Rheoliadau Derbyn Myfyrwyr – amrywiadau a gweithdrefnau
- Diweddarwyd ddiwethaf:
1. Cyflwyniad
1.1 Mae'r Rheoliadau Derbyn Myfyrwyr a’r polisïau a gweithdrefnau cysylltiedig wedi'u cymeradwyo gan y Senedd, ac maent yn rhan o Reoliadau Academaidd y Brifysgol.
1.2 Mae’r polisi hwn yn amlinellu amrywiadau cymeradwy i’r Rheoliadau Derbyn Myfyrwyr a’r gweithdrefnau derbyn myfyrwyr sy’n cefnogi’r broses derbyn myfyrwyr.
2. Diogelu data a rheoli cofnodion
2.1 Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau o ddifrif wrth brosesu'r data personol rydym yn eu casglu gan ymgeiswyr ac unrhyw bobl eraill rydym yn ymwneud â nhw.
2.2 Rydym yn casglu amrywiaeth o ddata gan ymgeiswyr yn ystod y broses ymgeisio, gan gynnwys:
- manylion cyswllt a gwybodaeth bersonol sydd ei hangen i weinyddu'r broses ymgeisio (gan gynnwys gwybodaeth i gadarnhau statws mewnfudo a statws ffioedd yr ymgeisydd)
- gwybodaeth sydd ei hangen i lywio penderfyniadau ynghylch addasrwydd yr ymgeisydd ar gyfer ei ddewis raglen astudio
- gwybodaeth i fonitro cydraddoldeb ac amrywiaeth a gwybodaeth gyd-destunol er mwyn ein galluogi i fonitro effaith ein polisïau a’n gweithdrefnau derbyn myfyrwyr ar grwpiau penodol
2.3 Nid ydym yn defnyddio data personol sensitif i lywio sut rydym yn gwneud penderfyniadau. Ni fydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio heblaw at ddibenion monitro ac, yn yr achosion hynny pan fydd ymgeisydd wedi datgan anabledd, i alluogi’r Tîm Cefnogi a Lles Myfyrwyr i gysylltu â’r ymgeisydd i asesu unrhyw anghenion cymorth a allai fod ganddo pan fydd yn fyfyriwr.
2.4 Rydym yn storio dogfennau a data’n unol ag Amserlen Cadw Cofnodion y Brifysgol, ac mae gan ymgeiswyr yr hawl i ofyn am gopi o’r data personol sydd gennym. Rydym yn rhwym gan ofynion Deddf Diogelu Data 2018 o ran diogelu gwybodaeth bersonol.
2.5 Ni allwn drafod cais oni bai bod yr ymgeisydd wedi cadarnhau’n ysgrifenedig fanylion trydydd parti sydd wedi’i awdurdodi i ymateb ar ei ran.
3. Y Gymraeg
Gall ymgeiswyr ddewis cael gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg. Mae modd newid y ddewis iaith unrhyw bryd yn ystod y broses, ar gais yr ymgeisydd. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.
4. Gofynion mynediad wedi'u hysbysebu
4.1 Mae gofynion mynediad rhaglen-benodol ar gyfer pob blwyddyn mynediad yn cael eu hysbysebu ar dudalen pob rhaglen unigol (a gwefan UCAS ar gyfer rhaglenni israddedig). Mae gofynion mynediad yn cael eu hadolygu bob blwyddyn.
4.2 Newidiadau i ofynion mynediad – derbyn myfyrwyr yn yr hydref
Ar gyfer rhaglenni sydd â dyddiad dechrau yn yr hydref, rydym yn gwarantu na fyddwn yn newid y gofynion mynediad sydd wedi’u cyhoeddi ar ôl 1 Hydref yn y flwyddyn flaenorol (er enghraifft, ni fydd gofynion mynediad ar gyfer dechrau astudio ym mis Medi 2027 yn cael eu haddasu ar ôl 1 Hydref 2026). Fodd bynnag, efallai y bydd gwybodaeth yn cael ei diweddaru i roi eglurhad pellach.
4.3 Newidiadau i ofynion mynediad – derbyn myfyrwyr yn y gwanwyn a’r haf
Ar gyfer rhaglenni sydd â dyddiad dechrau yn y gwanwyn neu’r haf, rydym yn gwarantu na fyddwn yn newid y gofynion mynediad sydd wedi’u cyhoeddi ar ôl 1 Rhagfyr yn y flwyddyn flaenorol (er enghraifft, ni fydd gofynion mynediad ar gyfer dechrau astudio ym mis Ionawr 2027 yn cael eu haddasu ar ôl 1 Rhagfyr 2026). Fodd bynnag, efallai y bydd gwybodaeth yn cael ei diweddaru i roi eglurhad pellach.
