Senedd Cofnodion 12 Mehefin 2024
- Dyddiad dod i rym:
- Diweddarwyd ddiwethaf:
- Lawrlwytho'r ddogfen hon (PDF, 257.0 KB)
Cofnodion Cyfarfod Senedd Prifysgol Caerdydd a gynhaliwyd ddydd Mercher 12 Mehefin 2024 am 14.00, yn narlithfa Adeilad Hadyn Ellis.
Presenoldeb
Yr Athro Wendy Larner | P | Dr Nicholas Jones | P |
Angie Flores Acuña | P | Dr Hesam Kamalipour | P |
Yr Athro Rudolf Allemann | P | Dr Tahl Kaminer | P |
Yr Athro Stuart Allan | P | Yr Athro Deborah Kays | A |
Yr Athro Rachel Ashworth | P | Yr Athro Andrew Kerr | A |
Dr Thomas Beach | P | Yr Athro Urfan Khaliq | P |
Yr Athro Roger Behrend | A | Yr Athro Alan Kwan | P |
Yr Athro Anthony Bennett | P | Yr Athro Mark Llewellyn | A |
Dr Emma Blain | P | Yr Athro Eshwar Mahenthiralingam | P |
Yr Athro Kate Brain | P | Alex Meers | A |
Yr Athro Gill Bristow | A | Claire Morgan | P |
Dr Andreas Buerki | P | Rebecca Newsome | A |
Yr Athro Christine Bundy | P | Yr Athro Gerard O'Grady | P |
Dr Cindy Carter | Dr James Osborne | A | |
Yr Athro David Clarke | P | Deio Owen | P |
Lauren Cockayne | P | Joanne Pagett | |
Suzi Cousins | P | Micaela Panes | P |
Yr Athro Vicki Cummings | P | Dr Vassiliki Papatsiba | P |
Yr Athro Juliet Davis | P | Dr Juan Pereiro Viterbo | A |
Michelle Deininger | Dr Jenny Pike | P | |
Dr David Doddington | P | Abyd Quinn-Aziz | P |
Dr Luzia Dominguez | A | Dr Caroline Rae | P |
Dr Derek Dunne | P | Michael Reade | P |
Yr Athro Dominic Dwyer | A | Kate Richards | P |
Yr Athro Edwin Egede | P | Yr Athro Stephen Riley | A |
Yr Athro Rachel Errington | A | Dominic Roche | P |
Fflur Evans | A | Noah Russell | P |
Yr Athro Dylan Foster Evans | P | Yr Athro Gavin Shaddick | P |
Graham Getheridge | Yr Athro Katherine Shelton | P | |
Yr Athro Hayley Gomez | P | Dr Andy Skyrme | A |
Yr Athro Julian Gould-Williams | A | Helen Spittle | P |
Yr Athro Mark Gumbleton | P | Georgia Spry | P |
Yr Athro Thomas Hall | P | Tracey Stanley | P |
Dr Natasha Hammond-Browning | P | Yr Athro Phil Stephens | A |
Yr Athro Adam Hedgecoe | P | Yr Athro Patrick Sutton | A |
Dr Monika Hennemann | P | Dr Catherine Teehan | P |
Dr Jonathan Hewitt | A | Grace Thomas | P |
Madison Hutchinson | P | Dr Jonathan Thompson | P |
Yr Athro Aseem Inam | Yr Athro Damian Walford Davies | P | |
Yr Athro Nicola Innes | A | Matt Walsh | P |
Claire Jaynes | Dr Catherine Walsh | P | |
Yr Athro Dafydd Jones | A | Yr Athro Roger Whitaker | A |
Dr Kathryn Jones | A | Yr Athro John Wild | P |
Yn Bresennol
Hayley Beckett, Katy Dale (cofnodion), Ruth Davies, Laura Davies, Rhodri Evans, Tom Hay, Luke Jehu, David Langley, Sian Marshall, Dr Olaya Moldes Andres, Greg Mothersdale, Daniel Palmer, TJ Rawlinson, Dr Sian Rees, Cadi Rhys Thomas, Dr Henrietta Standley, Yr Athro Jason Tucker, Yr Athro Karin Wahl-Jorgensen, Simon Wright, Darren Xiberras, Xuesheng You
1069 Croeso a chyflwyniadau
Nodwyd
1069.1 bod yr aelodau newydd a oedd yn mynychu eu cyfarfod cyntaf wedi’u croesawu (Yr Athro Gavin Shaddick, Rhag Is-ganghellor y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg; yr Athro Stuart Allan, Pennaeth Dros Dro Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth; Dr Kathryn Jones, Pennaeth Ysgol y Gwyddorau Cyfrifiadurol; Yr Athro Deborah Kays, Pennaeth yr Ysgol Gemeg; yr Athro Phil Stephens, Pennaeth Dros Dro yr Ysgol Ddeintyddiaeth; Dr Vassiliki Papatsiba, aelod o’r staff academaidd);
1069.2 bod y rhai a oedd yn arsylwi’r cyfarfod wedi’u croesawu (aelodau newydd y Senedd ar gyfer 2024-25: Olaya Moldes Andres, Greg Mothersdale, Cadi Rhys Thomas, Xuesheng You, Luke Jehu; Sian Rees, aelod o'r Cyngor; a Dave Langley, y Prif Swyddog Trawsnewid).
