Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Cynllun cydraddoldeb strategol 2024-2028

  • Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhagair gan yr Is-Ganghellor a'r Dirprwy Is-Ganghellor

Mae gan Brifysgol Caerdydd hanes hir a balch o fod yn sefydliad blaengar a chynhwysol. Mae’r balchder hwnnw’n mynd mor bell nôl â hyrwyddo Millicent Mackenzie yn Athro benywaidd cyntaf Cymru ym 1904, agor ein drysau i ffoaduriaid o Wlad Belg ym 1914 a dathlu rôl yr Athro Emmanuel Ogbonna wrth greu Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru Llywodraeth Cymru. Mae’n bleser ac yn anrhydedd gennyf fod yn Is-Ganghellor benywaidd cyntaf Prifysgol Caerdydd.

Mae ein hanes o hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol yn cefnogi ein taith gyfoes tuag at degwch yn y Brifysgol yn ogystal â’n cymunedau lleol a byd-eang ehangach. Ni ellir cyflawni ein huchelgais ar ei phen ei hun, a byddwn yn gweithio gydag eraill i fynd i’r afael ag anghyfiawnder ac yn ymdrechu i sicrhau tegwch i bawb. Yn unol â’i ddiffiniad, ni ellir ceisio tegwch i grwpiau a sefydliadau penodol yn unig. Dyna pam mae’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn ystyried y Brifysgol ehangach ar ei hyd tra hefyd yn ymrwymo ei hunan i’r byd y tu allan.

Fel pob sefydliad Addysg Uwch ledled y DU, mae Prifysgol Caerdydd yn wynebu heriau ariannol sylweddol. Gwyddom fod gofyn inni fyw o fewn ein gallu a chreu ffynonellau incwm newydd fel y gallwn gyflawni ein hamcanion strategol, buddsoddi mewn gweithgareddau newydd a sicrhau cynaliadwyedd academaidd ac ariannol. Yn ogystal â’r cyd-destun ariannol hwn, rydym yn gwybod ein bod yn wynebu degawd o newid cyflym y bydd gofyn inni addasu iddo.  Yn wyneb yr heriau hyn, yn ein tyb ni, mae cyflawni amcanion y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a chyflawni ein huchelgais o ran tegwch, amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth yn feysydd na allwn eu hepgor.

Mae diwyg a chyrhaeddiad y Cynllun Cydraddoldeb Strategol — sy’n cefnogi’r strategaeth sefydliadol newydd, Ein Dyfodol, Gyda’n Gilydd — yn arwydd o newid sylweddol o’i gymharu â’r blynyddoedd cynt. Mae’n cyffwrdd â phob rhan o weithgarwch ein Prifysgol ddwyieithog, ac mae’n seiliedig ar y gydnabyddiaeth mai cyfrifoldeb pob aelod unigol o’r Brifysgol yw cymryd camau i gefnogi ei nodau. Cafodd ei lunio’n bwrpasol i fod yn Gynllun sy’n lleoli gwerthoedd byd-eang mewn cyd-destun nodweddiadol Gymreig — sef ymrwymo ein hunain i Gymru a pherthyn iddi.

Mae ein Cynllun yn nodi sut yr ydym yn bwriadu gwella diwylliannau a gwerthoedd Cynefin, Tegwch, a Chyfrannu. Dyma bwyntiau allweddol y Cynllun, sy’n amlinellu diben y Brifysgol a’r hyn y mae gofyn ei wneud er mwyn cyrraedd y nod. Mae Cynllun Gweithredu clir ynghlwm sy’n manylu ar y camau y byddwn yn eu cymryd a sut y byddwn yn monitro ein cynnydd.

Rwy’n addo gweithio gyda phob un ohonoch i gyflawni gweledigaeth y Cynllun hwn.

1. Cyflwyniad

1.1 Y cyd-destun

Croeso i'n Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028. Cafodd gwerthoedd, ymrwymiadau ac amcanion y Brifysgol eu gosod mewn sesiynau ymgynghori a sgyrsiau ledled y Brifysgol, a thrafodwyd yr hyn sy’n bwysig i’n cymuned sy’n sefydliad o bwys yn y brifddinas ac yn Brifysgol sy’n falch o fod yng Nghymru, perthyn iddi a bod yn bartner rhyngwladol. Mae ein strategaeth sefydliadol deng mlynedd newydd, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2024, yn datgan blaenoriaethau strategol, sef cymuned, lle a chreu dyfodol teg a chynaliadwy i bawb ar y cyd. Mae ymrwymiad y Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn i wella diwylliant cymdeithasol gyfiawn, amrywiol, cynhwysol a gwrth-hiliol yn cefnogi'r nodau sefydliadol hynny.

