Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Datganiad ar iaith niweidiol yng nghatalog y llyfrgell

  • Diweddarwyd ddiwethaf:

Nod Gwasanaethau Llyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd yw sefydlu diwylliant cynhwysol, ac rydyn ni’n cefnogi’n llawn ymrwymiad y Brifysgol i feithrin, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhob un o’n harferion a’n gweithgareddau. Mae ein casgliadau’n rhai amrywiol, ac rydyn ni’n ymdrechu i ddisgrifio ein hadnoddau mewn modd sy’n addas ac yn barchus at bob cymuned sy'n creu, yn defnyddio ac yn cael eu cynrychioli yn y casgliadau dan ein rheolaeth.

Rydyn ni’n cydnabod bod cynnwys a disgrifiadau presennol ein casgliadau’n adlewyrchu rhagfarnau personol a chymdeithasol eu crewyr a'r cyfnodau y cawson nhw eu creu ynddyn nhw. O ganlyniad, gallan nhw gynnwys geiriau, delweddau, credoau neu ystrydebau hen ffasiwn a/neu sarhaus, gan gynnwys iaith sy’n hiliol, yn rhywiaethol, yn ableddol, yn drefedigaethol, yn homoffobig, yn drawsffobig, yn senoffobig neu, fel arall, yn fychanol ac yn niweidiol. Yn yr un modd, rydyn ni’n cydnabod bod gormes a rhagfarn yn aml wedi’u gwreiddio, yn cael eu cynnal ac yn cael eu bytholi yn y safonau catalogio rhyngwladol a ddefnyddiwn er mwyn disgrifio a chategoreiddio deunyddiau.

Nid yw Prifysgol Caerdydd yn cymeradwyo’r rhagfarnau a gaiff eu mynegi yn y deunyddiau hyn a’u hadlewyrchu yn y systemau wedi’u hen sefydlu sy’n eu disgrifio. Er bod staff Gwasanaeth Llyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd yn ymrwymedig i ddefnyddio iaith gynhwysol a pharchus wrth ddisgrifio adnoddau, hwyrach y byddwch chi’n taro ar iaith ansensitif, wedi dyddio neu amhriodol yn ein catalog, a hynny am y rhesymau a ganlyn:

  • Wrth ddisgrifio adnoddau, rydyn ni’n trawsgrifio gwybodaeth allweddol, megis teitlau cyhoeddiadau ac enwau sefydliadau neu ddigwyddiadau, yn uniongyrchol o ddeunyddiau’r llyfrgelloedd i sicrhau cywirdeb eitemau a bod modd dod ar eu traws. Gall yr wybodaeth hon gynnwys iaith sarhaus neu dermau sydd bellach wedi dyddio.
  • Rydyn ni wedi cadw termau niweidiol er mwyn cadw cywirdeb hanesyddol a chynrychioli'r deunydd yn ei fformat gwreiddiol yn llawn; nid ydyn ni’n sensro iaith hanesyddol sy'n dogfennu’r cyd-destun cymdeithasol, y materion a’r agweddau yn yr oes y cafodd yr adnodd ei greu ynddi na barn ei grewyr.
  • Nid ydyn ni’n newid defnydd y crewyr o dermau sy’n disgrifio pobl. Gallai hyn gynnwys iaith sydd bellach wedi dyddio, yr ystyriwyd ei bod yn dderbyniol ac a gafodd ei defnyddio gan gymuned y crewyr i ddisgrifio'u hunain ar y pryd, neu dermau dirmygus a ddefnyddiwyd yn erbyn eu cymuned y mae'r crëwr wedi'u hadfer.
  • Mae nifer fawr o'n hadnoddau’n cael eu cynnal gan sefydliadau allanol a gwerthwyr masnachol, sy'n creu ac yn darparu cofnodion disgrifiadol cysylltiedig nad oes modd inni eu diwygio.
  • Hwyrach na fydd rhai o’r cofnodion mwy hen wedi cael eu diweddaru er mwyn adlewyrchu'r ddealltwriaeth a'r newidiadau cyfredol yn y derminoleg. Gallai cofnodion hefyd gynnwys iaith sy'n cael ei herio a/neu sy'n amrywio o fewn cymunedau a rhyngddyn nhw.
  • Rydyn ni’n defnyddio rhestrau geirfa safonol megis Penawdau Pwnc Llyfrgell y Gyngres a Phenawdau Pwnc Meddygol (MeSH) er mwyn gwella’r broses o chwilio a dod o hyd i adnoddau. Nid oes gan staff y llyfrgell reolaeth uniongyrchol dros yr iaith a ddefnyddir yn y geirfaoedd hyn, sy'n aml yn methu â chofnodi profiadau cymunedau ymylol yn gywir, yn rhagfarnllyd gan amlaf ac yn parhau i ddefnyddio iaith wedi dyddio a/neu niweidiol oherwydd bod angen i geisiadau i newid y derminoleg fynd drwy broses adolygu a chymeradwyo helaeth er mwyn diweddaru’r derminoleg.

