Cofnodion Pwyllgor Archwilio a Risg 21 Mawrth 2024
- Dyddiad dod i rym:
- Diweddarwyd ddiwethaf:
- Lawrlwytho'r ddogfen hon (PDF, 189.1 KB)
Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Archwilio a Risg Prifysgol Caerdydd a gynhaliwyd ddydd Iau 21 Mawrth 2024 am 10am ar Zoom.
Yn bresennol: Dr Robert Weaver (Cadeirydd), Aneesa Ali, Pers Aswani, Suzanne Rankin, Dr Nick Starkey ac Agnes Xavier-Phillips.
Hefyd yn bresennol: Jonathan Brown (KPMG), Rhodri Evans [cofnod 1236], Clare Eveleigh, Ellie Hetenyi (KPMG), Yr Athro Wendy Larner, Sian Marshall, Alice Milanese [cofnod 1225], Carys Moreland, Gemma Pezzack [cofnod 1233], TJ Rawlinson [cofnod 1225], Claire Sanders, Laura Sheridan, Natalie Stewart, yr Athro Damian Walford Davies [cofnod 1225], yr Athro Roger Whitaker [cofnod 1225], Darren Xiberras.
1218 Croeso a materion rhagarweiniol
1218.1 Croesawyd pawb i’r cyfarfod, gan gynnwys Aneesa Ali a Dr Nick Starkey a oedd yn eu cyfarfod cyntaf gyda’r Pwyllgor yn dilyn eu penodiad ym mis Ionawr 2024.
1218.2 Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau fod y cyfarfod yn cael ei recordio i gynorthwyo’r gwaith o baratoi’r cofnodion.
1219 Ymddiheuriadau am absenoldeb
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
1219 Datgan buddiannau
Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau o’u dyletswydd i ddatgelu unrhyw wrthdaro posibl mewn buddiannau. Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
1220 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2023 (23/488C) yn gofnod gwir a chywir, ac fe'u cymeradwywyd i gael eu llofnodi gan y Cadeirydd.
1221 Materion yn Codi o’r Cofnodion
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/484C, 'Materion yn Codi'. Siaradodd y Cadeirydd am yr eitem hon.
Nodwyd
Cofnod 1109.3 Polisi Atal Gwyngalchu Arian
1221.1 Bod y polisi wedi’i adolygu a’i fod i gael ei ystyried gan Fwrdd Gweithredol y Brifysgol ar 30 Ebrill 2024.
Cofnod 1177: Fframwaith Rheoli Mewnol
1221.2 Bod y dyddiad cau ar gyfer y tri cham gweithredu ar gyfer y fframwaith rheoli mewnol wedi'i ddiwygio i fis Mehefin 2024. Roedd hyn oherwydd bod archwiliad mewnol wedi'i gynllunio i brofi effeithiolrwydd y rheolaethau gweithredu a nodwyd; bydd un adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ym mis Mehefin 2024 yn cwmpasu'r gwaith a wnaed i fapio'r fframwaith rheoli mewnol a chanlyniad yr archwiliad.
1221.3 Byddai'r archwiliad mewnol yn adolygu'r dulliau rheoli a nodwyd yn rhan o'r gwaith cychwynnol, yn nodi unrhyw fylchau, unrhyw faterion o ran effeithiolrwydd dulliau rheoli ac unrhyw welliannau sydd eu hangen; ar ôl cwblhau’r archwiliad bydd yn bosibl nodi unrhyw gamau nesaf ac i'r Pwyllgor ystyried a oes angen unrhyw ddadansoddiadau dwfn.
1221.4 Bod enw'r Ymgynghorydd sy’n rhan o’r prosiect wedi aros ar y cam gweithredu gan fod y Pwyllgor wedi gofyn yn wreiddiol iddynt ddychwelyd i gyflwyno'r adroddiad terfynol; cytunwyd bellach gyda'r Cadeirydd na fyddai angen hyn mwyach; y Prif Swyddog Ariannol fydd yn berchen ar y camau gweithredu o hyd.
1221.5 Ei bod yn ddymunol i fframwaith rheoli allweddol gael ei sefydlu ar draws y Brifysgol, yn hytrach nag ar gyfer yr adran Gyllid yn unig, a chael rhywfaint o awtomeiddio i nodi achosion lle nad oedd dulliau rheoli yn gweithredu'n effeithiol; ei bod hefyd yn ddymunol cynnal dadansoddiad dwfn a phrofion rheoli o bryd i'w gilydd; hoffai'r Pwyllgor ddeall yn well sut y byddai profion rheoli yn cael eu cynnal yn y dyfodol a phwy fyddai'n gyfrifol am hyn.