Ers ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol diwethaf, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2020, rydym wedi wynebu pandemig; protestiadau byd-eang yn ymwneud â chydraddoldeb hiliol; rhyfeloedd yn Ewrop, y Dwyrain Canol a ledled y byd, yn ogystal ag argyfwng parhaus costau byw. Mae’r gymdeithas yn wynebu ystod o heriau cymhleth a rhyng-gysylltiedig sy’n effeithio ar bawb ym Mhrifysgol Caerdydd. Nid yw effeithiau'r heriau hyn yn cael eu teimlo ar sail gyfartal. Rydym yn cydnabod bod sawl anghydraddoldeb, sydd wedi hen wreiddio yn y gymdeithas ehangach, i’w canfod ym Mhrifysgol Caerdydd ac rydym wedi ymrwymo i gymryd camau beiddgar i ddod o hyd i’r problemau hynny a mynd i’r afael â nhw.

Y Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn yw'r glasbrint sy’n nodi sut y bydd Prifysgol Caerdydd yn cyflawni ein huchelgais o ran tegwch, amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth. Rydym wedi asesu tystiolaeth allanol er mwyn deall y materion allweddol sy'n effeithio ar y gymdeithas yn ehangach, gan gynnwys cyd-destun Addysg Uwch, gan edrych yn fanwl ar ein data mewnol i ddeall effaith y materion hyn ar ein cymuned ein hun. Y dystiolaeth hon yw sylfaen Amcanion Cydraddoldeb arfaethedig y Brifysgol.

1.2 Ein gwerthoedd a'n gweledigaeth

Wrth ddatblygu’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn, rydym yn glynu’n gadarn wrth y gwerthoedd sy’n ein cysylltu â’n gilydd. Rydym yn ymdrechu i fod yn gymdeithasol gyfiawn sy’n amrywiol, yn gynhwysol, ac yn amlwg wrth-hiliol, yn ogystal â chefnogi rhyddid academaidd a rhyddid barn o fewn y gyfraith. Byddwn yn gweithio’n frwd i oresgyn anghydraddoldeb, dathlu ein hamrywiaeth a gweithio mewn ffordd groestoriadol i greu diwylliant cynhwysol, fel y gall pawb sy’n gweithio neu’n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, neu’n cydweithio â hi, gyflawni eu potensial.

1.3 Deddfwriaeth cydraddoldeb

Y ddyletswydd gyffredinol


Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd cydraddoldeb ar gyrff y sector cyhoeddus megis Prifysgol Caerdydd. Wrth gyflawni ein swyddogaethau, mae’n rhaid inni roi sylw dyledus i’r angen i:

  • Ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall a waherddir yn unol â’r Ddeddf;
  • Hybu cyfle cyfartal rhwng pobl sydd â nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn meddu arni, a
  • Meithrin perthynas dda rhwng y rheini a chanddynt nodwedd warchodedig berthnasol a’r rheini nad ydynt yn meddu arni.

Mae’r Ddyletswydd Gyffredinol yn cwmpasu’r nodweddion gwarchodedig canlynol: Oedran, Anabledd, Ailbennu Rhywedd, Beichiogrwydd a Mamolaeth, Hil, Crefydd a Chred, Rhyw a Chyfeiriadedd Rhywiol, Priodas a Phartneriaeth Sifil (mewn perthynas â'r gofyniad i roi sylw dyledus i'r angen i ddileu gwahaniaethu).

Cynlluniau cydraddoldeb strategol

Mae'n ofynnol i Brifysgol Caerdydd,sy’n gorff rhestredig yng Nghymru yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, lunio Cynllun Cydraddoldeb Strategol o leiaf bob 4 blynedd. Mae’r Cynllun hwn yn nodi sut rydym yn bwriadu cyflawni ein hymrwymiad i gydraddoldeb a sut y byddwn yn bodloni rhwymedigaethau cyfreithiol Deddf Cydraddoldeb 2010.

