Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Cofnodion Pwyllgor Archwilio a Risg 20 Mehefin 2024

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Archwilio a Risg Prifysgol Caerdydd a gynhaliwyd ddydd Iau 20 Mehefin 2024 am 10.00 trwy Zoom

Yn bresennol: Dr Robert Weaver (Cadeirydd), Aneesa Ali, Pers Aswani, Dr Nick Starkey ac Agnes Xavier-Phillips.

Hefyd yn bresennol: Jonathan Brown (KPMG), Clare Eveleigh, Ellie Hetenyi (KPMG), yr Athro Wendy Larner, Sian Marshall, Carys Moreland, Claire Sanders, Laura Sheridan, Natalie Stewart, Simon Wright [cofnodion 1252-1253], Darren Xiberras.

1242 Croeso a materion rhagarweiniol

1242.1 Croesawyd pawb i'r cyfarfod.

1242.2 Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau fod y cyfarfod yn cael ei recordio i gynorthwyo’r gwaith o baratoi’r cofnodion.

1242.3 Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod cyflwyniad y Prif Swyddog Trawsnewid wedi cael ei ohirio hyd nes cyfarfod dilynol i'w galluogi i ganolbwyntio ar gwblhau'r cynllun i gefnogi Strategaeth newydd y Brifysgol ar gyfer ei adolygu gan y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau a'r Cyngor.

1243 Ymddiheuriadau am absenoldeb

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Suzanne Rankin. Cadarnhawyd bod digon yn y cyfarfod i greu cworwm.

1244 Datganiadau o fuddiant

Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau o’u dyletswydd i ddatgelu unrhyw wrthdaro posibl o ran buddiannau. Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

1245 Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2024 (23/548C) yn gofnod gwir a chywir ac fe'u cymeradwywyd i gael eu llofnodi gan y Cadeirydd.

1246 Materion yn codi o’r cofnodion

Cafwyd ac ystyriwyd papur 23/699C, 'Materion yn Codi'. Siaradodd y Cadeirydd am yr eitem hon.

Nodwyd

1246.1 (Cofnod 1209.3): Bod y dyddiad cau ar gyfer y cynllun gwella risgiau wedi'i symud yn ôl i fis Hydref 2024 i gyd-fynd ag amseriad yr Adroddiad Rheoli Risgiau Blynyddol.

Penderfynwyd

1246.2 Y byddai camau gweithredu 1223.12, 1226.5 a 1235.2 yn dod i ben gan fod eitemau ar yr agenda yn eu cwmpasu.

1247 Eitemau gan y Cadeirydd

Siaradodd y Cadeirydd am yr eitem hon.

Nodwyd

1247.1 Bod y Rheolwr Cydymffurfedd Ariannol Dros Dro bellach wedi gadael y Brifysgol.

1248 Cofrestr Risgiau Strategol

Cafwyd ac ystyriwyd papur 23/684HC, 'Cofrestr Risgiau Strategol'.  Siaradodd yr Is-ganghellor am yr eitem hon.

Nodwyd

1248.1 [Hepgorwyd]

1248.2 [Hepgorwyd]

1248.3 [Hepgorwyd]

1248.4 [Hepgorwyd]

1248.5 [Hepgorwyd]

1248.6 [Hepgorwyd]

1248.7 [Hepgorwyd]

Penderfynwyd

1248.8 Argymell y crynodeb o’r Gofrestr Risgiau Strategol a'r Gofrestr Risgiau i'r Cyngor.

1249 Adroddiad Cynnydd ar yr Archwiliad Allanol

Cafwyd ac ystyriwyd papur 23/685C 'Adroddiad Cynnydd ar yr Archwiliad Allanol'. Siaradodd KPMG am yr eitem hon.

Nodwyd

1249.1 Bod gweithdrefnau cynllunio ac asesu risgiau wedi'u cwblhau; bod y cynllun archwilio wedi'i baratoi, a bod dyddiadau ar gyfer yr ymweliadau interim a therfynol wedi’u pennu.

1249.2 Y rhagwelwyd y byddai'r broses archwilio yn cael ei gwella eleni gan nad oedd tîm KPMG wedi newid a bod perthnasoedd gwaith da wedi'u meithrin â thîm Cyllid y Brifysgol.