Penderfynwyd
1221.6 Bydd yr adroddiad i’r Pwyllgor ym mis Mehefin 2024 yn manylu ar unrhyw gamau nesaf sy’n ofynnol o’r gwaith a wnaed i ddatblygu’r fframwaith rheoli mewnol, gan gynnwys unrhyw gynlluniau i ddogfennu’r dulliau rheoli pwysig sydd ar waith ar draws y Brifysgol a’u profi ymhellach.
1222 Eitemau gan y Cadeirydd
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/488C 'Adroddiad am Gamau Gweithredu'r Cadeirydd Ers y Cyfarfod Diwethaf'.
Nodwyd
1222.1 Y camau a gymerwyd gan y Cadeirydd ers y cyfarfod diwethaf fel y nodir yn y papur.
1223 Cofrestr Risg Strategol
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/483C 'Cofrestr Risg Strategol'. Siaradodd yr Is-ganghellor am yr eitem hon.
Nodwyd
1223.1 Bod tair ar ddeg o risgiau wedi'u cyflwyno yn y gofrestr risg newydd; nad oedd tair risg wedi'u cwblhau'n llawn ar adeg cyflwyno’r adroddiad ac wedi'u heithrio (Ansawdd Addysg, Lles Myfyrwyr a Chynaliadwyedd Ariannol); bod gwaith i gwblhau’r risgiau hyn yn mynd rhagddo ac y byddai diweddariad o fewn y cylch nesaf ym mis Mehefin 2024.
1223.2 Bod y staff wedi ymgysylltu’n dda er gwaethaf her y terfynau amser a oedd yn cyd-daro; bod cyflwyno arweinwyr risg ac arweinwyr risg eilaidd, yn ogystal â pherchnogion risg, yn gam ymlaen o ran ymagwedd y Brifysgol; bod y gwersi a ddysgwyd yn dangos gwelliant yn aeddfedrwydd risg y Brifysgol.
1223.3 Bod y Pwyllgor Gwaith yn cydnabod y gwaith sylweddol sydd wedi’i wneud i adnewyddu ymagwedd y Brifysgol wrth reoli risg a sefydlu'r system newydd; bod y Pwyllgor wedi canmol y Rheolwr Risg am y gwaith sydd wedi’i wneud.
1223.4 Bod yr Is-Ganghellor yn parhau i fod yn bryderus ynghylch targedau recriwtio myfyrwyr y Brifysgol oherwydd yr amgylchiadau allanol cynyddol heriol.
1223.5 [Hepgorwyd]
1223.6 Bod y Pwyllgor yn awyddus i ddeall unrhyw gynlluniau wrth gefn sy'n cael eu rhoi ar waith pe na bai camau’n cael eu rhoi ar waith i wella'r seilwaith adeiladu.
1223.7 Bod ystyriaeth wedi'i rhoi i ddadgyfuno'r risg o ran cydymffurfio â rheoliadau er mwyn rhoi rhagor o fanylion, atebolrwydd a thryloywder ynghylch y mesurau lliniaru; byddai datblygu'r map gwres o gydymffurfio rheoliadol yn cynnwys nodi meysydd lleol lle ceir cydymffurfiaeth, pennu perchnogion ar gyfer pob maes a pharatoi'r cynllun lliniaru; byddai hwn yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor maes o law ar ôl ei gwblhau.
1223.8 Bod y papur yn gofyn am ddileu risg “Recriwtio/cadw mewn meysydd allweddol yn y gwasanaethau proffesiynol” o'r gofrestr risg; bod trosiant staff yn isel ar y cyfan ar draws y Gwasanaethau Proffesiynol; bod mesurau lliniaru ar waith i fynd i'r afael â'r trosiant staff ar lefel uwch; bod y gwaith recriwtio uwch-staff sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd yn dod yn ei flaen yn dda gan fod llawer o ymgeiswyr da wedi gwneud cais, a bod hynny’n awgrymu bod y mesurau lliniaru yn effeithiol a bod y risg sy’n weddill yn isel yn sgîl hynny.
1223.9 Bod y sgorau a dargedir ar gyfer pob risg yn gysyniad newydd a oedd yn cael ei ddatblygu; bod y sgôr targed ar eu cyfer y tu hwnt i’r targed derbyniol a oddefir; bod diwedd y flwyddyn wedi’i bennu fel terfyn amser ar gyfer perchnogion risg ac yn arwain at greu rhagor o gynlluniau i fynd i’r afael â’r risgiau hyn; gallai fod angen trafodaeth bellach ynghylch a fyddai angen goddef unrhyw risgiau nad oes modd mynd i’r afael â nhw.
