Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Defnyddiwch ddilyswr ar borwr Google Chrome

  • Diweddarwyd ddiwethaf:

Os nad ydych yn gallu defnyddio dyfais symudol i sefydlu Dilysu Aml-ffactor (MFA), gallwch osod Authenticator, yr estyniad porwr gwe ar gyfer Google Chrome, fel datrysiad amgen.

Cyfarwyddiadau

1. Defnyddiwch borwr gwe Google Chrome ar eich cyfrifiadur i fynd i dudalen hafan estyniad Authenticator – a chlicio ar y botwm Add to Chrome.

Sgrinlun o hafan estyniad y Dilysydd yn Google Chrome
Sgrinlun o hafan estyniad y Dilysydd yn Google Chrome
Zoom inEhangu'r llun

  1. Cewch eich tywys i wefan siop Google Chrome, gydag Authenticator eisoes wedi'i ddewis ac yn barod i'w osod. Cliciwch Add to Chrome.
Sgrinlun o wefan siop we Google Chrome
Sgrinlun o wefan siop we Google Chrome
Zoom inEhangu'r llun

  1. Bydd Google Chrome yn eich annog i gadarnhau eich bod am ychwanegu estyniad Authenticator. Cliciwch Add extension.
Sgrinlun o'r neges 'Add authenticator extension'
Sgrinlun o'r neges 'Add authenticator extension'
Zoom inEhangu'r llun

  1. Ar ôl i'r estyniad gael ei osod yn llwyddiannus, fe'ch hysbysir bod Authenticator wedi'i ychwanegu at Google Chrome. Cliciwch y botwm “X” ar y naidlen i'w chau.
Sgrinlun o'r neges 'Authenticator has been added to Chrome'
Sgrinlun o'r neges 'Authenticator has been added to Chrome'
Zoom inEhangu'r llun

  1. Defnyddiwch borwr gwe Google Chrome i fynd i https://aka.ms/mfasetup.
  2. Efallai y gofynnir i chi fewngofnodi i Office 365 (os ddim, byddwch yn symud yn syth i gam 7). Os gofynnir i chi fewngofnodi i Office 365, rhowch eich cyfeiriad ebost Prifysgol Caerdydd a chlicio Next. Yna cewch eich ailgyfeirio i sgrîn fewngofnodi arferol Prifysgol Caerdydd. Rhowch eich cyfeiriad ebost a'ch cyfrinair Prifysgol Caerdydd fel arfer a chlicio Log in.
    • Bydd angen i'r rhai sydd ddim â chyfeiriad e-bost Prifysgol Caerdydd(a dim ond enw defnyddiwr) nodi'r enw defnyddiwr ac yna '@cardiff.ac.uk'.
  3. Os nad ydych wedi sefydlu unrhyw ddulliau MFA o'r blaen, fe gewch neges i ddweud bod angen mwy o wybodaeth ar ôl mewngofnodi'n llwyddiannus. Cliciwch Next a neidio i gam 9.
    • Fel arall, cewch eich tywys i dudalen My Sign-ins ble gallwch weld y dulliau MFA sydd eisoes wedi'u sefydlu. Cliciwch ar Add method.
Sgrinlun o sgrin 'More information required'
Sgrinlun o sgrin 'More information required'
Zoom inEhangu'r llun
Sgrinlun o sgrin 'My sign-ins' sy'n dangos botwm 'Add a method' uwchben y dulliau dilysu aml-ffactor (MFA) sy’n bodoli eisoes
Sgrinlun o sgrin 'My sign-ins' sy'n dangos botwm 'Add a method' uwchben y dulliau dilysu aml-ffactor (MFA) sy’n bodoli eisoes
Zoom inEhangu'r llun

  1. Yn y ddeialog naid sy'n ymddangos, dewiswch Authenticator app o'r gwymplen, ac yna cliciwch ar Add.
Sgrinlun o sgrin 'Add a method' sy’n dangos opsiwn ap y Dilysydd
Sgrinlun o sgrin 'Add a method' sy’n dangos opsiwn ap y Dilysydd
Zoom inEhangu'r llun

  1. Byddwch yn gweld dialog Microsoft Authenticator sy’n dweud wrthych i fynd ati i gael yr ap. Cliciwch I want to use a different authenticator app.
Sgrinlun o sgrin 'Start by getting the app’
Sgrinlun o sgrin 'Keep your account secure’ sy’n dangos y neges 'Start by getting the app'.
Zoom inEhangu'r llun

  1. Mae'r sgrin nesaf yn eich annog i Set up your account. Cliciwch Next.
Sgrinlun o sgrin 'Set up your account' sy’n dangos y neges 'In your app, add a new account'
Sgrinlun o sgrin 'Set up your account' sy’n dangos y neges 'In your app, add a new account'
Zoom inEhangu'r llun

  1. Mae'r sgrîn nesaf yn rhoi côd QR. Cliciwch ar Can’t scan image?
Sgrinlun o sgrin 'Scan the QR code'
Sgrinlun o sgrin 'Scan the QR code'
Zoom inEhangu'r llun

  1. Bydd Secret key (allwedd gyfrinachol) i’w gweld, cliciwch ar eicon dwy ffeil sy'n gorgyffwrdd i'r dde o'r allwedd. Bydd hynny'n copïo testun yr allwedd gyfrinachol yn barod i'w ludo.
Sgrinlun o sgrin 'Scan the QR code' sy’n dangos yr wybodaeth 'Secret key'
Sgrinlun o sgrin 'Scan the QR code' sy’n dangos yr wybodaeth 'Secret key'
Zoom inEhangu'r llun