2. Ein dull ni

2.1 Datblygu ein hamcanion cydraddoldeb

Yn haf 2023 gofynasom am adborth cychwynnol ar ein Hamcanion Cydraddoldeb arfaethedig gan y staff a’r myfyrwyr i gael eu barn ynghylch ai dyma'r meysydd cywir inni ganolbwyntio arnynt. O hydref 2023 ymlaen bu’r Brifysgol yn ymgynghori’n eang â staff, myfyrwyr, y gymuned leol a rhanddeiliaid eraill trwy’r 'Sgwrs Fawr' er mwyn ein helpu i lunio ein dyfodol a datblygu strategaeth newydd i'r Brifysgol. Mae'r adborth a'r safbwyntiau a gafwyd yn sgil yr ymgysylltu hwn wedi llywio ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol, yr Amcanion Cydraddoldeb a'n cynllun gweithredu sy’n sail iddynt.

Ymhlith prif ganfyddiadau’r cyfnod ymgynghori y mae:

  • Yr angen i sicrhau nad yw’r un nodwedd warchodedig yn cael ei blaenoriaethu dros yr un arall a bod symudiad cryf tuag at groestoriadoldeb.
  • Mae terminoleg a diffiniadau’n bwysig, a dylai'r iaith a ddefnyddiwn fod yn fwy egnïol ac yn fwy hygyrch. Mae ein cymuned yn galw am iaith a therminoleg sy’n gyfoes, yn berthnasol, yn gyson ac yn gynhwysol.
  • Mae gofyn inni wella ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o anabledd, hygyrchedd ac urddas.
  • Cydnabuwyd bod angen gwella ein data yn sylweddol os ydym eisiau deall anghenion ein cymuned, dod o hyd i anghydraddoldeb a mynd i'r afael ag ef yn gyflym gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth a data, mesur ein cynnydd a dwyn ein hunain i gyfrif.
  • Nodwyd bod ein gweithdrefnau rhoi gwybod a chwyno’n anodd eu deall a’u defnyddio.
  • Roedd bwlch yn y cynllun arfaethedig ynghylch camau gweithredu ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV).
  • Roedd pwyslais ar yr angen i'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ymgorffori rhyddid academaidd a rhyddid barn o fewn y gyfraith.

2.2 Cyflwyno ein themâu cyffredinol

Ni yw’r Brifysgol fwyaf yng Nghymru, wrth galon prifddinas ein cenedl fach ac uchelgeisiol. Rydym yn ymfalchïo yn hanes cyfoethog ac amrywiol Prifysgol Caerdydd a'i hymrwymiad hirsefydlog i gynhwysiant a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn sefydliad amlieithog sy’n gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg ac yn rhan o gymuned fyd-eang ac amlieithog.

Mae Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024–2028 yn gyfle i fyfyrio ar ba fath o sefydliad yw Prifysgol Caerdydd, beth rydym eisiau iddi fod a pha gamau y mae gofyn inni eu cymryd i wireddu hyn. Byddwn yn mabwysiadu dull y sefydliad cyfan er mwyn cyflawni ein Hamcanion Cydraddoldeb, gan gydnabod bod ein cymuned amrywiol yn cynnwys staff a myfyrwyr mewn timau yn y Colegau, yr Ysgolion a’r Gwasanaethau Proffesiynol mewn nifer o leoliadau ledled y campws, ein partneriaid allanol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, yn ogystal â’r cymunedau lleol yr ydym yn gweithio gyda nhw. Mae pob unigolyn yn y gymuned yn aelod neu’n bartner gwerthfawr o’r Brifysgol sy’n meddu ar gyfuniad unigryw o brofiadau byw, nodweddion a safbwyntiau.

Rydym eisiau cefnogi pob aelod o’r gymuned i deimlo’n hyderus yn ei ymdeimlad o berthyn, gan gryfhau ymddiriedaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydym yn cydnabod bod hyn yn ei gwneud yn ofynnol inni fod yn dryloyw o ran sut yr ydym yn gweithredu a bod yn rhaid inni hyrwyddo prosesau a systemau clir a dealladwy sy'n deg, yn gyfiawn ac yn hawdd eu rhoi ar waith. Rydym eisiau i gampws Prifysgol Caerdydd a’i holl weithgareddau amrywiol feithrin ymdeimlad o gynefindra, cysur a diogelwch. Byddwn yn mynd i’r afael yn gadarn ag aflonyddu ar sail hunaniaeth, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar ein campws, ac yn cefnogi’r sawl yr effeithir arnynt. Mynegir yr uchelgais hon yn ystyrlon yn y cysyniad Cymraeg cynefin. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn amlinellu sut y byddwn yn meithrin diwylliant y Brifysgol yn un sy’n arddel cynefin.

