Gwybodaeth am dderbyniadau ar gyfer astudio yn Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd
- Diweddarwyd ddiwethaf:
Beth sy’n rhaid ei gynnwys ar fy nghais UCAS?
Rhaid i bob ymgeisydd lenwi pob rhan o'r cais UCAS. Yn ogystal, mae datganiad personol sy'n cynnwys gwybodaeth sy'n cefnogi eich addasrwydd ar gyfer y cwrs deintyddol y gwnaed cais amdano a geirda academaidd yn hanfodol.
Rhaid i'r rhai sy'n gwneud cais i'n rhaglenni Hylendid Deintyddol DipHE a BSc Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol gyda chymwysterau BTEC neu Fynediad i Addysg Uwch nodi'n gywir pa gwrs y maent yn ei gwblhau neu wedi'i gwblhau (ee tystysgrif neu ddiploma). Rhaid hefyd nodi'r modiwlau unigol a gwblhawyd (a'r graddau cysylltiedig) yn gywir ar y ffurflen gais fel y gall y tîm derbyn sicrhau bod cynnwys bioleg y cwrs yn addas. Os dyfarnwyd credydau, dylid nodi'r cymhwyster yn yr adran “wedi'i chwblhau” ar y ffurflen UCAS.
Mae’n bosibl y bydd ceisiadau sydd â gwybodaeth goll sy’n dylanwadu ar ein gallu i asesu addasrwydd eich cymwysterau, neu geisiadau â gwybodaeth anghywir, neu geisiadau â chymwysterau sydd wedi’u nodi yn yr adran anghywir ar ffurflen UCAS, yn cael eu gwrthod. Dim ond os bydd amser yn caniatáu yn ystod y broses sgorio cais y cysylltir ag ymgeiswyr am eglurhad.
A oes angen i mi fodloni'r gofynion iaith Saesneg wrth wneud cais?
Rhaid i bob ymgeisydd ddangos tystiolaeth ei fod wedi bodloni'r gofynion iaith Saesneg sylfaenol ar adeg gwneud y cais.
Beth ddylwn i ei gynnwys yn fy natganiad personol?
Dylai datganiad personol pob ymgeisydd gynnwys y canlynol:
- Ymrwymiad i'r proffesiwn deintyddol y gwnaed cais amdano
- Tystiolaeth o'r sgiliau a'r priodoleddau sydd eu hangen ar gyfer y proffesiynau deintyddol
- Dealltwriaeth o'r proffesiynau deintyddol
Mae'r datganiad personol yn cael ei sgrinio ar gyfer y rhai rydym yn bwriadu eu cyfweld, ond nid yw'n cael ei sgorio'n ffurfiol.
Beth yw barn yr Ysgol Deintyddiaeth am flwyddyn i ffwrdd?
Rydyn ni’n croesawu blwyddyn adeiladol i ffwrdd gan ei bod yn rhoi cyfle i chi deithio, cael profiad gwaith, a chyflawni gwaith elusennol ac ati. Rydyn ni’n cydnabod y gall blwyddyn i ffwrdd ehangu eich sgiliau a’ch profiad. Gyda’r sefyllfa costau byw, gallai fod yn ddefnyddiol ennill arian cyn mynd i’r brifysgol hefyd.
A yw'r Ysgol Deintyddiaeth yn derbyn trosglwyddiadau?
Trosglwyddiadau cartref
Nid yw ysgolion deintyddol yn derbyn trosglwyddiadau myfyrwyr o ysgolion eraill. Mae hyn oherwydd nad yw'r gofynion ar gyfer graddio a ddiffinnir gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol yn cael eu haddysgu a'u hasesu mewn trefn debyg. Byddai trosglwyddiadau myfyrwyr hefyd yn amharu ar leoedd sydd wedi'u capio gan y llywodraeth.
Gall ysgolion ystyried trosglwyddiadau ar gyfer myfyrwyr mewn amgylchiadau eithriadol nas rhagwelwyd gyda chymeradwyaeth y rhaglenni anfon a derbyn. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddai angen i'r myfyriwr ailddechrau o flwyddyn un am y rhesymau a ddisgrifiwyd eisoes.
