Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Cofnodion Cyngor 10 Gorffennaf 2024

Cofnodion cyfarfod Cyngor Prifysgol Caerdydd a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2024 am 10.00 yn Ystafell Addysg Weithredol y Ganolfan Addysgu Ôl-raddedigion, Ysgol Busnes Caerdydd

Yn bresennol:  Patrick Younge (Cadeirydd), Is-Ganghellor, Beth Button, yr Athro Damian Walford Davies, Judith Fabian, yr Athro Fonesig Janet Finch [hyd at Gofnod 2249], Madison Hutchinson, Christopher Jones, Jan Juillerat, yr Athro Urfan Khaliq [Cofnod 2245-2247 a 2252-2264], Jeremy Lewis [hyd at Gofnod 2249], Stephen Mann, Micaela Panes, Dr Juan Pereiro Viterbo [hyd at Gofnod 2255], Suzanne Rankin, Dr Siân Rees, David Selway, John Shakeshaft [hyd at Gofnod 2251], yr Athro Katherine Shelton, Dr Robert Weaver,  Dr Catrin Wood, Jennifer Wood, ac Agnes Xavier-Phillips.

Hefyd yn Bresennol:   Hayley Beckett [Cofnod 2247], Laura Davies [o Gofnod 2247], Ruth Davies, Katy Dale [yn cofnodi], Anita Edson [Cofnod 2251], Tom Hay, Julie-Anne Johnston [hyd at Gofnod 2247], David Langley [Cofnodion 2247-2248], Siân Marshall, Alice Milanese [Cofnod 2250], Claire Morgan [Cofnod 2244], Sarah Pryor [Cofnod 2249], TJ Rawlinson [Cofnod 2250], Dr Paula Sanderson, yr Athro Roger Whitaker [o Gofnod 2247] a Darren Xiberras.

2237 Croeso a materion rhagarweiniol

Croesawyd pawb i'r cyfarfod, yn enwedig Madison Hutchinson, Micaela Panes a Dr Paula Sanderson, gan mai hwn oedd eu cyfarfod cyntaf.

2238 Ymddiheuriadau am absenoldeb

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

2239 Datgan buddiannau

Atgoffodd y Cadeirydd aelodau'r Pwyllgor am eu dyletswydd i ddatgelu unrhyw wrthdaro buddiannau posibl.

Nodwyd

2239.1 Datganodd Suzanne Rankin ddiddordeb mewn perthynas â risg yr Ysgol Ddeintyddol a gynhwyswyd ar y Gofrestr Risg [Cofnod 2244], o ystyried ei chyflogaeth yn y GIG.

2240 Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd ac ystyriwyd papurau 23/757C, 'Cofnodion y Cyngor 1 Mai 2024', a 23/758C, 'Cofnodion y Cyngor 3 Mehefin 2024'. Siaradodd y Cadeirydd am yr eitem hon.

Nodwyd

2240.1 bod cais i'r cynnig yng Nghofnod 2214.4 o Gofnodion 1 Mai 2024 (sy'n ymwneud â phennu lefel darged o aeddfedrwydd risg) yn cael ei ychwanegu fel penderfyniad.

Penderfynwyd

2240.2 cymeradwyo cofnodion 1 Mai 2024, yn amodol ar y gwelliant a nodwyd yn 2240.1;

2240.3 cymeradwyo cofnodion 3 Mehefin 2024.

2241 Materion yn Codi

Derbyniwyd a nodwyd papur 23/759C, 'Materion yn Codi'.

2242 Eitemau gan y Cadeirydd

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/813C, 'Cais am Wybodaeth gan y Comisiwn Elusennau ac ymateb drafft — Gwersyll o Blaid Palesteina'. Siaradodd y Cadeirydd am yr eitem hon.

Nodwyd

2242.1 [Hepgorwyd]; y disgwylir adborth yn awr oddi wrth y gwersyll ar dri chanlyniad arfaethedig;

2242.2 y cafwyd cyngor cyfreithiol allanol; bod y Brifysgol wedi ymrwymo i ryddid barn a'r hawl i brotestio'n heddychlon, a bod llythyr agored wedi dod i law oddi wrth y staff a’r myfyrwyr a fu’n rhan o’r gwersyll;

2242.3 roedd y Brifysgol yn gweithio i gydbwyso profiadau cadarnhaol mewn digwyddiadau graddio (a gynhelir yr wythnos nesaf) â'r angen i gymryd camau pendant; nodwyd y gellid tarfu ar y graddio petai camau mwy pendant yn cael eu cymryd, ac y gellid tarfu ar bethau petai’r gwersyll yn parhau; roedd profiadau prifysgolion eraill yn cael eu monitro a'u hystyried ac roedd Tîm Digwyddiadau Mawr yn cwrdd bob dydd i adolygu'r sefyllfa;

2242.4 roedd gwaith ar y gweill i lunio negeseuon pe na chytunid ar ddatganiad ar y cyd, ac roedd yn bwysig pwysleisio'r gwaith a wnaed hyd yma i sicrhau datrysiad a fyddai’n bodloni’r ddwy ochr.

2242.5 mai rôl aelodau'r Cyngor fel Ymddiriedolwyr oedd rhoi sicrwydd i'r Comisiwn Elusennau bod y Brifysgol wedi cyflawni ei rhwymedigaethau cyfreithiol a’i bod wedi diogelu buddiolwyr (staff a myfyrwyr) rhag niwed;

2242.6 bod angen canmol gwaith y Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr a'r Cofrestrydd Academaidd yn y maes hwn; canmolwyd Undeb y Myfyrwyr hefyd am hwyluso trafodaethau â'r gwersyllwyr; diolchodd Undeb y Myfyrwyr hefyd i'r Brifysgol am ei chefnogaeth.