Ystyr Cynefin yw’r lle y teimlwn ein bod yn perthyn iddo – rhywle yr ydym yn gyfarwydd ag ef ac y teimlwn mai yno y mae gennym wreiddiau. Mae'n arwydd o berthynas y gallwn ymddiried ynddi, sef cynefin cydnabyddedig penodol a chanddo lu o berthnasoedd sydd ynghlwm y naill wrth y llall.

Amrywiaeth Prifysgol Caerdydd yw un o'n hasedau mwyaf a dyma'r allwedd i'n llwyddiant yn y dyfodol. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn y Brifysgol yn cael mynediad at gyfleoedd cyfartal, gan gynnwys recriwtio, datblygiad gyrfaol a dyfarniadau gradd. Mae'n rhaid inni werthfawrogi'r talentau sydd gennym yn ein cymuned tra ein bod yn cefnogi pobl i gyflawni eu nodau. Rydym yn galw hyn yn degwch, sydd hefyd yn golygu cyfiawnder.

Diffiniad Tegwch yw cyfiawnder neu ddidueddrwydd.

Rydym yn Brifysgol allblyg sy’n cydnabod bod y pethau a’r penderfyniadau a wnawn yn cael effaith ar fywydau a chymunedau y tu hwnt i’r campws. Byddwn yn sicrhau bod ein gweithgareddau addysg, ymchwil, arloesi, y genhadaeth ddinesig a’n gweithgareddau gweithredol yn cael effaith gymdeithasol gadarnhaol, a thrwyddynt byddwn yn hyrwyddo ein gwerthoedd wrth inni fynd ati i fod yn gymdeithasol gyfiawn, amrywiol, gynhwysol a gwrth-hiliol. Byddwn yn ymgysylltu â’n gilydd ac yn dysgu oddi wrth ein gilydd a chymunedau lleol Caerdydd, gan ddeall a dathlu gwahaniaeth a rhannu syniadau newydd. Yr ymrwymiad hwn yw cyfrannu.

Ynghlwm wrth gysyniad Cyfrannu y mae gweithred a diwylliant ymroi a chyfrannu. Mae’n crynhoi’r effaith a gawn y tu allan i’r Brifysgol drwy’r addysg, yr ymchwil a’r arloesi a wnawn yn ogystal â’r genhadaeth ddinesig a’n gweithgareddau gweithredol.

2.3 I bwy mae'r cynllun hwn

Lluniwyd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol i gefnogi tri grŵp penodol y mae gan y Brifysgol ddyletswydd i weithio gyda nhw ac ar eu mwyn:

Ein myfyrwyr

Bydd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn meithrin ymdeimlad ein myfyrwyr o berthyn i Brifysgol Caerdydd, yn dathlu eu safbwyntiau a’u profiadau amrywiol, ac yn gwella’r profiad o fod yn fyfyriwr yn ogystal â’u profiadau dysgu.

Ein staff

Bydd amcanion y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn helpu i feithrin diwylliant lle byddwn yn dod yn gyflogwr o ddewis a chanddo staff egnïol a rhyngwladol sy'n cynrychioli amrywiaeth ein dinas-ranbarth yn well.

Ein cymunedau lleol a’n partneriaid allanol

Trwy gyflawni amcanion y Cynllun Cydraddoldeb Strategol, bydd y Brifysgol yn dod yn rhan fwy ystyrlon o’n dinas-ranbarth, gan gydleoli a chyd-greu ar sawl platfform gyda chymunedau a phartneriaid lleol, cenedlaethol a byd-eang.