1249.3 Bod yr adborth a ddeilliodd o'r adolygiad blynyddol o’r archwiliad mewnol yn gadarnhaol ar y cyfan, a bod KPMG wedi nodi yn ei adroddiad sut y byddid yn mynd i’r afael â’r ddau gwestiwn a gafodd y sgoriau isaf.

1249.4 Bod y diweddariad ar y sector addysg uwch yn tynnu sylw at ofynion adrodd y Grŵp Craffu ar Addysg a’r broses o oruchwylio deallusrwydd artiffisial (AI) cynhyrchiol; bod y rhain yn ddau faes y byddai'n fuddiol cael mewnbwn arnynt gan KPMG yn y dyfodol.

Penderfynwyd

1249.5 Y byddai’r Pwyllgor yn cael rhagor o wybodaeth gan KPMG am ofynion adrodd y Grŵp Craffu ar Addysg a’r broses o oruchwylio deallusrwydd artiffisial (AI) cynhyrchiol yn y dyfodol, a hynny, o bosibl, yn rhan o sesiwn ddatblygu.

1250 Cynllun Archwilio Allanol

Cafwyd ac ystyriwyd papur 23/686C 'Cynllun Archwilio Allanol’.  Siaradodd KPMG am yr eitem hon.

Nodwyd

1250.1 Bod perthnasedd y grŵp wedi'i osod ar £6.3 miliwn yn seiliedig ar 1% o gyfanswm y refeniw a ragwelid, ac y byddai'n cael ei adolygu ddiwedd y flwyddyn; bod perthnasedd perfformiad wedi cael ei gynnal ar 65% ac y gellid ei gynyddu i 75-85% yn unol â'r proffil risg.

1250.2 Bod y trothwy ar gyfer rhoi gwybod i’r Pwyllgor am gamddatganiadau wedi'i osod ar £310 mil yn seiliedig ar 5% o'r refeniw; bod yna drothwyon gwahanol ar waith ar gyfer rhoi gwybod i’r Pwyllgor am gyfeiliornadau perthnasol yn ymwneud â threth a ffurflenni eraill (£50 mil), ac ar gyfer adrodd am faterion i CCAUC; na fyddai yna oblygiadau o ran cost pe byddai’r trothwy ar gyfer rhoi gwybod am gamddatganiadau yn cael ei osod ar lefel is, ond y byddai'n ddefnyddiol i KPMG gael gwybod am unrhyw gais i ostwng y trothwy cyn gynted â phosibl, i lywio'r gwaith archwilio.

1250.3 Bod asesiad risg KPMG wedi nodi'r risgiau archwilio sylweddol fel a ganlyn:

  • prisio rhwymedigaethau buddion diffiniedig ar ôl ymddeol mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Prifysgol Caerdydd oherwydd y rhwymedigaethau gros a graddau'r amcangyfrif goddrychol a ddefnyddid; nid oedd hyn yn cynnwys Cynllun Pensiwn y Prifysgolion (USS) gan fod y newidiadau diweddar i'r cynllun yn golygu na fyddai darpariaeth USS ar y fantolen;
  • cydnabod refeniw incwm ymchwil oherwydd lefel y dyfarniadau mewn perthynas â'r maes hwn a'r risg o beidio â chydymffurfio â thelerau ac amodau grantiau;
  • rheolwyr yn diystyru rheolaethau.

1250.4 Bod busnes gweithredol wedi’i nodi yn risg archwilio arall; bod mesurau torri costau a chynllun diswyddo'r Brifysgol wedi cael gwybod ar ôl i'r adroddiad gael ei lunio, ond nad oedd yn effeithio ar yr asesiad risg ar y pryd; bod y busnes gweithredol yn cynrychioli sefyllfa o risgiau cynyddol o ystyried sefyllfa ariannol y Brifysgol.

1250.5 Nad oedd prisiad eiddo, offer a chyfarpar wedi'i nodi’n risg archwilio gan fod asedau'n cael eu dal ar sail cost llai dibrisiant yn hytrach nag ailbrisiad, ac felly nid oeddent yn destun effeithiau allanol; bod yna ganfyddiadau blaenorol wedi codi o ran prosesau a rheolaethau mewn perthynas â gwariant cyfalaf, ond bod rheolaethau bellach ar waith a lefel y gwariant cyfalaf yn llawer is nag mewn blynyddoedd blaenorol, a oedd wedi arwain at asesiad o risg is; bod yr adolygiad o'r ystad wedi nodi mai mater bach i'r Brifysgol fyddai concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC).

1250.6 Y byddai Safon Foesegol newydd y Cyngor Adrodd Ariannol (FRC) yn dod i rym ym mis Rhagfyr 2024 ac y byddai'n cael ei chymhwyso i archwiliad 2024-25.

Penderfynwyd

1250.7 Cymeradwyo cynllun archwilio allanol 2023-24.

1250.8 Y byddai’r Cadeirydd a'r Prif Swyddog Ariannol yn adolygu'r trothwyon ar gyfer adrodd am gamddatganiadau, cyfeiliornadau perthnasol a materion eraill i sicrhau cysondeb, gan gynnwys rhoi awdurdod i'r Cadeirydd bennu’r trothwy priodol ar gyfer adrodd am gamddatganiadau, a hynny cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor.

1251 Diweddariad ar y Fframwaith Rheoli Allweddol

Cafwyd ac ystyriwyd papur 23/687C 'Diweddariad ar y Fframwaith Rheoli Allweddol'. Siaradodd y Prif Swyddog Ariannol am yr eitem hon.

Nodwyd

1251.1 Bod yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar gynnydd y gwaith i nodi, cofnodi ac adolygu rheolaethau ariannol allweddol, rheolaethau sefydliadol eraill a rheolaethau rheoleiddiol; bod yr adroddiad yn nodi rhagor o feysydd lle'r oedd y broses o gofnodi rheolaethau ariannol wedi'i chynllunio; bod yna adolygiad o weithrediad rheolaethau allweddol yn cael ei gynnwys yn y Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer y flwyddyn ganlynol.

1251.2 Bod yna achos busnes yn cael ei ddatblygu ar gyfer y Rhaglen Trawsnewid Cyllid, a oedd yn cynnwys ffrwd waith bwrpasol i gofnodi ac adolygu prosesau a rheolaethau mewn meysydd blaenoriaeth; bod cynllun i ddisodli'r system Gyllid, a oedd yn costio £40 miliwn, wedi ei atal, a bod y Prif Swyddog Ariannol wedi ymrwymo i adolygu anghenion y system dros gyfnod o 3-5 mlynedd; bod y Prif Swyddog Digidol a Gwybodaeth newydd yn mynd i arwain adolygiad o anghenion digidol y Brifysgol, ac y byddai'r system Gyllid yn cael ei hystyried yn rhan o'r gwaith hwn mewn perthynas â blaenoriaethau eraill a'r arian a oedd ar gael.

1251.3 Bod y Prif Swyddog Ariannol yn bwriadu gweithio gyda Phrif Swyddog Gweithredu ac Ysgrifennydd newydd y Brifysgol i ystyried y modd yr oedd rheolaethau’n cael eu nodi, eu cofnodi a'u hadolygu, a hynny’n rhan o'r Model Gweithredu Targed (TOM).

1251.4 Y byddai angen ymgymryd â gwaith i grynhoi’r rheolaethau rheoleiddiol a oruchwylid gan y Tîm Cydymffurfedd a Risg ar ffurf fframwaith.

1251.5 Bod y rhaglen drawsnewid yn gyfle i nodi rheolaethau allweddol wrth i strwythurau, prosesau a gweithdrefnau gael eu hadolygu; ei bod yn fanteisiol monitro rheolaethau allweddol trwy system gwybodaeth reoli lle bo hynny'n bosibl, a fyddai'n tynnu sylw’n awtomatig at fethiannau o ran y rheolaethau.

1251.6 Bod y prosiect cofnodi rheolaethau allweddol wedi bod yn mynd rhagddo ers mis Mehefin 2023 a’r canfyddiad oedd mai araf fu’r cynnydd; bod y cyfrifoldeb gweithredol am waith ychwanegol a oedd yn ofynnol mewn rhai meysydd yn perthyn i swyddi a oedd yn wag ar y pryd ac y byddai angen penodi pobl iddynt; bod y Pwyllgor yn awyddus i wneud cynnydd yn fwy cyflym; nad oedd yna allu ychwanegol ar gael yn rhwydd yn y tîm Cyllid; y byddai angen adolygu'r gallu o fewn y tîm pe bai’n fwriad i’r gwaith arfaethedig gael ei wneud yn gyflymach.

Penderfynwyd

1251.7 Y byddai’r Prif Swyddog Ariannol yn adolygu gallu'r tîm Cyllid i symud y gwaith ychwanegol a oedd yn ofynnol yn ei flaen yn gyflymach ac yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor.