Rydyn ni’n cydnabod ein cyfrifoldeb i ddisgrifio ein casgliadau a'u crewyr yn gywir ac yn sensitif, gyda gofal arbennig am ein deunyddiau niferus sydd naill ai’n deillio o bobl ymylol, wedi’u creu ganddyn nhw neu’n eu disgrifio. Rydyn ni’n ymdrechu i sicrhau bod pob un o’n defnyddwyr yn teimlo ei fod yn cael ei barchu a'i werthfawrogi, ac rydyn ni wrthi'n gweithio tuag at liniaru’r niwed a gaiff ei achosi gan iaith sarhaus a geir yn ein catalog. Rydyn ni’n glynu wrth Gôd Moeseg y Catalogwyr ac yn rhoi camau adfer ar waith yn ein harferion catalogio, sy’n cynnwys proses barhaus o:

  • Nodi, unioni a phennu dewisiadau amgen addas ar gyfer iaith niweidiol mewn penawdau pwnc o fewn cofnodion cyfredol lle mae gennyn ni’r gallu i wneud newidiadau.
  • Sicrhau defnydd o iaith sy’n gynhwysol, yn gywir ac yn gyfredol wrth symud ymlaen i ddisgrifio adnoddau sydd newydd eu caffael a gwella'r ffyrdd y mae cymunedau ymylol yn cael eu cynrychioli yn ein casgliadau.
  • Cyfeirio’n rheolaidd at adnoddau cyfredol a pherthnasol ynghylch yr iaith niweidiol a detholedig a ddefnyddir i gynrychioli cymunedau ymylol: i lywio ein dewis o eirfa a chynnal ymwybyddiaeth o unrhyw newidiadau yn y defnydd o iaith gyfoes, er mwyn inni allu addasu ein harferion yn unol â hynny.
  • Codi ymwybyddiaeth defnyddwyr o bresenoldeb posibl iaith niweidiol yng nghatalog ein llyfrgell, a’r rhesymau dros hynny, gan roi sylw i derminoleg sarhaus pan fydd defnyddwyr wedi tynnu ein sylw ati ac annog adborth fel y gallwn ni ddysgu ohono a gwella ein harferion (gweler isod i gael rhagor o wybodaeth).
  • Cefnogi ymdrechion yn y proffesiwn i herio a disodli termau rhagfarnllyd a niweidiol a geir ym Mhenawdau Pwnc Llyfrgell y Gyngres a Phenawdau Pwnc Meddygol (MeSH).
  • Datblygu a chefnogi strategaethau sefydliadol gwrth-hiliol a chynhwysol drwy gymryd rhan mewn trafodaethau a chyfrannu at fentrau mwy ym mhob rhan o Brifysgol Caerdydd a’r gymuned ehangach o lyfrgelloedd yng Nghymru.

Wrth i ddefnydd a dealltwriaeth o iaith esblygu gyda threigl amser, rydyn ni’n cydnabod mai proses fyfyriol a pharhaus fydd cynnal a diweddaru ein miloedd a miloedd o gofnodion i sicrhau eu bod yn disgrifio’r adnoddau mewn modd cywir a pharchus. Rydyn ni’n deall efallai na fyddwn ni bob amser yn gwneud y penderfyniadau cywir, a byddwn ni’n croesawu adborth i'n helpu i fynd i'r afael â'r mater cymhleth hwn a gwella ein dull o ymdrin ag ef.

Os bydd gennych chi gwestiynau neu sylwadau sy'n gysylltiedig â'r dulliau hyn, cysylltwch â ni yn cataloguing@caerdydd.ac.uk.

Byddwn ni’n adolygu ac yn mynd i'r afael ag unrhyw iaith yr adroddir ei bod yn niweidiol yn unol â'r datganiad hwn a'r polisi catalogio; gan gydbwyso ein hymrwymiad i ddisgrifio adnoddau mewn modd cywir a sensitif sy’n cadw’r cyd-destun gwreiddiol a’r angen i sicrhau y gellir dod o hyd i adnoddau.  Gallai camau gweithredu posibl gynnwys y canlynol ond nid dim ond y rhain:

  • disodli termau niweidiol yn y cofnod gydag iaith sy’n fwy priodol
  • cadw'r iaith dan sylw a darparu gwybodaeth ddisgrifiadol ychwanegol i roi cyd-destun i’r deunyddiau a chydnabyddiaeth o'r derminoleg niweidiol a ddefnyddir
  • peidio â gwneud newidiadau i'r cofnod (er enghraifft, mewn achosion lle mae'r cofnod yn eiddo i sefydliad allanol ac nid oes modd inni ei ddiwygio)

Byddwn ni’n diweddaru'r datganiad hwn yn ôl yr angen i adlewyrchu ein dealltwriaeth esblygol o'r mater a'r addasiadau i'n prosesau. Mae'r datganiad hwn yn cydnabod ymdrechion nifer o lyfrgelloedd ac archifau eraill sy'n mynd i'r afael â rhagfarn ac iaith niweidiol yn eu cofnodion disgrifiadol ac yn tynnu ar ddatganiadau tebyg a gyhoeddwyd ganddyn nhw.

Tabl rheoli'r ddogfen

Teitl y ddogfen:Datganiad ar iaith niweidiol yng nghatalog y llyfrgell
Statws y ddogfen:Cymeradwywyd