3. Amcanion cydraddoldeb

Byddwn yn gweithio tuag at gyflawni tri Amcan Cydraddoldeb cyffredinol yn ystod y cyfnod hwn, a bydd hyn yn ein galluogi i greu newid cadarnhaol i bawb yn ein cymuned – gan gwmpasu’r holl nodweddion gwarchodedig ac ystyried ein cymuned ar sail groestoriadol – a chyflawni ein dyletswyddau cydraddoldeb:

Amcan 1: Meithrin cynefin, lle bydd pawb yn ein cymuned yn teimlo eu bod yn perthyn, gan sicrhau bod astudio a gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd yn meithrin ymddiriedaeth yn y sefydliad, cynefindra â’r ffordd rydym yn gweithredu, a’r gred bod cyfraniadau amrywiol yn cael eu gwerthfawrogi, eu dathlu a’u cydnabod.

Mae meithrin cynefin yn golygu creu diogelwch seicolegol a chorfforol, ymddiriedaeth, parch, lles, a hygyrchedd sy’n rhoi urddas i bawb.

Diffinio llwyddiant

  • Mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn eu gwaith a'u hastudiaethau.
  • Mae pobl yn cael eu trin ag urddas a pharch.
  • Ceisir cyfraniadau amrywiol a chaiff y rhain eu cydnabod.
  • Mae'r llwyth meddwl sy’n digwydd er mwyn goresgyn heriau systemig yn cael ei ddileu.

Sut rydyn ni'n cyrraedd y nod

  • Cefnogi ein cymuned amrywiol i deimlo ymdeimlad o berthyn ac ymddiriedaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
  • Gwreiddio diwylliant o degwch, amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth, gan sicrhau bod pawb yn y Brifysgol yn cael eu trin yn gyfartal a chydag urddas a pharch.
  • Creu campws sy’n groesawgar ac yn hygyrch.
  • Sicrhau diwylliant diogel, croesawgar, hygyrch a chynhwysol sy'n caniatáu i bawb yn ein cymuned deimlo eu bod yn gallu bod yn driw i’w hunain, eu gwaith a'u hastudiaethau.
  • Hyrwyddo dealltwriaeth gynhwysol o ddiwylliant Cymru a’r defnydd o’r Gymraeg ym mhob un o’n gweithgareddau.
  • Sicrhau ein bod yn annog ac yn dathlu syniadau a safbwyntiau amrywiol gan staff a myfyrwyr ym mhob un o’n gweithgareddau.
  • Hyrwyddo deialog agored a thryloyw sy’n seiliedig ar dystiolaeth ynghylch tegwch, amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth, tra’n ymgorffori rhyddid academaidd a rhyddid barn o fewn y gyfraith yn ein ffyrdd o weithio.
  • Sicrhau bod ein polisïau, ein prosesau, ein harferion a’n penderfyniadau yn meithrin cynefin a bod y rhain yn deg, yn glir, yn gyson ac yn gefnogol.
  • Hyrwyddo diwylliant nad yw'n goddef aflonyddu ar sail hunaniaeth, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig na thrais rhywiol.
  • Cefnogi’r rheini sy'n wynebu aflonyddu a thrais ar sail hunaniaeth neu’r rheini y mae’r uchod yn effeithio arnynt, a chymryd camau i ddileu hyn ym Mhrifysgol Caerdydd.

Amcan 2: Sefydlu tegwch, gan roi cyfleoedd cyfartal i bawb ym Mhrifysgol Caerdydd gyflawni eu nodau.

Mae cyflawni tegwch yn golygu mynd i'r afael â’r rhwystrau strwythurol a systemig rhag sicrhau cyfle cyfartal. Mewn cyfundrefn o’r fath, mae pawb yn cael eu cydnabod a'u gwobrwyo'n gyfartal, ystyrir safbwyntiau amrywiol mewn polisïau a phenderfyniadau, ac nid yw staff a myfyrwyr yn cael eu dal yn ôl nac o dan anfantais oherwydd mathau o anghydraddoldeb strwythurol.