1070 Ymddiheuriadau am absenoldeb
Nodwyd
1070.1 y byddai'r ymddiheuriadau a oedd wedi dod o law yn cael eu cofnodi yn y cofnodion.
1071 Datgan buddiannau
Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau am y gofyniad iddynt ddatgelu unrhyw fuddiannau uniongyrchol neu anuniongyrchol a allai ddylanwadu ar eu barn. Nodwyd y dylid datgelu buddiannau cyn i eitem gael ei thrafod, a dylai’r unigolyn o dan sylw naill ai adael y cyfarfod neu beidio â chymryd rhan yn y drafodaeth, fel y bo’n briodol ar gyfer y rhan honno o’r agenda.
Nodwyd
1071.1 na wnaeth unrhyw aelod ddatgelu unrhyw fuddiannau.
1072 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/672, ‘Cofnodion y cyfarfod blaenorol ar 6 Mawrth 2024’. Siaradodd y Cadeirydd am yr eitem hon.
Nodwyd
1072.1 bod gwelliant i gofnod 1061.9 wedi dod i law, a chynigiwyd gwelliant o “… roedd y canfyddiadau hefyd yn dangos bod myfyrwyr gwyn o’r DU ddwywaith yn fwy tebygol o wneud cynnydd na myfyrwyr Du”, i “… roedd y canfyddiadau hefyd yn dangos bod y gymhareb siawns ar gyfer gwneud cynnydd ar gyfer myfyrwyr gwyn o’r DU ychydig yn fwy na dwywaith yn fwy na myfyrwyr Du”;
1072.2 yn dilyn ymholiad, canfuwyd y dylid newid y swm o £250m a ddyfynnwyd yng nghofnod 1065.5 i £2.5m.
Penderfynwyd
1072.3 cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol yn amodol ar y newid i 1061.9 ac eglurhad o'r ffigur yn 1065.5.
1073 Materion yn codi
Nodwyd nad oedd unrhyw faterion yn codi.
1074 Eitemau gan y Cadeirydd
Nodwyd
1074.1 bod dau gam gweithredu'r Cadeirydd wedi'u cyflawni ers y cyfarfod diwethaf, a oedd yn ymwneud â sefydlu cronfeydd gwaddol o Gronfa Ymddiriedolaeth Addysgol John a Tydfil Thomas a Bwrsari Dr Brian Rees.
1075 Adroddiad gan yr Is-Ganghellor
Cafwyd papur 23/673C ‘Adroddiad yr Is-Ganghellor i'r Senedd’ ac fe’i hystyriwyd. Siaradodd y Cadeirydd am yr eitem hon.