Penderfynwyd

2242.7 cymeradwyo'r ymateb i'r Comisiwn Elusennau, yn amodol ar ddiweddaru’r paragraff olaf i adlewyrchu canlyniad y diwrnod o drafodaethau a gafwyd â chynrychiolwyr y gwersyll, ac ychwanegu rhagor o wybodaeth am ymateb y Brifysgol i gwynion am y gwersyll.

2243 Adroddiad yr Is-Ganghellor i'r Cyngor

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/767C, 'Adroddiad yr Is-Ganghellor i'r Cyngor'. Siaradodd yr Is-Ganghellor am yr eitem hon.

Nodwyd

2243.1 bod canlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr wedi cael eu cyhoeddi’r bore hwnnw ac y byddai’r Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr yn darparu diweddariad yn hwyrach yn y cyfarfod;

2243.2 bod safle’r Brifysgol yn y gynghrair QS o Brifysgolion yn parhau i syrthio a bod goblygiadau i hyn o ran recriwtio myfyrwyr rhyngwladol ac enw da'r Brifysgol yn gyffredinol; roedd y Rhag Is-Ganghellor Gweithgarwch Rhyngwladol yn datblygu strategaeth tablau cynghrair i fynd i'r afael â hyn;

2243.3 y bu llawer o bobl yn bresennol yn nigwyddiad Sgyrsiau Caerdydd â Dr Alex George, ac i’r digwyddiad hyrwyddo ymchwil o safon a wnaed gan y Brifysgol ym maes iechyd meddwl;

2243.4 y byddai’r rhaglenni Bywyd Campws yn dod i ben ym mis Gorffennaf 2024 ac y byddai hyn yn cael effaith ar lawer o ganlyniadau o ran Barn y Myfyrwyr; gofynnwyd ble y byddai’r eitemau hyn yn awr yn disgyn. Ychwanegwyd nad oedd ymateb wedi dod i law eto oddi wrth y Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr; pwysleisiwyd bod profiad myfyrwyr yn parhau i fod yn ganolog i'r strategaeth a'r llwybr at y dyfodol;

2243.5 bod y newid a gafwyd yn y llywodraeth yn San Steffan wedi adlewyrchu rhyw duedd wahanol o ran mudo, ac y byddai hyn yn fuddiol o ran recriwtio rhyngwladol; roedd pobl yn ofalus o optimistaidd ynghylch y penodiadau i swyddi gweinidogol;

2243.6 bod angen dathlu a hyrwyddo llwyddiannau'r Brifysgol yn fwy;

2243.7 bod y Cynllun Diswyddo Gwirfoddol bellach wedi’i lansio ac y byddai'n parhau ar agor tan fis Medi.

2244 Cofrestr Risgiau Strategol

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/684HC, 'Cofrestr Risgiau Strategol'. Siaradodd yr Is-Ganghellor am yr eitem hon.

Nodwyd

2244.1 y canmolwyd gwaith yr Uwch Reolwr Risg yn y maes hwn;

2244.2 [Hepgorwyd];

2244.3 [Hepgorwyd];

2244.4 [Hepgorwyd];

2244.5 [Hepgorwyd];

2244.6 [Hepgorwyd];

2244.7 [Hepgorwyd];

2244.8 [Hepgorwyd].

Penderfynwyd

2244.9 cynnwys yn yr adroddiad safonol wybodaeth ynghylch a oedd y Brifysgol yn gweithredu o fewn ei pharodrwydd i dderbyn risg yng nghyswllt pob risg strategol unigol a’r risgiau yn eu crynswth; ac, os nad oedd, mynegi barn ynghylch a oedd y camau i wneud hynny’n debygol o wireddu hyn o fewn yr amserlen ofynnol;

2244.10 cynnwys dyddiadau targed ar gyfer lliniaru risgiau;

2244.11 [Hepgorwyd];

2244.12 cynnal sesiwn ar risg a pharodrwydd i dderbyn risg mewn Sesiwn Datblygu'r Cyngor yn y dyfodol;

2244.13 cymeradwyo'r Grynodeb Risg Strategol a'r Gofrestr;

2245 Adroddiad gan Lywydd Undeb y Myfyrwyr

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/769, ‘Adroddiad Llywydd Undeb y Myfyrwyr’. Siaradodd Llywydd Undeb y Myfyrwyr am yr eitem hon.

Nodwyd

2245.1 bod yr adroddiad hwn wedi'i ysgrifennu gan y Llywydd sy’n ymadael; sefydlwyd y tîm sabothol newydd ddechrau mis Gorffennaf, ac roedd yn cynnwys tri swyddog sabothol o'r flwyddyn flaenorol; hwn oedd y tîm sabothol cyntaf cwbl fenywaidd yn hanes yr Undeb, a chawsant eu hethol ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod;

2245.2 mai hon oedd y flwyddyn gyntaf i’r tîm sabothol gynnwys Is-Lywydd Myfyrwyr Rhyngwladol;

2245.3 bod gwaith y gwasanaethau masnachol wedi dod i ben ar gyfer yr haf ond y byddai gweithgareddau allweddol a’r gwasanaeth cynghori myfyrwyr yn parhau;

2245.4 bod llawer o ymgyrchoedd wedi cael eu cynnal gan ddefnyddio cyllid CCAUC, yn bennaf yr ymgyrch “Bwydo eich Fflat”; nodwyd bod pobl wedi ciwio i fod yn rhan o’r digwyddiadau hyn, a bod llawer o fyfyrwyr rhyngwladol ac ôl-raddedig yn defnyddio'r cynllun;

2245.5 bod llawer o ddigwyddiadau i Fyfyrwyr Ôl-raddedig wedi'u cynnal, a bod y tocynnau ar gyfer rhai digwyddiadau’n diflannu mewn munudau. Roedd hyn yn adlewyrchu’r galw mawr amdanynt;

2245.6 y cafwyd ymgyrch i annog myfyrwyr i gofrestru a phleidleisio; cafwyd ymgyrch fawr hefyd o ran Cronfeydd Hunaniaeth Rhywedd;

2245.7 bod Undeb y Myfyrwyr wedi cael swyddog Cymraeg ymroddedig am flwyddyn lawn a bod llawer o ganlyniadau a ddaeth i’r amlwg yn sgil y swydd hon wedi'u cynnwys ym Marn y Myfyrwyr.