Penderfynwyd
1223.10 Argymell i'r Cyngor y Gwersi a Ddysgwyd a'r Crynodeb o’r Risg Strategol a'r Gofrestr Risg.
1223.11 Y byddai aelodau’n cysylltu â'r Rheolwr Risg neu'r Cynghorydd Llywodraethu os hoffent gael rhagor o wybodaeth am ymagwedd newydd y Brifysgol at reoli risg neu'r system 4Risk newydd.
1223.12 Y byddai’r Pwyllgor yn cael rhagor o wybodaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol ynghylch y cynlluniau wrth gefn ar gyfer yr Ysgol Deintyddiaeth.
1224 Adroddiad Aeddfedrwydd Risg
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/478HC 'Adroddiad Aeddfedrwydd Risg'. Siaradodd y Pennaeth Archwilio Mewnol Dros Dro am yr eitem hon.
Nodwyd
1224.1 [Hepgorwyd]
1225 Diweddariad ar gynllun gweithredu Carbon Sero Net
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/486 'Diweddariad ar gynllun gweithredu Carbon Sero Net'. Ymunodd y Dirprwy Is-ganghellor, Rheolwr y Rhaglen Sero Net a’r Cyfarwyddwr Datblygu a Chyn-fyfyrwyr â’r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.
Nodwyd
1225.1 Y byddai Bwrdd Gweithredol y Brifysgol yn ystyried y cynllun drafft ar gyfer cwmpasau 1 a 2 Sero Net ar ôl y Pasg ac y byddai’r Is-bwyllgor Cynaliadwyedd Amgylcheddol, y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau a’r Cyngor yn gwneud hynny ym mis Gorffennaf 2024.
1225.2 Y byddai'n dalcen caled i'r Brifysgol gyflawni cwmpasau 1 a 2 Sero Net erbyn 2030 heb fuddsoddiad sylweddol, fel yr adlewyrchwyd yn y gofrestr risg; efallai y bydd angen i'r Brifysgol ailystyried naill ai'r dyddiad, neu natur yr ymrwymiad a wnaed yng nghyd-destun penderfyniadau strategol ehangach; bod y Brifysgol yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynaliadwyedd amgylcheddol; bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflawni cwmpasau Sero Net 1 a 2 erbyn 2030.
1225.3 Bod cynnydd da wedi'i wneud wrth fynd i'r afael â'r argymhellion o'r archwiliad mewnol o Sero Net; bydd y cynnydd o ran y camau gweithredu yn cael eu hadrodd yn rhan o’r eitem ddilynol am argymhellion yr archwiliad mewnol.
1225.4 Bod cyflawni cwmpas 3 Sero Net erbyn 2050 yn her sylweddol, ac y byddai angen sgiliau a phrofiad gwahanol i'w fodloni.
Penderfynwyd
1225.5 Bod y Pwyllgor yn parhau i gael diweddariad blynyddol ar gynnydd o ran Sero Net.
Gadawodd yr Athro Damian Walford Davies, Alice Milanese a TJ Rawlinson y cyfarfod ar ddiwedd yr eitem hon.
1226 Adolygiad Archwilio Mewnol
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/489C 'Adolygiad Archwilio Mewnol'. Siaradodd y Prif Swyddog Gweithredu am yr eitem hon.
Nodwyd
1226.1 Bod y Pwyllgor Gwaith yn croesawu’r adroddiad a'r argymhellion; bod yr adroddiad yn amlygu'r angen i benodi Pennaeth Archwilio Mewnol parhaol i sefydlogi'r Gwasanaeth a pharhau â gwelliannau; bod yr argymhelliad ynghylch egluro rôl a chyfrifoldebau Archwilio Mewnol i randdeiliaid yn allweddol i effeithiolrwydd y Gwasanaeth.
1226.2 Y cydnabuwyd pwysigrwydd rhoi adnoddau i'r Gwasanaeth ar gyfer risg yn hytrach na'r gyllideb; cafodd yr argymhelliad i ystyried penodi prentis ei groesawu.
1226.3 Bod yr adroddiad yn rhoi tawelwch meddwl i'r Pwyllgor ynghylch effeithiolrwydd y Gwasanaeth Archwilio Mewnol a'r ymrwymiad i welliant parhaus; bod y Pwyllgor yn cefnogi'r argymhellion; byddai'n ddefnyddiol paratoi cynllun gweithredu mewn ymateb i'r argymhellion.