Nodwyd
1075.1 bod yr adroddiad yn manylu ar estyniadau i gyfnod swydd yr aelodau o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol; byddai hyn yn helpu i feithrin gallu o ran arweinyddiaeth dros y blynyddoedd i ddod a sicrhau parhad;
1075.2 bod recriwtio myfyrwyr ar gyfer 2024/25 yn argoeli i fod yn heriol; er i adolygiad y Pwyllgor Cynghori ar Fudo argymell dim newid i’r llwybr graddedigion, roedd yr adolygiad wedi effeithio ar recriwtio myfyrwyr rhyngwladol a disgwyliwyd cwymp sylweddol; yng ngoleuni hyn, roedd targedau ar gyfer recriwtio israddedigion cartref yn cael eu hadolygu, gyda golwg ar gydbwyso twf yn erbyn cynaliadwyedd ariannol, a disgwylid y byddai pwysau pellach yn ystod y broses glirio;
1075.3 bod y Brifysgol wedi disgyn i’r 186ain safle yn y gynghrair QS ddiweddar a bod hyn yn peri pryder; roedd hyn hefyd yn rhoi rhagor o bwysau ar recriwtio myfyrwyr rhyngwladol, gan fod gostyngiad mewn niferoedd yn cael llai o effaith ar sefydliadau addysg uwch sydd o fewn y 100 uchaf; byddai'r Rhag Is-Ganghellor Gweithgarwch Rhyngwladol yn datblygu strategaeth raddio gyda nod o wella safle'r brifysgol ar dablau cynghrair;
1075.4 bod y brifysgol wedi bod mewn trafodaethau gyda myfyrwyr yn y gwersyll y tu allan i flaen y prif adeilad, a drefnwyd gan Undeb y Myfyrwyr; roedd trafodaethau'n parhau ac roedd Undeb y Myfyrwyr wedi ymrwymo i barhau i hwyluso sgyrsiau; nid oedd yn glir pryd y byddai trafodaethau'n dod i ben; roedd pawb yn gytûn ynghylch trasiedi’r sefyllfa yn Israel a Phalesteina a'r angen i chwarae rhan mewn ailadeiladu Gaza drwy waith gyda’r Cyngor ar gyfer Academyddion Agored i Niwed a Universities UK; amlygwyd bod yr iaith a ddefnyddir ynglŷn â’r pwnc hwn yn allweddol.
1076 Strategaeth newydd
Cafwyd adroddiad llafar gan yr Is-Ganghellor ac fe’i hystyriwyd.
Nodwyd
1076.1 bod yr Is-Ganghellor wedi diolch i bawb a fu'n ymwneud â'r Sgwrs Fawr a'r trafodaethau ynghylch y strategaeth newydd;
1076.2 bod cenhadaeth wedi’i diffinio, gyda thri dull allweddol wedi’u nodi i’w chyflawni (sef cynnig profiad addysg rhagorol; cynhyrchu gwybodaeth newydd; a gweithredu fel sefydliad angori yn y ddinas-ranbarth);
1076.3 bod y strategaeth ddrafft wedyn wedi'i dosbarthu drwy ddigwyddiadau Blas a digwyddiadau mewn neuaddau tref a gynhaliwyd gyda'r Is-Ganghellor; roedd adborth wedi’i gasglu a nifer o fân newidiadau wedi’u nodi a oedd yn cynnwys, ymhlith eraill:
.1 mwy o amlygrwydd o ran addysgu, ysgolheictod a rhyddid academaidd;
.2 mwy o amlygrwydd o ran uchelgeisiau byd-eang y brifysgol a mwy o amlygrwydd o ran cyn-fyfyrwyr;
.3 amlygu ymhellach ymrwymiad y brifysgol i ddwyieithrwydd;
1076.4 bod y strategaeth i barhau ar ffurf drafft hyd nes y byddai wedi cael cymeradwyaeth y cyngor ym mis Gorffennaf;
1076.5 bod y Prif Swyddog Trawsnewid yn datblygu map trywydd ar gyfer cyflawni'r strategaeth a'i fod wedi nodi tri gorwel allweddol;
.1 y cyntaf yw sicrhau bod yr hanfodion ar waith i alluogi newid;
.2 yr ail yw adeiladu momentwm ar gyfer newid, er mwyn adeiladu ar ddyheadau a'u gwreiddio;
.3 y trydydd yw bwrw ymlaen â dyheadau tymor hwy;
1076.6 bod rhagor o sylw yn cael ei roi i lywodraethiant a
dangosyddion perfformiad allweddol yn y dyfodol;
1076.7 byddai'r strategaeth derfynol, y map trywydd, a'r gyllideb yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau ac yna i'r cyngor; roedd yn bwysig bod y tair dogfen yn cyd-fynd â’i gilydd;
1076.8 y byddai'r ethos cyfranogol yn parhau i'r cam gweithredu; byddai sesiynau galw heibio gyda'r Is-Ganghellor yn cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf er mwyn darparu cyfleoedd ar gyfer trafodaethau ac adborth; amlygwyd pwysigrwydd cynnwys myfyrwyr yn y broses hon; nodwyd na fyddai pob penderfyniad yn gallu cael ei wneud drwy gonsensws ac y byddai rhai penderfyniadau yn anodd, ond pwysleisiodd yr Is-Ganghellor yr awydd i barhau i gynnwys staff a myfyrwyr yn y broses o wneud penderfyniadau pan fo modd.