2245.8 bod Undeb y Myfyrwyr unwaith eto wedi’i henwi’n 2il Undeb y Myfyrwyr Orau yn y DU, ac mai hon oedd yr orau yng Nghymru o hyd.

2246 Barn y Myfyrwyr 2024

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/615, 'Barn y Myfyrwyr 2024'. Siaradodd Llywydd Undeb y Myfyrwyr am yr eitem hon.

Nodwyd

2246.1 y lluniwyd pedair Barn y Myfyrwyr, a hynny ar y Brifysgol Gymreig, Hygyrchedd, Profiad Myfyrwyr ar Leoliadau Clinigol a Phrofiad Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig;

2246.2 bod y broses wedi’i diwygio rhywfaint, ac y gwahoddwyd myfyrwyr i roi adborth ar bum maes allweddol a nodwyd fel meysydd i'w gwella;

2246.3 ym Marn y Myfyrwyr ar y Brifysgol Gymreig, nodwyd bod y rhan fwyaf o sylwadau yn ymwneud â phreswylfeydd i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a’r galw mawr amdanynt; roedd llawer iawn o fyfyrwyr Cymraeg yn dymuno astudio yng Nghaerdydd, o gofio mai hon oedd yr unig Brifysgol Grŵp Russell yng Nghymru, a’u bod yn dymuno astudio yn Gymraeg ar y cyd â siaradwyr Cymraeg eraill; roedd aelodau o Undeb y Myfyrwyr wedi ymweld â phreswylfeydd tebyg yn Aberystwyth a Bangor, ac fe’u tarwyd gan yr ymdeimlad o gymuned yno.

2246.4 nodwyd mai dim ond 6.4% o fyfyrwyr y Brifysgol oedd yn siarad Cymraeg, o’u cymharu â 32% o fyfyrwyr sydd â’u domisil yng Nghymru; awgrymodd hyn bod angen annog rhagor o ddefnydd ar y Gymraeg, nid yn unig yn y Brifysgol ond drwy’r wlad hefyd; cafwyd trafodaeth yn y Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr am yr angen i ymwneud ag addysg cyfrwng Cymraeg cyn i fyfyrwyr ddod i’r Brifysgol; roedd myfyrwyr wedi tynnu sylw at yr angen i symleiddio'r cwestiynau cofrestru ar yr iaith Gymraeg (er enghraifft, gofyn i’r myfyrwyr a oeddent wedi astudio Cymraeg yn yr ysgol, yn hytrach na gofyn a oeddent yn siarad Cymraeg), ac angen i sicrhau nad oedd gostyngiad yn ansawdd y cyfathrebu pe gofynnid am y cwestiynau hyn yn Gymraeg;

2246.5 bod y Cyngor yn nodi pwysigrwydd lleoliadau clinigol i’r profiad myfyrwyr ehangach, a bod angen sicrhau dealltwriaeth gynhwysfawr am brofiad myfyrwyr ar leoliad; nodwyd bod y GIG yn hapus i gydweithio â’r Brifysgol ar y mater hwn;

2246.6 bod Barn y Myfyrwyr wedi cael ei thrafod yn y Senedd ac felly roedd wedi’i gweld gan y gymuned academaidd a'i bod yn cael sylw canolog ar lefel Prifysgol gyfan; roedd y Brifysgol yn paratoi ymateb ffurfiol i Farn y Myfyrwyr;

2246.7 bod y gefnogaeth yr oedd y Brifysgol yn ei rhoi i fyfyrwyr a oedd yn cael trafferthion ariannol yn gadarnhaol iawn a bod myfyrwyr yn aml yn teimlo’n ansicr ynghylch yr hyn oedd ar gael iddynt;

2246.8 bod cyfle i fynd i'r afael â rhai materion a godwyd trwy'r strategaeth ystadau.

2247 Ein dyfodol, gyda'n gilydd - Strategaeth Prifysgol Caerdydd hyd at 2035 a’r Llwybr Drafft

Derbyniwyd ac ystyriwyd papurau 23/719C, 'Ein dyfodol, gyda'n gilydd - strategaeth Prifysgol Caerdydd hyd at 2035 a’r Llwybr Drafft', a 23/812C, 'Dangosyddion Perfformiad Allweddol Newydd'. Siaradodd yr Is-Ganghellor am yr eitem hon.

Nodwyd

2247.1 bod y Prif Swyddog Trawsnewid wedi ymuno â'r cyfarfod;

2247.2 bod y Cyngor wedi gweld strategaeth ddrafft mewn cyfarfod blaenorol;

2247.3  y byddai’r enw ‘Hyb y Dyfodol’, a grybwyllir yn y papur, yn debygol o newid, gan fod corff o'r un enw wedi'i sefydlu'n ddiweddar gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol;

2247.4 bod y Sgwrs Fawr wedi’i lansio ym mis Medi 2023 a bod llawer o waith wedi’i wneud i ennyn diddordeb staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid; roedd y staff yn barod iawn i fod yn rhan o’r gwaith hwn, ac roedd unigolion eisoes yn gweithredu ar ei chynigion. Rhaid oedd atgoffa pobl nad oedd wedi'i chymeradwyo eto;

2247.5 bod y strategaeth yn eglur iawn o ran cadarnhau’r hyn oedd Prifysgol Caerdydd;

2247.6 bod y strategaeth wedi'i gwreiddio mewn gwerthoedd a dilysrwydd, ac y cafwyd croeso i hyn; efallai y byddai o fudd i’r strategaeth petai ymddygiadau yn cael eu hychwanegu ati;

2247.7 bod y nodau strategol i ddisgrifio’r hyn yr oedd y strategaeth yn ceisio’i gyflawni yn gyfyngedig, er y gellid eu codi o'r weledigaeth ar gyfer y Brifysgol hyd at 2035;

2247.8 bod y llwybr yn nodi sut y byddai’r Brifysgol yn dechrau cyflawni'r strategaeth, ond nodwyd nad oedd gwaith manwl wedi'i wneud eto ar bob elfen; byddai hon yn ddogfen fyw a bydd hon yn broses ailadroddol.