4.4 Ailsefyll arholiadau ar gyfer cymwysterau academaidd
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n benderfynol o lwyddo, a byddwn yn ystyried ymgeiswyr sy'n ailsefyll arholiad ar un achlysur yn achos y rhan fwyaf o’n rhaglenni. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gallwn ystyried myfyrwyr sydd wedi ailsefyll arholiad ar fwy nag un achlysur yn flaenorol.
4.4.1 Amrywiadau rhaglen-benodol sy’n berthnasol i ailsefyll
- Yr Ysgol Deintyddiaeth
- Ar gyfer y rhaglen BDS (A200), ni fydd ymgeiswyr sy’n ailsefyll arholiad ar gyfer cymhwyster Lefel 3 (e.e. Safon Uwch) yn cael eu hystyried.
- Bydd ymgeiswyr sy’n ailsefyll arholiad ar gyfer cymhwyster Lefel 2 (e.e. TGAU) yn cael eu hystyried ar gyfer y rhaglenni A200, B750 a B752. Mae’n rhaid iddynt sicrhau’r radd ailsefyll erbyn y dyddiad cau perthnasol ar gyfer gwneud cais. Yn wahanol i bynciau eraill, nid oes terfyn amser ar gyfer ailsefyll yr arholiad Saesneg Iaith. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ymgeiswyr nodi ar y ffurflen gais a ydynt wedi sicrhau’r radd ailsefyll yn barod neu’n aros am y canlyniad.
- Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd
- Ar gyfer y rhaglenni Nyrsio Plant (B732) a Bydwreigiaeth (B720), ni fydd ymgeiswyr sy’n ailsefyll arholiad ar gyfer cymhwyster Lefel 3 (e.e. Safon Uwch) yn cael eu hystyried.
- Bydd ymgeiswyr sy’n ailsefyll arholiad ar gyfer cymhwyster Lefel 2 (e.e. TGAU) yn cael eu hystyried ar yr amod eu bod wedi sicrhau’r radd ailsefyll cyn gwneud cais. Yn wahanol i bynciau eraill, nid oes terfyn amser ar gyfer ailsefyll yr arholiad Saesneg Iaith. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ymgeiswyr nodi ar y ffurflen gais a ydynt wedi sicrhau’r radd ailsefyll yn barod neu’n aros am y canlyniad.
- Yr Ysgol Meddygaeth
- Ar gyfer y rhaglen MBBCh (A100, A101), ni fydd ymgeiswyr sy’n ailsefyll arholiad ar gyfer cymhwyster Lefel 3 (e.e. Safon Uwch) yn cael eu derbyn fel arfer. Ni fydd ymgeiswyr sy’n ailsefyll arholiad ar gyfer cymhwyster Lefel 3 yn cael eu hystyried oni bai eu bod yn cyflwyno tystiolaeth o amgylchiadau esgusodol. Mae’n rhaid i dystiolaeth o’r fath gael ei chyflwyno i Grŵp Derbyn Myfyrwyr yr Ysgol Meddygaeth (drwy e-bostio medadmissions@caerdydd.ac.uk) fel bod modd trafod y dystiolaeth a gwneud penderfyniad cyn i gais gael ei wneud. Bydd y Grŵp Derbyn Myfyrwyr yn ystyried ymgeiswyr sydd wedi ailsefyll arholiadau modiwlau Safon UG neu Safon Uwch ar yr amod y gwnaethant ailsefyll yr arholiadau hynny yn ystod y cyfnod safonol o ddwy flynedd ar gyfer Safon Uwch.
- Ar gyfer y rhaglen MBBCh (A100, A101), ni fydd ymgeiswyr sy’n ailsefyll arholiad ar gyfer cymhwyster Lefel 2 (e.e. TGAU) yn cael eu derbyn oni bai eu bod yn ailsefyll yr arholiad cyn pen 12 mis i’r dyddiad y gwnaethant sefyll yr arholiad yn wreiddiol. Mae’n rhaid i’r radd ailsefyll gael ei sicrhau cyn gwneud cais. Yn wahanol i bynciau eraill, nid oes terfyn amser ar gyfer ailsefyll yr arholiad Saesneg Iaith. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ymgeiswyr nodi ar y ffurflen gais a ydynt wedi sicrhau’r radd ailsefyll yn barod neu’n aros am y canlyniad.
5. Sut rydym yn gwneud penderfyniadau
5.1 Rôl staff y Gwasanaethau Proffesiynol yw rhoi arweiniad a chymorth arbenigol ar gyfer ein proses derbyn myfyrwyr, gwneud a phrosesu penderfyniadau ar sail meini prawf mynediad rhagbenodedig a chyfleu’r penderfyniadau hyn i’r ymgeiswyr.