Diffinio llwyddiant

  • Lleihad yn y gwahaniaethau o ran profiadau a deilliannau ein myfyrwyr ar sail eu nodweddion a’u cefndir.
  • Mae'r staff yn llawer mwy cynrychioliadol o'r ardal leol ar draws pob gradd a swydd.
  • Lleihad yn y bylchau cyflog rhwng y rhywiau a’r bylchau cyflog sy'n gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig eraill.
  • Cynnydd yn nifer y myfyrwyr mewn grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein rhaglenni a addysgir ac ymchwil.
  • Mae amrywiaeth mewn safbwyntiau yn llywio ein polisïau a’n penderfyniadau.
  • Caiff staff a myfyrwyr yr un cyfle i ddilyn eu hastudiaethau a’u gyrfaoedd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Sut rydyn ni'n cyrraedd y nod

Er mwyn cyflawni’r amcan hwn, byddwn yn:

  • Cymryd camau i sicrhau bod ein myfyrwyr a’n staff yn amrywiol ac yn gynrychioliadol.
  • Llunio a chyflwyno rhaglenni sy'n cydnabod ac yn ymateb i anghenion ein myfyrwyr, gan eu grymuso i gyflawni eu potensial.
  • Cefnogi myfyrwyr ar hyd y daith o fod yn fyfyriwr, pontio i’r Brifysgol, astudio ynddi a graddio, gan eu galluogi i ffynnu yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt iddi.
  • Sicrhau bod yr holl staff yn cael yr un cymorth i gyflawni eu nodau gyrfaol.
  • Cymryd camau i leihau bylchau cyflog.
  • Cymryd camau i sicrhau bod aelodaeth ein Pwyllgorau a chyrff gwneud penderfyniadau eraill yn adlewyrchu amrywiaeth Prifysgol Caerdydd.
  • Hyrwyddo cyfleoedd i bawb yn ein cymuned ddysgu a defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith a’u hastudiaethau.

Amcan 3: Cofleidio cyfrannu. Trwy ddiwylliant cyfrannu, byddwn yn mabwysiadu agwedd sy’n edrych tuag at allan ac yn sicrhau bod ein haddysg, ein ymchwil, ein harloesi, y genhadaeth ddinesig a’n gweithgareddau gweithredol yn helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a hiliaeth yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae cyflawni’r amcan hwn yn golygu bod ein haddysg, ein hymchwil, ein harloesi, y genhadaeth ddinesig a’n gweithgareddau gweithredol yn mynd i’r afael â heriau byd-eang a lleol yn y byd go iawn, gan gynnwys yr argyfwng hinsawdd, ac yn cyfrannu’n egnïol at fynd i’r afael ag anghydraddoldeb o bob math. Mae hefyd yn golygu ein bod yn rhannu syniadau â’n cymunedau a’n partneriaid cydweithio ac yn dysgu oddi wrthynt, gan ddeall syniadau a chysyniadau newydd a safbwyntiau amrywiol, a bod cylchoedd dysgu a rhannu arferion da yn digwydd.

Diffinio llwyddiant

  • Trwy ein haddysg, ein hymchwil, ein harloesi a’r genhadaeth ddinesig, bydd gwybodaeth yn cael ei lledaenu ac ar gael yn eang. Bydd yn greadigol ac yn effeithiol er budd pobl eraill, a hynny er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb o bob math.
  • Mae cydweithio â phartneriaid ymchwil, cyllidwyr, cymunedau a’r gymdeithas sifil yn parhau i fynd i’r afael â heriau o bwys yn y byd go iawn, yn fyd-eang ac yn lleol.
  • Mae ein gweithrediadau o ddydd i ddydd yn cefnogi ein huchelgais i fod yn sefydliad cymdeithasol gyfiawn a chynaliadwy.

Sut rydyn ni'n cyrraedd y nod

Er mwyn cyflawni’r amcan hwn, byddwn yn:

  • Cyfrannu at sail y dystiolaeth yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol i ganfod pa gamau sy’n gweithio i hyrwyddo deilliannau teg i bawb.
  • Defnyddio ein gweithgareddau ymchwil, arloesi, addysg a’r genhadaeth ddinesig i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb strwythurol ac economaidd-gymdeithasol yng Nghaerdydd, Cymru a’r byd.
  • Rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i fyfyrwyr fynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol a hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb yn ystod ac ar ôl eu hamser ym Mhrifysgol Caerdydd.
  • Parhau i ddatblygu dull sy’n ymwybodol o’r hinsawdd ym maes caffael, ystadau a theithio.

4. Rhoi ein hamcanion cydraddoldeb ar waith a’u monitro

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol sy'n gyfrifol am ein Hamcanion Cydraddoldeb, a bydd yr Is-bwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a'r Pwyllgor Llywodraethu yn goruchwylio’r rhain. Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol yw'r Noddwr Gweithredol sy'n gyfrifol am y Cynllun Cydraddoldeb Strategol.

