Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Gosod ap DRUM a’r canllaw i ddefnyddwyr

  • Diweddarwyd ddiwethaf:

Gallwch chi lawrlwytho ap DRUM ar lechen Android sy'n rhedeg Android 21 neu uwch.

Gosod cychwynnol yr ap

  1. Mae’n rhaid i'r llechen fod â chysylltiad â’r rhyngrwyd yn ystod y broses osod er mwyn caniatáu i ffeiliau’r sesiwn gael eu lawrlwytho yn ystod y gosod cychwynnol.
  2. Dylai'r llechen fod â chysylltiad â’r rhyngrwyd tra eich bod yn gosod yr ap er mwyn caniatáu iddi hunanlwytho data’r defnyddiwr. Dylai’r gosod digwydd yn lleoliad y defnyddiwr. Fel arall, gallwch chi ddychwelyd y ddyfais i gysylltiad WiFi hysbys neu ddefnyddio echdynnu â llaw dros USB.
  3. Bydd tîm Prifysgol Caerdydd yn rhoi ffeil Android (APK) ap DRUM ichi a gallwch chi ei mewnforio i’r llechen fel y disgrifir yn y canllaw hwn i’r defnyddiwr.
  4. Mae'r holl asedau eraill yn y sesiwn, gan gynnwys ffeiliau sain ac amseru, yn cael eu storio ar gyfrif Google Firebase ac yn cael eu lawrlwytho i’r llechen unwaith y bydd ap DRUM wedi'i sefydlu fel y disgrifir isod.

Mewnforio ffeil APK yr ap

I sefydlu'r ap am y tro cyntaf:

  1. Cysylltwch y llechen â chyfrifiadur Windows.
  2. I Windows, bydd y llechen yn ymddangos fel pe bai’n yriant newydd a bydd enw'r llechen yr un peth ag un y gwerthwr, megis Samsung neu TbooK.
  3. Gan ddefnyddio Windows, agorwch yr 'Internal storage drive' i ddod o hyd i'r ffolder o’r enw 'Download'.

Gosod yr ap

I osod a rhedeg y llechen:

  1. Rhowch ffeil yr APK a gawsoch chi gan Brifysgol Caerdydd yn ffolder Downloads.
  2. Gan ddefnyddio'r llechen, defnyddiwch reolwr y ffeil ddiofyn i lywio i 'Downloads', a'i gosod drwy dapio arni. Mae'n rhaid ichi ganiatáu unrhyw reolaethau caniatâd ar gyfer yr ap, megis 'Internet', 'Vibration', 'File storage', a 'Network'.
  3. Pan fydd y gosodiad wedi'i gwblhau, peidiwch ag agor yr ap. Mae angen gosod rheolaethau caniatâd ychwanegol i ganiatáu i'r ap sefydlu ffeiliau a ffolderi angenrheidiol pan fydd yn cael ei gychwyn am y tro cyntaf.

I sefydlu hawliau ychwanegol:

  1. Ewch allan o ap DRUM ac i mewn i 'Settings'. Ar y llechen Samsung gymeradwy, gallwch chi gyrchu’r rhain drwy fynd i'r eicon 'Settings' ar y gwymplen.
  2. Newidiwch reolaethau caniatâd yr ap i anablu 'Remove permissions if app isn't used' gan ddilyn y llwybr:  Apps > DRUM app > Permissions >  Remove permissions if app isn't used.
  3. Caniatewch y broses o reoli ffeiliau drwy ddilyn y llwybr: Apps > DRUM app > Permissions >  Files and media > Allow management of all files.

Lawrlwytho ffeiliau’r sesiwn

I lawrlwytho'r ffeiliau’r sesiwn:

  1. Sicrhewch fod gan eich dyfais gysylltiad â’r rhyngrwyd a bod rheolaethau caniatâd y ffeil yn eu lle.
  2. Agorwch yr ap lle gwelwch y neges sy’n rhybuddio 'Working folder not found'.
  3. Pwyswch ar y botwm 'Download?' i lawrlwytho'ch ffeiliau. Hwyrach y bydd hyn yn cymryd ychydig o funudau.
  4. Bellach, mae data eich ffolder wedi'i greu ac mae’r holl ffeiliau cerddoriaeth a data yn y 'Downloads directory'. Os yw’r ffeiliau wedi’u lawrlwytho'n gywir, fe welwch chi neges 'All files downloaded ok', a bydd y sgrin gartref yn ymddangos.
  5. Derbyniwch unrhyw geisiadau am ganiatâd sy'n ymddangos, megis 'Vibration', 'File', 'Internet', a 'Network'.
  6. Gallwch chi geisio lawrlwytho o’r newydd gan ddefnyddio'r botwm 'Download missing files'.

Tabl rheoli'r ddogfen

Teitl y ddogfen:Gosod ap DRUM a’r canllaw i ddefnyddwyr
Awdur(on):Dr Claudia Metzler-Baddeley