  1. Cliciwch y botwm jig-so ar ochr dde'r bar cyfeiriad ar frig y porwr, i weld rhestr o estyniadau sydd wedi'u gosod. Cliciwch ar y estyniad Authenticator.
Sgrinlun o fotwm penodol y QR sy'n agor ffenestr ychwanegiad y Dilysydd
Sgrinlun o fotwm penodol y QR sy'n agor ffenestr ychwanegiad y Dilysydd
Zoom inEhangu'r llun

  1. Fewn estyniad Authenticator, cliciwch ar yr eicon pensil, ac yna cliciwch ar yr eicon plws i ychwanegu cyfrif.
  2. Cliciwch ar Manual Entry.
Sgrinlun o ffenestr ychwanegiad y Dilysydd sy’n dangos yr eicon plws
Sgrinlun o ffenestr ychwanegiad y Dilysydd sy’n dangos yr eicon plws
Zoom inEhangu'r llun
Sgrinlun o ffenestr ychwanegiad y Dilysydd sy'n dangos yr opsiwn 'Scan QR Code' a 'Manual entry'
Sgrinlun o ffenestr ychwanegiad y Dilysydd sy'n dangos yr opsiwn 'Scan QR Code' a 'Manual entry'
Zoom inEhangu'r llun

  1. Nodwch Brifysgol Caerdydd ym mlwch testun y Darparwr, neu fel arall nodwch ddynodwr arall o'ch dewis fydd yn eich helpu i gofio bod y cofnod hwn yn ymwneud â MFA Office 365 Prifysgol Caerdydd.
  2. Gludwch yr allwedd gyfrinachol y gwnaethoch chi ei chopïo yng ngham 12 i'r blwch testun gyda'r enw Secret.
  3. Cliciwch Ok.
Sgrinlun o ffenestr ychwanegiad y Dilysydd sy'n dangos y blychau testun 'Issuer’ a 'Secret'
Sgrinlun o ffenestr ychwanegiad y Dilysydd sy'n dangos y blychau testun 'Issuer’ a 'Secret'
Zoom inEhangu'r llun

  1. Bydd ychwanegiad Authenticator yn dangos mynediad newydd i Brifysgol Caerdydd gyda chôd 6 digid sy'n adnewyddu bob 30 eiliad. Cliciwch ar eicon pensil.
Sgrinlun o ffenestr ychwanegiad y Dilysydd sy’n dangos côd 6 digid
Sgrinlun o ffenestr ychwanegiad y Dilysydd sy’n dangos côd 6 digid
Zoom inEhangu'r llun

  1. Fewn cofnod Prifysgol Caerdydd, nodwch eich cyfeiriad ebost Prifysgol Caerdydd yn y blwch testun Username.
  2. Cliciwch ar yr eicon ticio.
Sgrinlun o ffenestr ychwanegiad y Dilysydd sy'n dangos y blwch testun 'Username'
Sgrinlun o ffenestr ychwanegiad y Dilysydd sy'n dangos y blwch testun 'Username'
Zoom inEhangu'r llun

  1. Bydd ychwanegiad Authenticator nawr yn diweddaru'r cofnod newydd i gynnwys eich cyfeiriad ebost. Cliciwch ar y côd 6 digid.
Sgrinlun o ffenestr ychwanegiad y Dilysydd sy’n dangos côd 6 digid a'ch cyfeiriad e-bost
Sgrinlun o ffenestr ychwanegiad y Dilysydd sy’n dangos côd 6 digid a'ch cyfeiriad e-bost
Zoom inEhangu'r llun

  1. Gofynnir i chi a ydych am roi'r ychwanegiad Authenticator i allu copïo'r côd 6 digid i mewn i'ch clipfwrdd cyfrifiadur. Cliciwch Allow.
Sgrinlun o'r neges hysbysu 'Authenticator has requested additional permissions'
Sgrinlun o'r neges hysbysu 'Authenticator has requested additional permissions'
Zoom inEhangu'r llun

  1. Cliciwch ar y côd 6 digid er mwyn ei gopio i glipfwrdd eich cyfrifiadur.
  2. Ar y dudalen we gyda'r côd QR a'r allwedd Gyfrinachol, cliciwch Next. Bydd Microsoft yn eich annog i nodi'r côd chwe digid yn yr Authenticator. Rhowch ef a chlicio ar Next. Mae estyniad Authenticator wedi'i gysylltu â'ch cyfrif. Nawr gallwch ddefnyddio'r ap i gwblhau'r MFA ar gyfer eich cyfrif.
Sgrinlun o sgrin 'Enter code' sy'n dangos 'Enter the 6-digit code shown in the Authenticator app' neges
Sgrinlun o sgrin 'Enter code' sy'n dangos 'Enter the 6-digit code shown in the Authenticator app' neges
Zoom inEhangu'r llun

  1. Cliciwch Change dull mewngofnodi diofyn, ac ar y naidlen, dewiswch y dull sydd orau gennych ar gyfer cwblhau MFA. Bydd y dull mewngofnodi diofyn a ddewiswyd gennych nawr yn cael ei arddangos.
Sgrinlun o sgrin 'Change default method’
Sgrinlun o sgrin 'Change default method’
Zoom inEhangu'r llun
Sgrinlun o sgrin 'My sign-ins' sy'n dangos eich dull mewngofnodi diofyn a'r dulliau MFA eraill sydd ar gael
Sgrinlun o sgrin 'My sign-ins' sy'n dangos eich dull mewngofnodi diofyn a'r dulliau MFA eraill sydd ar gael
Zoom inEhangu'r llun

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ychwanegu dulliau dilysu ychwanegol. Os na allwch ddefnyddio'r rhif ffôn rydych wedi'i nodi am ryw reswm, gallech wedyn ddefnyddio eich dulliau ychwanegol, a dal i gael mynediad i'ch cyfrif.