Polisi ad–dalu blaendaliadau rhaglenni ôl-raddedig a addysgir
- Diweddarwyd ddiwethaf:
- Lawrlwytho'r ddogfen hon (PDF, 197.0 KB)
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
1. Cyflwyniad
1.1 Mae angen blaendal i sicrhau lle ar y rhan fwyaf o raglenni ôl-raddedig. Pan fydd angen blaendal, bydd y manylion yn y llythyr sy’n cynnig lle ichi yn ffurfiol.
1.2 Cymhwysir y polisi ad-dalu blaendal 14 diwrnod ar ôl talu blaendal ar gyfer rhaglen ôl-raddedig a addysgir.
1.3 Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd â'r wybodaeth am flaendaliadau ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig a addysgir.
2. Cyfnod pwyllo
2.1 Os bydd eich amgylchiadau'n newid yn ystod y 14 diwrnod ar ôl talu blaendal, cewch ofyn am gael ad-dalu’r blaendal. Ar ôl y cyfnod pwyllo 14 diwrnod, caiff polisi Ad-dalu Blaendaliadau’r Brifysgol ei roi ar waith.
2.2 Yn ystod y cyfnod pwyllo 14 diwrnod cewch ofyn am gael ad-dalu’r blaendal gan e-bostioadmissions-advice@caerdydd.ac.uk. Ar ôl ei dderbyn, bydd eich blaendal yn cael ei ddychwelyd cyn pen 30 diwrnod gwaith gan ddefnyddio’r un dull talu ag yn y taliad gwreiddiol, namyn unrhyw daliadau banc neu drosglwyddo a godwyd gan y gwasanaeth talu a ddefnyddiwyd gennych.
2.3 Os byddwch yn ymrestru cyn pen y cyfnod pwyllo 14 diwrnod, daw'r cyfnod pwyllo i ben pan ymrestrwch, a bryd hynny bydd y polisi ar dynnu'n ôl ar ôl ymrestru yn gymwys. Ni ellir ad–dalu'r blaendal ar ôl ymrestru, ond cewch ofyn am symud y blaendal ymlaen i’r cyfnod derbyn nesaf os bydd cais i Ohirio Astudiaethau'n cael ei gyflwyno a'i gymeradwyo.
2.4 Os byddwch yn tynnu'n ôl o'r Brifysgol mwy na phythefnos ar ôl ymrestru, codir - yn unol â Pholisi safonol Prifysgol Caerdydd ar Ffioedd Dysgu - ffi ddysgu pro–rata arnoch yn seiliedig ar nifer yr wythnosau ers ichi ymrestru, a bydd y blaendal yn cael ei dderbyn yn daliad yn erbyn y swm pro–rata hwn, gan gymryd bod y swm yn fwy na swm y blaendal a dalwyd.
2.5 Drwy wneud blaendal, rydych yn cytuno ar amodau a thelerau'r Polisi ar Ad-dalu Blaendaliadau. Nid oes modd trosglwyddo nac ad-dalu’r blaendal ac eithrio o dan yr amgylchiadau a amlinellir isod. Mae’n rhaid gwneud ceisiadau am ad-daliad yn unol â gweithdrefnau a therfynau amser Ad-dalu Blaendaliadau’r Brifysgol. Caiff blaendaliadau eu cadw tan o leiaf ddyddiad cychwyn y cwrs y gwnaed cais amdano, neu’n hwy, yn ôl disgresiwn y Brifysgol.
2.6 Cymeradwyir ad–daliadau yn unol â Pholisi Ad–Dalu'r Brifysgol. Os oes gennych ymholiadau am y polisi ar dalu neu ad-dalu blaendal, e-bostiwchadmissions-advice@caerdydd.ac.uk.
3. Meini prawf cymhwystra
Ar ôl i'r cyfnod pwyllo 14 diwrnod ddod i ben, bydd y Brifysgol yn ystyried y canlynol yn gategorïau cymwys a chaiff ymgeisydd ofyn am ad-daliad yn unol â’r rhain:
3.1 Gwrthodwyd fisa myfyriwr
O dan amgylchiadau o'r fath, mae’n rhaid ichi roi copi wedi'i sganio o lythyr gwrthod y Swyddog Caniatáu Mynediad.
