Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Sefydlu galwad ffôn awtomataidd

  • Diweddarwyd ddiwethaf:

Os nad oes gennych fynediad at ffôn clyfar, gallwch sefydlu Dilysu Aml-ffactor (MFA) gan ddefnyddio galwad ffôn.

I argraffu'r ddogfen hon, ewch i 'File' a dewiswch 'Print' (Ctrl+P yn Windows neu Cmd+P yn Mac).  Gallwch hefyd ddewis i’w arbed fel ffeil PDF oddi yno.  Sylwer: Sgroliwch i waelod y dudalen hon i sicrhau bod yr holl ddelweddau yn cael eu hargraffu.

Bydd angen i chi allu ateb galwad ffôn awtomataidd gan Microsoft ar y rhif ffôn a roddwch yn ystod y broses hon a bydd angen i chi allu pwyso'r allwedd # mewn ymateb.

Sicrhewch y byddwch yn gallu ateb ac ymateb i alwad ffôn awtomataidd i'r rhif ffôn rydych yn bwriadu ei ddefnyddio, cyn i chi barhau ymhellach. Er enghraifft, sicrhewch eich bod yn gallu cael gafael ar y ffôn mewn modd amserol pan fydd yn dechrau canu.

Cyfarwyddiadau

  1. Defnyddiwch borwr gwe i fynd i https://aka.ms/mfasetup.
  2. Efallai y gofynnir i chi fewngofnodi i Office365 (os ddim, byddwch yn symud yn syth i gam 3). Os gofynnir i chi fewngofnodi i Office 365, rhowch eich cyfeiriad ebost Prifysgol Caerdydd a chlicio Next. Yna cewch eich ailgyfeirio i sgrîn fewngofnodi arferol Prifysgol Caerdydd. Rhowch eich cyfeiriad ebost a'ch cyfrinair Prifysgol Caerdydd fel arfer a chlicio Log in.
    • Bydd angen i'r rhai sydd ddim â chyfeiriad e-bost Prifysgol Caerdydd(a dim ond enw defnyddiwr) nodi'r enw defnyddiwr ac yna '@cardiff.ac.uk'.
  3. Os ydych chi wedi sefydlu dull MFA o'r blaen, ar ôl mewngofnodi'n llwyddiannus, cewch eich tywys i dudalen Hanes Mewngofnodi ble gallwch adolygu'r dulliau MFA yr ydych eisoes wedi'u gosod hyd yma. Cliciwch ar Add method gan fynd i gam 5.
    • Fel arall, gofynnir ichi roi mwy o wybodaeth. Cliciwch Next.
Sgrinlun o sgrin 'My sign-ins’ sy'n dangos y botwm 'Add a method'
Sgrinlun o sgrin 'My sign-ins’ sy'n dangos y botwm 'Add a method'
Zoom inEhangu'r llun
Sgrinlun o sgrin 'More information required'
Sgrinlun o sgrin 'More information required'
Zoom inEhangu'r llun

  1. Byddwch yn dod i dudalen o'r enw Keep your account secure. Cliciwch I want to set up a different method ar y gwaelod.
Sgrinlun o sgrin 'Start by getting the app’
Sgrinlun o sgrin 'Keep your account secure’ sy’n dangos y neges 'Start by getting the app'.
Zoom inEhangu'r llun

  1. Yn y rhestr o ddulliau sy'n ymddangos, dewiswch Phone (neu dewiswch Alternate phone os nad yw'r ffôn ar gael) Cliciwch Add.
Sgrinlun o sgrin 'Add a method' sy’n dangos opsiwn y ffôn
Sgrinlun o sgrin 'Add a method' sy’n dangos opsiwn y ffôn
Zoom inEhangu'r llun

  1. Rhowch rif ffôn y gall Microsoft eich ffonio arno i gwblhau proses gymeradwyo awtomataidd. Dewiswch y wlad briodol o'r gwymplen, a theipio'r rhif ffôn rydych chi wedi'i ddewis.
    • Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn sicrhau y byddwch yn gallu ymateb yr alwad gan Microsoft ar ba bynnag rif a ddewiswch. Cofiwch, os na allwch gael mynediad i'ch dyfais ffôn clyfar, ni fyddwch yn gallu ateb galwadau a wneir iddo.

Noder: Cyn gynted ag y byddwch yn clicio Next, bydd Microsoft yn ceisio ffonio'r rhif rydych wedi'i roi ar unwaith. Sicrhewch y byddwch yn gallu ateb ac ymateb i'r alwad ffôn awtomataidd hon mewn modd amserol.

Sgrinlun o sgrin 'Phone'
Sgrinlun o sgrin 'Phone'
Zoom inEhangu'r llun

  1. Cliciwch Next a bydd Microsoft yn ceisio ffonio'r rhif ffôn rydych chi wedi'i roi ar unwaith.
Sgrinlun o sgrin 'Phone' sy’n dangos y neges 'We're calling'
Sgrinlun o sgrin 'Phone' sy’n dangos y neges 'We're calling'
Zoom inEhangu'r llun

  1. Atebwch yr alwad, a fydd yn dod o rif o Unol Daleithiau America, a byddwch yn cael eich cyfarwyddo gan ysgogiad llais awtomataidd i bwyso'r allwedd Hash (Saesneg y DU) neu'r Bunt (Saesneg UDA) sy'n cyfeirio at yr allwedd #. Ar ôl pwyso allwedd #, gallwch roi'r ffôn i lawr.
  2. Bydd Microsoft yn cadarnhau bod yr alwad wedi'i hateb a bydd y rhif ffôn wedi'i gofrestru fel y dull diofyn ar gyfer cwblhau MFA ar eich cyfrif. Cliciwch Done.
Sgrinlun o sgrin 'Phone' sy’n dangos y neges 'Call answered'
Sgrinlun o sgrin 'Phone' sy’n dangos y neges 'Call answered'
Zoom inEhangu'r llun

  1. Byddwch chi’n cael eich tywys yn ôl i dudalen My Sign-ins lle gallwch chi adolygu'r rhestr ddiweddaraf o ddulliau MFA rydych chi wedi'u creu hyd yn hyn.
Sgrinlun o sgrin 'My sign-ins' sy'n dangos dull MFA y ffôn
Sgrinlun o sgrin 'My sign-ins' sy'n dangos dull MFA y ffôn
Zoom inEhangu'r llun

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ychwanegu dulliau dilysu ychwanegol. Os na allwch ddefnyddio'r rhif ffôn rydych wedi'i nodi am ryw reswm, gallech wedyn ddefnyddio eich dulliau ychwanegol, a dal i gael mynediad i'ch cyfrif.