Mae'r Cyngor Ysgolion Deintyddol yn annog darpar fyfyrwyr i ystyried dwyster cyrsiau gofal iechyd y geg, a'u pellter daearyddol posibl o'u rhwydweithiau cymorth, wrth wneud cais am ysgol ddeintyddol.
Trosglwyddiadau rhyngwladol
Ni all myfyrwyr o ysgol ddeintyddol y tu allan i'r DU drosglwyddo i raglen mewn ysgol ddeintyddol yn y DU. Mae hyn oherwydd bod rhaglenni rhyngwladol yn dilyn eu gofynion rheoleiddio lleol sy'n debygol o fod yn wahanol i rai'r DU.
Pa mor gystadleuol yw hi i gael eich derbyn ar raglen ddeintyddol yn Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd?
Mae’r gystadleuaeth wedi dod yn fwy ffyrnig byth dros y blynyddoedd diwethaf. Yn ogystal â nifer y ceisiadau yn cynyddu, mae cyfran yr ymgeiswyr â chanlyniadau academaidd rhagorol hefyd wedi cynyddu. Yn anffodus, mae llawer o ymgeiswyr â chymwysterau rhagorol yn cael eu gwrthod oherwydd y gystadleuaeth hon am nifer penodol o leoedd.
Baglor mewn Llawfeddygaeth Ddeintyddol
Rydym wedi cael dros 1,500 o geisiadau bob blwyddyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf ar gyfer deintyddiaeth. Rydym yn cyfweld tua 280–300 o ymgeiswyr. Mae nifer y cynigion yn dilyn cyfweliad wedi amrywio dros y tair blynedd diwethaf mewn ymdrech i leihau’r risg o ordanysgrifio ac wedi amrywio o tua 60 i 100. Defnyddir rhestr wrth gefn.
Mae tua 74 o leoedd ar gyfer Blwyddyn 1 (gan gynnwys myfyrwyr o’r DU a thramor). Gall nifer y lleoedd sydd ar gael ar y rhaglen newid.
Fel rhan o’r broses ddethol, dim ond os ydych chi wedi cael cyfweliad y gallech gael cynnig lle.
Hylendid Deintyddol DipHE a BSc Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol
Rydym wedi cael tua 1,000 o geisiadau bob blwyddyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf ar draws y ddwy raglen. Gall nifer y cyfweliadau a gynigir amrywio ond bu tua 240 am y ddwy flynedd ddiwethaf ar draws y ddwy raglen. Mae nifer y cynigion yn dilyn cyfweliad wedi amrywio dros y tair blynedd diwethaf mewn ymdrech i leihau’r risg o ordanysgrifio ac oherwydd bod niferoedd gwahanol o leoedd ar gael. Defnyddir rhestr wrth gefn.
Mae tua 18 lle ar Hylendid Deintyddol DipHE a 29 o leoedd ar BSc Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol. Gall nifer y lleoedd sydd ar gael ar bob rhaglen newid.
Fel rhan o’r broses ddethol, dim ond os ydych chi wedi cael cyfweliad y gallech gael cynnig lle.
HFaint o leoedd tramor sydd gennych chi?
Baglor mewn Llawfeddygaeth Ddeintyddol
Fel y rhan fwyaf o ysgolion deintyddol traddodiadol ledled y DU, mae gennym gap ar leoedd tramor. Mae hyn yn golygu bod gennym tua phedwar neu bump o leoedd ym Mlwyddyn 1.
Hylendid Deintyddol DipHE a BSc Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol
Ar hyn o bryd, nid ydym yn derbyn myfyrwyr tramor sy'n talu ffioedd ar y rhaglenni hyn.
A yw ymgeiswyr o Gymru yn cael eu trin yn wahanol i ymgeiswyr gweddill y DU?
