Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Telerau ac Amodau PSRAS a MCQ

  • Diweddarwyd ddiwethaf:

Telerau ac amodau ar gyfer Cynllun Achredu Cynrychiolwyr Gorsaf yr Heddlu, Cymhwyster Gorsaf yr Heddlu a Chymhwyster Llys yr Ynadon.

Diffiniadau

Ystyr 'Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth' neu 'Ysgol' neu 'ni' neu 'Prifysgol Caerdydd' neu 'ni' yw Prifysgol Caerdydd neu Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

Mae 'Cynlluniau' yn golygu unrhyw un o'r canlynol: Cynllun Achredu Cynrychiolwyr Gorsaf yr Heddlu, Cymhwyster Gorsaf yr Heddlu, Cymhwyster Llys yr Ynadon.

Mae ‘Cleient’ neu ‘chi’ yn golygu’r person, y cynrychiolwr, y cwmni neu’r sefydliad sy’n archebu lle neu sy’n bresennol yn un o’r Cynlluniau. Sylwch na allwn dderbyn ymgeiswyr o'r tu allan i Gymru a Lloegr.

Mae 'Cwrs' yn golygu cwrs (ar-lein neu wyneb yn wyneb) neu ddigwyddiad arall sy'n cael ei gynnwys o dan unrhyw un o'r Cynlluniau. Nid yw’r telerau ac amodau hyn yn berthnasol i gyrsiau pwrpasol neu gaeedig.

Ystyr 'Asesu' yw asesiad (ar-lein neu wyneb yn wyneb) a gwmpesir o dan unrhyw un o'r Cynlluniau.

Mae 'Pecyn' yn golygu grŵp dethol o Gyrsiau neu Asesiadau. Mae'r Pecynnau hyn yn cael eu hesbonio a'u rhestru ar ein gwefan. Mae'r Pecyn yn cyfeirio hefyd at grwpiau dethol o Gyrsiau neu Asesiadau a hysbysebwyd yn flaenorol.

Mae 'Taleb' yn golygu'r system lle gall Cleient brynu Pecyn. Mae'r daleb yn ddilys am bris Pecyn penodol, ac mae Cleient yn tynnu i lawr ar y daleb hon bob tro y byddant yn archebu Cwrs neu Asesiad o fewn y Pecyn.

Mae ‘Dyddiad Dechrau’ yn golygu’r dyddiad y mae’r Cwrs yn dechrau.

Mae 'dyddiad asesu' yn golygu dyddiad Asesiad.

Ystyr 'Aseswr' yw unrhyw aseswyr, arholwyr, goruchwylwyr, neu staff eraill sy'n ymwneud â'r Cynlluniau.

Ystyr 'Ffioedd' yw pris y Cwrs, Asesiad neu Becyn.

Mae 'diwrnod' yn golygu pob dydd o'r wythnos heblaw gwyliau statudol, a chyfnodau cau Prifysgol Caerdydd.

Mae ‘Diwrnod gwaith’ yn golygu pob dydd yr wythnos heblaw dydd Sadwrn a dydd Sul, gwyliau statudol a chyfnodau cau Prifysgol Caerdydd.

Cwmpas

Mae'r telerau ac amodau hyn yn berthnasol i'r holl Becynnau, Cyrsiau ac Asesiadau o fewn y Cynlluniau.

Prisiau

Mae ein gwefan yn hysbysebu'r ffioedd ar gyfer Pecynnau, Cyrsiau ac Asesiadau a gynhwysir yn y Cynlluniau. Rydym ni’n cadw’r hawl i gynyddu’r ffioedd o’r rheiny a hysbysebir ar y wefan neu drwy ffurf arall yn ôl ein disgresiwn ac am unrhyw reswm cyn i’r cwrs ddechrau. Mae’r ffioedd yn cynnwys yr holl daflenni cwrs, deunydd neu lawlyfrau cyn y cwrs a chostau arholiadau neu achrediad (os yw’n berthnasol) ar gyfer cleientiaid yn y DU, oni nodir yn wahanol.