1077 Barn y Myfyrwyr
Cafwyd papur 23/615, ‘Barn y Myfyrwyr’ ac fe’i h ystyriwyd. Siaradodd Llywydd Undeb y Myfyrwyr, Is-lywydd y Gymraeg, Diwylliant a Chymuned, Is-lywydd Myfyrwyr Ôl-raddedig (Addysg a Lles), Is-lywydd Myfyrwyr Israddedig (Addysg a Lles), Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli, ac Is-lywydd Chwaraeon a Llywydd yr Undeb Athletau ar yr eitem hon.
Nodwyd
1077.1 bod Barn y Myfyrwyr yn gyflwyniad blynyddol a wnaed gan Undeb y Myfyrwyr i'r Brifysgol a oedd yn gwneud argymhellion ar gyfer newidiadau er mwy gwella profiad myfyrwyr;
1077.2 bod Undeb y Myfyrwyr yn parhau i weithio gyda'r brifysgol ar gamau gweithredu o farn myfyrwyr a gyflwynwyd yn flaenorol, a'u bod yn awyddus i weld cynnydd yn parhau i gael ei wneud yn y meysydd hyn;
1077.3 bod y data ar gyfer Barn Myfyrwyr wedi'u casglu o ymgyrchoedd (fel yr Wythnos Siarad) a phrosesau adborth eraill (ee paneli myfyrwyr-staff); eleni, roedd Undeb y Myfyrwyr wedi diwygio proses yr Wythnos Siarad ac wedi gofyn i fyfyrwyr am eu barn ar bum maes a nodwyd ar gyfer eu gwella;
1077.4 bod Barn y Myfyrwyr eleni wedi'i rannu â’r Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr ymlaen llaw, er mwyn sicrhau bod argymhellion yn cael eu rhannu'n brydlon â'r bobl gywir ac er mwyn cyfyngu ar yr oedi cyn cytuno ar gamau gweithredu a'u rhoi ar waith;
1077.5 y byddai ymateb ffurfiol i'r argymhellion yn cael ei gyhoeddi gan y brifysgol yn yr hydref;
Barn y Myfyrwyr ar Brifysgol Gymreig
1077.6 fel y brifysgol fwyaf yng Nghymru, ei bod yn bwysig sicrhau bod myfyrwyr yn gallu astudio yn yr iaith a ddymunant ac felly nodwyd rhai o’r gwelliannau a awgrymwyd i'r profiad academaidd;
1077.7 bod angen hefyd cefnogi myfyrwyr y tu allan i addysg (“Y Pethau Bach Mawr”), megis darpariaeth ystadau dwyieithog a’r gallu i gael cyfathrebiadau yn Gymraeg;
1077.8 bod diwylliant Cymreig hefyd yn allweddol ac yn golygu mwy nag ymdrechion symbolaidd; roedd awgrymiadau'n cynnwys ymgysylltu ymhellach â'r gymuned a digwyddiadau;
1077.9 yr argymhellwyd y dylid ystyried darpariaeth ychwanegol o ran neuaddau preswyl Cymraeg;
1077.10 pwysigrwydd cynnal ansawdd y ddarpariaeth Gymraeg; hyd yma, nid oedd adborth gan fyfyrwyr wedi nodi pryderon yn y maes hwn;
Barn y Myfyrwyr ar Hygyrchedd
1077.11 bod pum thema allweddol, sef hygyrchedd ariannol, diogelwch y campws, cludiant, hygyrchedd corfforol ar y campws a hygyrchedd llesiant;
1077.12 bod cludiant yn aml yn cael ei godi gan fyfyrwyr fel maes i'w wella;
1077.13 bod angen ystyried hygyrchedd wrth amserlennu, er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn cael digon o amser i deithio rhwng lleoliadau;
1077.14 bod argymhelliad 4 (hyfforddi staff i ymyrryd yn ystod digwyddiadau) yn canolbwyntio ar hyfforddi staff rheng flaen megis staff diogelwch a’r staff mewn neuaddau preswyl;
Barn y Myfyrwyr ar y Profiad o fod yn Fyfyriwr Ymchwil Ôl-raddedig