5.1.1 Pan fydd ymgeisydd yn methu â bodloni’r gofynion mynediad ar gyfer ei ddewis raglen astudio (neu pan fydd yr holl leoedd wedi’u llenwi) ond yn bodloni’r gofynion mynediad ar gyfer rhaglen gysylltiedig, byddwn yn ysgrifennu at yr ymgeisydd i gynnig dewis amgen. Os bydd yr ymgeisydd yn derbyn y cynnig amgen, bydd y dewis hwn yn cael ei brosesu, a byddwn yn anfon cadarnhad at yr ymgeisydd. Os bydd yr ymgeisydd yn gwrthod y cynnig amgen, bydd ei gais i ddilyn y rhaglen wreiddiol yn cael ei brosesu’n un aflwyddiannus. Byddwn hefyd yn gwneud hyn yn yr achosion hynny pan fyddwn yn cael y canlyniadau (cadarnhad) a bod amodau’r cynnig heb gael eu bodloni.
5.2 Mae’r staff academaidd yn y maes pwnc perthnasol yn gyfrifol am wneud dewisiadau dethol amserol ynghylch y ceisiadau hynny nad ydynt yn bodloni’r meini prawf mynediad rhagbenodedig.
5.3 Rôl y Cyfarwyddwr Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr yw bod yn gyfrifol am bennu gofynion mynediad yr ysgolion, a hynny o dan arweiniad y Grŵp Strategaeth Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr sy’n cael ei gadeirio gan y Rhag Is-ganghellor sy’n gyfrifol am dderbyn myfyrwyr.
5.4 Mae’r holl staff sy’n ymwneud â derbyn myfyrwyr yn cael yr hyfforddiant a chymorth sydd ei angen i sicrhau bod gwasanaeth effeithlon, proffesiynol a chymwys yn cael ei ddarparu ar gyfer ymgeiswyr. Mae’r hyfforddiant yn mynd i'r afael â chyfyngiadau cyfreithiol a chyfyngiadau allanol.
5.5 Camgymeriadau penderfynu
Rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod penderfyniadau’n gywir. Yn anaml iawn, bydd camgymeriadau’n cael eu gwneud oherwydd methiant y system neu wall dynol. Pan fydd camgymeriad gwirioneddol wedi’i wneud mewn perthynas â chynnig ymgeisydd, rydym yn cadw’r hawl i’w gywiro:
- pan nad yw’r ymgeisydd wedi derbyn ei le ac felly nad yw wedi’i roi dan anfantais yn rhan o’r broses benderfynu
- pan nad yw’r ymgeisydd yn gymwys neu wedi bodloni’r gofynion rheoleiddiol ar gyfer y rhaglen astudio
Byddwn yn rhoi gwybod i’r ymgeisydd am y camgymeriad ac unrhyw gamau lliniaru sy’n cael eu cymryd.
5.6 Aildderbyn myfyrwyr
Rydym yn cadw’r hawl i beidio ag ystyried ymgeisydd sydd wedi’i dynnu’n ôl yn flaenorol o Brifysgol Caerdydd neu unrhyw sefydliad arall am resymau academaidd neu oherwydd ei fod wedi cyflwyno dogfennau twyllodrus.
6. Cadarnhau canlyniadau
6.1 Mae’n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno tystiolaeth o’i gymwysterau neu dystiolaeth sy’n dangos ei fod yn bodloni amodau eraill y cynnig. Pan fydd ymgeisydd wedi sicrhau cynnig diamod, bydd y Brifysgol yn gofyn am brawf o’r cymwysterau a nodwyd.
6.2 Pan fydd ymgeisydd wedi methu â bodloni amodau’r cynnig, bydd y cais yn cael ei gyfeirio at y detholwr/detholwyr academaidd perthnasol er mwyn penderfynu a oes modd cadarnhau’r cynnig ar sail y cymwysterau sydd gan yr ymgeisydd neu’r amodau anacademaidd sydd wedi’u bodloni. Bydd hyn yn dibynnu ar faint o leoedd sydd ar gael ar y rhaglen. Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei rannu â’r ymgeisydd gan y corff y cyflwynwyd y cais iddo’n wreiddiol, sef naill ai UCAS neu’r Brifysgol.
