Datganiad ar ddeilliannau graddau 2024
- Dyddiad dod i rym:
- Dyddiad yr adolygiad nesaf:
- Diweddarwyd ddiwethaf:
- Lawrlwytho'r ddogfen hon (Word, 577.0 KB)
Dewch i wybod pam rydyn ni’n cyhoeddi datganiad ar ddeilliannau graddau.
Mae prifysgolion yng Nghymru a Lloegr yn cyhoeddi datganiad ar ddeilliannau graddau i ddangos sut rydyn ni’n diogelu gwerth ein graddau. Mae hefyd yn dangos sut mae ein safonau academaidd yn cael eu monitro a’u hadolygu.
Cyhoeddon ni’r datganiad cyntaf ar ddeilliannau graddau yn 2020. Cafodd hwn ei ddiweddaru yn 2024 ac mae’n rhoi trosolwg o’r canlynol:
- proffil dosbarthiad graddau’r Brifysgol.
- sut mae deilliannau myfyrwyr yn cael eu hadolygu'n flynyddol i sicrhau bod safonau academaidd yn cael eu gosod a'u cynnal yn briodol, gan gyfeirio at ddisgwyliadau allanol.
- manylion am arferion asesu, trefniadau llywodraethu a chamau gweithredu yn y dyfodol i ddiogelu safonau academaidd dyfarniadau a gwella dysgu ac asesu er mwyn sicrhau y gall myfyrwyr gyflawni eu potensial.
Proffiliau dosbarthu graddau
Mae proffil deilliannau graddau’r Brifysgol yn cynnwys data ar ddosbarthiad graddau myfyrwyr israddedig sy'n ennill graddau dosbarthedig ar Lefel 6 (Baglor) a Lefel 7 (Meistr Integredig) fel y'u diffinnir gan y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch (FHEQ).
Mae’r cynnydd yng nghyfran y graddau anrhydedd dosbarth 1af yn 2019/20 a 2020/21 i’w briodoli i’r defnydd o bolisi rhwyd ddiogelwch (tua 3 phwynt canran yn 2020/21). Cymeradwywyd polisi’r rhwyd ddiogelwch yn 2019/20 i sicrhau nad oedd myfyrwyr o dan anfantais oherwydd y tarfu o ganlyniad i bandemig Covid-19. Mae Universities UK o’r farn mai defnyddio polisïau dim anfantais (y rhwyd ddiogelwch) sydd i’w gyfrif am y cynnydd yng nghyfran y graddau dosbarth 1af. Mae'r data yn y graff yn dangos bod
- amrywiaeth rhwng yr ysgolion o ran cyfran y myfyrwyr sy'n ennill graddau dosbarth 1af.
- yr amrywiadau yn nodweddiadol o ran categorïau pynciol a ddiffinnir yn genedlaethol yn nata'r sector addysg uwch.
- proffil y deilliannau graddau, ar ôl tynnu'r rhwyd ddiogelwch, bellach wedi adfer yn fras y patrwm cyn y pandemig.
Cymharu â’r Sector
Fel y dangosir yn y graffiau isod, roedd y cynnydd yng nghyfran y graddau dosbarth 1af ym Mhrifysgol Caerdydd yn fwy cymedrol nag ar gyfer sector y DU sy’n rhoi sicrwydd nad oedd polisi rhwyd ddiogelwch y Brifysgol yn arwain at ddeilliannau chwyddedig. Yn ogystal, mae’r data’n awgrymu bod proffil deilliannau graddau’r Brifysgol wedi dychwelyd i’r patrwm cyn y pandemig yn gyflymach na sector y DU.
Proffil nodweddion y myfyrwyr
Byddwn ni’n adolygu ein graddau dosbarth 1af a’n graddau da (dosbarth 1af a 2:1) yn ôl grwpiau demograffig dethol i ganfod a oes bylchau yn y dyfarniadau ac i ddeall y rhesymau sylfaenol dros broffil deilliannau’r graddau.