1077.15 mai hwn oedd Barn y Myfyrwyr cyntaf a oedd wedi canolbwyntio'n benodol ar fyfyrwyr ôl-raddedig;
1077.16 bod pum thema allweddol wedi’u nodi, sef addysgu ôl-raddedig ac arddangos, cymuned a pherthyn, cymorth academaidd a chymorth i fyfyrwyr, cyllid a brwydr ariannol, a goruchwyliaeth;
1077.17 bod llawer iawn o waith wedi'i wneud i sicrhau contractau ffurfiol ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sy'n addysgu, a bod angen gwneud gwaith nawr i fonitro sut roedd yr ymrwymiad yn cael ei weithredu;
1077.18 nad oedd myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn aml yn teimlo'n rhan o gymuned y brifysgol; roedd enghreifftiau o arferion da mewn ysgolion, y gellid eu rhannu; roedd angen adolygu cyfathrebiadau ynghylch cynigion cymorth hefyd, gan fod y rhain yn aml wedi’u teilwra ar gyfer myfyrwyr israddedig;
1077.19 bod argymhelliad 17 yn nodi gostyngiad yn nifer y myfyrwyr fesul goruchwyliwr; amlygwyd bod hyn wedi'i gyfyngu i chwech ar hyn o bryd, ond mewn gwirionedd, roedd yn aml yn sylweddol uwch;
1077.20 y cadarnhawyd y byddai tiwtoriaid cyrsiau ymchwil ôl-raddedig yn cael eu cynnwys fel rhan o’r trefniadau presennol i rewi prosesau recriwtio; nodwyd bod cyfleoedd addysgu ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig wedi'u nodi ar wefan y brifysgol fel rhan o'r ddarpariaeth ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig; cadarnhawyd y byddai penderfyniadau a wneir mewn perthynas â'r sefyllfa ariannol yn ystyried pryderon myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig; amlygwyd bod y sefyllfa ariannol bresennol yn atal y brifysgol rhag parhau fel arfer;
Barn y Myfyrwyr ar Brofiad Lleoliadau Clinigol
1077.21 bod myfyrwyr a oedd yn ymgymryd â lleoliadau clinigol yn dod o’r Ysgol Ddeintyddiaeth, yr Ysgol Gofal Iechyd, yr Ysgol Feddygaeth, Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg, a’r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol;
1077.22 y nodwyd bod hygyrchedd o ran cludiant yn amrywio rhwng ysgolion ac nid oedd yn glir ble i gael gwybodaeth am hyn;
1077.23 bod angen sicrhau bod y llety a ddarperir i fyfyrwyr ar leoliad clinigol yn ddiogel ac o ansawdd da;
1077.24 y byddai cyfleoedd i gymdeithasu a chreu ymdeimlad o gymuned tra ar leoliad yn helpu i wella profiad myfyrwyr;
1077.25 bod nifer o argymhellion wedi'u cynnwys ynghylch gwella cymorth i fyfyrwyr; nodwyd hefyd y dylid gadael i fyfyrwyr wybod sut mae eu hadborth wedi cael ei ddefnyddio i wella gweithgareddau lleoliad;
1077.26 bod argymhelliad 9 (adolygiad o’r Tîm Ymateb i Ddatgeliadau) wedi’i gynnwys o dan Farn y Myfyrwyr ynghylch Lleoliadau Clinigol, gan fod myfyrwyr yn aml hefyd yn ymwneud â’r GIG ac yn ansicr ble i adrodd am eitemau; roedd cynnig “Amser i Weithredu” wedi'i godi yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Undeb y Myfyrwyr a sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen i adolygu'r broses ddatgelu.