Mae gan bob ysgol ddeintyddol ar draws y DU feini prawf cyd-destunoli. Ariennir addysg ddeintyddol yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru. Mae angen sicrhau bod arian cyhoeddus yng Nghymru yn cael ei wario i wella iechyd cenedl Cymru, yn ychwanegol at y DU yn ehangach. Mae gan yr Ysgol Deintyddiaeth gyfrifoldebau o ran ehangu mynediad at ddeintyddiaeth a chefnogi amrywiaeth y gweithlu gofal iechyd, ac mae'r rhain hefyd yn ystyriaethau allweddol wrth adolygu ceisiadau i ysgolion deintyddol. O ystyried daearyddiaeth a phoblogaeth Cymru, a’r ffaith nad oes gan ymgeiswyr o Gymru gynrychiolaeth ddigonol, mae Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd ar hyn o bryd yn cydnabod ymgeiswyr sy'n hanu o Gymru fel un o'u grwpiau cyd-destunol. Fel pob ysgol ddeintyddol yn y DU, mae nifer y lleoliadau i fyfyrwyr deintyddol wedi'i gapio yn unol â'r cyllid sydd ar gael.
Mae gwybodaeth am dderbyniadau cyd-destunol Prifysgol Caerdydd ar gael yma.
Pam ydych chi’n trin ymgeiswyr cyd-destunol yn wahanol?
Mae cael poblogaeth amrywiol o fyfyrwyr deintyddol yn hybu ymagwedd gyfannol, empathetig at gleifion, ac yn sicrhau ein bod yn dewis deintyddion sy’n cynrychioli’r boblogaeth y byddant yn ei gwasanaethu ac sydd efallai’n fwy tebygol o weithio mewn cymunedau tebyg i’r rhai y maent yn dod ohonynt.
Anogir grwpiau o fyfyrwyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn ysgolion deintyddol i wneud cais. Mae llawer o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae symudedd cymdeithasol yn gwella drwy addysg.
Sut caiff ceisiadau eu sgorio?
Dosberthir ymgeiswyr o dan y categorïau canlynol: yn preswylio yng Nghymru, gweddill y DU heb eu cyd-destunoli, gweddill y DU wedi’u cyd-destunoli, ehangu cyfranogiad neu dramor.
Mae ymgeiswyr ehangu cyfranogiad sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen Camu i Fyny, Ysgol Haf Ddeintyddol Seren, Ysgol Haf Ddeintyddol Ymddiriedolaeth Sutton, rhaglen Ehangu Cyfranogiad Deintyddiaeth Gogledd Cymru, Deintyddion Yfory neu’r Flwyddyn Sylfaen Ryngwladol yn gymwys am gyfweliad gwarantedig. Mae ymgeiswyr ar y Llwybr i Hylendid Deintyddol a Therapi Deintyddol yn gymwys i gael cyfweliad gwarantedig ar gyfer BSc Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol a Hylendid Deintyddol DipHE.
Er mwyn bodloni gofynion y comisiynydd, bydd ymgeiswyr sy’n preswylio yng Nghymru sydd wedi cwblhau cwrs Mynediad i Addysg Uwch Lefel 3 neu 4 gyda swm priodol o fioleg, neu sy’n cwblhau un, hefyd yn cael eu gwahodd fel arfer i gyfweliad ar gyfer BSc Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol a Hylendid Deintyddol DipHE. Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r holl ofynion mynediad sylfaenol a chyflwyno datganiad personol a geirda boddhaol.
Darganfyddwch fwy am Ehangu Cyfranogiad.
I bob ymgeisydd arall, rhoddir pwyntiau am raddau a enillwyd yn unig. Mae cymwysterau TGAU (gan gynnwys pynciau gorfodol) a Safon Uwch yn gymwys i gael eu sgorio. Gellir sgorio cymwysterau cyfwerth a dderbynnir hefyd. Yn nodweddiadol, bydd saith TGAU yn cael eu sgorio ar gyfer Baglor Llawfeddygaeth Ddeintyddol a phump ar gyfer BSc Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol a Hylendid Deintyddol DipHE.
A*/8/9 = 4 pwynt
A/7 = 3 phwynt
B/6 = 2 bwynt
C/4/5 = 1 pwynt
Os ydych yn gwneud cais gyda chymwysterau Safon Uwch, efallai y bydd pwyntiau ar gyfer graddau Safon Uwch a enillwyd yn cael eu hychwanegu at eich sgôr TGAU. Nid yw cael pedwaredd Safon Uwch yn ofynnol ac ni fydd yn gwella eich cais. Derbynnir cymhwyster nyrs ddeintyddol ar gyfer y BSc mewn Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol a'r DipHE mewn Hylendid Deintyddol yn lle un Safon Uwch. Gellir ystyried cymwysterau Lefel 3 eraill yn lle Safon Uwch. Unwaith y byddwch wedi cyflawni 28 pwynt ar gyfer deintyddiaeth ac 20 pwynt ar gyfer Hylendid Deintyddol DipHE neu BSc Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol, cewch eich ystyried ochr yn ochr â'r rhai sydd â'r sgôr academaidd uchaf sydd ar gael gyda chymwysterau TGAU.
Os ydych chi'n gwneud cais gyda gradd anrhydedd sy'n bodloni gofynion y rhaglen y gwnaed cais amdani a hefyd wedi cyflawni'r gofynion TGAU a Safon Uwch lleiaf, byddwch yn cyflawni'r sgôr academaidd uchaf ac yn cael eich ystyried ochr yn ochr â'r rhai sy'n ennill y sgorau academaidd uchaf gyda chymwysterau TGAU neu Safon Uwch.
Ar gyfer Baglor mewn Llawfeddygaeth Ddeintyddol, os yw nifer yr ymgeiswyr yn y grŵp ymgeiswyr perthnasol sy'n cael sgôr academaidd uchel yn fwy na nifer y cyfweliadau sydd ar gael, bydd y sgôr UCAT yn cael ei defnyddio fel torbwynt. Oherwydd yr amrywiaeth mewn cymwysterau rhyngwladol, gellir defnyddio'r system sgorio yn wahanol ar gyfer ymgeiswyr tramor.
Ar gyfer BSc Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol a Hylendid Deintyddol DipHE, os yw nifer yr ymgeiswyr yn y grŵp ymgeiswyr perthnasol sy'n cael sgôr academaidd uchel yn fwy na nifer y cyfweliadau sydd ar gael, gellir ystyried agweddau eraill ar eich cais i bennu torbwynt, gan gynnwys y datganiad personol.
Beth yw'r sgôr trothwy?
Caiff sgoriau trothwy ar gyfer cyfweliadau (academaidd a UCAT) eu pennu ar sail pa mor gystadleuol yw nifer ac ansawdd (hynny yw safon) y ceisiadau rydyn ni’n eu cael bob blwyddyn.
Bydd y sgôr derfynol academaidd a/neu UCAT yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn a gall amrywio rhwng y gwahanol grwpiau o ymgeiswyr i sicrhau bod cynrychiolaeth o bob grŵp.
Beth yw eich sgôr trothwy UCAT?
Caiff sgôr trothwy UCAT ond ei defnyddio os oes gennym ormod o ymgeiswyr sydd â sgoriau academaidd rhagorol. Ni chaiff sgôr trothwy UCAT ei phennu ymlaen llaw, ac nid yw’n gysylltiedig â sgôr trothwy’r flwyddyn flaenorol. Ni ellir ei rhagweld ar hyn o bryd. Gallai’r sgôr trothwy fod yn wahanol ar gyfer y gwahanol grwpiau, er mwyn sicrhau bod cynrychiolaeth o bob grŵp.
Pa bynciau sy’n rhaid i fi eu cael?
Gweler ein polisi derbyn a'n gwefan i gael manylion am ein gofynion mynediad sylfaenol.
Ydych chi’n edrych ar raddau disgwyliedig?
Ni chaiff graddau disgwyliedig eu hystyried ar unrhyw gam o’r broses ddethol.
Ydych chi’n edrych ar raddau Safon UG?
Ni chaiff graddau Safon UG eu hystyried ar unrhyw gam o’r broses ddethol.
Oes gennych chi raglen mynediad i raddedigion?
Nid oes gennym raglen mynediad i raddedigion.
Ydych chi'n derbyn cyrsiau mynediad, cymwysterau BTEC a lefelau T?
Nid yw cyrsiau mynediad, cymwysterau BTEC a lefelau T yn cael eu derbyn ar hyn o bryd ar gyfer Baglor Llawfeddygaeth Ddeintyddol.