1251.8  Y byddai’r Tîm Cydymffurfedd a Risg yn crynhoi’r rheolaethau rheoleiddiol a oruchwylid gan y tîm ar ffurf fframwaith.

1252 Adroddiad Diweddaru ynghylch Digwyddiadau Mawr a Difrifol, gan gynnwys adroddiadau am gau

Cafwyd ac ystyriwyd papur 23/688HC 'Adroddiad Diweddaru ynghylch Digwyddiadau Mawr a Difrifol'.  Siaradodd Prif Swyddog Gweithredu ac Ysgrifennydd y Brifysgol am yr eitem hon. Ymunodd y Cofrestrydd Academaidd â'r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.

Nodwyd

1252.1 [Hepgorwyd]

1252.2 [Hepgorwyd]

1252.3 [Hepgorwyd]

1252.4 [Hepgorwyd]

1252.5  [Hepgorwyd]

1252.6 [Hepgorwyd]

1252.7 [Hepgorwyd]

Penderfynwyd

1252.8 Cadarnhau bod yr adroddiad yn rhoi digon o sicrwydd o ran y risgiau yn y maes hwn.

1252.9  Cynnal archwiliad dwfn mewn cyfarfod yn y dyfodol o’r risgiau o ran lles a llesiant myfyrwyr, gan gynnwys diweddariad ynghylch a aseswyd bod camau lliniaru wedi'u hymgorffori’n llawn.

1252.10  Rhannu data â'r Pwyllgor am hunanladdiad ymhlith myfyrwyr o gymharu â'r boblogaeth gyffredinol.

1253 Adroddiad Cynnydd ar yr Archwiliad Mewnol

Cafwyd ac ystyriwyd papur 23/689HC 'Adroddiad Cynnydd ar yr Archwiliad Mewnol'. Siaradodd y Pennaeth Archwilio Mewnol am yr eitem hon.

Nodwyd

Datganiadau Data AU

1253.1 [Hepgorwyd]

Dull Tryloyw o Gostio (TRAC)

1253.2 [Hepgorwyd]

1254 Adroddiad yr Archwiliad Mewnol ar Asesu Parodrwydd o ran UKVI

Cafwyd ac ystyriwyd papur 23/714HC 'Adroddiad yr Archwiliad Mewnol ar Asesu Parodrwydd o ran UKVI'.  Siaradodd y Cofrestrydd Academaidd am yr eitem hon.

Nodwyd

1254.1 [Hepgorwyd]

1254.2 [Hepgorwyd]

1254.3 [Hepgorwyd]

1254.4 [Hepgorwyd]

Gofynnodd y Pwyllgor i bob Swyddog, ar wahân i'r Cynghorydd Llywodraethu a'r Pennaeth Archwilio Mewnol, adael y cyfarfod dros dro er mwyn i’r aelodau gael trafodaeth breifat; nid oedd unrhyw gamau gweithredu wedi deillio o'r drafodaeth hon.

Gadawodd Simon Wright y cyfarfod ar ddiwedd yr eitem hon.

1255 Adroddiad Olrhain Argymhellion yr Archwiliad Mewnol

Cafwyd ac ystyriwyd papur 23/690HC 'Adroddiad Olrhain Argymhellion yr Archwiliad Mewnol'. Siaradodd y Pennaeth Archwilio Mewnol am yr eitem hon.

Nodwyd

1255.1 [Hepgorwyd]

1255.2 [Hepgorwyd]

1255.3 [Hepgorwyd]

1255.4 [Hepgorwyd]

1255.5 [Hepgorwyd]

1255.6 [Hepgorwyd]

1255.7 [Hepgorwyd]

1255.8 [Hepgorwyd]

Penderfynwyd

1255.9 Cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor am y modd y byddai'r 10 cam gweithredu hwyr a oedd yn brif flaenoriaeth yn cael eu cwblhau.

1255.10 Y byddai’r rheolwyr, o ran y sawl a oedd yn gyfrifol am weithredu argymhellion a oedd flwyddyn neu fwy yn hwyr, yn gofyn iddynt ddod i'r Pwyllgor i roi diweddariadau ar gynnydd.

