Dogfen
Defnyddio'r estyniad porwr gwe i fewngofnodi i MFA
- Diweddarwyd ddiwethaf:
Cwblhau MFA gan ddefnyddio’r dilysydd porwr gwe a osodwyd yn flaenorol ar eich porwyr Google Chrome, Microsoft Edge neu Mozilla Firefox.
I argraffu'r ddogfen hon, ewch i 'File' a dewiswch 'Print' (Ctrl+P yn Windows neu Cmd+P yn Mac). Gallwch hefyd ddewis i’w arbed fel ffeil PDF oddi yno. Sylwer: Sgroliwch i waelod y dudalen hon i sicrhau bod yr holl ddelweddau yn cael eu hargraffu.
Mewngofnodi drwy Microsoft Office 365
Wrth gyrchu Microsoft Office 365, gofynnir i chi ddilysu.
- Os gofynnir i chi fewngofnodi i Microsoft Office 365, rhowch eich cyfeiriad ebost Prifysgol Caerdydd a chliciwch Nesaf.
- Yna cewch eich ailgyfeirio i sgrîn mewngofnodi Prifysgol Caerdydd. Rhowch eich cyfeiriad ebost a'ch cyfrinair Prifysgol Caerdydd fel arfer a chlicio Mewngofnodi.
- Bydd angen i'r rhai sydd ddim â chyfeiriad e-bost Prifysgol Caerdydd (a dim ond enw defnyddiwr) nodi'r enw defnyddiwr ac yna '@cardiff.ac.uk'.
- Gofynnir i chi gwblhau MFA gan ddefnyddio'r côd 6 digid a gynhyrchir gan estyniad porwr gwe Authenticator.
Newid i'r dilysydd porwr gwe
- Dewiswch yr ychwanegiad Authenticator trwy glicio ar y fotwm côd QR ar ochr dde'r bar cyfeiriad. Os na allwch ddod o hyd iddo, cliciwch ar y botwm Extensions (yr eicon jig-so) neu cliciwch ar y tri dot ar y dde, a dewis Extensions.
- Bydd yr estyniad Authenticator i’w weld. Dewiswch yr opsiwn a nodwyd gennych i'w ddefnyddio ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd yr estyniad Authenticator yn dangos mynediad newydd i Brifysgol Caerdydd gyda chôd 6-digid sy'n adnewyddu bob 30 eiliad.
- Gofynnir i chi os ydych am roi'r estyniad Authenticator caniatad i gopïo'r côd 6-digid i mewn i'ch clipfwrdd cyfrifiadur. Cliciwch Allow.
- Cliciwch ar y côd 6-digid i ei gopïo i mewn i glipfwrdd eich cyfrifiadur.
Mae'r côd yn ddilys am 30 eiliad cyn cynhyrchu côd newydd. Mae'r eicon amserydd yn dangos faint o amser sydd gennych ar ôl i ddefnyddio'r côd 6-digid hwnnw. Mae lliw'r côd yn newid o las i goch pan fydd ar fin dod i ben. Arhoswch i'r côd newydd gael ei gynhyrchu mewn glas cyn ei gopïo a'i ddefnyddio.
Dychwelyd i'r ysgogiad mewngofnodi gwreiddiol
- Dychwelyd i wefan Enter code Microsoft Office 365. Teipiwch neu gludo'r côd wedi'i gopïo o'r estyniad Authenticator. Yna cliciwch Verify.
- Bydd tudalen hafan Microsoft Office 365 yn ymddangos. Os bydd hyn yn methu, ailagorwch estyniad Dilysydd y porwr gwe a chopïo'r côd 6-digid diweddaraf. Newidwch y côd dilysu sydd wedi methu am y côd diweddaraf a chlicio Verify.