Ethnigrwydd
Felly, rydyn ni’n adrodd bob blwyddyn ar y bwlch dyfarnu o ran myfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol er mwyn adolygu’r gwahaniaeth yn y pwynt canran rhwng deilliannau myfyrwyr gwyn y DU a myfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol y DU ymhlith y rheini sy'n ennill graddau da (1af a 2-1).
Wrth wneud y dadansoddiad hwn, mae'n fwy perthnasol a phriodol cyflwyno data gronynnog ar ethnigrwydd yn achos deilliannau graddau yn hytrach na chyfuno'r data ar ethnigrwydd yn un categori Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
Mae'r graff isod yn dangos bod gwahaniaethau o bwys yng nghyfran myfyrwyr y DU sy'n cael graddau dosbarth 1af a graddau anrhydedd da, gan ddibynnu ar ethnigrwydd. Mae cyfran y myfyrwyr gwyn o’r DU sy’n cael graddau dosbarth 1af yn gyson uwch na myfyrwyr y DU o grwpiau ethnig eraill, ac fel arfer yn uwch yn achos graddau anrhydedd da. Mae'r bwlch yn achos myfyrwyr Asiaidd sy'n ennill gradd anrhydedd dda wedi lleihau. Fodd bynnag, mae'r bwlch yn achos myfyrwyr Du wedi parhau yn gyffredinol dros y 5 mlynedd ddiwethaf.
Rhyw
Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae cyfran y myfyrwyr benywaidd sy'n ennill graddau dosbarth 1af a graddau anrhydedd da yn gyson uwch na myfyrwyr gwrywaidd.
Anabledd
Mae'r graff yn dangos nad oes llawer o wahaniaeth yng nghyfran y myfyrwyr sy'n ennill graddau anrhydedd dosbarth 1af neu dda, ni waeth a oes anabledd datganedig ai peidio.
Oedran
Mae'r graff isod yn dangos bod cyfran y myfyrwyr aeddfed (≥21 oed pan maen nhw’n dechrau) sy'n ennill graddau dosbarth 1af yn sylweddol ac yn gyson uwch na chyfran y myfyrwyr iau.
Arferion asesu a marcio
Mae ein Rheoliadau Academaidd a’n polisïau a’n gweithdrefnau cysylltiedig yn cadarnhau ein harferion asesu a marcio.
Cadarnhaodd Adolygiad Gwella Ansawdd (QER) a gynhaliwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) ym mis Mawrth 2020 fod system ansawdd academaidd y Brifysgol yn bodloni’r gofynion canlynol:
- y Safonau a’r Canllawiau er Sicrhau Ansawdd yn Rhan 1 Maes Addysg Uwch Ewrop (ESG) at ddibenion sicrwydd mewnol
- gofynion rheoliadol sylfaenol perthnasol Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru;
- Y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch (FfCAU)
- Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC)
- Disgwyliadau ac arferion craidd a chyffredin Côd Ansawdd Addysg Uwch y DU.
Mae ein prosesau dilysu ac ailddilysu rhaglenni yn sicrhau bod yr hyn rydyn ni’n ei ddisgwyl gan raddedigion mewn disgyblaethau yn cyd-fynd â datganiadau meincnodau pynciol yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd a gofynion Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSRB) pan fo hynny’n berthnasol.
Caiff arholwyr allanol eu penodi ac maen nhw’n aelodau llawn o Fyrddau Arholi. Bydd y rhain yn cyflwyno adroddiadau blynyddol a gofynnir iddyn nhw wneud sylwadau ar safon academaidd dyfarniadau a chyflwyno argymhellion pan fo’n briodol. Mae’r arholwyr allanol yn parhau i gadarnhau bod safonau academaidd dyfarniadau'r Brifysgol yn bodloni gofynion y fframwaith cymwysterau cenedlaethol perthnasol a bod deilliannau graddau yn ddilys ac yn ddibynadwy.