Rydym yn derbyn rhai cyrsiau mynediad, cymwysterau BTEC a lefelau T ar gyfer ein BSc mewn Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol a DipHE mewn Hylendid Deintyddol. Anogir ymgeiswyr i anfon e-bost i dentalcentralenquiries@caerdydd.ac.uk i sicrhau bod eu cwrs yn cynnwys digon o fioleg i gael ei ystyried.
Ydych chi’n derbyn canlyniadau arholiadau ailsefyll?
Rydym yn derbyn canlyniadau arholiadau ailsefyll ar lefel TGAU. Rhaid i’r rhain fod wedi’u cyflawni ar adeg y cais.
Nid ydym yn derbyn canlyniadau arholiadau ailsefyll Safon Uwch ar gyfer y Baglor mewn Llawfeddygaeth Ddeintyddol oni bai eich bod wedi bod yn llwyddiannus yn y cyfweliad ac wedi cael cynnig anrhydeddus ar gyfer y flwyddyn ganlynol.
Rydym yn derbyn canlyniadau arholiadau ailsefyll Safon Uwch ar gyfer y BSc mewn Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol a’r DipHE mewn Hylendid Deintyddol.
Ydych chi’n derbyn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)?
Ar gyfer y Baglor mewn Llawfeddygaeth Ddeintyddol, nid yw'r Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael ei ystyried ar unrhyw gam o'r broses ddethol. Fodd bynnag, yn dibynnu ar y prosiect, efallai y bydd ymgeiswyr yn gweld y sgiliau a ddatblygwyd yn ystod y prosiect yn ddefnyddiol i'w trafod yn eu datganiad personol.
Ar gyfer y BSc mewn Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol, gall gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) ostwng y gofynion Safon Uwch o un radd (heb gynnwys bioleg).
Beth am amgylchiadau esgusodol?
Mae’n rhaid anfon y rhain at Brifysgol Caerdydd erbyn y dyddiad cau a nodir er mwyn i’r Grŵp Derbyn Myfyrwyr eu hystyried. Nid oes modd i ni addasu graddau academaidd sydd wedi’u rhoi gan gyrff dyfarnu (dylech gysylltu â’r bwrdd arholi perthnasol).
Dydw i ddim yn siŵr beth fydd fy statws ffioedd, allwch chi helpu?
Caiff statws ffioedd ymgeisydd ei osod gan y brifysgol, yn unol â’r Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) ac egwyddorion arweiniol asesu ffioedd y brifysgol. Darganfyddwch fwy am bolisi statws ffioedd Prifysgol Caerdydd ac mae Holiadur Asesu Ffioedd, neu cysylltwch ag admissions@caerdydd.ac.uk os oes gennych ymholiadau eraill.
WPryd bydda i’n clywed a fydd gen i gyfweliad gyda Phrifysgol Caerdydd?
Rydym yn adolygu pob cais yn drylwyr unwaith y bydd dyddiad cau UCAS wedi mynd heibio. Gall y broses hon gymryd llawer o wythnosau. Felly, allwn ni ddim rhoi amserlen benodol i chi o ran pryd bydd ymgeiswyr yn cael gwybod a ydyn nhw wedi cael cyfweliad. Byddwn ni ond yn cysylltu ag ymgeiswyr pan fydd yr holl geisiadau wedi eu hadolygu. Rydym yn ceisio rhoi o leiaf pythefnos o rybudd ar gyfer cyfweliad lle bo modd. Os na allwn wneud hynny, byddwn yn ymdrechu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ymgeiswyr gydag amcangyfrif o'r dyddiad y byddant yn clywed a ydynt wedi cael eu gwahodd i gyfweliad.
Ar gyfer y Baglor Llawfeddygaeth Ddeintyddol, os nad ydych wedi clywed gennym erbyn diwedd mis Rhagfyr, cysylltwch â ni ar: DentalCentralEnquiries@cardiff.ac.uk
Ar gyfer y BSc mewn Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol a’r DipHE mewn Hylendid Deintyddol, os nad ydych wedi clywed gennym erbyn diwedd mis Mawrth, cysylltwch â ni ar: DentalCentralEnquiries@cardiff.ac.uk
A fydd y cyfweliadau wyneb yn wyneb neu ar-lein, a beth fydd y fformat?