7. Ymgeiswyr y mae angen fisa myfyrwyr arnynt i ddod i mewn i’r DU
7.1 Pan fydd ymgeisydd wedi derbyn cynnig diamod (derbyn cynnig yn gadarn), cyflwyno’r holl ddogfennau/tystiolaeth angenrheidiol a thalu blaendal (lle bo’n berthnasol), byddwn yn anfon cyfeirnod Cadarnhau Derbyn Myfyriwr i Astudio (CAS) ato os bydd angen fisa myfyrwyr arno. Mae Swyddfa Ryngwladol y Brifysgol yn cynnig cymorth ac arweiniad i ymgeiswyr rhyngwladol sy’n adleoli i Gaerdydd. Os bydd angen fisa ar ymgeisydd i astudio, mae’n arbennig o bwysig ei fod yn caniatáu digon o amser ar gyfer ymgeisio i’r Brifysgol a gwneud cais am fisa. Mae Adran Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) yn mynnu cyfieithiad ardystiedig gwreiddiol o bob dogfen sy’n cael ei chyflwyno nad yw yn Gymraeg neu yn Saesneg. Os na fydd y cyfieithiad yn bodloni gofynion UKVI, gall y cais am fisa gael ei wrthod.
7.2 Rydym yn cadw'r hawl i dynnu ein nawdd i fisa myfyrwyr yn ôl yn sgîl cyflwyno dogfennau twyllodrus neu fethu â chydymffurfio â'n gweithdrefnau gwirio dogfennau.
8. Ymrestru
Bydd ymgeiswyr yn cael e-bost ‘Croeso i Brifysgol Caerdydd’ a chanllaw cryno i ymrestru ar-lein dair wythnos cyn dechrau eu rhaglen. Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gofrestru â’r Brifysgol gan ddefnyddio’r system ymrestru ar-lein cyn dechrau astudio. Pan fydd ymgeisydd yn dechrau'r broses ymrestru, bydd yn cael ei ystyried yn fyfyriwr, a bydd y polisïau a gweithdrefnau i fyfyrwyr yn berthnasol iddynt o’r adeg honno.
Atodiad A: Amrywiadau sy’n berthnasol i raglenni israddedig
A1 Sut i wneud cais
A1.1 Mae’n rhaid i geisiadau i ddilyn un o’n rhaglenni israddedig amser llawn gael eu gwneud drwy UCAS (Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau). Bydd yr holl waith prosesu ceisiadau a’r dyddiadau cau’n unol â chanllawiau UCAS, ac eithrio'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno canlyniadau.
A1.2 Rhaglenni cyfnewid Ewropeaidd
Mae’n rhaid i geisiadau i ddilyn un o’n rhaglenni cyfnewid Ewropeaidd gael eu cyflwyno i'r Brifysgol yn uniongyrchol ar ôl sicrhau cymeradwyaeth y sefydliad cartref.
A1.3 Astudio dramor yng Nghaerdydd a’r rhaglen cyfnewid ryngwladol
Mae’n rhaid i geisiadau i astudio yng Nghaerdydd yn rhan o'r rhaglen Astudio Dramor neu'r rhaglen gyfnewid ryngwladol gael eu cyflwyno i'r Brifysgol yn uniongyrchol ar ôl cadarnhau cymhwysedd.
A2 Datganiadau personol
Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd gyflwyno datganiad personol sy’n amlinellu ei resymau dros eisiau dilyn y rhaglen, gan gynnwys ei brofiadau a’i addasrwydd i ddilyn y rhaglen. Ar gyfer rhaglenni proffesiynol, mae angen hefyd ddangos dealltwriaeth o'r proffesiwn, dealltwriaeth o’r rhaglen ei hun ac unrhyw brofiad gwaith perthnasol.
Ar gyfer rhai rhaglenni, mae’r datganiad personol yn ofynnol er mwyn dethol ymgeiswyr, a bydd hyn yn cael ei nodi ar dudalen y rhaglen unigol.
Os bydd gan ymgeisydd ddiddordeb mewn mwy nag un rhaglen broffesiynol, bydd angen iddo gyflwyno datganiad personol pwrpasol ar gyfer pob un. Dylai anfon y datganiadau personol hyn i’r Brifysgol drwy admissions@caerdydd.ac.uk pan fydd yn anfon ei gais drwy UCAS. Dim ond un datganiad personol y caiff ymgeisydd ei gyflwyno ar gyfer pob rhaglen.
A3 Geirdaon
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd roi geirda’n rhan o’i gais. Bydd yn eirda academaidd fel arfer gan athro neu diwtor sy’n gallu tystio i allu academaidd yr ymgeisydd, gan gynnwys ei gymeriad a’i addasrwydd i ddilyn y rhaglen.
Pan na fydd ymgeisydd yn gallu rhoi geirda academaidd, gellir ystyried geirdaon amgen fesul achos yn ôl disgresiwn y Cyfarwyddwr Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr.
A4 Profion derbyn myfyrwyr
Mae'n ofynnol i’r rhai sy’n gwneud cais i ddilyn y rhaglen BDS (A200) neu MBBCh (A100, A101) sefyll Prawf Tueddfryd Clinigol y Prifysgolion (UCAT) rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref yn y flwyddyn ymgeisio. Ni dderbynnir canlyniadau profion a safwyd mewn blynyddoedd blaenorol.
A5 Amrywiadau rhaglen-benodol sy’n berthnasol i ofynion mynediad
Ar gyfer yr ymgeiswyr hynny nad ydynt yn bodloni’r gofynion mynediad a hysbysebwyd gennym, rydym yn rhoi rhestr o raglenni amgen derbyniol:
- Yr Ysgol Deintyddiaeth
- DipHE Hylendid Deintyddol (B750)
- BSc Therapi a Hylendid Deintyddol (B752)
- BDS Llawfeddygaeth Ddeintyddol (A200)
- Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd
- Nyrsio Oedolion (B742/3)
- Nyrsio Plant (B732)
- Radiograffeg Ddiagnostig (B823)
- Nyrsio Iechyd Meddwl (B762/3)
- Bydwreigiaeth (B720)
- Therapi Galwedigaethol (B921)
- Ffisiotherapi (B162)
- Radiotherapi ac Oncoleg (B824)
- Yr Ysgol Meddygaeth
- MBBCh (A100)
- MBBCh Meddygaeth: Mynediad i Raddedigion/Ffrwd Fwydo (A101)
A6 Dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais
Bydd ceisiadau sy’n dod i law erbyn dyddiad cau ‘Ystyriaeth Gyfartal’ UCAS yn cael eu hystyried yn gyfartal ac yn llawn.
Bydd ceisiadau sy’n dod i law ar ôl y dyddiad cau hwn yn cael eu hystyried os bydd lleoedd ar gael. Os nad oes lleoedd ar gael, ni fydd ceisiadau sy’n dod i law ar ôl y dyddiad cau hwn yn cael eu hystyried. Byddant yn cael eu trin yn geisiadau hwyr a’u gwrthod.
Pan fydd amser yn caniatáu, byddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr i ofyn am wybodaeth berthnasol ychwanegol er mwyn ein helpu i wneud penderfyniad. Oherwydd natur gystadleuol rhai rhaglenni a gwahanol ddyddiadau cau UCAS, bydd angen i ymgeiswyr ateb erbyn dyddiad cau llym. Os bydd gofyn i ymgeisydd roi rhagor o wybodaeth ac nad yw’n rhoi’r wybodaeth honno erbyn dyddiad cau penodol, bydd y cais yn cael ei drin yn un anghyflawn a’i wrthod. Fodd bynnag, yn yr amgylchiadau hyn, gall yr ymgeisydd wneud cais arall i ddilyn y rhaglen, a hynny drwy wasanaeth ‘Extra’ UCAS neu’n rhan o’r broses Clirio os bydd y Brifysgol yn croesawu ceisiadau o hyd.
A6.1 Deintyddiaeth (BDS) a Meddygaeth (MBBCh)
Ar gyfer rhaglenni Meddygaeth (MBBCh, A100 ac A102) a Deintyddiaeth (BDS, A200), ni fyddwn yn gallu derbyn unrhyw geisiadau sy’n dod i law ar ôl y dyddiad cau ym mis Hydref (dyddiad cau cynnar UCAS).
Mae’n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno cais cyflawn (sy’n cynnwys manylion yr holl gymwysterau academaidd ac iaith Saesneg sydd ganddynt ac sydd yn yr arfaeth, geirda a datganiad personol) drwy UCAS erbyn y dyddiad cau. Ni fydd ceisiadau sy’n dod i law ar ôl dyddiad cau penodol UCAS na cheisiadau sy’n anghyflawn yn cael eu hystyried, a byddant yn cael eu gwrthod.
A.6.2 Deintyddiaeth (DipHE a BSc) a’r Gwyddorau Gofal Iechyd
Ar gyfer y rhaglenni DipHE Hylendid Deintyddol (B750) a BSc Therapi a Hylendid Deintyddol, mae’n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno cais cyflawn (sy’n cynnwys manylion y cymwysterau academaidd ac iaith Saesneg sydd ganddynt ac sydd yn yr arfaeth, geirda a datganiad personol) drwy UCAS erbyn y dyddiad cau ‘Ystyriaeth Gyfartal’ er mwyn sicrhau y bydd eu ceisiadau’n cael eu hystyried. Efallai na fydd ceisiadau sy’n dod i law ar ôl dyddiad cau penodol UCAS a cheisiadau sy’n anghyflawn yn cael eu hystyried, ac efallai y byddant yn cael eu gwrthod.