Os ydych yn prynu Pecyn, bydd Cleient yn prynu Taleb a bydd yn tynnu i lawr ar werth y Daleb wrth archebu Cyrsiau neu Asesiadau.

Os bydd y Cleient yn methu Asesiad, bydd ffi ailsefyll sy'n cyfateb i gost y Cwrs neu'r Asesiad. Mae'r ffioedd hyn yn cael eu hysbysebu ar ein gwefan (drwy'r porth archebu). Nid yw cost ailsefyll Cwrs neu Asesiad wedi'i gynnwys yng nghost Taleb a rhaid ei archebu a thalu amdano ar wahân. Eglurir hyn ar ein gwefan (drwy'r porth archebu).

Telerau talu

Rhaid talu'r ffioedd yn llawn cyn dechrau'r Cwrs neu'r Asesiad. Gellir cytuno ar drefniadau arbennig ar wahân gydag archebion hwyr.

Cyrsiau ac Asesiadau

Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn cynnig Cyrsiau ac Asesiadau ar y cyd ag Aseswyr dethol. Hyd y gŵyr yr Ysgol, mae gan yr Aseswyr hyn gymwysterau ac achrediad addas i gyflwyno'r cyrsiau a gynigir.

Canllaw cyffredinol yn unig yw cynnwys yr amserlenni/ amlinelliadau ac nid yw’n ffurfio rhan o unrhyw gontract. Rydym ni’n cadw’r hawl i wneud unrhyw amrywiadau rhesymol i amserlenni/ amlinelliadau, gan gynnwys y cynnwys a’r lleoliad, heb unrhyw rybudd.

Canllaw cyffredinol yn unig yw’r argaeledd a lleoliad a ddangosir ar wefan Prifysgol Caerdydd ac nid yw’n ffurfio rhan o unrhyw gontract. Cysylltwch â ni yn train@caerdydd.ac.uk cyn gwneud unrhyw drefniadau o ran teithio neu lety gan na fyddwn yn atebol am unrhyw gamau a gymerwch wrth ddibynnu ar yr wybodaeth.

Cyfrifoldeb y Cleient yw sicrhau eu bod yn bodloni rhagofynion y Cwrs neu’r Asesiad y maent yn trefnu i fynd arno, a bod y Cwrs neu’r Asesiad yn bodloni eu gofynion nhw.

Oni nodir yn wahanol, caiff pob cwrs ac asesiad ei gynnal yn Saesneg, ac mae’n rhaid i bob cleient fod â gallu digonol mewn Saesneg cyn cymryd rhan mewn cwrs.

Dyddiad dod i ben y Pecyn/Taleb

Mae pob Taleb a Phecyn yn dod i ben 18 mis o'r dyddiad cyhoeddi. Rhaid i gleientiaid ei ddefnyddio o fewn y cyfnod hwn. Mae'r Pecyn/Taleb yn ddilys hyd at ac yn cynnwys y dyddiad dod i ben.

Ni fydd Talebau/Pecynnau sydd heb eu defnyddio/defnyddio’n rhannol yn cael eu hymestyn. Bydd Arweinydd Academaidd y Cynlluniau yn ystyried amgylchiadau eithriadol.

Unwaith y bydd y Cleient wedi adbrynu rhan neu'r cyfan o'r Daleb, ni fyddwn yn ad-dalu gweddill y Daleb. Bydd Arweinydd Academaidd y Cynlluniau yn ystyried amgylchiadau eithriadol.

Canslo, trosglwyddo a chyfnewid

Sylwer y byddwn yn anfon manylion (megis lleoliad, amseroedd, tasgau cyn y cwrs ac ar gyfer Cyrsiau neu Asesiadau ar-lein, manylion mewngofnodi Teams/arall) ac yn cadarnhau bod y cwrs yn mynd yn ei flaen fel a ganlyn:

5-10 diwrnod gwaith cyn y dyddiad dechrau/asesu.