2247.9 bod tîm trawsnewid wedi'i sefydlu, gan gynnwys unigolion o gefndir Cynllunio Strategol, Cyfathrebu a Marchnata, Rheoli Portffolio ac Adnoddau Dynol, ac y byddai rhywun o’r Adran TG hefyd yn rhan ohono; gofynnid hefyd i gymuned ehangach y Brifysgol gyfrannu syniadau ac arbenigedd, gan gynnwys barn y gymuned academaidd a’r myfyrwyr;

2247.10 yr aethpwyd ati i gysylltu ag ymgynghorwyr allanol, gan ddefnyddio’r wybodaeth a'r arbenigedd sydd eisoes gan y sefydliad lle bo’n bosib;

2247.11 holwyd a oedd y strategaeth yn ddigon dylanwadol i gyflawni'r hyn yr oedd ei angen arni, ac a wnaed gwaith modelu ariannol i sicrhau bod hon yn strategaeth lwyddiannus;

2247.12 na ellid gwireddu’r model cyllido presennol ar lai o incwm, ac na ellid gwneud toriadau pellach; rhoddodd y strategaeth gyfle i'r Brifysgol nodi pa fath o sefydliad yr oedd yn dymuno bod yn y dyfodol a sut yr oedd yn dymuno newid;

2247.13 bod yr angen i gyflawni o safbwynt ariannol yn allweddol, yn ogystal â sicrhau bod pob cam yn cyfrannu at y model busnes cyffredinol yn y dyfodol; byddai cysylltu’r drafodaeth hon â chynaliadwyedd ariannol hefyd o gymorth wrth gyflwyno'r neges hon i staff;

2247.14  bod strategaeth gyfathrebu allanol yn cael ei datblygu; [Hepgorwyd];

2247.15 bod dull prifysgol gyfan yn allweddol i sicrhau’r twf, yr effeithlonrwydd a'r arallgyfeirio y mae eu hangen; byddai taro ar enw a fyddai’n amlygu’r dull hwn o gymorth; dylai'r gwaith cyd-greu a welwyd drwy gydol gweithgareddau’r Sgwrs Fawr barhau;

2247.16 y gallai fod angen ystyried diwylliant fel ffrwd waith ar wahân, a hynny er mwyn sicrhau bod popeth yn gydnaws â’i gilydd;

2247.17 bod y strategaeth ryngwladol yn denau o ran manylion, ac y byddai hyn yn risg ar sawl ystyr, yn enwedig o ystyried y marchnadoedd a'r tueddiadau sy’n prysur newid;

2247.18 y byddai angen ystyried penderfyniadau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol a’r newidiadau i faint a chwmpas y sector Cymreig;

2247.19 y gallai fod angen ystyried y Gymraeg o fewn y Dangosyddion Perfformiad Allweddol;

2247.20 mynegwyd y farn y gallai fod gormod o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol, ac y dylid eu hadolygu yng ngoleuni ffactorau neu nodau llwyddiant hanfodol clir;

2247.21 bod y Cyngor, i grynhoi, yn cefnogi’r strategaeth a’i fod yn awgrymu ymddygiadau ychwanegol i gyd-fynd â'r gwerthoedd, a chael rhagor o fanylion ynghylch nodau clir neu ffactorau llwyddiant.

Penderfynwyd

2247.22 cymeradwyo'r Strategaeth a'r Llwybr drafft, yn amodol ar ychwanegu nodau strategol clir neu ffactorau llwyddiant hollbwysig;

2247.23 parhau i graffu ar y sylwadau am y Dangosyddion Perfformiad Allweddol ac i'r Weithrediaeth gydweithio â Chadeirydd y Cyngor i’w datblygu fel y gellir eu trafod mewn cyfarfod yn y dyfodol.

Gadawodd yr Athro Urfan Khaliq y cyfarfod.

2248 Cyllideb Arfaethedig ar gyfer 2024/25, Rhagamcanion Ariannol ar gyfer 2025/26, 2026/27 a 2027/28

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/720CR 'Cyllideb Arfaethedig ar gyfer 2024/25, Rhagamcanion Ariannol ar gyfer 2025/26, 2026/27 a 2027/28’.  Siaradodd y Prif Swyddog Ariannol am yr eitem hon.

Nodwyd

2248.1 [Hepgorwyd];

2248.2 [Hepgorwyd];

2248.3 [Hepgorwyd];;

2248.4 [Hepgorwyd];

2248.5 [Hepgorwyd];

2248.6 [Hepgorwyd];

2248.7 [Hepgorwyd];

2248.8 [Hepgorwyd];

2248.9 [Hepgorwyd];

2248.10 [Hepgorwyd];

2248.11 [Hepgorwyd];

2248.12 [Hepgorwyd];

2248.13 [Hepgorwyd];

2248.14 [Hepgorwyd];

2248.15 [Hepgorwyd];

2248.16 [Hepgorwyd];

2248.17 [Hepgorwyd];

2248.18 [Hepgorwyd];

2248.19 [Hepgorwyd];

2248.20 [Hepgorwyd];

2248.21 [Hepgorwyd];

2248.22 [Hepgorwyd];

Penderfynwyd

2248.23 cymeradwyo cyllideb arfaethedig 2024/25.

2248.24  cymeradwyo tynnu £[Hepgorwyd] o’r cronfeydd wrth gefn;

2248.25 cymeradwyo cyflwyno rhagolygon y flwyddyn ar ôl y flwyddyn gyllideb gyfredol i CCAUC;

2248.26 cymeradwyo hysbysu CCAUC bod y Brifysgol yn debygol o fethu â chwrdd â chyfyngiad CCAUC ar Lif Arian Gweithredol Net wedi'i Addasu;

2248.27 cymeradwyo cysylltu â CCAUC i gytuno ar ddefnyddio Cyfleuster Credyd Cylchol.

Gadawodd Dr David Langley (Prif Swyddog Trawsnewid) y cyfarfod.

2249 Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/768, 'Cynllun Cydraddoldeb Strategol Drafft 2024-2028'. Siaradodd y Dirprwy Is-Ganghellor am yr eitem hon.

Nodwyd

2249.1 bod y Pennaeth Dros Dro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wedi ymuno â'r cyfarfod i helpu i gyflwyno'r eitem hon; diolchwyd i’r Pennaeth Dros Dro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant am y gwaith a wnaed ar yr eitem hon;

2249.2 bod gan y Brifysgol ddyletswydd statudol i gyhoeddi cynllun cydraddoldeb strategol bob 4 blynedd a’r bwriad oedd cyhoeddi'r fersiwn hon ochr yn ochr â'r strategaeth sefydliadol newydd, a hynny er mwyn sicrhau eu bod yn gydnaws â’i gilydd;

2249.3 bod y ddogfen yn canolbwyntio ar dri maes pwysig: cynefin (a oedd hefyd yn ymddangos yn y strategaeth sefydliadol), tegwch (cyfle cyfartal) a chyfrannu; roedd y ddogfen hefyd yn amlinellu sut y bydd y sefydliad yn symud tuag at ddull prifysgol gyfan o weithio, fel y pwysleisiwyd yn y strategaeth sefydliadol, gan fod cyfrifoldeb ar bawb i sicrhau bod y diwylliant hwn yn ennill ei blwy;

2249.4 bod hon yn ddogfen lefel uchel a bod cynllun gweithredu manwl yn cael ei ddatblygu i sicrhau bod pethau’n cael eu cyflawni a bod mesurau a thargedau’n cael eu nodi;

2249.5 ar ôl ei gymeradwyo, byddai'r cynllun yn cael ei gyhoeddi'n allanol, a byddai’n cael sylw drwy Blas, rhwydweithiau mewnol a Newyddion Myfyrwyr; roedd gwaith hefyd yn mynd rhagddo i adolygu sut yr oedd yr Adran Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn cael ei llywodraethu; byddai hyn yn golygu bod gwybodaeth yn cael ei rhaeadru’n well;

2249.6 nad oedd gan y Brifysgol bolisi gwisg ar hyn o bryd (neu bolisi i nodi nad oedd polisi’n bod) a oedd yn caniatáu i bobl benderfynu drostynt hwy eu hunain beth oedd yn briodol;

2249.7 bod gofyniad i gynnwys “gwrth-hiliol” yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol, ac nad oedd hyn yn atal neb rhag amddiffyn neu hybu nodweddion eraill.

Penderfynwyd

2249.8 ystyried polisi gwisg;

2249.9 cymeradwyo Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 er mwyn ei gyhoeddi.

Gadawodd yr Athro Fonesig Janet Finch, Jeremy Lewis, a Sarah Pryor (Pennaeth Dros Dro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant) y cyfarfod.

2250 Sero Net erbyn 2030 - Asesu’r Opsiynau

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/723HC, 'Sero Net erbyn 2030 - Asesu’r Opsiynau'. Siaradodd y Dirprwy Is-Ganghellor am yr eitem hon.

Nodwyd

2250.1 [Hepgorwyd];

2250.2 [Hepgorwyd];

2250.3 [Hepgorwyd];

2250.4 [Hepgorwyd];

2250.5 [Hepgorwyd];

2250.6 [Hepgorwyd];

2250.7 [Hepgorwyd];

2250.8 [Hepgorwyd];

2250.9 [Hepgorwyd];

2250.10 [Hepgorwyd];

2250.11 [Hepgorwyd];

2250.12 [Hepgorwyd];

2250.13 [Hepgorwyd].

Gadawodd TJ Rawlinson (Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau â Chyn-fyfyrwyr) ac Alice Milanese (Rheolwr Sero Net) y cyfarfod.

2251 Adroddiad Perfformiad Ystadau Blynyddol

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/746C, 'Adroddiad Perfformiad Ystadau Blynyddol.' Ymunodd y Cyfarwyddwr Ystadau â'r cyfarfod i siarad am yr eitem hon.

Nodwyd

2251.1 bod yr adroddiad yn crynhoi’r gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn flaenorol; roedd yn canolbwyntio ar gasglu data a sicrhau gwell dealltwriaeth am yr ystâd; roedd yr arolwg cyflwr yn fuddiol i ddeall gwir gyflwr yr ystâd;

2251.2 [Hepgorwyd]; bod data a dadansoddiadau pellach ar sut yr oedd mannau’n cael eu defnyddio hefyd yn sail i benderfyniadau;

2251.3 bod llawer iawn o waith wedi'i wneud ar ddefnydd ynni a charbon, a bod tîm newydd wedi’i sefydlu yn yr adran ystadau sy’n bwrw ‘mlaen â’r gwaith hwn;

2251.4 bod y tîm yn parhau i ymchwilio i gyfleoedd ariannu a benthyciadau er mwyn cynnal gwaith (e.e. cael bylbiau LED newydd);

2251.5 bod llawer o brosiectau allweddol yn dod i ben, a’r hyn fydd yn debygol o gael y sylw pennaf y flwyddyn nesaf fydd gwaith cynnal a chadw;

2251.6 bod cyllid wedi'i gymeradwyo ym mis Mehefin ar gyfer gwaith ar yr adnoddau anifeiliaid ac nad oedd diweddariad pellach yn barod ar hyn o bryd;

2251.7 bod camau'n cael eu cymryd i ddeall yn well sut mae mannau addysgu yn cael eu defnyddio (e.e. defnyddio amserlenni a systemau a meddalwedd amserlennu i fesur defnydd); roedd y ffigur a gynhwyswyd yn y papur yn seiliedig ar yr arolygiadau ffisegol a gynhaliwyd ar ddefnydd ystafelloedd yn ystod y tymor;

2251.8  y gallai fod cyfleoedd i gydweithio rhagor â chyrff eraill ar hyn (e.e. y GIG, Cyngor Caerdydd);

2251.9  bod angen newid diwylliant hefyd yn y modd y defnyddir mannau addysgu;

2251.10  y dylid diolch i'r Cyfarwyddwr Ystadau am y gwaith a wnaed yn y maes hwn.