Llywodraethu academaidd
Y Cyngor yw corff llywodraethol y Brifysgol ac mae’n gyfrifol am reoli a chynnal yr holl agweddau ar faterion y Brifysgol mewn modd effeithiol. Y Senedd yw’r prif awdurdod academaidd ac mae'n gyfrifol am benderfynu ar bolisïau a rheoliadau addysgol ar ran y Cyngor. Mae’r Senedd wedi dirprwyo is-bwyllgor o’r enw y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd (ASQC) yn benodol i fod â’r prif gyfrifoldeb dros oruchwylio safonau dyfarniadau’r Brifysgol.
Mae’r Cyngor yn cael Adroddiad Ansawdd Blynyddol gan y Senedd a’r Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd (ASQC) ar sut mae system ansawdd academaidd y Brifysgol yn cael ei gweithredu. Mae’r adroddiad, ymhlith pethau eraill, yn rhoi proffil o ddeilliannau graddau i’r Cyngor, yn ogystal ag adborth gan arholwyr allanol o ran safonau academaidd. Mae hefyd yn cadarnhau sut mae’r Brifysgol wedi parhau i bennu safonau academaidd a’u cynnal. Yr Adroddiad Ansawdd Blynyddol yw'r sail dystiolaethol sy’n rhoi sicrwydd i’r Cyngor ynghylch safonau academaidd y dyfarniadau.
Un o brif brosesau system yr ansawdd academaidd, ac sy’n llywio’r adroddiad ansawdd blynyddol, yw’r broses Adolygu a Gwella. Ysgolion academaidd sy’n cynnal yr adolygiad hwn, gan adrodd i’r ASQC drwy’r Colegau, i sicrhau bod disgwyliadau a gofynion sy’n ymwneud â safonau academaidd ac ansawdd profiad y myfyrwyr yn cael eu bodloni, a bod cynlluniau i wella. Elfen allweddol yn y broses hon yw adolygu deilliannau’r graddau, gan gynnwys adroddiadau gan y Byrddau Arholi a’r arholwyr allanol, i sicrhau bod safonau academaidd yn cael eu cynnal.
Algorithmau dosbarthu graddau
Manylir ar ein halgorithm dosbarthu graddau a’r ffiniau rhwng dosbarthiad graddau yn ein rheoliadau academaidd. Nid yw’r algorithm na’r ffiniau wedi newid yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, ac maen nhw ar waith ers 2013/14. O'i adolygu, gallwn gadarnhau bod algorithm graddau’r Brifysgol yn cyd-fynd ag egwyddorion sector addysg uwch y DU at ddibenion llunio algorithmau effeithiol.
Arferion addysgu ac adnoddau dysgu
Mae'r Brifysgol wedi parhau i fuddsoddi i wella profiadau dysgu'r myfyrwyr drwy roi’r is-strategaeth addysg a myfyrwyr ar waith.
- rhoi amgylchedd dysgu rhithwir (DLE) mwy greddfol ar waith drwy gyflwyno Cyrsiau Ultra Blackboard fesul cam. Mae'r amgylchedd newydd yn rhoi profiad gwell i’r staff a’r myfyrwyr sy’n ei ddefnyddio gan ei fod yn blatfform mwy cyson a diffwdan, ac mae modd ei ddefnyddio ar ffonau symudol.
- datblygu pecyn cymorth datblygu addysg i wella’r adnoddau sydd ar gael i staff wrth ddatblygu rhaglenni gradd newydd a chynllunio rhaglenni sy’n defnyddio addysgeg. Mae’r rhain yn cynnig taith glir sy’n seiliedig ar anghenion y myfyrwyr, ac yn rhan gyfannol a llawn o gynwysoldeb, cyflogadwyedd a chynaliadwyedd.
- gwreiddio Cyflogadwyedd, Sgiliau a Rhinweddau Graddedigion yn rhan o ddisgwyliadau'r sefydliad ym mhob pob rhaglen gradd.
- cyflwyno rhaglenni Cymrodoriaeth Addysg a DPP Academaidd newydd.
