Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Polisi Camymddygiad Rhywiol ac Aflonyddu Rhywiol

  • Fersiwn 1.0
  • Diweddarwyd ddiwethaf:
FersiwnNoddwr y Polisi ym Mwrdd Gweithredol y BrifysgolY Corff/Swyddog CymeradwyoDyddiad
1Cyfarwyddwr Pobl a DiwylliantBwrdd Gweithredol y Brifysgol24 Medi 2024

1. Pwrpas

1.1 Mae'r polisi hwn yn nodi disgwyliadau'r Brifysgol o ran ymddygiad gan staff a myfyrwyr a dulliau o ymdrin â chwynion am aflonyddu rhywiol a chamymddwyn rhywiol. Y bwriad yw y bydd yn amddiffyn myfyrwyr a staff rhag ymddygiad rhywiol amhriodol. Gall y fath ymddygiad gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, drais, meithrin perthynas amhriodol, camymddwyn ac aflonyddu.

1.2 Mae’r polisi’n tanlinellu ymrwymiad y Brifysgol i strategaeth Llywodraeth Cymru a geir yn Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) Llywodraeth Cymru: Strategaeth Genedlaethol 2022-2026. Mae’r strategaeth hon yn cynnwys ymrwymiad i fynd i’r afael ag “aflonyddu rhywiol a thrais, a’r ymddygiadau sy’n ei alluogi, ym mhob rhan o’n cymdeithas”.

1.3 Mae’r polisi hwn yn ystyried darpariaethau Deddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Diogelu Gweithwyr (Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010) 2023 a fydd o 26 Hydref 2024 yn cyflwyno rhwymedigaeth gadarnhaol ar gyflogwyr i gymryd “camau rhesymol” i atal aflonyddu rhywiol ar eu gweithwyr yn ystod eu cyflogaeth.

1.4 Bydd ymchwiliadau troseddol yn cael blaenoriaeth yn y lle cyntaf dros ymchwiliadau a gynhelir gan y Brifysgol. Os oes ymchwiliad troseddol ar y gweill mae’n bosibl y bydd angen i'r Brifysgol oedi ymchwiliad fel nad yw'n peryglu unrhyw achos troseddol. Gall rhai honiadau, oherwydd eu difrifoldeb, gael eu cyfeirio at yr heddlu ac ni fydd y Brifysgol yn ymchwilio iddynt. Yn yr achosion hyn, byddwn yn gweithio ar y cyd â'r myfyriwr/aelod o staff ac yn gwneud penderfyniad ar sail risg. Mewn rhai amgylchiadau, bydd y Brifysgol yn cael gwybod am amodau mechnïaeth myfyriwr/aelod o staff ac os bydd angen, os digwydd hyn bydd yn cymryd camau i sicrhau diogelwch pob myfyriwr/aelodau o staff. Bydd y camau a gymerir o dan y polisi hwn yn ymwneud â safonau ymddygiad, ac urddas a ddisgwylir ac ni allant fod ar ffurf ymchwiliad troseddol.

1.5 Cefnogir y polisi hwn gan weithdrefnau a chanllawiau priodol ar adrodd a thrin honiadau.

2. Y Cwmpas

2.1 Yng nghyd-destun y polisi hwn, ystyr staff yw unrhyw unigolyn a gyflogir gan y Brifysgol neu a hurir ganddi i wneud gwaith i'r Brifysgol.  Mae gweithwyr, megis gweithwyr achlysurol, gweithwyr asiantaeth, penodiadau er Anrhydedd ac Emeritws, academyddion sy'n ymweld ac unigolion eraill a allai fod â pherthynas waith â'r Brifysgol, neu a oedd â pherthynas waith â'r Brifysgol yn y gorffennol megis cyn-fyfyrwyr, hefyd yn dod o dan y polisi hwn ac er nad oes perthynas gyflogaeth uniongyrchol, at ddiben y polisi hwn defnyddir term generig sef “staff” i ddisgrifio unigolion a gyflogir yn uniongyrchol a gweithwyr, ymwelwyr ac ati.

2.2  Mae myfyrwyr sy'n cael eu cyflogi dros dro neu'n barhaol fel staff yn cael eu cynnwys fel aelodau o staff1. Fodd bynnag, os bydd sefyllfa yn codi sy’n peri pryder pan nad yw’r myfyriwr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cyflogaeth ond yn ystod ei astudiaethau, yna dylid ei ystyried yn fyfyriwr yn yr amgylchiadau hyn a bydd y gweithdrefnau sy’n ymwneud â myfyrwyr yn hytrach nag â staff yn berthnasol.

2.3 Mae'r polisihefyd yn ymwneud ag ymgeiswyr am swyddi.

2.4  Gall cyn-aelodau o staff a chyn-fyfyrwyr ddefnyddio gweithdrefnau’r Brifysgol a amlinellwyd i adrodd am honiad o aflonyddu rhywiol a/neu gamymddwyn rhywiol a allai fod wedi digwydd fisoedd neu flynyddoedd ynghynt.

2.5 Yng nghyd-destun y polisi hwn mae myfyriwr yn cyfeirio at unigolion sydd wedi cofrestru fel myfyrwyr ar gwrs israddedigion, ôl-raddedigion ac unigolion y mae staff yn gwybod neu y dylen nhw wybod o fewn rheswm eu bod yn fyfyrwyr cyfredol, yn ddarpar-fyfyrwyr, neu'n fyfyrwyr sy’n dychwelyd.