Gadawodd John Shakeshaft ac Anita Edson (Cyfarwyddwr Ystadau) y cyfarfod.

2252 Canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024

Derbyniwyd ac ystyriwyd adroddiad llafar gan y Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, a ymunodd â'r cyfarfod i gyflwyno'r eitem hon.

Nodwyd

2252.1 bod yr Athro Urfan Khaliq wedi ailymuno â'r cyfarfod;

2252.2 bod cynnydd sylweddol wedi bod ym moddhad cyffredinol myfyrwyr, o 71% i 77.9%; dim ond cynnydd o 1% a gafwyd yn y sector yn gyffredinol; roedd hyn yn newyddion da a byddai'n cael ei ddefnyddio gan y rheoleiddiwr;

2252.3 bod perfformiad y Brifysgol wedi gwella ym mhob maes thematig ac yn yr holl ddangosyddion allweddol;

2252.4 bod perfformiad 21 o blith 24 o ysgolion wedi gwella, a bod perfformiad tair ysgol wedi gostwng (er nad o lawer); roedd data ysgolion yn aml yn gamarweiniol gan ei fod yn cwmpasu llawer o bynciau;

2252.5 bod y data pynciol yn cadarnhau bod perfformiad 44 o blith 62 pwnc wedi gwella, a bod perfformiad 19 ohonynt wedi gwella 10%; byddai'r data hwn yn cael ei adolygu gan CCAUC a'i ddefnyddio i rancio sefydliadau.

2252.6 y cafwyd gogwydd cadarnhaol o ran y rhaglenni, a bod rhagor ohonynt wedi sgorio 100% am foddhad myfyrwyr, 22 ohonynt yn sgorio 90% a nifer lai yn sgorio 70% ac yn is;

2252.7 y byddai CCAUC yn adolygu'r holl gwestiynau a sgoriodd islaw’r meincnod, ac y byddai’n gofyn am gynlluniau i fynd i’r afael â nhw; yn 2023 roedd 16 islaw’r meincnod ac roedd hyn wedi gostwng i ddim ond 6 yn 2024; parhaodd y cwestiwn am Undeb y Myfyrwyr i berfformio’n uwch na'r meincnod ac roedd yn perfformio'n dda;

2252.8 y byddai'r Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr yn cwrdd â CCAUC ddiwedd yr wythnos i drafod y canlyniadau;

2252.9 o ran y canlyniadau fesul pwnc, nodwyd bod 14 yn is na’r meincnod yn 2023 a bod y nifer bellach yn 12; bod rhai pynciau wedi bod yn is na’r meincnod yn 2023 hefyd (e.e. Gofal Iechyd, Deintyddiaeth, Economeg, Cyfrifiadureg) ond cafwyd gwelliannau eleni; roedd Peirianneg a Chemeg yn bynciau newydd a sgoriodd islaw’r meincnod; er bod y nifer o bynciau nad oeddent yn cyrraedd y trothwy yn siomedig, roedd y tueddiadau cyffredinol yn gadarnhaol;

2252.10 bod llawer o bynciau bellach yn perfformio’n is na’r meincnod ers tair neu bedair blynedd (Gofal Iechyd, Cyfrifiadureg, Peirianneg); y prif nod yn awr fyddai deall pam i’r ysgolion a'r pynciau hyn barhau i fod islaw’r meincnod a cheisio dyrannu cymorth ac adnoddau i liniaru hyn; parhaodd nyrsio i berfformio’n is na’r meincnod, er y nodwyd bod pob cwestiwn, ac eithrio hwnnw am foddhad myfyrwyr, wedi sgorio dros 80%, a awgrymai bod angen ystyried ffactorau y tu hwnt i’r addysgu;

2252.11 nad oedd Adran y Gyfraith nac Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol bellach yn cael eu monitro;

2252.12 er gwaetha’r newid cadarnhaol, nodwyd bod perfformiad y Brifysgol yn dal i fod yn is na chyfartaleddau’r sector yn gyffredinol a’r sector yng Nghymru; nid oedd safle’r Brifysgol wedi symud ‘chwaith ar lefel Cymru gyfan; fodd bynnag, gwelwyd gwelliannau mawr o ran ein cystadleuwyr yng Ngrŵp Russell. Yn hyn o beth, symud i safle 6 o blith 24 sefydliad o ran asesu ac adborth oedd y datblygiad mwyaf nodedig;

2252.13 bod ysgolion wedi gwneud llawer o waith i sicrhau'r newid hwn a’i bod yn braf gweld ffrwyth prosiectau o fewn y Portffolio Addysg a Phrofiad Myfyrwyr yn cael effaith; roedd hyn yn dangos bod y blaenoriaethau cywir wedi’u dewis a bod yr ysgolion wedi canolbwyntio ar y pethau cywir;

2252.14 nad oedd effaith y Boicot Marcio ac Asesu ar rai ysgolion i’w gweld wedi’i hadlewyrchu yn y data, er yr amheuaeth y gallai’r Boicot fod wedi chwarae rhan yng nghwymp Ffiseg fel pwnc; nodwyd bod Ffiseg yn parhau i berfformio'n dda;

2252.15 bod y data deilliannau graddedigion hefyd yn gadarnhaol, sy’n dangos bod myfyrwyr Caerdydd yn gyflogadwy iawn (13eg safle yng Ngrŵp Russell, 20fed safle ar lefel sector, a'r brifysgol orau yng Nghymru);

2252.16 y byddai'r data yn cael ei rannu ag Uwch Staff yn y dyddiau nesaf a'i drafod â CCAUC; byddai rhagor o waith yn cael ei wneud i ddadansoddi’r data; byddai myfyrwyr sy'n ymuno ym mis Medi yn cael eu diweddaru ar hyn a weithiodd yn dda a'r strategaeth at y dyfodol; byddai gwaith hefyd yn cael ei wneud gyda chyd-weithwyr yn y Gwasanaethau Proffesiynol i ddeall eu heffaith ar brofiad myfyrwyr;

2252.17 llongyfarchwyd y Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr ar yr arweinyddiaeth, y gwaith a'r gwelliannau sylweddol hyn, a llongyfarchwyd y tîm ehangach.