A7 Prosesau dethol
Mae’r ysgolion canlynol yn defnyddio prosesau dethol ychwanegol cyn cynnig lle i astudio:
- Yr Ysgol Deintyddiaeth
- Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd
- Yr Ysgol Meddygaeth (ar gyfer y rhaglen MBBCh)
- Yr Ysgol Cerddoriaeth
- Yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg
- Yr Ysgol Fferylliaeth
A7.1 Clyweliadau
Efallai y bydd yr Ysgol Cerddoriaeth yn gwahodd ymgeiswyr i glyweliad er mwyn asesu eu gallu i berfformio. Mae clyweliadau’n cael eu cynnal yn unol â’n canllawiau arfer gorau.
A7.2 Dethol ymgeiswyr i gyfweld â nhw (sgorio)
Mae'r Ysgol Deintyddiaeth a'r Ysgol Meddygaeth (ar gyfer y rhaglen MBBCh) yn penderfynu a ddylid cyfweld ag ymgeisydd gan ddefnyddio system sgorio. Os bydd ymgeisydd yn bodloni'r gofynion mynediad lleiaf a hysbysebwyd, bydd sgôr academaidd yn cael ei rhoi i’r cais.
- Mae cais yn cael ei sgorio ar sail y cymwysterau sydd gan yr ymgeisydd yn unig.
- Bydd pynciau gorfodol yn cael eu sgorio’n gyntaf. Yna, bydd sgôr yn cael ei roi i weddill y pynciau â'r graddau uchaf.
- Os bydd ymgeisydd wedi methu â nodi dwy radd ar gyfer Gwyddoniaeth Dwyradd erbyn y dyddiad cau, bydd sgôr tybiedig sy’n un radd yn is na’r radd a nodwyd yn cael ei roi. Er enghraifft, os bydd ‘A’ wedi’i nodi, bydd y cais yn cael ei sgorio gan dybio mai ‘AB’ yw’r graddau.
- Efallai y bydd yr UCAT yn cael ei ddefnyddio wrth lunio’r rhestr fer o ymgeiswyr i gyfweld â nhw neu gynnig lle iddyn nhw. Nid oes sgôr leiaf, ac mae'r trothwy (os caiff yr UCAT ei ddefnyddio) yn amrywio o un cyfnod ymgeisio i’r llall.
- Pan fydd gan ymgeiswyr yr un sgôr academaidd, mae modd ystyried agweddau eraill ar eu ceisiadau, gan gynnwys eu datganiadau personol a’u geirdaon.
- Mae ystyriaeth ychwanegol yn cael ei rhoi i ymgeiswyr sydd wedi’u tangynrychioli neu sydd dan anfantais o ran cael addysg uwch a/neu ymuno â phroffesiynau deintyddol/meddygol.
A7.3 Dethol ymgeiswyr i gyfweld â nhw (sgrinio)
Mae Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg a'r Ysgol Fferylliaeth yn penderfynu a ddylid cyfweld ag ymgeisydd gan ddefnyddio system sgrinio. Os bydd ymgeisydd yn bodloni'r gofynion mynediad lleiaf a hysbysebwyd, bydd y datganiad personol a’r geirda’n cael eu hasesu i sicrhau dealltwriaeth o'r proffesiwn ac ymrwymiad iddo.
- Pan fydd gan ymgeiswyr yr un sgôr academaidd, mae modd ystyried agweddau eraill ar eu ceisiadau, gan gynnwys eu datganiadau personol a’u geirdaon.
- Mae ystyriaeth ychwanegol yn cael ei rhoi i ymgeiswyr sydd wedi’u tangynrychioli neu sydd dan anfantais o ran cael addysg uwch a/neu ymuno â phroffesiynau’r GIG.
A8 Gordanysgrifio
Rydym yn rheoli ein proses o gynnig lleoedd mewn ffordd sy’n golygu, mewn amgylchiadau arferol, fod lle i bob deiliad cynnig sy'n bodloni union amodau eu cynnig. Fodd bynnag, efallai y bydd amgylchiadau sydd y tu allan i’n rheolaeth resymol, sy’n golygu bod nifer yr ymgeiswyr sydd wedi bodloni amodau eu cynnig yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael ar y rhaglen (‘gordanysgrifio’).
Pan fydd nifer y lleoedd sydd ar gael ar raglen wedi’i phennu (‘capio’) gan ffynhonnell allanol (Llywodraeth Cymru neu Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), er enghraifft) ac nad oes modd i’r Brifysgol drefnu bod lleoedd ychwanegol ar gael, byddwn yn troi at y gweithdrefnau gordanysgrifio.
Atodiad B: Amrywiadau sy’n berthnasol i raglenni ôl-raddedig a addysgir
B1 Sut i wneud cais
Fel arfer, dylai ceisiadau i ddilyn rhaglen ôl-raddedig a addysgir yn llawnamser neu’n rhan-amser gael eu cyflwyno’n uniongyrchol i’r Brifysgol drwy dudalen we’r rhaglen berthnasol. Mae canllaw ymgeisio cam wrth gam ar gael ar ein gwefan.
Os oes proses ymgeisio amgen (e.e. drwy’r Bwrdd Ceisiadau Canolog, yn achos y rhaglenni Ymarfer Cyfreithiol ôl-raddedig), bydd hyn wedi’i nodi’n glir ar dudalen we’r rhaglen.
Mae modd i ymgeiswyr lanlwytho dogfennau ategol i’r porth ymgeisio wrth wneud cais neu ar ôl gwneud cais unwaith y bydd enw defnyddiwr a chyfrinair i’w defnyddio yn y Brifysgol wedi’u rhoi.
B2 Gofynion mynediad
B2.1 Mae’n rhaid i ymgeiswyr fodloni'r gofynion mynediad lleiaf (gan gynnwys gofynion y pwnc, lle bo'n berthnasol) sydd wedi’u nodi ar dudalen y rhaglen unigol.
B2.2 Yn achos ymgeiswyr sydd â chymwysterau rhyngwladol neu dramor, byddwn yn defnyddio proses asesu cyfwerthedd. Dylid defnyddio’r broses hon yn ganllaw cyffredinol.
B2.3 Efallai y bydd y gofynion mynediad ar gyfer rhai rhaglenni’n fwy manwl neu’n benodol. Bydd y rhain wedi’u nodi yn y wybodaeth am ymgeisio ac yn y cynnig ffurfiol yn achos ceisiadau llwyddiannus.
B3 Datganiadau personol
Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd gyflwyno datganiad personol sy’n amlinellu ei resymau dros eisiau dilyn y rhaglen, gan gynnwys ei brofiadau a’i addasrwydd i ddilyn y rhaglen. Ar gyfer rhai rhaglenni, mae angen cyflwyno datganiad personol. Efallai y bydd angen i’r ymgeisydd ateb cwestiynau penodol a/neu gyflwyno’r datganiad mewn fformat penodol.
B4 Geirdaon
B4.1 Pan fydd angen rhoi geirda’n rhan o’r cais, dylai’r geirda fod yn un academaidd fel arfer gan athro neu diwtor sy’n gallu tystio i allu academaidd yr ymgeisydd, gan gynnwys ei gymeriad a’i addasrwydd i ddilyn y rhaglen.
B4.2 Pan na fydd ymgeisydd yn gallu rhoi geirda academaidd, gellir ystyried geirdaon amgen fesul achos yn ôl disgresiwn y Cyfarwyddwr Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr.
B5 Curriculum vitae (CV)
Nid oes gofyn i ymgeiswyr gyflwyno CV wrth wneud cais, heblaw yn yr achosion hynny pan fydd y gofynion mynediad ar gyfer y rhaglen yn gofyn iddynt wneud hynny neu mewn achosion eithriadol penodol.
B6 Dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais
B6.1 Fel arfer, mae angen gwneud cais i ddilyn rhaglen ôl-raddedig a addysgir bedair wythnos cyn dyddiad dechrau’r rhaglen. Fodd bynnag, efallai y bydd angen gwneud hynny’n gynt mewn perthynas â rhai rhaglenni. Rydym yn argymell yn gryf bod ymgeiswyr yn gwneud cais o leiaf 12 wythnos cyn dyddiad dechrau eu dewis raglen. Bydd ceisiadau sy’n dod i law ar ôl y dyddiad cau’n cael eu hystyried fesul achos.
B6.2 Eithriadau i'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais
Pan fydd pob lle ar raglen wedi’i lenwi, rydym yn cadw'r hawl i roi’r gorau i dderbyn ceisiadau a/neu gynnig lle wedi’i ohirio ar y rhaglen. Efallai y byddwn yn rhoi rhestr aros ar waith, fel y bo’n briodol. Rydym hefyd yn cadw’r hawl i gynnig lle wedi’i ohirio i ymgeisydd sy’n gwneud cais cyn pen 12 wythnos i ddyddiad dechrau’r rhaglen yn yr achosion hynny pan nad oes digon o amser i gymryd yr holl gamau i alluogi’r ymgeisydd i ddechrau’r rhaglen erbyn y dyddiad ymrestru olaf.
B7 Dulliau dethol
Efallai y bydd dulliau dethol ychwanegol, megis cyfweliadau, clyweliadau neu geisiadau i weld enghreifftiau o waith ysgrifenedig, yn cael eu defnyddio cyn cynnig lle. Mae cyfweliadau a chlyweliadau’n cael eu cynnal yn unol â’n canllawiau arfer gorau.