Ni fydd ceisiadau am ad-daliad yn cael eu cymeradwyo yn y categori hwn os yw'r rheswm dros wrthod yn perthyn i’r canlynol:
- mae Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) yn ystyried cais am fisa i fod yn annilys
- rydych wedi darparu dogfennaeth dwyllodrus neu anghywir i gefnogi eich cais am fisa myfyriwr yn y DU
- gwrthodwyd mynediad ichi i'r DU.
3.2 Bu ichi fethu â bodloni gofynion sgiliau Saesneg eich cynnig
Ni fydd methu â threfnu cymryd prawf Saesneg priodol cyn bod eich rhaglen yn dechrau yn cael ei ystyried yn sail dros ad–daliad. Mae’n rhaid ichi roi tystiolaeth eich bod wedi cymryd prawf cydnabyddedig ymhen 12 wythnos cyn dyddiad dechrau eich rhaglen er mwyn bod yn gymwys, ac mae’n rhaid rhoi tystiolaeth o hynny.
Pan nad oes goblygiadau fisa neu fewnfudo o ran UKVI, caiff y Brifysgol ddewis lleihau’r gofynion cyhoeddedig o ran y Saesneg os bydd astudiaethau academaidd blaenorol neu brofiad proffesiynol yn dangos y potensial i lwyddo ar raglen astudio. Os bydd y Brifysgol yn penderfynu lleihau’r gofynion o ran sgiliau Saesneg a'ch bod felly wedi cael eich derbyn ar y rhaglen astudio a gynigir, cedwir eich blaendal os penderfynwch beidio â chymryd y lle.
3.3 Bu ichi fethu â bodloni gofynion academaidd eich cynnig
Os na fyddwch yn bodloni gofynion academaidd eich cynnig, mae’n rhaid ichi gyflwyno eich canlyniadau academaidd (tystysgrif, trawsgrifiadau a chyfieithiadau ardystiedig) i'r Brifysgol cyn gynted ag y bo’r rhain ar gael a chyn dyddiad cychwyn eich rhaglen er mwyn i’r Tiwtor Derbyn eu hystyried. Os byddwn ni wedyn yn cynnig lle ichi ar yr un rhaglen a'ch bod yn penderfynu peidio â derbyn y lle, cedwir eich blaendal.
3.4 Cynigiwyd rhaglen amgen ichi ac ni wnaethoch ei derbyn
Os cynigir rhaglen amgen ichi, naill ai ar seiliau academaidd neu sgiliau Saesneg, bydd gennych yr hawl i gael ad-daliad blaendal cyn pen 14 diwrnod ar ôl i'r cynnig amgen gael ei roi os penderfynwch beidio â'i dderbyn. Os byddwch yn derbyn cynnig amgen mae telerau gwreiddiol polisi'r blaendal yn gymwys, ac ni fydd gennych yr hawl i gael ad–daliad os newidiwch eich meddwl yn nes ymlaen.
3.5 Colli cefnogaeth ariannol ers i'r blaendal gael ei dalu.
Yn unol â’r categori hwn, bydd gofyn ichi roi tystiolaeth o newid mewn amgylchiadau ariannol nad oedd yn hysbys pan dalwyd y blaendal. Er enghraifft, tystiolaeth bod nawdd wedi'i sicrhau cyn talu’r blaendal ac yna ei dynnu'n ôl yn nes ymlaen am resymau y tu allan i'ch rheolaeth. Mae’n rhaid cyflwyno tystiolaeth:
- sy’n cadarnhau bod cymorth ariannol a oedd yn talu am y ffioedd dysgu llawn neu rannol a’r costau byw yn eu lle cyn i’r blaendal gael ei dalu
- sy’n cadarnhau i’r cymorth ariannol hwn gael ei dynnu'n ôl am reswm y tu allan i'ch rheolaeth ar ôl i’r blaendal gael ei dalu
- ar fformat llythyr/contract ffurfiol
- sy’n cael ei llofnodi/stampio gan y noddwr
- sy’n cynnwys eich enw llawn a'ch dyddiad geni
- sy’n cynnwys y rhaglen rydych yn gwneud cais amdani.
Ni fydd datganiadau banc yn cael eu hystyried yn dystiolaeth dderbyniol yn y categori hwn. Ni ystyrir bod cais aflwyddiannus am nawdd, bwrsariaethau, neu fenthyciad yn gymwys i gael ad-daliad yn y categori hwn.