Cyfnewid

Byddwn yn gwneud pob ymdrech i fodloni ceisiadau gan y Cleient i gyfnewid un cynrychiolydd am un arall, ond nid ydym o dan unrhyw reidrwydd i wneud hynny. Mae ceisiadau o’r fath yn gofyn bod y sawl sy’n cymryd lle’r cynrychiolydd gwreiddiol yn bodloni’r rhagofynion ar gyfer y Cwrs neu’r Asesiad.

Lle mae Asesiad neu Gwrs cyfunol yn cynnwys elfennau o e-ddysgu, addysgu byw ar-lein a / neu wyneb yn wyneb, chewch chi ddim cyfnewid ar ôl cael mynediad at yr elfen e-ddysgu/ar ôl ei lawrlwytho.

Mae ceisiadau o’r fath yn gofyn bod y sawl sy’n cymryd lle’r cynrychiolydd gwreiddiol yn bodloni’r rhagofynion ar gyfer y Cwrs neu’r Asesiad. Rhaid i’r Cleient gyflwyno ceisiadau cyfnewid hyd at 21 Diwrnod gwaith cyn y dyddiad dechrau. Os gofynnir am gyfnewid o fewn 21 Diwrnod , bydd y ffi canslo yn berthnasol.

Nifer y diwrnodau i hysbysu

Y ffi sy’n daladwy

21 neu ragor

Amherthnasol

Dan 21

Bydd hyn yn cael ei ystyried yn canslo a bydd y ffi canslo yn berthnasol.

Trosglwyddiadau

Os na fydd Cleient yn gallu mynd i'r Cwrs neu'r Asesiad a archebir, byddwn yn gwneud pob ymdrech i drosglwyddo'r Cleient i gwrs arall.

Os gwneir y cais hwn 21 Diwrnod neu ragor cyn dyddiad dechrau’r Cwrs neu Asesiad gwreiddiol, yr unig gostau y bydd yn rhaid eu talu fydd ffi weinyddol o £50 yn ogystal ag unrhyw wahaniaeth yn y ffioedd. Os gwneir cais i drosglwyddo o fewn 21 Diwrnod, bydd y ffi canslo isod yn berthnasol.

Lle mae Asesiad neu Gwrs cyfunol yn cynnwys elfennau o e-ddysgu, addysgu byw ar-lein a / neu wyneb yn wyneb, chewch chi ddim trosglwyddo ar ôl cael mynediad at yr elfen e-ddysgu/ar ôl ei lawrlwytho.

Os yw Cleient yn dymuno trosglwyddo i Gwrs neu Asesiad rhatach, ni fydd ad-daliad yn cael ei roi.

Rhaid trosglwyddo i gwrs o fewn cyfnod o 12 mis. Dim ond unwaith y gellir trosglwyddo. Rhaid i’r Cleient gyflwyno’r cais i drosglwyddo yn ysgrifenedig at Law-PDU@caerdydd.ac.uk.

Nifer y diwrnodau i hysbysu

Y ffi sy’n daladwy

21 diwrnod neu drosodd

£50 ynghyd ag unrhyw wahaniaethau mewn ffioedd rhwng y ddau Gwrs

Dan 21

Bydd hyn yn cael ei ystyried yn canslo a bydd y ffi canslo yn berthnasol.

Canslo eich Cwrs neu Asesiad

Gall y Cleient ganslo Cwrs neu Asesiad drwy roi gwybod i ni yn ysgrifenedig. Tybir hefyd bod Cleient wedi canslo os nad yw’n bresennol.

Lle mae Asesiad neu Gwrs cyfunol yn cynnwys elfennau o e-ddysgu, addysgu byw ar-lein a / neu wyneb yn wyneb, chewch chi ddim canslo ar ôl cael mynediad at yr elfen e-ddysgu/ar ôl ei lawrlwytho.

