Cwblhau MFA gyda galwad ffôn awtomataidd
- Diweddarwyd ddiwethaf:
Cwblhewch Dilysu Aml-Ffactor (MFA) gan ddefnyddio'r alwad ffôn awtomataidd gan Microsoft i'r rhif ffôn a nodwyd yn flaenorol.
I argraffu'r ddogfen hon, ewch i 'File' a dewiswch 'Print' (Ctrl+P yn Windows neu Cmd+P yn Mac). Gallwch hefyd ddewis i’w arbed fel ffeil PDF oddi yno. Sylwer: Sgroliwch i waelod y dudalen hon i sicrhau bod yr holl ddelweddau yn cael eu hargraffu.
Derbyn hysbysiad
Wrth geisio defnyddio Microsoft Office 365, naill ai drwy borwr gwe, ap symudol, neu gymhwysiad bwrdd gwaith, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau MFA cyn cael mynediad at eich cyfrif.
Cyn yr ysgogiad MFA, efallai y gofynnir i chi fewngofnodi i Office365. Os felly, gwnewch hynny yn ôl yr arfer gan ddefnyddio eich cyfeiriad ebost a'ch cyfrinair Prifysgol Caerdydd. Bydd angen i'r rhai sydd ddim â chyfeiriad e-bost Prifysgol Caerdydd (a dim ond enw defnyddiwr) nodi'r enw defnyddiwr ac yna '@cardiff.ac.uk'.
- Cewch hysbysiad fod angen cymeradwyaeth bellach ar yr ymgais mewngofnodi hwn drwy MFA, a bod Microsoft yn galw’r rhif ffôn a nodwyd gennych yn flaenorol.
- Atebwch yr alwad gan Microsoft. Bydd neges wedi'i recordio yn esbonio natur yr alwad, a'r camau gweithredu sydd ar gael i chi. Os na allwch ateb yr alwad neu ymateb am ryw reswm, cewch gynnig cyfle arall drwy glicio Sign in another way neu drwy glicio ar y saeth sy’n pwyntio i’r chwith wrth ymyl y cyfeiriad e-bost.
- Yna cewch set o opsiynau ar sut i gwblhau MFA. Bydd yr union opsiynau'n dibynnu ar ba ddulliau MFA rydych wedi'u ffurfweddu o'r blaen. Cliciwch Call +XX XXXXX XXXX i roi cynnig arall ar yr alwad.
Ffordd arall o fewngofnodi gan ddefnyddio'r galwad ffôn awtomataidd
- Os gofynnir i chi gwblhau gwiriad MFA yn defnyddio'ch dull diofyn, ond eich bod chi am gael galwad ffôn wedi’i awtomeiddio yn lle hynny i rif ffôn yr ydych wedi'i osod yn flaenorol, gallwch glicio I can’t use my Microsoft Authenticator app right now. Fel arall, cliciwch ar Sign in another way, neu cliciwch ar y saeth pwyntio a geir i'r chwith o'ch cyfeiriad ebost.
Pwysig: Argymhellwn yn gryf eich bod yn sefydlu sawl dull o gwblhau MFA i sicrhau y gallwch barhau i gael mynediad at eich cyfrif os bydd anhawster gydag un o'r dulliau.
- Cliciwch Call +XX XXXXX XXXX i ysgogi galwad ffon awtomataidd gan Microsoft i'r rhif a nodwyd gennych yn flaenorol. Dangosir dau ddigid olaf pob rhif ffôn a nodwyd ar y cofnodion yn y rhestr i'ch helpu i nodi pa rif yr hoffech ei ddewis i Microsoft eich ffonio arno os ydych wedi cofnodi mwy nag un.
Gosod galwad ffôn awtomataidd yn ddull diofyn
Os ydych wedi gosod dull MFA arall (fel ap Microsoft Authenticator neu gais dilysydd gwahanol) fel dull diofyn, gallwch newid hyn i wneud yr alwad ffôn yn ddiofyn. Yn yr un modd, os ydych wedi nodi mwy nag un rhif ffôn gallwch ddewis pa un rydych am ei ddefnyddio fel yr un diofyn.
- I ddechrau'r broses, defnyddiwch borwr gwe i lywio i https://aka.ms/mfasetup.
- Cewch eich cymell i chi fewngofnodi i Office365 gan ddefnyddio eich cyfeiriad ebost a'ch cyfrinair Prifysgol Caerdydd. Efallai y cewch eich herio i gwblhau MFA gan ddefnyddio un o'r dulliau rydych eisoes wedi'i sefydlu.
- Bydd angen i'r rhai sydd ddim â chyfeiriad e-bost Prifysgol Caerdydd (a dim ond enw defnyddiwr) nodi'r enw defnyddiwr ac yna '@cardiff.ac.uk'.
- Ar ôl mewngofnodi'n llwyddiannus, byddwch yn cael eich cyfeirio at dudalen My Sign-ins lle gallwch adolygu'r dulliau MFA sydd eisoes wedi'u sefydlu. Nesaf at Default sign-in method: cliciwch Change.
- O'r rhestr o opsiynau a gyflwynir, dewiswch y cofnod Phone - call +XX XXXXX XXXXXX sy'n cyfateb i'r rhif ffôn a nodwyd yn flaenorol yr hoffech nawr ei ddefnyddio fel yr un diofyn.
- Bydd y dull mewngofnodi diofyn nawr yn dangos Phone - call +XX XXXXX XXXXXX.