Archwilio Mewnol - Gwersi a Ddysgwyd mewn Gwersylloedd
  • 24/86HC Adroddiad a Chynllun Gwella Rheoli Risg Blynyddol
  • 24/257C Adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau i'r Cyngor
  • 24/268C Adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu
  • 24/175R Datganiad Blynyddol ar Onestrwydd Ymchwil 2023/24
  • 24/258 Adroddiad y Senedd i'r Cyngor
  • 24/256C Adroddiad gan y Pwyllgor Dileu Swyddi i'r Cyngor
  • 24/254 Selio Trafodion
  • 24/262HC Diweddariad ar Ddigwyddiadau Mawr a Difrifol (darperir ar wahân ar Ddesg y Cyfarwyddwr)