Mae rhoi'r Cynllun hwn ar waith yn fenter i’r Brifysgol gyfan ond bydd yn cael ei llywio gan Dîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Brifysgol a fydd yn dilyn dull rheoli rhaglen wrth ei gyflwyno. Bydd trosolwg o'n cynnydd yn cael ei fonitro trwy strwythurau llywodraethu'r Brifysgol.

Bydd craffu manwl ar ein cynnydd o ran cyflawni ein Hamcanion Cydraddoldeb yn cael ei gyhoeddi yn ein hadroddiad blynyddol erbyn 31 Mawrth bob blwyddyn ar wefan y Brifysgol. Yn unol â Dyletswyddau Penodol Deddf Cydraddoldeb 2010, byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth fanwl am gyflogaeth yn ogystal ag adroddiadau data manwl ynghylch cydraddoldeb myfyrwyr. Bydd y data hwn yn ein cefnogi i asesu ein cynnydd tuag at gyflawni ein Hamcanion Cydraddoldeb.

Cysylltwch â ni

I gael rhagor o wybodaeth neu i roi adborth ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn, cysylltwch â:

Y Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
e-bost: EDIhub@caerdydd.ac.uk

Atodiad Atodiad 1: Map o’r Camau Gweithredu yn unol â Nodweddion Gwarchodedig a Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Amcan 1: Meithrin cynefin, lle mae pawb yn ein cymuned yn teimlo eu bod yn perthyn, gan sicrhau bod astudio a gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd yn meithrin ymddiriedaeth yn y sefydliad, bod yn gyfarwydd â sut rydym yn gweithredu, a’r gred bod cyfraniadau amrywiol yn cael eu gwerthfawrogi, eu dathlu a’u cydnabod.

  Nodweddion gwarchodedig Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
Gweithredoedd gwrthrycholOedranAnabledd Ailbennu rhywedd Priodas neu bartneriaeth sifil Beichiogrwydd neu famolaethHil Crefydd a chredRhyw Cyfeiriadedd rhywiol Dileu neu leihau gwahaniaethu Hybu cyfle cyfartal Meithrin perthynas dda
Cefnogi ein cymuned amrywiol i deimlo ymdeimlad o berthyn ac ymddiriedaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.   
Gwreiddio diwylliant o degwch, amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth, gan sicrhau bod pawb yn y Brifysgol yn cael eu trin yn gyfartal a chydag urddas a pharch.
Creu campws sy’n groesawgar ac yn hygyrch.
Sicrhau diwylliant diogel, croesawgar, hygyrch a chynhwysol sy'n caniatáu i bawb yn ein cymuned deimlo eu bod yn gallu bod yn driw i’w hunain, eu gwaith a'u hastudiaethau.  
Hyrwyddo dealltwriaeth gynhwysol o ddiwylliant Cymru a’r defnydd o’r Gymraeg ym mhob un o’n gweithgareddau.          
Sicrhau ein bod yn annog ac yn dathlu syniadau a safbwyntiau amrywiol gan staff a myfyrwyr ym mhob un o’n gweithgareddau.
Hyrwyddo deialog agored a thryloyw sy’n seiliedig ar dystiolaeth ynghylch tegwch, amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth, tra’n ymgorffori rhyddid academaidd a rhyddid barn o fewn y gyfraith yn ein ffyrdd o weithio.
Sicrhau bod ein polisïau, ein prosesau, ein harferion a’n penderfyniadau yn meithrin cynefin a bod y rhain yn deg, yn glir, yn gyson ac yn gefnogol.
Hyrwyddo diwylliant nad yw'n goddef aflonyddu ar sail hunaniaeth, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig na thrais rhywiol.  
Cefnogi’r rheini sy'n wynebu aflonyddu a thrais ar sail hunaniaeth neu’r rheini y mae’r uchod yn effeithio arnynt, a chymryd camau i ddileu hyn ym Mhrifysgol Caerdydd.  

Amcan 2: Sefydlu tegwch, gan roi cyfleoedd cyfartal i bawb ym Mhrifysgol Caerdydd gyflawni eu nodau.

