Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Gwahoddiad i gymryd rhan mewn ymchwil ar ddychymyg gweledol ac amhariad ar y golwg

  • Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnal astudiaeth ar-lein i archwilio dychymyg gweledol mewn unigolion ag amhariad ar eu golwg.

Nod yr ymchwil hon yw deall yn well pam mae rhai pobl yn profi rhithweledigaethau gweledol, a elwir yn Syndrom Charles Bonnet, yn dilyn colli eu golwg.

Rydyn ni’n chwilio am bobl i gymryd rhan sydd wedi'u hardystio’n unigolion ag Amhariad ar y Golwg neu Amhariad Difrifol ar y Golwg yn y DU ac sy'n 18 oed neu'n hŷn. Gallwch chi gymryd rhan p'un a ydych chi wedi profi rhithweledigaethau eich hun ai peidio.

Mae'r astudiaeth i gyd ar-lein a bydd yn cymryd tua 60 munud i'w chwblhau. Mae’n golygu llenwi holiadur am:

  1. Natur eich amhariad ar y golwg
  2. Eich profiad o rithweledigaethau gweledol yn dilyn colli’ch golwg (os yw’n berthnasol)
  3. Eich gallu i ddychmygu golygfeydd gweledol gwahanol mewn manylder

Byddwch chi’n cymryd rhan yn gwbl ddienw

Gwybodaeth i gyfranogwyr

Rydyn ni’n eich gwahodd i gymryd rhan mewn prosiect ymchwil.

Cyn penderfynu a ydych chi am gymryd rhan neu beidio, mae’n bwysig eich bod yn deall pam rydyn ni’n cynnal yr ymchwil a’r hyn y bydd gofyn i chi ei wneud. Cymerwch amser i ddarllen yr wybodaeth ganlynol yn ofalus a'i thrafod â phobl eraill, os hoffech chi wneud hynny.

Cymryd rhan yn yr astudiaeth

Beth yw diben y prosiect ymchwil hwn?

Nod yr astudiaeth hon yw deall a yw'r tebygolrwydd o brofi rhithweledigaethau ar ôl colli golwg yn gysylltiedig â manylder delweddau gweledol.

Pam ydw i wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan?

Rydyn ni’n awyddus i recriwtio oedolion sydd wedi'u hardystio naill ai ag 'Amhariad ar y Golwg' neu 'Amhariad Difrifol ar y Golwg' yn y DU i gymryd rhan yn yr astudiaeth.

Oes rhaid i mi gymryd rhan?

Nac oes; byddwch chi’n cymryd rhan yn y prosiect ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol a chi fydd yn penderfynu a ydych chi am wneud hynny ai peidio. Gallwch chi ofyn cwestiynau trwy ysgrifennu i'r cyfeiriad e-bost isod. Isod byddwn ni’n gofyn am eich caniatâd i gymryd rhan. Os byddwch chi’n penderfynu peidio â chymryd rhan, ni fydd angen esbonio pam, ac ni fydd hyn yn effeithio ar eich hawliau cyfreithiol.

Mae croeso i chi adael yr holiadur ar unrhyw adeg, heb roi rheswm, hyd yn oed ar ôl cydsynio i gymryd rhan.

Beth fydd cymryd rhan yn ei olygu?

Os byddwch chi’n penderfynu gwirfoddoli ar gyfer yr astudiaeth hon, byddwn ni’n gofyn i chi lenwi holiadur ar-lein, ac rydyn ni’n amcangyfrif na fydd hyn yn cymryd mwy na 90 munud i'w gwblhau. Os gallai fod yn anodd i chi lenwi'r holiadur ar-lein (oherwydd colli golwg), efallai y gallwn ni drefnu iddo gael ei gwblhau dros y ffôn. I ofyn am hyn, ffoniwch 02920 688562 unrhyw bryd, a gadewch neges yn gofyn am rywun i’ch ffonio’n ôl. Sylwch - yn dibynnu ar lefel y galw - allwn ni ddim sicrhau y byddwn ni’n ymateb i bob cais i ffonio pobl yn ôl.

Fydda i’n cael fy nhalu am gymryd rhan?

Fydd dim tâl am gymryd rhan yn yr astudiaeth hon.

Beth yw manteision posibl cymryd rhan?

Does dim manteision uniongyrchol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydyn ni’n gobeithio y bydd yr astudiaeth yn gwella ein dealltwriaeth o sut mae rhithweledigaethau yn datblygu mewn pobl sydd wedi colli eu golwg.