2.6 Mae'r polisi hwn hefyd yn berthnasol i’r rhai sy'n gweithio fel contractwyr sydd hefyd wedi'u rhwymo gan delerau'r polisi hwn fel y mae unrhyw berson sy'n ymwneud â’r Brifysgol neu yn ei chynrychioli.

1 Mae hyn yn cynnwys myfyrwyr sy'n cymryd rhan mewn rolau ym Mywyd Myfyrwyr (cyswllt myfyrwyr, mentoriaid sy’n gyd-fyfyrwyr, bywyd preswyl, llysgenhadon hyrwyddwyr llesiant a gweithgareddau allgymorth cynyddu cyfranogiad)

3. Polisi

3.1 Mae gan y Brifysgol agwedd dim goddefgarwch tuag at aflonyddu rhywiol a chamymddwyn rhywiol; mae hyn yn golygu na fyddwn yn cymeradwyo nac yn anwybyddu adroddiadau o aflonyddu rhywiol neu gamymddwyn rhywiol. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu profiad gwaith ac astudio cadarnhaol i weithwyr, staff a myfyrwyr; mae'n disgwyl y safonau ymddygiad uchaf gan bob aelod o'i gymuned, fel y nodir yn y polisi hwn.

3.2 Bydd unrhyw honiad yn cael ei drin o ddifri, waeth beth fo hynafedd y rhai dan sylw; gall unrhyw un y canfyddir ei fod wedi ymddwyn yn annerbyniol wynebu camau disgyblu hyd at ddiswyddo neu waharddiad.

3.3 Ni fydd erledigaeth unrhyw unigolyn sy'n gwneud cwyn o dan y polisi hwn

yn cael ei oddef ac ymdrinnir ag ef dan Weithdrefn Ddisgyblu berthnasol y Brifysgol. Mae camymddwyn rhywiol ac aflonyddu rhywiol yn gamymddygiad difrifol a gallai arwain at ddiswyddo (i weithwyr) neu waharddiad dros dro neu barhaol (i fyfyrwyr).

4. Rolau a chyfrifoldebau

4.1 Noddwr

Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant

4.2 Perchennog y Polisi

Partner Busnes Adnoddau Dynol, Polisïau a Phrosiectau

4.3 Penaethiaid Ysgolion/Gwasanaethau Proffesiynol a rheolwyr llinell

4.3.1 Mae’n ddyletswydd ar bob arweinydd a rheolwr llinell i ymgyfarwyddo â’r polisi hwn ac i wneud pob ymdrech i sicrhau nad yw camymddwyn rhywiol nac aflonyddu rhywiol yn digwydd, yn enwedig yn y meysydd gwaith y maent yn gyfrifol amdanynt.

4.3.2 Disgwylir i bawb ymgymryd â'u rôl yn unol â disgwyliadau perfformiad Academaidd a Choleg Caerdydd a gwerthoedd ac ymddygiad y Gwasanaethau Proffesiynol a bod yn fodelau rôl o'u disgwyliadau - Mewnrwyd - Prifysgol Caerdydd.

4.3.3 Dylai pob arweinydd a rheolwr llinell ragweld sefyllfaoedd lle gallai aelodau o staff fod yn destun aflonyddu rhywiol yn ystod eu cyflogaeth a chymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol rhag digwydd, gan gynnwys gan drydydd parti.

4.4  Pob aelod o staff a phob myfyriwr

Mae rhwymedigaeth ar bob aelod o staff a phob myfyriwr i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r polisi hwn.

4.5 Adran Adnoddau Dynol

Bydd Datblygu Sefydliadol a Staff yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant ar gymhwyso'r polisi hwn.

4.6 Contractwyr

Mae rhwymedigaeth ar bob contractwr i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r polisi hwn.

5. Monitro ac adolygu

5.1 Trwy ddeiliaid swyddi enwebedig, bydd y Prif Swyddog Gweithredu yn sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw a’u hadolygu mewn perthynas â:

  • datgeliadau a wneir gan staff a myfyrwyr,
  • achosion cwynion a disgyblu perthnasol mewn perthynas â staff a myfyrwyr.

5.2 Bydd adroddiadau monitro yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

5.3 Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu'n flynyddol.

6. Polisïau a gweithrefnau cysylltiedig

Y polisi ar Berthnasoedd Personol

Polisi Urddas yn y Gwaith ac Wrth Astudio

Polisi Caffael

Polisi Caffael Cyfrifol

Polisi Diogelu

Siarter y Myfyrwyr

Gweithdrefn Gwyno i Fyfyrwyr

Gweithdrefn Ymddygiad Myfyrwyr

Gweithdrefn Addasrwydd i Ymarfer

Gweithdrefn Addasrwydd i Astudio

Polisi Disgyblu Staff graddau 1-4 a Thiwtoriaid Graddedig

Gweithdrefn Disgyblu Staff Academaidd – Statud XV rhan III

Gweithdrefn Gwyno ar gyfer staff academaidd – Statud XV Rhan VI


Tabl rheoli'r ddogfen

Teitl y ddogfen:Polisi Camymddygiad Rhywiol ac Aflonyddu Rhywiol
Rhif y fersiwn:1.0