  Nodweddion gwarchodedig Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
Gweithredoedd gwrthrycholOedranAnabledd Ailbennu rhywedd Priodas neu bartneriaeth sifil Beichiogrwydd neu famolaethHil Crefydd a chredRhyw Cyfeiriadedd rhywiol Dileu neu leihau gwahaniaethu Hybu cyfle cyfartal

Meithrin perthynas dda

Cymryd camau i sicrhau bod ein myfyrwyr a’n staff yn amrywiol ac yn gynrychioliadol.
Llunio a chyflwyno rhaglenni sy'n cydnabod ac yn ymateb i anghenion ein myfyrwyr, gan eu grymuso i gyflawni eu potensial.
Cefnogi myfyrwyr ar hyd y daith o fod yn fyfyriwr, pontio i’r Brifysgol, astudio ynddi a graddio, gan eu galluogi i ffynnu yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt iddi.
Sicrhau bod yr holl staff yn cael yr un cymorth i gyflawni eu nodau gyrfaol.
Cymryd camau i leihau bylchau cyflog.
Cymryd camau i sicrhau bod aelodaeth ein Pwyllgorau a’n cyrff gwneud penderfyniadau eraill yn adlewyrchu amrywiaeth Prifysgol Caerdydd.
Hyrwyddo cyfleoedd i bawb yn ein cymuned ddysgu a defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith a’u hastudiaethau.          

Amcan 3: Cofleidio cyfrannu. Trwy ddiwylliant cyfrannu, byddwn yn mabwysiadu agwedd sy’n edrych tuag at allan ac yn sicrhau bod ein haddysg, ein ymchwil, ein harloesi, y genhadaeth ddinesig a’n gweithgareddau gweithredol yn helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a hiliaeth yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Nodweddion gwarchodedig Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
Gweithredoedd gwrthrycholOedranAnabledd Ailbennu rhywedd Priodas neu bartneriaeth sifil Beichiogrwydd neu famolaethHil Crefydd a chredRhyw Cyfeiriadedd rhywiol Dileu neu leihau gwahaniaethu Hybu cyfle cyfartal Meithrin perthynas dda
Cyfrannu at sail y dystiolaeth yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol i ganfod pa gamau sy’n gweithio i hyrwyddo deilliannau teg i bawb.  
Defnyddio ein hymchwil, ein haddysg a’r genhadaeth ddinesig i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb strwythurol ac economaidd-gymdeithasol yng Nghaerdydd, Cymru a’r byd.
Rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i fyfyrwyr fynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol a hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb yn ystod ac ar ôl eu hamser ym Mhrifysgol Caerdydd.
Parhau i ddatblygu dull sy’n ymwybodol o’r hinsawdd ym maes caffael, ystadau a theithio.          

Atodiad Atodiad 2: Ffynonellau Tystiolaeth

Yn dilyn cyhoeddi'r strategaeth hon, bydd y Brifysgol yn cyhoeddi cynllun gweithredu atodol sy'n nodi sut y byddwn yn cyflawni amcanion y strategaeth, gan gynnwys y metrigau y byddwn yn eu defnyddio i sefydlu gwaelodlin ac adolygu ein cynnydd yn barhaus. Byddwn hefyd yn datblygu strategaeth data cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth a fydd yn sail i fonitro a gweithredu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn.

Caiff y ffynonellau tystiolaeth canlynol eu defnyddio i asesu ein perfformiad:

  • Data am ein gweithlu;
  • Data am ein myfyrwyr;
  • Ein harolwg o’r staff;
  • Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr, Yr Arolwg o’r Profiad Ôl-raddedig a Addysgir a data’r Arolwg o Brofiad Ymchwil Ôl-raddedig;
  • Adborth myfyrwyr;
  • Adborth y gymuned leol;
  • Statws y Nod Siarter

Fel y nodwyd uchod, byddwn yn cyhoeddi adroddiad monitro blynyddol i olrhain ein cynnydd tuag at gyflawni ein hamcanion a'r camau gweithredu a amlinellir yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn, a bydd hyn yn cynnig tryloywder ar ein cynnydd. Byddwn yn defnyddio hyn i ddatblygu a mireinio ein cynlluniau gweithredu yn y dyfodol, a byddwn yn eu hadolygu'n rheolaidd i sicrhau ein bod yn parhau ar y trywydd iawn i gyflawni ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol.