Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Polisi Gor-danysgrifio ar gyfer Rhaglenni Israddedig

  • Diweddarwyd ddiwethaf:

1. Nodau a Llywodraethu

1.1 Yn unol â rheoliadau derbyniadau Prifysgol Caerdydd ac yn cydymffurfio â Chôd Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch QAA, mae'r Brifysgol yn cynnal ei phroses ddethol myfyrwyr mewn modd gwrthrychol, agored, tryloyw, teg ac nad yw'n wahaniaethu. Er bod prosesau dethol ar gyfer rhaglenni israddedig wedi'u rhwymo gan bolisi'r Brifysgol ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, mae'r rhaglenni canlynol hefyd yn ddarostyngedig i uchafswm nifer y lleoedd a therfynau ar gyfer pob blwyddyn academaidd:

  • Ysgol Deintyddiaeth – pob rhaglen israddedig
  • Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd – pob rhaglen israddedig
  • Ysgol Meddygaeth – Meddygaeth MBBCh
  • Ysgol Optometreg a Gwyddorau Golwg – pob rhaglen israddedig.

1.2 Mae’r polisi hwn o dan oruchwyliaeth Cyfarwyddwr Recriwtio a Derbyniadau a’r Grŵp Derbyn a Recriwtio ym mhob ysgol academaidd ac mae’n amlinellu’r amodau sy’n gysylltiedig â gor-danysgrifio o fewn paramedrau’r nifer comisiynedig o leoedd ar unrhyw raglen.

2. Lleoedd Comisiynedig

2.1 Pennir nifer y lleoedd sydd ar gael ar raglenni israddedig yn flynyddol gan gyrff comisiynu ac rheoleiddiol allanol ac ni all y Brifysgol ddarparu lleoedd ychwanegol.

Y cyrff hyn yw:

  • Y Cyngor Optig Cyffredinol (GOC) – pob rhaglen israddedig Optometreg
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) – pob rhaglen Gofal Iechyd, Therapi Deintyddol BSc, Therapi a Hylendid Deintyddol BSc
  • Llywodraeth Cymru – Deintyddiaeth BDS, Meddygaeth MBBCh.

2.2 Fodd bynnag, mewn amgylchiadau o'r fath, bydd y Brifysgol yn ceisio cynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael trwy negodi â'r corff comisiynu cyn amrywio, neu dynnu'n ôl, cynigion a dderbyniwyd gan ymgeiswyr.

3. Gwneud Cynigion

3.1 Mae’r Brifysgol yn rheoli ei phroses o wneud cynigion fel bod lle, o dan amgylchiadau arferol, ar gael i bob deiliad cynnig sy’n cwrdd ag amodau eu cynnig yn union. Fodd bynnag, gall fod amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth resymol y Brifysgol sy’n golygu bod nifer yr ymgeiswyr sy’n bodloni amodau cynnig yn fwy na’r nifer o leoedd sydd ar gael (“gor-danysgrifio”).

4. Gor-danysgrifio

4.1 Mae gor-danysgrifio yn cyfeirio at y sefyllfa pan fydd nifer yr ymgeiswyr sy'n bodloni amodau cynnig yn rhagori ar nifer y lleoedd sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn/dyddiad mynediad honno.

5. Camau gan Brifysgol Caerdydd mewn Achos o Or-danysgrifio

5.1 O dan yr amgylchiadau hyn, mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i wneud penderfyniad academaidd annibynnol ar ddeiliaid cynnig ac yn dyrannu lleoedd yn unol â'r polisi gor-danysgrifio ar sail deg a rhesymol. Ni fydd y Brifysgol yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod sy'n codi o unrhyw anallu neu fethiant i dderbyn deiliad cynnig o ganlyniad i or-danysgrifio y tu hwnt i'w rheolaeth resymol.

6. Sail Deg a Rhesymol ar gyfer Dyrannu Lleoedd

6.1 Bydd yr holl ymgeiswyr sy’n bodloni’r meini prawf mynediad cyhoeddedig yn sgorio drwy fynychu cyfweliad ac mae cynigion astudio wedyn yn cael eu gwneud yn seiliedig ar y sgoriau hyn. Dyma’r sgôr a fyddai’n cael ei defnyddio yn achos gor-danysgrifio i raglen ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi rhagori neu wedi bodloni’n union amodau eu cynnig. Byddai graddau a gyflawnwyd a/neu dariff cyffredinol a/neu sgoriau UCAT hefyd yn cael eu defnyddio i wahaniaethu rhwng y rhai sydd â’r un sgôr cyfweliad.

7. Beth sy'n Digwydd os Nad Ydw i'n Cael Lle?

7.1 Os na chynigir lle i chi oherwydd cymhwyso’r polisi gor-danysgrifio, bydd y Brifysgol, lle bo modd, yn ceisio:

a. cynnig cyfle i chi ohirio eich lle tan y flwyddyn academaidd nesaf, neu

b. cynnig lle i chi ar raglen addas arall ym Mhrifysgol Caerdydd.

7.1.1 Os nad ydych yn dymuno derbyn un o’r opsiynau amgen a gynigir i chi o ganlyniad i gymhwyso’r polisi gor-danysgrifio, byddwch yn cael eich rhyddhau o’ch cynnig fel blaenoriaeth er mwyn eich galluogi i geisio opsiynau a chynigion addas eraill fel yswiriant neu glirio.