Penderfynwyd
1226.4 Argymell yr adroddiad i'r Cyngor gyda chefnogaeth y Pwyllgor.
1226.5 Paratoi cynllun gweithredu sy’n nodi amserlenni ar gyfer mynd i'r afael â'r argymhellion.
1227 Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/481HC 'Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol'. Siaradodd y Pennaeth Archwilio Mewnol Dros Dro am yr eitem hon.
Nodwyd
Côd Ymarfer UUK ar gyfer Rheoli Llety Myfyrwyr
1227.1 [Hepgorwyd]
1228 Adroddiad Archwilio Mewnol ar Fasnacheiddio Ymchwil
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/482HC 'Adroddiad Archwilio Mewnol ar Fasnacheiddio Ymchwil'. Ymunodd y Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter â’r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.
Nodwyd
1228.1 [Hepgorwyd]
1228.2 [Hepgorwyd]
Gadawodd yr Athro Roger Whitaker y cyfarfod ar ddiwedd yr eitem hon.
1229 Adroddiad Olrhain Argymhellion Archwilio Mewnol
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/480HC 'Adroddiad Olrhain Argymhellion Archwilio Mewnol'. Siaradodd y Pennaeth Archwilio Mewnol Dros Dro am yr eitem hon.
Nodwyd
1229.1 [Hepgorwyd]
1229.2 [Hepgorwyd]
1229.3 [Hepgorwyd]
1229.4 [Hepgorwyd]
Penderfynwyd
1229.5 Bod adroddiad terfynu yn cael ei gyflwyno ar gyfer y camau gweithredu a nodwyd fel rhai sydd wedi’u terfynu yn yr adroddiad i'w ddosbarthu i'r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.
Gadawodd Claire Sanders y cyfarfod.
1230 Strategaeth Archwilio Mewnol a Chynllun Blynyddol wedi'u diweddaru ar gyfer 2023-24
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/479HC, 'Strategaeth Archwilio Mewnol a Chynllun Blynyddol wedi’u diweddaru ar gyfer 2023-24'. Siaradodd y Pennaeth Archwilio Mewnol Dros Dro am yr eitem hon.
Nodwyd
1230.1 [Hepgorwyd]
1230.2 [Hepgorwyd]
1230.3 [Hepgorwyd]
1230.4 [Hepgorwyd]
Penderfynwyd
1230.5 Cymeradwyo'r newidiadau arfaethedig i'r rhaglen archwilio mewnol ar sail risg ar gyfer 2023/24.
1231 Siarter Archwilio Mewnol
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/494HC 'Siarter Archwilio Mewnol'. Siaradodd y Pennaeth Archwilio Mewnol Dros Dro am yr eitem hon.
Nodwyd
1231.1[Hepgorwyd]
Penderfynwyd
1231.2 Argymell y Siarter Archwilio Mewnol i'r Cyngor.
Gadawodd Claire Everleigh y cyfarfod ar ddiwedd yr eitem hon.
1232 Adroddiad diweddaru ar Ddigwyddiadau Mawr a Difrifol
Cyflwynwyd ac ystyriwyd papur 23/490HC 'Adroddiad Diweddaru ar Ddigwyddiadau Mawr a Difrifol'. Siaradodd y Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol am yr eitem hon.
Nodwyd
1232.1 [Hepgorwyd]
1232.2 [Hepgorwyd]
1232.3 [Hepgorwyd]
1232.4 [Hepgorwyd]
Penderfynwyd
1232.5 Cadarnhau bod yr adroddiad yn rhoi digon o dawelwch meddwl o ran y risgiau yn y maes hwn
1233 Diweddariad ar Gydymffurfiaeth Ariannol
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/492C 'Diweddariad ar Gydymffurfiaeth Ariannol'. Ymunodd y Rheolwr Cydymffurfiaeth Ariannol Dros Dro â'r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.
Nodwyd
1233.1 Bod staff wedi bod yn hynod agored ynghylch y risgiau a oedd yn bresennol ac wedi dangos parodrwydd i fynd i'r afael â'r risgiau yn effeithlon ac effeithiol; bod yr aeddfedrwydd risg yn y maes hwn yn ei ddyddiau cynnar.