Ym mhob achos, rhaid i’r Cleient gadarnhau ei fod yn canslo drwy anfon ebost at Law-PDU@caerdydd.ac.uk gyda thystiolaeth gefnogol (os yw’n berthnasol).

Ffioedd canslo

Bydd yn rhaid i’r Cleient dalu ffi canslo fel a ganlyn:

Nifer y diwrnodau i hysbysu

% y ffioedd Cwrs/Asesu sy'n daladwy

21 a rhagor

Ffi weinyddol o £50

20 - 4

50%

3 - 0

100%

Bydd Arweinydd Academaidd y Cynlluniau yn ystyried amgylchiadau eithriadol.

Os byddwn yn canslo neu'n gohirio Cwrs neu Asesiad

Rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu ohirio unrhyw Gwrs neu Asesiad. Mewn amgylchiadau o’r fath, bydd ffioedd yn cael eu had-dalu yn llawn. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu gost arall sy’n codi o ganslo’r Cwrs neu Asesiad, gan gynnwys costau teithio neu lety.

Os byddwn yn canslo neu ohirio Cwrs neu Asesiad, byddwn yn cysylltu â Chleientiaid drwy ebost ac yn rhoi cynnig iddynt drosglwyddo i ddyddiad arall (os oes un ar gael). Pe bai Cleient yn dymuno trosglwyddo, byddai’n rhaid iddo roi gwybod i Law-PDU@caerdydd.ac.uk o fewn 21 Diwrnod wedi i’r ebost canslo gyrraedd neu byddwn yn ad-dalu’r ffioedd yn awtomatig.

Cefnogaeth dechnegol a mynediad

Os na allwch gael mynediad at Gwrs neu Asesiad ar-lein, byddwn yn gwneud ymdrech resymol i gynnig ateb lle mae gennym reolaeth uniongyrchol dros y system, y feddalwedd neu’r gosodiadau cysylltiedig. Os mai achos y broblem yw eich caledwedd, eich systemau, eich meddalwedd neu osodiadau’r rhain, gallwn, fel y gwelwn yn dda, roi cymorth i’ch helpu i ddatrys y mater ond ni allwn sicrhau y bydd unrhyw gymorth a roddir yn datrys eich problem.

Ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw oedi neu darfu ar eich mynediad at Gwrs neu Asesiad ar-lein o ganlyniad i unrhyw gyfyngiadau mur cadarn a osodwyd ar eich rhwydwaith neu ar y cyfrifiadur rydych yn ei ddefnyddio, am unrhyw fethiannau o ran cysylltiadau ac offer telegyfathrebu, neu faterion sy’n codi o borwr wedi’i ddiweddaru.

Cyrsiau neu Asesiadau Ar-lein (ac eithrio wyneb yn wyneb)

Oni nodir yn wahanol, byddwch yn derbyn dolen we/cyfrif Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd, a fydd yn eich galluogi i gwblhau unrhyw hyfforddiant, cael gafael ar daflenni, deunydd a chwblhau unrhyw Asesiadau. Bydd cyfrif VLE yn weithredol am 18 mis.

Sylwch y bydd eich mynediad at fodiwlau hyfforddi yn cael ei ddileu bythefnos ar ôl eu cyflwyno'n fyw.

Hawlfraint

Eiddo Prifysgol Caerdydd fydd hawlfraint ac unrhyw IPR (Hawliau Eiddo Deallusol) yn yr holl ddeunyddiau. Cewch eich gwahardd rhag gwneud copi o ddeunyddiau Cwrs neu Asesiad neu ganiatáu iddynt gael eu copïo, a rhag caniatáu iddynt gael eu datgelu i drydydd parti, a rhag defnyddio’r deunyddiau hyn i redeg eich Cwrs neu Asesiad eich hun.

Gweithdrefnau cwynion, apeliadau ac amgylchiadau esgusodol

Ar gyfer Cynllun Achredu Cynrychiolwyr Gorsaf Heddlu; Cymhwyster Gorsaf Heddlu; a Chymhwyster Llys yr Ynadon. Gallwch hefyd weld copi o'r gweithdrefnau hyn ym mhroffil eich cyfrif archebu.

Mae gennych hawl i gwyno a derbyn ymatebion yn Gymraeg os mai dyna yw eich dymuniad.

Gweithdrefn Gwyno Ymgeiswyr

1. Cwmpas y drefn gwyno

1.1 Rydych chi'n gymwys i ddefnyddio'r weithdrefn gwyno hon os ydych wedi cofrestru gyda Phrifysgol Caerdydd yn ymgeisydd sy'n ymgymryd â Chynllun Achredu Cynrychiolwyr Gorsaf Heddlu (PSRAS) a/neu Gymhwyster Llys yr Ynadon (MCQ).

1.2 Dim ond i gwyno am:

(a) darpariaeth asesu gan Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Caerdydd mewn perthynas â PSRAS a/neu MCQ; neu

(b) darparu gwasanaethau gweinyddol neu gymorth gan Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Caerdydd mewn perthynas â PSRAS a/neu MCQ; neu

(c) darparu hyfforddiant mewn perthynas ag unrhyw elfen o PSRAS a/neu MCQ.

1.3 Ni ddylech ddefnyddio'r weithdrefn hon i ddilyn yr un o'r materion canlynol:

(a) apêl yn erbyn penderfyniad y PSRAS a/neu Fwrdd Profi MCQ, y dylid ei dilyn yn unol â ‘Gweithdrefn Apeliadau’ y cynllun;

(b) cais am amgylchiadau esgusodol i ymestyn yr amser ar gyfer cwblhau'r PSRAS a/neu MCQ, y dylid ei ddilyn yn unol â 'Gweithdrefn Amgylchiadau Esgusodol' y cynllun.

2. Cyflwyno cwynion

2.1 Er mwyn i gŵyn gael ei hystyried rhaid ei godi o fewn 28 diwrnod i'r ymgeisydd ddod yn ymwybodol bod sail i gŵyn yn bodoli. Rhaid i unrhyw gŵyn fod yn ysgrifenedig a rhaid iddynt nodi'n glir sail y gŵyn, dyddiad(au)’r materion perthnasol, unrhyw gamau sydd wedi'u cymryd i geisio datrys y gŵyn a'r canlyniad dymunol. Rhaid cyflwyno unrhyw dystiolaeth ddogfennol berthnasol.

2.2 Rhaid cyflwyno'r gŵyn i:

Pennaeth Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol Caerdydd
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Adeilad y Gyfraith
Rhodfa’r Amgueddfa
Caerdydd
CF10 3AX

2.3 Ni fydd llythyrau cwyn dienw yn cael eu hymchwilio.

3. Ymchwilio i gwynion

3.1 Bydd cwynion a wneir o dan y weithdrefn hon yn cael eu hymchwilio gan Bennaeth Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol Caerdydd ('y Pennaeth').

3.2 Bydd y Pennaeth, neu ei enwebai, yn ystyried y gŵyn a'r dystiolaeth ategol a bydd yn ateb o fewn 28 diwrnod i dderbyn y gŵyn. Pan fo'n briodol, bydd y Pennaeth yn nodi unrhyw gamau a fwriedir neu wedi'u cwblhau i ddatrys y gŵyn ac, os oes angen unrhyw ymchwiliad pellach, yr amserlen y disgwylir i'r ymchwiliad gael ei gwblhau.

3.3 Os bydd angen ymchwiliad pellach, bydd yr ymgeisydd yn cael gwybod am y canlyniad ar ddiwedd yr ymchwiliad.

3.4 Dylai unrhyw ymgeisydd sy'n ystyried dilyn cwyn o dan y weithdrefn hon nodi'r canlynol:

(a) Mae gan y rhai y gwneir cwynion amdanynt hawl i wybod beth sy'n cael ei hawlio a phwy sy'n gwneud cwyn. Os byddwch yn gwneud cwyn ffurfiol anfonir copi o’ch llythyr cwyn fel arfer at yr unigolyn/ unigolion sy'n destun y gŵyn oni bai bod rheswm da dros beidio â gwneud hynny.