Gadawodd Claire Morgan (Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr) y cyfarfod.

2253 Adroddiad Cyllid

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/726C, 'Adroddiad Cyllid'. Siaradodd y Prif Swyddog Ariannol am yr eitem hon.

Nodwyd

2253.1 bod y papur yn amlinellu sefyllfa’r Colegau a'r Gwasanaethau Proffesiynol o'r gwaelod i fyny; ychydig o graffu a fu o ganlyniad i’r gwaith ynghlwm wrth baratoi’r gyllideb;

2253.2 bod perfformiad Chwarter 3 o’i gymharu â 2022/23 yn darlunio sefyllfa gadarn. Roedd hyn yn adlewyrchu'r effaith sylweddol a gafodd y gostyngiad yn y nifer o fyfyrwyr rhyngwladol a recriwtiwyd a’r argyfwng costau byw, ac felly pa mor fregus oedd y system;

2253.3 bod y naratif yn awgrymu na fyddai modd sicrhau arbedion, a bod pwysau’n dal i fod ar y Brifysgol i sicrhau’r arbedion hyn (e.e. rheolaethau recriwtio);

2253.4 bod ffigurau mis Mai yn nodi bod y Brifysgol yn perfformio [Ffigurau wedi'u Hepgor] yn well na’r rhagolygon ar gyfer Chwarter 3; anogwyd y Brifysgol i ddal gafael ar yr enillion hyn lle bynnag y bo'n bosibl.

2254 Diweddariad Blynyddol ar Gynlluniau Pensiwn y Brifysgol

Cyflwynwyd ac ystyriwyd papur 23/727C, 'Diweddariad Blynyddol ar Gynlluniau Pensiwn y Brifysgol'. Siaradodd y Prif Swyddog Ariannol am yr eitem hon.

Nodwyd

2254.1 y daeth yr USS â’r prisiad diweddaraf i rym, a bod cyfraniadau gweithwyr wedi gostwng o 9.8% i 6.1% a bod cyfraniadau cyflogwyr wedi gostwng o 21.8% i 14.5%; nid oedd yr arbedion hyn o fantais i’r Brifysgol oherwydd y sefyllfa ariannol gyffredinol.

2254.2 bod prisiad Gorffennaf 2022 ar gyfer Cronfa Bensiwn Prifysgol Caerdydd wedi dod i rym, ac i hyn arwain at arbedion bychain i'r Brifysgol;

2254.3 bod twf wedi bod yn aelodaeth y cynlluniau, a bod ffigurau Cynllun Pensiwn Prifysgol Caerdydd a Chronfa Bensiwn Prifysgol Caerdydd yn uwch nag yr oeddent ar ddiwedd 2022; un o’r prif resymau dros hyn oedd bod y cynllun bellach yn fwy fforddiadwy; cafodd hyn effaith ariannol ar y Brifysgol ac fe’i hymgorfforwyd yng nghyllidebau’r Brifysgol i’r dyfodol.

2255 Adroddiad gan y Pwyllgor Dileu Swyddi i'r Cyngor

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/766C, 'Adroddiad gan y Pwyllgor Dileu Swyddi i'r Cyngor'. Ymunodd y Cyfarwyddwr AD Dros Dro â'r cyfarfod i gyflwyno'r eitem hon;

Nodwyd

2255.1 bod y papur blynyddol hwn yn adlewyrchu’r newidiadau a wnaed yn ystod y flwyddyn flaenorol;

2255.2 bod y papur yn gofyn am ddirprwyaeth i wasanaethu ar y Pwyllgor Dileu Swyddi er mwyn gwneud penderfyniadau ar ran y Cyngor, i Gadeirydd y Cyngor gymeradwyo penderfyniadau'r Pwyllgor Dileu Swyddi, ac i'r Cyfarwyddwr AD gyhoeddi hysbysiadau diswyddo; manylwyd yn y papur ar y nifer dangosol o gontractau tymor penodol a chontractau penagored â ffactorau perthnasol sydd mewn perygl o gael eu dileu yn y flwyddyn sydd i ddod;

2255.3 [Hepgorwyd];

2255.4 [Hepgorwyd].

Penderfynwyd

2255.5 cymeradwyo'r weithdrefn mewn perthynas â'r ddau gategori perthnasol o staff (fel y manylir yn y papur hwn) am 12 mis o fis Hydref 2024;

2255.6 penderfynu ei bod yn ddymunol bod gostyngiad yn y staff academaidd mewn perthynas â therfynu contractau rhagamcanol y ddau gategori perthnasol o staff academaidd ar draws y Brifysgol dros y flwyddyn ganlynol o 1 Hydref 2024.

2255.7 sefydlu Pwyllgorau Dileu Swyddi i ystyried terfyniadau o'r fath;

2255.8 dirprwyo i Gadeirydd neu i Ddirprwy Gadeirydd y Cyngor yr awdurdod, o dan baragraff 11(2) o Ran I o Statud XV, i gymeradwyo unrhyw argymhelliad a wneir gan y Pwyllgor Dileu Swyddi ynglŷn â pha swyddi y dylid eu dethol;

2255.9 dirprwyo awdurdod o dan baragraff 12(1) o Ran I o Statud XV i'r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol i gyhoeddi hysbysiadau diswyddo;

2255.10 cymeradwyo'r achos dros y bwriad i roi'r gorau i weithgaredd [Hepgorwyd yn Rhannol], fel y disgrifir yn yr achos busnes (Atodiad 2);

2255.11 cymeradwyo'r achos dros y bwriad i roi'r gorau i weithgaredd o fewn [Hepgorwyd yn Rhannol], fel y disgrifir yn yr achos busnes (Atodiad 3).

