Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Disgrifiad o swydd ymddiriedolwr

Cymhwysedd

Bydd aelodau a benodir i’r Cyngor (corff llywodraethu’r Brifysgol) ymhlith Ymddiriedolwyr elusen Prifysgol Caerdydd (Rhif Elusen 1136855) a rhaid iddynt sicrhau eu bod yn gymwys i fod yn Ymddiriedolwyr.

Trosolwg o'r Swydd

  • Sicrhau bod llywodraethiant, cyfeiriad strategol ac asedau’r Brifysgol yn cael eu cynnal, yn unol â chanllawiau cyfreithiol a rheoleiddiol
  • Datblygu nodau ac amcanion y Brifysgol
  • Gweithredu er budd gorau'r Brifysgol a chynnal busnes ar ran yr ymddiriedolaeth

Cyfrifoldebau

  1. Craffu’n feirniadol ar strategaethau, cynlluniau ariannol a chynlluniau eraill, risgiau, sicrwydd a pherfformiad a sicrhau bod y Brifysgol yn bodloni ei nodau elusennol
  2. Sicrhau bod adnoddau'r Brifysgol yn cael eu defnyddio'n briodol ac wrth geisio cyflawni ei nodau a’i amcanion elusennol
  3. Sicrhau cynaliadwyedd ariannol y Brifysgol a sicrhau bod ei hasedau a’i heiddo’n cael eu rheoli’n briodol
  4. Sicrhau bod y Brifysgol yn gallu dangos cydymffurfiaeth â’i dogfennau llywodraethu (Siarter, Statudau ac Ordinhadau), cyfraith elusennau, cyfraith cwmnïau, canllawiau rheoleiddio a deddfwriaeth a rheoliadau perthnasol eraill
  5. Sicrhau bod risgiau mawr y Brifysgol yn cael eu nodi a'u hadolygu'n rheolaidd a bod systemau ar waith i reoli a lliniaru’r risgiau
  6. Gwneud yn siŵr bod ansawdd darpariaeth addysgol y Brifysgol yn cael ei chynnal
  7. Cyfrannu at lwyddiant a nodau hirdymor y Brifysgol
  8. Helpu i feithrin diwylliant bwrdd sy’n gynhwysol ac yn groesawgar
  9. Dangos diddordeb yng Nghymru a'r cyd-destun Cymreig y gwneir penderfyniadau ynddo
  10. Cydnabod y ffin briodol rhwng llywodraethu’r Brifysgol a rheoli’r Brifysgol
  11. Gwneud penderfyniadau ar y cyd er budd gorau’r Brifysgol, gan ddefnyddio gofal a sgil rhesymol

Dyletswyddau

  1. Cyfrannu’n weithredol at gyfarfodydd y Cyngor, cyfarfodydd pwyllgorau a chyfarfodydd perthnasol eraill a gweithredu’n unol â’r Rheolau Sefydlog (Ordinhad 3)
  2. Gweithredu’n unol ag Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus Nolan (Anhunanoldeb, Uniondeb, Gwrthrychedd, Atebolrwydd, Natur Agored, Gonestrwydd ac Arweinyddiaeth)
  3. Cydymffurfio â chyfrifoldebau Ymddiriedolwr, fel y nodir yng nghanllawiau'r Comisiwn Elusennau
  4. Hysbysu'r Tîm Llywodraethu Corfforaethol os bydd eich prif gyfeiriad neu eich manylion preswylio’n newid yn ystod eich tymor yn Ymddiriedolwr
  5. Rhoi gwybod i Ysgrifennydd y Brifysgol neu’r Tîm Llywodraethu Corfforaethol am unrhyw fuddiannau neu wrthdaro posibl, gan gynnwys newidiadau i unrhyw fuddiannau a nodwyd yn flaenorol
  6. Cwblhau’r Datganiad Ymddiriedolwr Elusen blynyddol a hysbysu'r Tîm Llywodraethu Corfforaethol am unrhyw newidiadau i'r Datganiad neu unrhyw resymau dros eich gwneud yn anghymwys i fod yn Ymddiriedolwr
  7. Hysbysu'r Tîm Llywodraethu Corfforaethol am unrhyw roddion neu letygarwch y mae'n rhaid eu datgan yn unol â'r Polisi Buddiannau Ymddiriedolwyr

Cefnogaeth a Chyngor Annibynnol

Mae gan Ymddiriedolwyr yr hawl i geisio cyngor a gwasanaethau gan Gadeirydd y Cyngor, Is-gadeirydd y Cyngor a Phrif Swyddog Gweithredu ac Ysgrifennydd y Brifysgol mewn perthynas â chyflawni eu dyletswyddau.

Uwch-gyfeirio Pryderon

Dylai Ymddiriedolwr roi gwybod i Gadeirydd y Cyngor am unrhyw bryderon mewn perthynas ag ymddygiad aelodau pwyllgorau neu ddyletswyddau pwyllgorau.  Os bydd gan Ymddiriedolwr bryder mewn perthynas â Chadeirydd y Cyngor, dylai godi’r pryder gydag Is-gadeirydd y Cyngor.

Tabl rheoli'r ddogfen

Teitl y ddogfen:Disgrifiad o swydd ymddiriedolwr
Dyddiad dod i rym:20 Awst 2024