(b) Ni fyddwch yn profi gwahaniaethu yn eich erbyn ac ni fydd unrhyw un yn eich edliw o ganlyniad i wneud cwyn, waeth a yw eich cwyn yn cael ei gadarnhau ai peidio.

4. Adolygiad gan Bennaeth Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Caerdydd

4.1 Gall ymgeisydd ofyn i Bennaeth Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Caerdydd ('Pennaeth Ysgol') adolygu canlyniad ymchwiliad y Pennaeth i'w cwyn.

4.2 Rhaid i gais am adolygiad gan Bennaeth yr Ysgol fod yn ysgrifenedig a rhaid ei gyflwyno o fewn 14 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr yn hysbysu'r ymgeisydd am ganlyniad ymchwiliad y Cyfarwyddwr. Rhaid cyflwyno’r cais erbyn:

Pennaeth yr Ysgol
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Adeilad y Gyfraith
Rhodfa’r Amgueddfa
Caerdydd
CF10 3XJ

4.3 Dim ond os gall yr ymgeisydd ddangos un neu ragor o'r seiliau canlynol y gellir gwneud cais am adolygiad gan Bennaeth yr Ysgol:

(a) nid aed i'r afael â'r gŵyn yn briodol;

(b) nid aed i'r afael â'r gŵyn mewn da bryd;

(c) mae tystiolaeth newydd wedi dod i law nad oedd ar gael adeg yr ymchwiliad ffurfiol.

4.4 Bydd Pennaeth yr Ysgol, neu ei enwebai, yn ystyried y cais i gael ei adolygu a bydd yn ateb o fewn 28 diwrnod ar ôl derbyn y cais. Bydd Pennaeth yr Ysgol yn nodi ei ymateb i'r cais am adolygiad ac, os oes unrhyw ymchwiliad pellach i’w wneud, bydd yn nodi’r amserlen y disgwylir i'r ymchwiliad gael ei gwblhau. Os bydd angen ymchwiliad pellach, bydd yr ymgeisydd yn cael gwybod am y canlyniad ar ddiwedd yr ymchwiliad.

Bydd penderfyniad Pennaeth yr Ysgol gan gynnwys penderfyniad i beidio cynnal adolygiad yn derfynol.

Gweithdrefn Apelio

1. Cais am apêl

1.1 Rhaid i unrhyw ymgeisydd sy'n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad Bwrdd profi (Test Board) Cynllun Achredu Cynrychiolwyr Gorsaf Heddlu (PSRAS) a/neu Gymhwyster Llys yr Ynadon (MCQ) gyflwyno ei apêl o fewn 28 diwrnod i ddyddiad y llythyr yn rhoi gwybod iddo am y canlyniad yr apelir yn ei erbyn.

1.2 Rhaid i unrhyw apêl fod yn ysgrifenedig a rhaid nodi'n glir sail yr apêl. Rhaid i unrhyw dystiolaeth ddogfennol berthnasol gael ei atodi i'r apêl.

1.3 Rhaid cyflwyno’r cais erbyn:

Miss Kate Hawkins
Cyfarwyddwr: PSRAS a MCQ
Canolfan Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol
Adeilad y Gyfraith
Rhodfa’r Amgueddfa
Caerdydd
CF10 3AX

Neu drwy ebost at: hawkinskv@caerdydd.ac.uk

2. Sail ar gyfer apelio

2.1 Bydd y Bwrdd Profi ond yn ystyried apeliadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth o ragfarn neu ogwydd neu asesiad annigonol ar ran un neu fwy o'r aseswyr.

Ni fydd apeliadau sy'n cwestiynu dyfarniad academaidd yr aseswyr yn dderbyniol.

3. Y Weithdrefn Apelio

3.1 Bydd unrhyw gais am apêl a gyflwynir yn unol ag adran 1 uchod yn cael ei ystyried yng nghyfarfod cyntaf y Bwrdd Profi ar ôl derbyn yr apêl.