3.6 Mae'r Brifysgol yn newid y rhaglen yn sylweddol
Os bydd y Brifysgol yn newid rhaglen yn sylweddol ar ôl ichi dderbyn cynnig a thalu'r blaendal, bydd gennych yr hawl i ad-daliad blaendal pan ofynnir amdano cyn pen 14 diwrnod ar ôl i’r Brifysgol roi gwybod am y newid.
3.7 Bydd y Brifysgol yn canslo’r rhaglen
Os bydd y Brifysgol yn canslo'r rhaglen rydych wedi derbyn cynnig ar ei chyfer, yna ad-delir yr holl ffioedd a dalwyd.
Fodd bynnag, os cynigir rhaglen amgen ichi, bydd gennych chi’r hawl i gael ad-dalu’r blaendal cyn pen 14 diwrnod i'r cynnig amgen gael ei wneud os penderfynwch beidio â'i dderbyn. Os byddwch yn derbyn cynnig amgen mae telerau gwreiddiol polisi'r blaendal yn gymwys, ac ni fydd gennych yr hawl i gael ad–daliad os newidiwch eich meddwl yn nes ymlaen.
4. Amgylchiadau eithriadol
4.1 Er gwaethaf rhesymau blaenorol, gellir gwneud ad-daliadau blaendal o dan amgylchiadau eithriadol yn ôl disgresiwn y Brifysgol.
4.2 Mae hyn yn ymdrin â materion a fyddai'n atal yr ymgeisydd rhag parhau â'i astudiaethau yn y DU - er enghraifft salwch difrifol neu farwolaeth yn y teulu agos ar ôl talu’r blaendal, neu dorri contract ar ran y Brifysgol.
4.3 Mae’n rhaid cyflwyno prawf dogfennol o amgylchiadau o'r fath a gymeradwywyd gan y swyddog priodol a bod y Brifysgol yn cytuno bod difrifoldeb yr amgylchiadau yn briodol. Mae’n rhaid i dystiolaeth addas fod yn wiriadwy a hwyrach y bydd yn cynnwys:
- adroddiad wedi'i lofnodi / stampio gan ymarferydd meddygol swyddogol
- tystysgrif marwolaeth
- tystysgrifau priodas / geni yn brawf o berthynas.
4.3.1 Yn achos salwch dibynnydd, efallai y gofynnir ichi hefyd roi tystiolaeth o'ch perthynas â'r dibynnydd, megis tystysgrif geni. Pan fydd angen triniaeth fyrdymor (triniaeth sy'n para 12 mis neu lai) ar ymgeisydd (neu ddibynnydd), a phan fydd ymgeisydd yn bodloni’r telerau dros ohirio (pan fydd ymgeisydd yn bodloni telerau'r cynnig ac ni fydd wedi gohirio mynediad cyn hynny), bydd y blaendal yn cael ei symud ymlaen i'r flwyddyn academaidd nesaf. Os na fydd achos o ohirio wedi cael ei gymeradwyo, caiff y blaendal ei ad–dalu.
5. Amgylchiadau annilys
5.1 Nid ystyrir bod trosglwyddo i sefydliad addysgol arall yn y DU ar ôl ymrestru ym Mhrifysgol Caerdydd yn amgylchiad eithriadol a dim ond os bydd rhesymau academaidd dilys dros drosglwyddo o'r fath y caiff ei ystyried.
5.2 Ni fydd myfyrwyr sy'n dewis peidio ag astudio yng Nghaerdydd cyn ymrestru yn gymwys i gael ad–daliad.
5.3 Os na fyddwch yn bresennol ar ddechrau'r rhaglen neu os byddwch yn tynnu'n ôl ar ôl ymrestru, ni chaiff ad–daliad ei wneud. Os oes Rhif Cadarnhau Lle i Fyfyrwyr (CAS) wedi’i roi, bydd y Swyddfa Gartref (UKVI) yn cael gwybod nad ydych wedi ymrestru ar y rhaglen ddisgwyliedig. Mewn achos o'r fath, cewch ofyn i symud y blaendal ymlaen i'r cyfnod derbyn nesaf, os gwneir gais i ohirio a bod hwnnw'n cael ei gymeradwyo. Ni ellir ad–dalu blaendaliadau sy'n cael eu symud ymlaen, oni bai y bodlonir y meini prawf sydd wedi'u rhestru uchod.