Sylwch y bydd y data a gaiff ei gasglu yn yr holiadur hwn yn ddienw. Felly nid yw'n bosibl i'r tîm ymchwil ddilyn i fyny ar eich ymatebion. Os hoffech chi drafod unrhyw beth gyda’r tîm ymchwil, gallwch chi wneud hynny drwy e-bostio’r cyfeiriad isod.

Beth yw’r risgiau posibl o gymryd rhan?

Dydyn ni ddim yn rhagweld unrhyw risgiau sylweddol o ganlyniad i gymryd rhan. Fodd bynnag, sylwch, os byddwch chi’n profi rhithweledigaethau, byddwn ni’n gofyn i chi roi gwybod i ba raddau maen nhw’n peri gofid emosiynol i chi.

A fydd fy nghyfraniad i'r prosiect ymchwil yn gyfrinachol?

Bydd eich ymatebion yn ddienw. Felly, ni fydd yn bosibl i unrhyw un olrhain eich ymatebion yn ôl i chi.

Beth fydd yn digwydd i fy nata personol?

Fydd dim data personol yn cael ei gasglu yn rhan o’r prosiect ymchwil hwn. Caiff y data ymchwil (dienw) ei gadw am gyfnod o 5 mlynedd ar y lleiaf ar ôl diwedd y prosiect neu ar ôl cyhoeddi unrhyw ganfyddiadau sy’n seiliedig ar y data (pa bynnag un sydd hwyraf) a gall aelodau o’r tîm ymchwil gael mynediad ato, a hefyd, lle bo angen, aelodau o dimau llywodraethu ac archwilio'r Brifysgol neu awdurdodau rheoleiddio.

Sylwch, gan nad yw'r holiadur hwn yn cofnodi gwybodaeth bersonol y mae modd ei hadnabod (h.y. rydych chi’n cymryd rhan yn ddienw), nid yw'n bosibl tynnu ymatebion yn ôl neu eu diwygio ar ôl iddyn nhw gael eu cyflwyno.

Beth fydd yn digwydd i’r data ar ddiwedd y prosiect ymchwil?

Mae’n bosibl y bydd data dienw a gaiff ei gasglu yn ystod y prosiect ymchwil ar gael i’r cyhoedd drwy ystorfa ddata a/neu caiff ei rannu ag ymchwilwyr eraill. Ni fydd unrhyw ddata personol yn cael ei gasglu.

Beth fydd yn digwydd i ganlyniadau’r prosiect ymchwil?

Gallai canlyniadau’r astudiaeth hon gael eu defnyddio mewn traethodau hir israddedigion, traethodau ymchwil ôl-raddedigion a/neu eu cyhoeddi yn y llenyddiaeth a gaiff ei hadolygu gan gymheiriaid a’u cyflwyno mewn cynadleddau.

Beth sy’n digwydd os bydd problem?

Os ydych chi am gwyno neu fynegi pryderon am unrhyw agwedd ar y modd rydyn ni wedi’ch trin a’ch trafod yn ystod yr ymchwil hon, cysylltwch â DunnMJ1@caerdydd.ac.uk. Os na fyddwch chi’n fodlon ar sut y caiff eich cwyn ei rheoli, e-bostiwch y Pwyllgor Moeseg a gymeradwyodd yr astudiaeth hon: optomethics@caerdydd.ac.uk.

Does dim trefniadau iawndal arbennig os cewch eich niweidio o ganlyniad i gymryd rhan yn y prosiect ymchwil hwn. Os cewch eich niweidio oherwydd esgeulustod rhywun, mae'n bosibl y bydd gennych chi sail ar gyfer camau cyfreithiol, ond hwyrach y bydd yn rhaid ichi dalu am hynny.

Pwy sy’n trefnu ac yn cyllido’r prosiect ymchwil hwn?

Dr Matt J Dunn o’r Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n trefnu’r ymchwil hon. Nid yw’r ymchwil wedi derbyn cyllid penodol.

Pwy sydd wedi adolygu’r prosiect ymchwil hwn?

Mae’r prosiect ymchwil hwn wedi cael ei adolygu, ac wedi cael barn ffafriol gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil Yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg, Prifysgol Caerdydd.

Cymryd rhan yn yr astudiaeth

Rhagor o wybodaeth a manylion cyswllt

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau yn ymwneud â’r prosiect ymchwil hwn, gallwch chi gysylltu â ni yn ystod oriau gwaith arferol:

Matt J Dunn
dunnmj1@cardiff.ac.uk
029 208 70576
Yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg, Heol Maendy, Caerdydd, CF24 4HQ

Diolch am ystyried cymryd rhan yn y prosiect ymchwil hwn.