3.2 Bydd y Bwrdd Profi yn ystyried cyflwyniad yr apelydd, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth arall y mae'n credu ei fod yn berthnasol.

3.3 O ran pob apêl a gyflwynir yn unol ag adran 1 uchod, bydd y Bwrdd Profi yn cymryd y naill neu'r llall o'r penderfyniadau canlynol:

(a) i wrthod yr apêl ac i beidio cymryd unrhyw gamau pellach;

(b) cynnal yr apêl a phenderfynu pa gamau y dylid eu cymryd ynghylch yr apelydd.

3.4 Os na all y Bwrdd Profi ddod i farn unfrydol, barn y mwyafrif fydd drechaf, ac os bydd y bleidlais yn gyfartal, bydd yr apêl yn cael ei gadarnhau. Bydd gan y Cadeirydd hawl i bleidleisio, ond ni fydd ganddo bleidlais fwrw.

3.5 Bydd y Cadeirydd (neu ei enwebai) yn hysbysu'r apelydd o'r penderfyniad am yr apêl cyn gynted â phosib ar ôl y cyfarfod.

4. Adolygiad y Pennaeth

4.1 Gall apelydd ofyn i Bennaeth y Ganolfan Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol ('y Pennaeth') adolygu penderfyniad y Bwrdd Profi mewn perthynas â'u hapêl.

4.2 Rhaid i gais am adolygiad gan y Pennaeth fod yn ysgrifenedig a rhaid ei gyflwyno o fewn 28 diwrnod i ddyddiad y llythyr sy'n hysbysu'r apelydd o ganlyniad ei apêl. Rhaid cyflwyno’r cais erbyn:

Y Pennaeth
Canolfan Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol
Adeilad y Gyfraith
Rhodfa’r Amgueddfa
Caerdydd
CF10 3AX

4.3 Ni cheir gwneud cais am adolygiad gan y Pennaeth oni bai bod yr ymgeisydd yn gallu dangos diffygion neu anghysondebau yn y modd y mae'r Bwrdd Profi y penderfynwyd ar yr apêl ynddo yn cael ei gynnal. Rhaid i'r rhain achosi amheuaeth resymol a fyddai'r Bwrdd Profi wedi dod i'r un penderfyniad pe na bai wedi digwydd.

4.4 Rhaid cyflwyno ffi o £150 gydag unrhyw gais am adolygiad gan y Pennaeth, a gaiff ei ad-dalu os penderfynir ar yr adolygiad o blaid yr ymgeisydd yn unol â pharagraff 4.5(b) isod.

4.5 O ran pob cais a gyflwynir yn unol ag adran 1 uchod, bydd y Bwrdd Profi yn cymryd y naill neu'r llall o'r penderfyniadau canlynol:

(a) i wrthod y cais a fydd yn cwblhau'r weithdrefn ac ni chaiff cyflwyniad pellach ei ystyried;

(b) i gynnal y cais a chyfeirio'r achos yn ôl at y Bwrdd Profi.

Bydd penderfyniad y Pennaeth yn derfynol.

4.6 Pan fo achos i'w gyfeirio'n ôl at y Bwrdd Profi, bydd y Pennaeth hefyd yn nodi:

(a) p'un a ganiateir i'r ymgeisydd wneud unrhyw ddiwygiadau i'r asesiad fel y'i cyflwynwyd yn wreiddiol;

(b) a fydd rhaid i’r ymgeisydd dalu ffi arholi ychwanegol ai peidio;

(c) y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno/ailgyflwyno.

4.7 Bydd y Pennaeth yn hysbysu'r ymgeisydd o'r penderfyniad mewn perthynas â'r adolygiad o fewn 42 diwrnod i dderbyn y cais.