1233.2 Nad oedd y Rheoliadau Atal Gwyngalchu Arian yn berthnasol i'r Brifysgol a bod rhai o'i phrosesau wedi'u sefydlu fel pe bai'r Rheoliadau yn berthnasol; bod angen adolygu nifer o bolisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol yn wyneb hyn; bod ffocws cynyddol ar droseddau ariannol ym maes addysg uwch.
1233.3 Bod templed adrodd arfaethedig wedi'i baratoi i nodi pa mor agored yw’r Brifysgol i risg, unrhyw dueddiadau sy'n dod i'r amlwg, a chamau lliniaru; yn ystod cam adeiladu'r swyddogaeth, fe gynigiwyd bod yr un person yn gyfrifol am y rheng amddiffynnol gyntaf a'r ail reng gan nad oedd digon o arbenigedd mewn meysydd gweithredol i allu cyflwyno model amddiffyn tair rheng ar unwaith.
Ailymunodd Claire Sanders â'r cyfarfod.
1233.4 Bod y Prif Swyddog Ariannol a'r Prif Swyddog Gweithredu wedi adolygu’r cynigion gan ond nad oedd yr Is-Ganghellor wedi’u hadolygu.
1233.5 Y bwriad oedd y byddai hyfforddiant cydymffurfio ariannol yn orfodol a bod mecanweithiau ar waith i fonitro bod hyfforddiant gorfodol wedi’i gwblhau.
Penderfynwyd
1233.6 Cymeradwyo'r cynnig ar sut i adeiladu a datblygu'r swyddogaeth cydymffurfio ariannol.
1233.7 Byddai’r Rheolwr Cydymffurfiaeth Ariannol Dros Dro yn cwrdd â’r Is-Ganghellor i gael eu cefnogaeth ar gyfer y dull arfaethedig o ystyried pwysigrwydd cydymffurfiaeth ariannol i’r Brifysgol.
Gadawodd Gemma Pezzack a Claire Sanders y cyfarfod ar ddiwedd yr eitem hon.
1234 Y gwersi a ddysgwyd yn dilyn y digwyddiad pan gamddefnyddiwyd cerdyn prynu
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/492C 'Y gwersi a ddysgwyd yn dilyn y digwyddiad pan gamddefnyddiwyd cerdyn prynu'. Siaradodd y Prif Swyddog Ariannol am yr eitem hon.
Nodwyd
1234.1 Mai dyma’r prif wersi a ddysgwyd:
a. bod angen gwneud yn siŵr bod adolygiadau o gardiau prynu’n cael eu cynnal mewn modd amserol; bod y mater hwn wedi codi oherwydd problemau o ran adnoddau yn y tîm newydd a oedd yn gyfrifol am yr adolygiadau; bod sicrwydd wedi'i roi bod yr holl adolygiadau yn gyfredol erbyn hyn;
b. bod angen gwneud yn siŵr bod y penderfyniad i hysbysu’r Heddlu am faterion yn cael ei wneud yn annibynnol;
c. bod angen gwneud yn siŵr ein bod yn gwybod beth yw’r ffynonellau cyllid o dan sylw cyn i ni dderbyn unrhyw ad-daliad.
1234.2 Bod y Pwyllgor am gael cadarnhad bod dull y Brifysgol o hysbysu'r Heddlu am faterion troseddol yn briodol.
Penderfynwyd
1234.3 Y byddai'r Prif Swyddog Ariannol yn gofyn am gyngor gan Dîm y Gwasanaethau Cyfreithiol ar ddull y Brifysgol o hysbysu’r Heddlu am faterion troseddol.
1235 Adroddiadau chwythu'r chwiban
Siaradodd y Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol am yr eitem hon.
Nodwyd
1235.1 Bod un achos yn cael ei adolygu i benderfynu a fyddai'n cael ei ystyried o dan y Polisi; byddai'r Pwyllgor yn cael diweddariad yn y cyfarfod nesaf.
Penderfynwyd
1235.2 Byddai’r Pwyllgor yn cael diweddariad ar yr achos chwythu’r chwiban posibl yn y cyfarfod nesaf.
Ailymunodd Claire Sanders â'r cyfarfod.
1236 Fframwaith Sicrwydd Academaidd
Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 23/493 'Fframwaith Sicrwydd Academaidd'. Ymunodd y Pennaeth Llywodraethu Addysg â'r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.
Nodwyd
1236.1 Bod y fframwaith sicrwydd academaidd wedi'i ddatblygu i ddangos y dystiolaeth a ddefnyddir gan y Brifysgol i ategu'r datganiadau sicrwydd a gyflwynir i CCAUC yn flynyddol.