1256 Strategaeth Archwilio Mewnol 2024-25

Cafwyd ac ystyriwyd papur 23/691HC, 'Strategaeth Archwilio Mewnol 2024-25'. Siaradodd y Pennaeth Archwilio Mewnol am yr eitem hon.

Nodwyd

1256.1 [Hepgorwyd]

1256.2  [Hepgorwyd]

Penderfynwyd

1256.3 Cymeradwyo Strategaeth Archwilio Mewnol 2024-25.

1257 Cynllun Archwilio Mewnol 2024-25

Cafwyd ac ystyriwyd papur 23/713HC 'Cynllun Archwilio Mewnol 2024-25'.  Siaradodd y Pennaeth Archwilio Mewnol am yr eitem hon.

Nodwyd

1257.1 [Hepgorwyd]

1257.2 [Hepgorwyd]

1257.3 [Hepgorwyd]

1257.4 [Hepgorwyd]

1257.5 [Hepgorwyd]

Penderfynwyd

1257.6 Cymeradwyo'r rhaglen archwilio mewnol ar sail risg ar gyfer 2024-25.

1258 Adolygiad o’r Archwiliad Mewnol: Cynllun Gweithredu

Cafwyd ac ystyriwyd papur 23/692HC 'Adolygiad o’r Archwiliad Mewnol: Cynllun Gweithredu’. Siaradodd y Pennaeth Archwilio Mewnol am yr eitem hon.

Nodwyd

1258.1 [Hepgorwyd]

1258.2 [Hepgorwyd]

Gadawodd Ellie Hetenyi y cyfarfod ar ddiwedd yr eitem hon.

1259 Diweddariad ar Gydymffurfedd Ariannol

Cafwyd ac ystyriwyd papur 23/693C 'Diweddariad ar Gydymffurfedd Ariannol'.  Siaradodd y Prif Swyddog Ariannol am yr eitem hon.

Nodwyd

1259.1 [Hepgorwyd]

1259.2 Bod achos busnes dros recriwtio Pennaeth Cydymffurfedd Ariannol parhaol i gael ei adolygu gan y panel rheoli recriwtio; bod ceisiadau am wybodaeth yn cael eu rheoli gan y Tîm Cydymffurfedd a Risg gyda mewnbwn gan y Tîm Incwm yn yr Adran Gyllid; bod y Rheolwr Cydymffurfedd Ariannol Dros Dro wedi cynnal proses drosglwyddo fanwl; bod elfennau adweithiol y rôl yn cael eu cyflawni yn y byrdymor ond bod y gwaith mwy rhagweithiol wedi'i ohirio hyd nes y byddai rhywun wedi’i benodi i’r swydd.

1259.3  Bod y polisi newydd Atal Gwyngalchu Arian, Atal Ariannu Terfysgaeth, Sancsiynau Ariannol ac Efadu Trethi wedi'i gymeradwyo a'i ddosbarthu i'r Pwyllgor fel bod yr aelodau’n ymwybodol ohono.

1260 Adroddiad Ymgyfreitha

Cafwyd ac ystyriwyd papur 23/695HC, 'Adroddiad Ymgyfreitha'.  Siaradodd Prif Swyddog Gweithredu ac Ysgrifennydd y Brifysgol am yr eitem hon.

Nodwyd

1260.1[Hepgorwyd]

1260.2 [Hepgorwyd]

1260.3 [Hepgorwyd]

1260.4  [Hepgorwyd]

Penderfynwyd

1260.5 Y byddai fersiwn nesaf yr adroddiad yn rhoi manylion y darpariaethau a wnaed, a lle roedd achosion yn destun polisïau yswiriant.

1261 Adroddiadau Chwythu’r Chwiban

Siaradodd Prif Swyddog Gweithredu ac Ysgrifennydd Dros Dro y Brifysgol am yr eitem hon.

Nodwyd

1261.1 Bod y cyfarfod diwethaf wedi cael gwybod bod yna un achos yn cael ei adolygu i benderfynu a fyddai'n cael ei ystyried o dan y Polisi; bod yr adolygiad a gynhaliwyd gan Ysgrifennydd a Chwnsler Cyffredinol y Brifysgol, a'r Pennaeth Cydymffurfedd a Risg wedi arwain at atgyfeirio'r achos a chymryd camau gweithredu o dan Bolisi Gwrth-dwyll a Gwrth-lwgrwobrwyaeth y Brifysgol.