6. Gwybodaeth dwyllodrus
6.1 Os canfyddir eich bod wedi rhoi dogfennaeth dwyllodrus neu anghywir i ategu eich cais ar gyfer y Brifysgol, neu'ch cais am Fisa'r DU, neu wrth wneud cais am ad–dalu blaendal, ni fydd y polisi uchod yn gymwys.
6.2 O dan amgylchiadau o'r fath, bydd unrhyw gynnig gan y Brifysgol yn cael ei annilysu a byddwn yn rhoi gwybod i'r awdurdodau priodol yn achos twyll neu ddichell ddifrifol. Mewn achosion o'r fath, cedwir y blaendaliad ac ni fydd hawl i gael ad–daliad.
6.3 Os yw'r Brifysgol yn amau twyll ac yn gofyn am wiriadau ychwanegol parthed eich cymwysterau, mae’n rhaid ichi gydweithredu â'r broses gwirio cymwysterau er mwyn cael eich ystyried am ad-daliad. Gofynion dilysu dogfennau ar gyfer ymgeiswyr.
Atodiad 1: Sut i wneud cais am ad-daliad
1. Gwneud cais am Ad-daliad
1.1 I wneud cais am ad-daliad y tu allan i'r cyfnod pwyllo 14 diwrnod, mae’n rhaid ichi lenwi'rffurflen gais ar-leina rhoi'r dystiolaeth ddogfennol sydd ei hangen (fel yr amlinellir ym mhob categori uchod) drwy e-bost cyn pen 4 wythnos ar ôl dyddiad dechrau'r rhaglen (fel y nodir yn llythyr eich cynnig).
1.2 Dylid e-bostio'r dystiolaeth iadmissions-advice@caerdydd.ac.ukar ôl llenwi’rffurflen gais ar-lein a dim mwy na 4 wythnos ar ôl dyddiad dechrau'r cwrs (fel y nodir yn eich llythyr cynnig).
1.3 Os caiff eich cais am ad-daliad ei ganiatáu, cewch wybod yn ysgrifenedig drwy e-bost gan y Tîm Derbyn. Yna, bydd Tîm Cyllid y Brifysgol yn cysylltu â chi i gadarnhau eich manylion banc. Unwaith y byddwch wedi ymateb i'r Tîm Cyllid, bydd yr ad-daliad yn cael ei brosesu cyn gynted â phosibl ond sylwer y bydd amseroedd prosesu banciau yn amrywio a'u bod y tu hwnt i'n rheolaeth.
1.4 Bydd taliad yn cael ei ddychwelyd drwy'r un dull ag un y taliad gwreiddiol, namyn unrhyw daliadau banc neu drosglwyddo a godwyd gan y gwasanaeth talu a ddefnyddiwyd gennych. Gofyniad yw hwn yn unol â chyfreithiau atal gwyngalchu arian. Ni allwn ad–dalu blaendaliadau i unrhyw gyfrif arall, neu drwy unrhyw ddull talu arall.
Atodiad 2: Y broses gwyno ac apelio
1.1 Rydym yn cydnabod y bydd adegau hwyrach pan fyddwch yn anghytuno â chanlyniad eich cais am ad-dalu blaendal.
1.2 Os byddwch yn anghytuno â phenderfyniad y Brifysgol yn y lle cyntaf, cewch gyflwyno tystiolaeth ychwanegol nad oedd ar gael ar adeg eich cais gwreiddiol am ad-dalu blaendal i'w hailystyried. Anfonwch y dystiolaeth hon i admissions-advice@caerdydd.ac.uk cyn pen 7 diwrnod ar ôl canlyniad eich cais gwreiddiol am ad-daliad.
1.3 Ni fydd eich cais yn cael ei ailystyried oni allwch gyflwyno tystiolaeth ychwanegol.
1.4 Os oes gennych dystiolaeth bod y Brifysgol wedi gwyro oddi wrth ei pholisi cyhoeddedig ar ad-daliadau wrth ystyried eich cais, mae gennych yr hawl i wneud cwyn ffurfiol neu apelio yn unol â Gweithdrefn Gwyno ac Apelio’r Ymgeisydd.
1.5 Gwneir penderfyniadau yng nghategori’r amgylchiadau eithriadol yn ôl disgresiwn y Brifysgol ac felly nid ydynt yn ddarostyngedig i'r broses apelio. Fodd bynnag, os nad ydych yn hapus â'r ffordd yr ymdriniwyd â'ch cais, cewch gyflwyno cwyn ffurfiol.