1078 Adroddiad y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd i'r Senedd
Cafwyd papur 23/674 ‘Adroddiad y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd i'r Senedd’. Siaradodd y Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr am yr eitem hon.
Nodwyd
1078.1 bod nifer o newidiadau o ran polisïau a rheoliadau wedi'u cynnwys i'r Senedd eu cymeradwyo, a manylir arnynt yn llawn ym mhapur 23/680;
1078.2 y bu adolygiad helaeth o'r Polisi Addasiadau Rhesymol, a oedd yn rhan hanfodol o'r ddarpariaeth addysg, gyda golwg ar sicrhau cynhwysiant;
1078.3 bod adolygiad helaeth tebyg wedi'i gynnal o'r Polisi Amgylchiadau Esgusodol Ymchwil Ôl-raddedig a'r Polisi Gohirio Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig diwygiedig;
1078.4 bod y Polisi Monitro ac Adolygu wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau yn yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd;
1078.5 bod nifer o bwyntiau manwl wedi'u codi mewn perthynas â'r Polisi Partneriaethau Addysg yng nghyfarfod blaenorol y Senedd a bod adborth wedi cael ei roi i'r aelodau hynny;
1078.6 bod y papur hefyd yn cynnwys dwy eitem i'r Senedd eu hargymell i'r Cyngor, sef dyddiadau'r flwyddyn academaidd ar gyfer 2025/26 a'r datganiad ynghylch Deilliannau Graddau; roedd angen diweddaru'r datganiad a gyhoeddwyd yn 2020 ,ac yn ystod ei chyfarfodydd blaenorol roedd y Senedd wedi cael diweddariadau ynghylch y bwlch dyfarnu a gwaith i fynd i'r afael â hyn;
1078.7 bod canllawiau ar amgylchiadau esgusodol ar gyfer gwaith tîm a gwaith grŵp wedi'u diweddaru a'u dosbarthu i ysgolion;
1078.8 y byddai'r Polisi Marcio a Chymedroli diweddaredig yn fyw o fis Awst ymlaen a bod gwaith wedi'i wneud i gefnogi ysgolion ymlaen llaw; byddai cyfarfod y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd ym mis Gorffennaf yn adolygu parodrwydd pob ysgol ar gyfer lansio'r polisi diwygiedig;
1078.9 bod y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd yn adolygu sut yr oedd polisïau a rheoliadau yn cael eu hadolygu, gan gynnwys eglurder ynghylch pa weithgareddau ymgynghori a gynhaliwyd a sut y cyflwynwyd newidiadau.
Penderfynwyd
1078.10 cymeradwyo’r polisïau a’r rheoliadau y manylir arnynt yn y papur ac y manylir arnynt yn llawn ym mhapur 23/680:
.1 y Polisi Addasiad Rhesymol diwygiedig;
.2 y Polisi Amgylchiadau Esgusodol Ymchwil Ôl-raddedig diwygiedig a'r Polisi Gohirio Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig diwygiedig;
.3 y fersiwn ddiwygiedig o Adran 7 o'r Polisi Monitro ac Adolygu er mwyn nodi'r elfennau polisi sy'n ymwneud ag arholwyr allanol;
.4 y Polisi Partneriaethau Addysg newydd;
.5 mân newidiadau i reoliadau a pholisïau;
1078.11 argymell i'r Cyngor gymeradwyo dyddiadau'r flwyddyn academaidd ar gyfer 2025/26 a'r Datganiad Deilliannau Gradd i'w gyhoeddi.
1079 Adroddiad y Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr i'r Senedd
Cafwyd papur 23/675 ‘Adroddiad y Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr i'r Senedd’. Siaradodd y Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr am yr eitem hon.