Proses amgylchiadau esgusodol

1. Cais am Amgylchiadau Esgusodol i'w hystyried

1.1 I'w achredu o dan Gynllun Achredu Cynrychiolwyr Gorsaf Heddlu neu ddyfarnu Tystysgrif Cymhwyster Llys yr Ynadon, rhaid i ymgeiswyr ddangos cymhwysedd ym mhob un o'r elfennau asesu o fewn yr amserlen ar gyfer y cynllun hwnnw.

1.2 Gall ymgeisydd sy'n credu bod ei allu i gwblhau'r holl elfennau asesu o fewn y cyfnod gofynnol wedi'i effeithio gan amgylchiadau esgusodol (megis salwch), ofyn i'r PSRAS a/neu Fwrdd Profi MCQ ('Test Board') ystyried yr amgylchiadau esgusodol.

1.3 Rhaid i unrhyw gais am amgylchiadau esgusodol gael ei gyflwyno'n ysgrifenedig. Rhaid i unrhyw dystiolaeth ddogfennol berthnasol (megis tystiolaeth feddygol) gael ei atodi i'r cais, a bydd pob cais yn cael ei benderfynu ar ei rinweddau. Dylid cyflwyno’r cais ar yr adeg pan ddaw’r ymgeisydd yn ymwybodol o’r amgylchiadau sy’n effeithio ar ei allu i gwblhau’r achrediad o fewn y cyfnod gofynnol, a rhaid ei gyflwyno dim hwyrach na 14 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae'r ymgeisydd i fod i gwblhau PSRAS.

1.4 Rhaid i unrhyw gais am amgylchiadau esgusodol gael ei gyflwyno i:

Miss Kate Hawkins
Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol Caerdydd
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Rhodfa’r Amgueddfa
Caerdydd
CF10 3AX

2. Proses amgylchiadau esgusodol

2.1 Bydd unrhyw gais am amgylchiadau esgusodol a gyflwynir yn unol ag adran 1 uchod yn cael ei ystyried yng nghyfarfod cyntaf y Bwrdd Profi ar ôl derbyn y cais.

2.2 Bydd y Bwrdd Profi yn ystyried y cais, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth arall y mae'n credu ei fod yn berthnasol.

2.3 O ran pob cais a gyflwynir yn unol ag adran 1 uchod, bydd y Bwrdd Profi yn cymryd y naill neu'r llall o'r penderfyniadau canlynol:

(a) caniatáu’r cais, a chaniatáu estyniad i’r amser ar gyfer cwblhau’r cynllun i’r ymgeisydd, ac os felly rhaid pennu’r amser ar gyfer cwblhau’r achrediad;

(b) i wrthod y cais, ac os felly bydd yr ymgeisydd yn cael ei gynghori ynglŷn ag elfennau'r achrediad y mae'n rhaid ei ailadrodd er mwyn cwblhau'r achrediad a'r amserlenni ar gyfer cwblhau.

Dylai ymgeiswyr nodi nad yw'n bosib i'r Bwrdd Profi ddisodli dyfarniad cymhwysedd yn lle asesiad a fethwyd, hyd yn oed pan fydd cais am amgylchiadau esgusodol yn cael ei gadarnhau.

2.4 Os na all y Bwrdd Profi ddod i farn unfrydol, barn y mwyafrif fydd drechaf, ac os bydd y bleidlais yn gyfartal, bydd y cais am amgylchiadau esgusodol yn cael ei gadarnhau. Bydd gan Gadeirydd y Bwrdd Profi’r hawl i bleidleisio, ond ni fydd ganddo bleidlais fwrw.

2.5 Bydd y Cadeirydd (neu ei enwebai) yn hysbysu'r ymgeisydd am benderfyniad y Bwrdd Profi cyn gynted â phosibl ar ôl y cyfarfod.

Noder

Mae'r gweithdrefnau hyn yn gywir adeg eu cyhoeddi. Gallwn ddiweddaru'r gweithdrefnau hyn o bryd i'w gilydd; mae copi cyfredol i'w weld ym mhroffil eich cyfrif archebu.