B8 Blaendaliadau
Ar gyfer rhai rhaglenni, mae angen i ymgeiswyr dalu blaendal cyn cael eu derbyn, a hynny’n unol â’n polisi. Pan fydd gofyn i ymgeisydd dalu blaendal i sicrhau ei le ar raglen, bydd hyn wedi’i nodi yn y cynnig ffurfiol.
Mae’r telerau ac amodau sy’n ymwneud â thalu’r blaendal ar gael ar ein gwefan ac yn y cynnig ffurfiol.
B8.1 Ad-dalu blaendaliadau
Drwy dalu blaendal, mae’r ymgeisydd yn cytuno i delerau ac amodau’r Polisi Ad-dalu Blaendaliadau. Nid oes modd trosglwyddo nac ad-dalu’r blaendal, ac eithrio yn yr amgylchiadau a nodir yn y polisi.
Atodiad C: Amrywiadau sy’n berthnasol i raglenni ymchwil ôl-raddedig
C1 Sut i wneud cais
Bydd ceisiadau i ddilyn rhaglen ymchwil ôl-raddedig yn cael eu cyflwyno’n uniongyrchol i’r Brifysgol neu drwy drydydd parti. Bydd tudalen y rhaglen unigol yn nodi sut i wneud cais.
Mae canllaw ymgeisio cam wrth gam ar gael ar ein gwefan i’r ymgeiswyr hynny sy’n cyflwyno cais i’r Brifysgol yn uniongyrchol. Mae modd i ymgeiswyr lanlwytho dogfennau ategol i’r porth ymgeisio wrth wneud cais neu ar ôl gwneud cais unwaith y bydd enw defnyddiwr a chyfrinair i’w defnyddio yn y Brifysgol wedi’u rhoi.
C2 Gofynion mynediad
C2.1 Mae’n rhaid i ymgeiswyr fodloni'r gofynion mynediad lleiaf (gan gynnwys gofynion y pwnc, lle bo'n berthnasol) sydd wedi’u nodi ar dudalen y rhaglen unigol.
C2.2 Yn achos ymgeiswyr sydd â chymwysterau rhyngwladol neu dramor, byddwn yn defnyddio proses asesu cyfwerthedd. Dylid defnyddio’r broses hon yn ganllaw cyffredinol.
C2.3 Efallai y bydd y gofynion mynediad ar gyfer rhai rhaglenni’n fwy manwl neu’n benodol. Bydd y rhain wedi’u nodi yn y wybodaeth am ymgeisio ac yn y cynnig ffurfiol yn achos ceisiadau llwyddiannus.
C2.4 Efallai y bydd gofynion ychwanegol ar gyfer ysgoloriaethau a phrosiectau ymchwil a ariennir.
C2.5 Dim ond yn yr achosion hynny pan fyddwn yn gallu sicrhau goruchwyliaeth briodol ym maes ymchwil yr ymgeisydd y byddwn yn cynnig lle ar raglen ymchwil. Ar gyfer rhai rhaglenni ymchwil, gallai bod â digon o gyllid ymchwil fod yn ffactor hefyd wrth dderbyn ymgeiswyr.
C3 Cynnig ymchwil
Ar gyfer rhai rhaglenni, bydd angen cyflwyno cynnig ymchwil cynhwysfawr wrth wneud cais. Bydd y cynnig ymchwil yn cael ei asesu o ran ei eglurder a’i ddichonoldeb. Byddwn hefyd yn ystyried a yw’n cyd-fynd â’n blaenoriaethau ymchwil.
C4 Dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais
Fel arfer, mae angen gwneud cais i ddilyn rhaglen ymchwil ôl-raddedig bedair wythnos cyn dyddiad dechrau’r rhaglen. Fodd bynnag, efallai y bydd angen gwneud hynny’n gynt mewn perthynas â rhai rhaglenni. Rydym yn argymell yn gryf bod ymgeiswyr yn gwneud cais o leiaf 12 wythnos cyn dyddiad dechrau eu dewis raglen. Mae modd ystyried ceisiadau sy’n dod i law ar ôl y dyddiad cau yn ôl disgresiwn arweinydd y rhaglen.
C5 Dulliau dethol
Efallai y bydd dulliau dethol ychwanegol, megis cyfweliadau, clyweliadau neu geisiadau i weld enghreifftiau o waith ysgrifenedig, yn cael eu defnyddio cyn cynnig lle. Mae cyfweliadau a chlyweliadau’n cael eu cynnal yn unol â’n canllawiau arfer gorau.