Nodwyd
1079.1 bod gwaith wedi'i wneud ynghylch yr amgylchedd dysgu digidol, gan gynnwys cyflwyno Blackboard Ultra; byddai'r offeryn asesu dyluniad deallusrwydd artiffisial yn helpu staff i greu cynnwys drwy BlackBoard Ultra ac a oedd yn ddewisol i staff ei ddefnyddio;
1079.2 roedd y Pwyllgor wedi cymeradwyo canllawiau ynghylch cynllunio ar gyfer carfannau mawr;
1079.3 bod y papur yn cyflwyno mân diwygiadau i'r Polisi Cofnodi Gweithgareddau Addysgol i'w cymeradwyo; ni chynigiwyd unrhyw newidiadau i arferion academaidd ac roedd y polisi wedi'i ddiweddaru er mwyn dileu gwybodaeth hen; byddai’r polisi yn cael ei adolygu’n ehangach yn 2024/25.
Penderfynwyd
1079.4 cymeradwyo'r diwygiadau i'r Polisi Cofnodi Gweithgareddau Addysgol.
1080 Unrhyw fater arall
Nodwyd
1080.1 codwyd ymholiad ynghylch y defnydd o staff diogelwch allanol ar y campws (o ran a oedd Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gynnal, a oeddent wedi cael hyfforddiant ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac a oedd cwynion am hyn yn cael eu monitro); byddai ymateb i hyn yn digwydd y tu allan i'r cyfarfod, gan nad oedd yn fusnes i'r Senedd ac nid oedd y rhai a oedd yn gallu ymateb yn bresennol;
1080.2 diolchwyd i'r aelodau hynny o'r Senedd a oedd yn mynychu eu cyfarfod diwethaf;
- Yr Athro Roger Behrend (Cadair Athro)
- Suzi Cousins (gwasanaethau proffesiynol)
- Dr Luzia Dominguez (staff academaidd)
- Angie Flores Acuña (myfyriwr)
- Dr Monika Hennemann (staff academaidd)
- Dr James Osborne (staff academaidd)
- Deio Owen (myfyriwr)
- Dr Abyd Quinn-Aziz (staff academaidd)
- Dr Caroline Rae (staff academaidd)
- Noah Russell (myfyriwr)
- Dr Catherine Walsh (staff academaidd)
1081 Polisi Moeseg Ymchwil Dynol Diwygiedig
Cafwyd papur 23/666 ‘Polisi Moeseg Ymchwil Dynol Diwygiedig’.
Penderfynwyd
1081.1 argymell i'r Cyngor gymeradwyo'r polisi diwygiedig;
1081.2 argymell i’r Cyngor gymeradwyo’r drafft newydd o’r “Fframwaith ar gyfer adolygiad moesegol o ymchwil sy’n cynnwys data eilaidd neu wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd yn unig”, yn amodol ar ymarfer ymgynghori â phwyllgorau moeseg ymchwil ysgolion ym mis Mai-Mehefin 2024.
1082 Cynigion i Amrywio Rheoliadau a Pholisïau
Cafwyd papur 23/680 ‘Cynigion i Amrywio Rheoliadau a Pholisïau’.
Penderfynwyd
1082.1 cymeradwyo'r newidiadau i’r rheoliadau a’r polisïau fel y manylir arnynt yn y papur.
1083 Eitemau a gafwyd er gwybodaeth
Cafwyd y papurau canlynol er gwybodaeth:
- 23/681 Cofnodion ASQC – 23 Mai 2024
- 23/597 Cofnodion E&SEC – 21 Mawrth 2024
- 23/682 Cofnodion E&SEC – 16 Mai 2024
- 23/278 Newidiadau i Ordinhadau Teitl y Dirprwy Is-Ganghellor
- 23/512HC Cais i Amrywio’r Cynllun Ffioedd a Mynediad
- 23/611 Cynllun Ffioedd a Mynediad 2025-2027
- 23/676 Athrawon a Darllenwyr Emeritws/Emerita
- 23/677C Adroddiad gan y Pwyllgor Cymrodyr er Anrhydedd
- 23/678 Amserlen o fusnes ar gyfer y flwyddyn i ddod
Tabl rheoli'r ddogfen
Teitl y ddogfen: | Senedd Cofnodion 12 Mehefin 2024 |
---|---|
Dyddiad dod i rym: | 25 Gorffennaf 2024 |