Ers 2021, dyfarnwyd 407 o Gymrodoriaethau drwy’r Rhaglenni achrededig ac o ganlyniad i ehangu’r ddarpariaeth hon, roedd nifer flynyddol y Cymrodoriaethau (Cydymaith, Cymrawd ac Uwch-gymrawd) a ddyfarnwyd i staff y Brifysgol yn uwch na chyfartaledd Grŵp Russell a’r sector.
Creu cymuned ddysgu gynhwysol
Sefydlwyd Fframwaith Addysg Gynhwysol ledled y Brifysgol sy'n cefnogi newidiadau cyfannol yn y ffordd y bydd rhaglenni’n cael eu llunio a’u cyflwyno, gan gydnabod y ffactorau lluosog ynghlwm wrth y bylchau dyfarnu a phwysigrwydd croestoriadedd. Mae'r prosiect wedi datblygu canllawiau ac adnoddau a gyhoeddir yn y pecyn cymorth datblygu addysg, yn cynnal gweithdai ar addysg gynhwysol, ac yn ymgorffori cynwysoldeb mewn adolygiadau o bolisïau/y fframwaith a rhaglen y Cymrodoriaethau Addysg. Mae'r prosiect yn cynnal gweithdai ar Addysg Gynhwysol ac yn gwneud gwaith pwrpasol mewn ysgolion drwy'r Gwasanaeth Datblygu Addysg. Mae’r Brifysgol yn mapio ei chamau gweithredu yn unol â’r argymhellion yn adroddiadau #Cau’r Bwlch UUK (2019 a 2022) er mwyn deall yn glir y cynnydd hyd yma a diweddaru cynllun gweithredu ar gyfer ei gwaith ar leihau’r bwlch dyfarnu.
Marcio ac adborth academaidd
Cwblhawyd adolygiad o'r Polisi ar Farcio a Chymedroli a'r Polisi ar Adborth Academaidd, a bydd polisïau newydd ar waith o 2024/25 ymlaen. Mae'r newidiadau yn y polisïau yn ymateb i adborth gan staff academaidd, arholwyr allanol a myfyrwyr. Mae’r rhain yn gwella’r ffordd y bydd safonau academaidd yn cael eu goruchwylio ac yn gwella adborth academaidd gan fyfyrwyr. Dylai hyn eu cynorthwyo'n well i wireddu eu potensial.
Mae’r Brifysgol wedi mabwysiadu hyfforddiant Advance HE i arholwyr allanol ac wedi sicrhau ei fod ar gael hefyd i’w staff academaidd. Mae’r hyfforddiant yn cynorthwyo’r staff academaidd i ddeall yn well sut y disgwylir i’r safonau academaidd gael eu goruchwylio.
Uniondeb academaidd
Rydyn ni’n gwella'r cyngor i fyfyrwyr am bwysigrwydd uniondeb academaidd. Mae'r Brifysgol wedi datblygu Adnodd ar Uniondeb Academaidd sy'n gysylltiedig â thri modiwl i fyfyrwyr eu cwblhau.
Rydyn ni wedi paratoi a chyhoeddi canllawiau i’r staff a’r myfyrwyr ar Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol ac mae’r rhain yn ymdrin â meysydd megis pryderon asesu posibl, y manteision at ddibenion addysgu a dysgu, yn ogystal â defnyddio Deallusrwydd Artiffisial wrth lunio asesiadau. Bydd y canllawiau'n cael eu diweddaru'n rheolaidd.
Document history
Version | Date | Author | Notes on revisions |
---|---|---|---|
Ver 4.0 | Hydref 2024 | Rhodri Evans - Pennaeth Llywodraethu Addysg | Fe gyhoeddodd Prifysgol Caerdydd ei Datganiad cyntaf o Ganlyniadau Graddau yn 2020, a hwn yw’r ail Ddatganiad a gafodd ei ddiweddaru yn 2024. |
Tabl rheoli'r ddogfen
Teitl y ddogfen: | Datganiad ar ddeilliannau graddau 2024 |
---|---|
Dyddiad dod i rym: | 01 Medi 2024 |
Dyddiad yr adolygiad nesaf: | Medi 2026 |