Gadawodd Dr Juan Pereiro Viterbo y cyfarfod.

2256 Adroddiad gan y Senedd

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/761, 'Adroddiad gan y Senedd'.

Nodwyd

2256.1 nad oedd yn eglur sut yr oedd y papur hwn yn rhoi sicrwydd i'r Cyngor; nodwyd y byddai hyn yn cael ei godi yn yr Adolygiad Dwysiambr.

Penderfynwyd

2256.2 cymeradwyo Dyddiadau'r Flwyddyn Academaidd ar gyfer 2025/26

2256.3 cymeradwyo'r Datganiad Canlyniadau Graddau i'w gyhoeddi.

2257 Strategaeth Preswylfeydd 2024

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/724C, 'Strategaeth Preswylfeydd 2024'.

Nodwyd

2257.1  y byddai'n ddefnyddiol gwybod beth fyddai'n newid o ran yr egwyddorion pe bai llai o gyllid na’r disgwyl yn cael ei ddyrannu.

Penderfynwyd

2257.2 y dylid rhannu gwybodaeth am yr hyn fyddai'n newid pe na bai’r holl arian y gofynnwyd amdano ar gael;

2257.3 cymeradwyo’r penderfyniad bod y Brifysgol yn mabwysiadu'r Strategaeth Preswylfeydd fel dogfen egwyddorion trosfwaol.

2258 Unrhyw Fater Arall

Nodwyd

2258.1 y daethpwyd â’r gwaith cychwynnol i adolygu is-bwyllgorau'r Cyngor a'u swyddogaethau a'u cylchoedd gwaith i ben am y tro wrth i’r strategaeth newydd ennill ei phlwy’, ac y byddai’r gwaith hwn yn ailgychwyn yn 2024-25;

2258.2 bod y Cyngor yn diolch i Jan Juillerat a Julie-Anne Johnston am eu cyfraniadau, gan mai hwn oedd eu cyfarfod diwethaf.

2259 Polisi Moeseg Ymchwil Ddynol Diwygiedig

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/756, 'Polisi Moeseg Ymchwil Ddynol Diwygiedig'.

Penderfynwyd

2259.1 cymeradwyo'r polisi diwygiedig a'r fframwaith newydd.

2260 Adolygiad o Gytundeb Ariannol Undeb y Myfyrwyr 2023-24

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/728C, 'Adolygiad Blynyddol o Gytundeb Ariannol Undeb y Myfyrwyr'.

Penderfynwyd

2260.1 cymeradwyo canlyniad yr adolygiad ar gyfer 2023/2024, gan nodi na chynigiwyd dim newidiadau ar hyn o bryd.

2261 Diwygiadau i Ordinhadau

Derbyniwyd ac ystyriwyd papurau 23/669, 'Ordinhad 6 — Canghellor a Dirprwy Gangellorion' a 23/754C 'Diwygiad i Ordinhad 9 — Cynnig i ailstrwythuro’r arweinyddiaeth academaidd ar gyfer gweithgarwch rhyngwladol'.

Penderfynwyd

2261.1 cymeradwyo'r newidiadau arfaethedig i Ordinhad 6;

2261.2 cymeradwyo'r diwygiad arfaethedig i Ordinhad 9 — dylai Cyrff Academaidd adlewyrchu'r newid strwythur o Ddeoniaid Gweithgarwch Rhyngwladol y Coleg i Ddeoniaid Rhanbarthol.

2262 Cyfansoddiad y Pwyllgor Taliadau

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/566HCR, 'Cylch Gorchwyl Diwygiedig y Pwyllgor Taliadau'.

Penderfynwyd

2262.1 cymeradwyo Cyfansoddiad diwygiedig y Pwyllgor Taliadau.

2263 Polisi Taliadau, Budd-daliadau a Threuliau Ymddiriedolwyr

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/661CR, 'Polisi Taliadau, Budd-daliadau a Threuliau Ymddiriedolwyr’.

Penderfynwyd

2263.1 cymeradwyo Polisi Taliadau, Budd-daliadau a Threuliau Ymddiriedolwyr.

2264 Eitemau a Dderbyniwyd er Gwybodaeth

  • 23/781C Adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg
  • 23/790C Adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau
  • 23/735C Diweddariadau ar Gynlluniau Buddsoddi – Cynllun Buddsoddi Cyfalaf 2018-23 a Chynllun Buddsoddi Tymor Byr 2021-23
  • 23/729C Dangosfwrdd Adnoddau Dynol
  • 23/736C Adroddiad blynyddol ar weithgareddau Mentrau ar y Cyd Prifysgol Caerdydd 2022-23
  • 23/763C Adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu
  • 23/764C Adroddiad gan y Pwyllgor Taliadau i'r Cyngor
  • 23/676 Teitlau Emeritws ac Emerita a ddyfarnwyd ers 1 Ebrill 2023
  • 23/677CR Adroddiad gan y Pwyllgor Cymrodoriaethau a Graddau er Anrhydedd
  • 23/762 Amserlen fusnes ar gyfer y flwyddyn i ddod
  • 23/658 Rhaglen Hyfforddiant a Sefydlu'r Cyngor 2024-25
  • 23/760 Selio Trafodion
  • 23/765C Diweddariad ar y Pwyllgor Cwynion
  • 23/688HC Diweddariad ar Ddigwyddiadau Mawr a Difrifol (darperir ar wahân ar Ddesg y Cyfarwyddwr)