Bydd y cyfweliadau ar ffurf cyfres o gyfweliadau byr (MMI), sy’n cynnwys sawl gorsaf unigol â chwestiynau thematig. Bydd y cyfweliadau ar gyfer mynediad 2025 wyneb yn wyneb. Ni fyddwn yn cynnig cyfweliadau ar-lein ac eithrio ymgeiswyr tramor i'r rhaglen Baglor mewn Llawfeddygaeth Ddeintyddol. Dylai ymgeiswyr nodi'r dyddiadau a hysbysebir ar gyfer y cyfweliadau ar ein gwefan (gall y rhain newid).
Nid ydym ar hyn o bryd yn ad-dalu ymgeiswyr am dreuliau yr eir iddynt yn ystod eu cyfweliad. Gall ymgeiswyr na allant fforddio mynychu eu cyfweliad gysylltu â ni i drafod eu hamgylchiadau, ond ni allwn warantu y bydd arian ar gael gan y brifysgol.
Bydd mwyafrif ein gorsafoedd MMI yn cael eu mapio i briodoleddau a ddisgwylir gan weithwyr deintyddol proffesiynol gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol.
Anfonir gwybodaeth fanwl am y broses MMI, gan gynnwys cyngor at ymgeiswyr y cynigir cyfweliad iddynt.
Rhaid i ymgeiswyr sydd angen addasiadau rhesymol neu rai ag amgylchiadau esgusodol anfon e-bost atom gyda’r gofynion hyn ar ôl eu gwahodd i gyfweliad ac mewn da bryd i sicrhau y gellir ystyried unrhyw addasiadau.
Alla i wneud fy nghyfweliad yn Gymraeg? Sut mae gwneud cais am hyn?
Gallwch. Gall unrhyw un wneud yr MMI drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Bydd nifer penodol o gyfweliadau’n cael eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg / yn ddwyieithog. Bydd angen i chi gysylltu â ni unwaith y cewch eich gwahodd i gyfweliad i sicrhau slot cyfweliad a neilltuwyd ar gyfer cyfweliadau Cymraeg/dwyieithog.
Beth yw cyfweliad dwyieithog neu Gymraeg yn Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd?
Mae’r MMI Cymraeg a dwyieithog yr un fath yn eu hanfod, yn yr ystyr eu bod yn cael eu cynnal fel un cyfweliad. Gallwch newid o Gymraeg i Saesneg, ac i’r gwrthwyneb, yn y cyfweliadau hyn. Bydd pob cyfwelydd yn hapus i gynnal y cyfweliad yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac mae croeso i chi newid iaith ar unrhyw adeg. Ni fyddwch yn cael pwyntiau ychwanegol am siarad Cymraeg, ac ni fydd pwyntiau’n cael eu tynnu os byddwch yn newid iaith ar unrhyw adeg yn ystod yr MMI. Efallai y byddwch yn dymuno gwneud un rhan yn Gymraeg ac un arall yn Saesneg. Ni fydd hyn yn effeithio ar eich sgôr mewn unrhyw ffordd.
Mae’r holl gwestiynau yn y cyfweliadau MMI ar gael yn Gymraeg, felly gallwch wneud y cyfweliad cyfan yn Gymraeg os dymunwch.
Gwnes i gais i Gaerdydd ar gyfer deintyddiaeth y llynedd ac ni chefais le. Alla i wneud cais eto eleni?
Cewch. Cewch ailgyflwyno cais cyhyd â’ch bod chi’n bodloni isafswm y gofynion mynediad ar gyfer y flwyddyn rydych chi’n gwneud cais i gael dod yma.
Mynychais raglen Cam i Fynu / Ymddiriedolaeth Sutton/ Deintyddion Yfory / Ehangu Cyfranogiad Deintyddol Gogledd Cymru / Llwybr i Hylendid Deintyddol a Therapi Deintyddol – sut byddwch chi'n gwybod?
Rydyn ni’n cael rhestr o ymgeiswyr sydd wedi mynychu yn y flwyddyn ddiwethaf.
Tabl rheoli'r ddogfen
Teitl y ddogfen: | Gwybodaeth am dderbyniadau ar gyfer astudio yn Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd |
---|---|
Dyddiad cymeradwyo: | 30 Awst 2024 |