1236.2 Bod yr adroddiad yn nodi gweithgareddau i sicrhau ansawdd a safonau academaidd dyfarniadau'r Brifysgol; bod yr adroddiad yn cynnal gwerthusiad o'r risgiau sy'n ymwneud ag ansawdd a safonau; bod y risg gyffredinol yn goch oherwydd y trosolwg rheoliadol a gyflwynwyd gan CCAUC o foddhad myfyrwyr; bod mecanweithiau ar waith i fynd i'r afael â'r risg hon gan gynnwys cynnal trosolwg o gynlluniau gweithredu ysgolion; bod y risg yn goch o hyd gan nad oedd tystiolaeth wedi'i chyflwyno eto bod y camau a gymerwyd yn gwella boddhad myfyrwyr.
1236.3 Byddai'n ddefnyddiol i'r Pwyllgor ddeall maint a threfn y risg mewn adroddiadau yn y dyfodol.
Penderfynwyd
1236.4 Bydd rhagor o fanylion am faint a threfn y risg yn yr adroddiad nesaf.
Gadawodd Rhodri Evans y cyfarfod ar ddiwedd yr eitem hon.
1237 Unrhyw Fater Arall
Siaradodd y Cadeirydd am yr eitem hon.
Nodwyd
1237.1 Bod y broses recriwtio yn mynd rhagddi ar gyfer rôl Prif Swyddog Gweithredu ac Ysgrifennydd y Brifysgol ar y cyd; bod swydd newydd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Chorfforaethol wedi'i chreu ac y byddai penodiad yn cael ei wneud maes o law.
1237.2 Bod y Pwyllgor am gael cadarnhad ynghylch pwy fyddai Ysgrifennydd y Pwyllgor ac a fyddai'n bresennol mewn cyfarfodydd cyfrinachol.
Penderfynwyd
1237.3 Cael cadarnhad pwy fyddai'n ymgymryd â rôl Ysgrifennydd y Pwyllgor a phwy fyddai'n bresennol mewn cyfarfodydd cyfrinachol.
Nodwyd
1237.4 Bod cyflwyniad defnyddiol wedi'i roi i'r Cyngor ar gyllid y Brifysgol.
Penderfynwyd
1237.5 Y byddai’r recordiad o’r cyflwyniad ar gyllid y Brifysgol yn cael ei rannu â’r aelodau.
1238 Adolygu’r risgiau a nodwyd ar y Gofrestr Risg
Penderfynwyd
1238.1 Bod y gofrestr risg yn cynrychioli’r wybodaeth a roddwyd i’r Pwyllgor yn gywir.
1239 Eitemau a gafwyd i’w cymeradwyo
Penderfynwyd
1239.1 Cymeradwyo'r papur canlynol:
23/485 Newidiadau i'r Cynllun Dirprwyo
1240 Eitemau a dderbyniwyd er gwybodaeth
Nodwyd
1240.1 Y papur canlynol:
23/495C Diweddariad ar gynllun gweithredu IAR CCAUC
Gadawodd yr holl Swyddogion ar wahân i'r Prif Swyddog Gweithredu ac Ysgrifennydd Dros Dro'r Brifysgol, y Cynghorydd Llywodraethu, a'r Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol, y cyfarfod ar gyfer yr eitemau a gadwyd yn ôl.
1241 Cyfarfod Cyfrinachol
Yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Risg, cynhaliwyd cyfarfod cyfrinachol. Roedd aelodau'r Pwyllgor Archwilio a Risg, yr archwilwyr allanol, y Prif Swyddog Gweithredu ac Ysgrifennydd y Brifysgol Dros Dro, Cynghorydd Llywodraethu a’r Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol, yn bresennol.
Penodi Pennaeth Archwilio Mewnol
Siaradodd y Prif Swyddog Gweithredu am yr eitem hon.
1241.1 [Hepgorwyd]
1241.2 [Hepgorwyd]
1241.3 [Hepgorwyd]
1241.4 [Hepgorwyd]
1241.5 [Hepgorwyd]
1241.6 [Hepgorwyd]
1241.7 [Hepgorwyd]
Penderfynwyd
1241.8 Argymell i'r Cyngor y dylid penodi Laura Sheridan yn Bennaeth Archwilio Mewnol parhaol.
Tabl rheoli'r ddogfen
Teitl y ddogfen: | Cofnodion Pwyllgor Archwilio a Risg 21 Mawrth 2024 |
---|---|
Dyddiad dod i rym: | 25 Gorffennaf 2024 |