1262 Hunanwerthusiad Blynyddol o Effeithiolrwydd y Pwyllgor Archwilio a Risg

Cafwyd ac ystyriwyd papur 23/696C 'Hunanwerthusiad Blynyddol o Effeithiolrwydd y Pwyllgor Archwilio a Risg'.  Siaradodd y Cadeirydd am yr eitem hon.

Nodwyd

1262.1 Bod canlyniadau'r arolwg yn gadarnhaol yn achos y mwyafrif o feysydd; bod ymatebion llai cadarnhaol wedi dod i law mewn perthynas â'r ddau gwestiwn canlynol:

  • 3.5 Pan fyddai penderfyniad wedi'i wneud neu pan geid cytundeb ar gamau gweithredu, roedd yr aelodau'n teimlo'n hyderus y byddai hyn yn cael ei roi ar waith fel y cytunid arno ac yn unol â'r amserlen a bennid.
  • 7.2 Roedd y Pwyllgor yn glir ynghylch y berthynas ategol a oedd ganddo â phwyllgorau eraill y corff llywodraethu neu’r Senedd.

1262.2  Bod amseroldeb cyflawni camau gweithredu wedi’i drafod yn gynharach yn y cyfarfod ac nad oedd angen cymryd camau pellach; bod yna le i aelodau'r Pwyllgor feithrin gwell dealltwriaeth o'r strwythur llywodraethu ehangach a rôl a chyfrifoldebau pwyllgorau eraill y Brifysgol.

1262.3  Bod yr arolwg wedi rhoi adborth cadarnhaol iawn mewn perthynas â’r Cadeirydd a’r ffaith bod y Pwyllgor yn cael ei gadeirio’n effeithiol.

Penderfynwyd

1262.4 Y byddai sesiwn ddatblygu yn cael ei darparu ar gyfer aelodau ar y strwythur llywodraethu ehangach a rôl a chyfrifoldebau pwyllgorau eraill y Brifysgol.

1262.5  Y byddai adolygiad blynyddol nesaf y Pwyllgor o effeithiolrwydd yn cynnwys mewnbwn allanol. Byddai natur y mewnbwn hwn yn cael ei bennu, ond gallai o bosibl fod yn fewnbwn gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio neu Bennaeth Archwilio o sefydliad arall, neu gan adolygydd annibynnol.

1263 Unrhyw Fater Arall

Siaradodd y Cadeirydd am yr eitem hon.

Nodwyd

1263.1 Bod Prif Swyddog Gweithredu ac Ysgrifennydd Dros Dro y Brifysgol yn bresennol yn ei chyfarfod olaf ar ôl deng mlynedd o wasanaeth i'r Brifysgol; bod y Pwyllgor wedi mynegi ei ddiolch am ei chyfraniad a'r gefnogaeth a roddwyd i'r Pwyllgor.

1264 Adolygu’r risgiau a nodwyd ar y Gofrestr Risgiau

Penderfynwyd

1264.1 Bod y gofrestr risgiau yn cynrychioli’r wybodaeth a roddwyd i’r Pwyllgor yn gywir.

1265 Eitemau a gafwyd er gwybodaeth

Nodwyd

1265.1 Y papurau canlynol:

  • 23/697C Adolygiad Blynyddol o'r Gwasanaeth Archwilio Allanol
  • 23/698 Amserlen Busnes y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn i ddod

Gadawodd pob Swyddog y cyfarfod ar gyfer yr eitemau a gadwyd yn ôl, ar wahân i'r Pennaeth Archwilio Mewnol a'r Cynghorydd Llywodraethu.

1266  Cyfarfod Cyfrinachol

Ar ôl cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Risg, cynhaliwyd cyfarfod cyfrinachol. Roedd aelodau'r Pwyllgor Archwilio a Risg, yr archwilwyr allanol, a'r Cynghorydd Llywodraethu yn bresennol.

Penderfynwyd

1266.1 Y byddai archwiliadau dwfn o risgiau cydymffurfedd cyfreithiol a rheoleiddiol penodol yn cael eu cynnal yn rheolaidd.

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2024 yn gofnod gwir a chywir ac fe'u cymeradwywyd gan y Pwyllgor ar 10 Hydref 2024.

Tabl rheoli'r ddogfen

Teitl y ddogfen:Cofnodion Pwyllgor Archwilio a Risg 20 Mehefin 2024
Dyddiad dod i rym:17 Hydref 2024